Agora rhif 42 mis Tachwedd – Rhagfyr 2020
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Jonathan Sacks, Leonard Cohen, Brigyn a’r Nadolig
W. O. R.
Y Nadolig Cyntaf
(Vivian Jones, 2006)
Cadw’r drws ar agor
Anna Vivian Jones
Dwy gerdd newydd
Aled Jones Williams
Amser i aros. Neges Adfent i Gristnogaeth 21
y Parch Adrian Alker, Cadeirydd Progressive Christian Network Prydain
Siopa
Eric Jones (Bangor)
Sgwrs gyda’r Parchedig Rhodri Glyn Thomas
Pryderi Llwyd Jones
Cysur?
John Gwilym Jones
Byw ar y ffin
Enid Morgan
Dwy ochr i’r geiniog
Gwyn Elfyn Jones
Sŵmio’r Sul i Eglwys Bresbyteraidd Westminster, Southwest, Washington DC
Pryderi Llwyd Jones
Trechu’r Firws
Karl Davies
Goroesi’r Pandemig
Cen Llwyd
Bywyd Chwyldroadol y Deyrnas
John Owain Jones
Cnoi Cil
Neville Evans
Ffordd Trwy’r Drain
Enid Morgan
Tragwyddoldeb a Chyfrifoldeb
Gethin Rhys
Jonathan Sacks, Leonard Cohen, Brigyn a’r Nadolig
Jonathan Sacks, Leonard Cohen, Brigyn a’r Nadolig
Bu farw Jonathan Sacks yn sydyn ar Dachwedd 7ed yn 72 oed. Ychydig iawn o sylw a gafodd ei farwolaeth yng Nghymru.
Jonathan Sacks, wrth gwrs, oedd cyn Brif Rabi Iddewiaeth Uniongred Prydain a’r Gymanwlad, ac mae’r teyrngedau iddo yn dystiolaeth o’i ddylanwad tu hwnt i Iddewiaeth. Roedd ei ddoniau fel athro yn unigryw. Cyhoeddodd o leiaf 30 o lyfrau academaidd a phoblogaidd, ac roedd yn gyfathrebwr heb ei ail ar y cyfryngau. Fel arweinydd ei bobl mewn oes seciwlar, ystyriai mai ei gyfrifoldeb mwyaf oedd cynorthwyo’r Iddewon i ateb y cwestiwn pwysicaf un, sef ‘Beth yw bod yn Iddew heddiw?’
Cadw’r drws ar agor
RhagorCadw’r drws ar agor
Bob hyn a hyn down ar draws geiriau nad oes cyfieithiad iddynt mewn ieithoedd eraill. Gellid dweud bod ‘hiraeth’ neu ‘cynefin’ yn esiamplau o’r rhain yn Gymraeg. Maent yn cwmpasu cysyniad sy’n unigryw i un iaith arbennig a’i diwylliant, cysyniad na ellir ei drosglwyddo yn hawdd i iaith na diwylliant arall.
Gair felly a ddysgais yn ddiweddar yw Torschlusspanik. Mae’n gyfuniad o dri gair Almaeneg, sef Tor (dôr neu ddrws ), Schluss (cau) a Panik (panic). Mae’n debyg fod y term yn mynd ...
Amser i aros
RhagorAmser i aros
Neges Adfent i Gristnogaeth 21
gan y Parchedig Adrian Alker,
Cadeirydd Progressive Christian Network PrydainMae Cofid 19 wedi dod â’i alar a’i ofid, ei heriau a’i broblemau i deuluoedd ac unigolion. Mae cymaint wedi colli anwyliaid neu wedi dioddef afiechyd dwys iawn dros gyfnod maith. Fe ddaw miliynau yn ddi-waith eto ac fe ddaw’r anghyfartaledd a’r annhegwch yn ein cymunedau yn fwy amlwg.
Pa hyd y pery hyn? Pryd ddaw i ben? Rydym wedi bod yn aros yn ofnus am y brechlyn, ac yn annisgwyl o sydyn, fe ddaeth newyddion da: rydym yn aros am ...
Y Parchedig Rhodri Glyn Thomas yn sgwrsio
RhagorY Parchedig Rhodri Glyn Thomas yn sgwrsio â gwefan Cristnogaeth 21
Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Parchedig Rhodri Glyn Thomas (ond yn ein cymdeithas glòs fel Cymry Cymraeg Rhodri Glyn ydyw i bawb), am fodloni i gynnal sgwrs gyda Christnogaeth 21, y gyntaf mewn cyfres ddeufisol o sgyrsiau newydd. Fe’i ganwyd yn Wrecsam, yn fab i’r Parchedig T. Glyn ac Eleanor Thomas ac yn frawd i Huw. Mae’n briod â Marian ac yn dad i Lisa, Deian a Rolant, ac yn dad-cu i Gwen, Rhodri, Rhys, Alis a Heti.
Rhodri, llawer o ddiolch am gytuno i gynnal sgwrs ar ...
Byw ar y ffin
Rhagor5 BYW AR Y FFIN
Rhwng Gwŷr a Gwragedd
Ym Montreal yng Nghanada ym 1850 yr oedd Arolygwr Cyffredinol Ysbytai ei Mawrhydi yn ddyn bach od. Gwisgai lifrai wedi eu gwneud o groen ychen gwyllt. Byddai’n mynd i’w waith gyda dau was i weini arno. ‘Arolygwr Cyffredinol’ oedd y swydd uchaf posibl i feddyg yn y fyddin yn y cyfnod hwnnw ac yr oedd gyrfa hwn wedi bod yn bur stormus.
Ganed James Barry yn yr Alban ac nid oes neb yn gwybod pwy oedd ei rieni, ond cafodd ei addysg trwy nodded Iarll Buchan; yn wir, tybiai rhai mai Buchan oedd ei dad, neu efallai ei dad-cu. Cafodd ei hyfforddi ...
Sŵmio’r Sul i Eglwys Bresbyteraidd Westminster, Southwest, Washington DC
RhagorSŵmio’r Sul i Eglwys Bresbyteraidd Westminster, Southwest, Washington DC
Sul, 22 Tachwedd 2020
Roedd un oedfa Sŵm Sul wedi bod rhwng 11 a 12 o’r gloch, a chynulleidfa fawr oherwydd mae’n eglwys fawr o ran adeilad, adnoddau, aelodau – a gweledigaeth. Yna, wedi’r oedfa, roedd gwahoddiad i ymuno â’r RBS sydd yn cyfarfod bob Sul rhwng 12.30 a 2 o’r gloch. Rhaid brysio i ddweud nad banc yw’r RBS hwn ond rhan ganolog o fywyd eglwys Westminster. Rhaid prysuro i ddweud hefyd nad oes a wnelo’r eglwys hon ddim â Westminster, Llundain. Resistance Bible Study yw RBS ac mae’n cael ei gyflwyno fel hyn ar wefan yr eglwys
Thought-provoking ...
Bywyd Chwyldroadol y Deyrnas
RhagorBywyd Chwyldroadol y Deyrnas
1
Mae rhai geiriau yn hawdd iawn i’w gorddefnyddio! Un ohonynt, fel arfer, fyddai’r gair ‘chwyldroadol’ – ond rywsut, prin fod gair arall yn gweddu cystal yn yr amseroedd rhyfedd yr ydym yn byw drwyddynt.
Yn ei draethawd – ie, ‘chwyldroadol’ (!) – ar athroniaeth gwyddoniaeth, The Structure of Scientific Revolutions, mae Thomas Kuhn yn cyferbynnu gwyddoniaeth ‘normal’ a gwyddoniaeth ‘chwyldroadol’. Cysyniad canolog Kuhn, wrth gwrs, yw’r ‘paradigm’, y fframwaith o feddwl sy’n galluogi gwyddonwyr i ymgodymu â phroblemau, llunio arbrofion, a phrosesu darganfyddiadau. O fewn y paradeim, fe ddigwydd gwyddoniaeth ‘normal’; y drafferth yw fod gwyddoniaeth normal fel pe’n dihysbyddu gallu’r paradeim cyfredol i fframio cwestiynau ...
Cnoi cil
RhagorCnoi Cil
Neville EvansLluniwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar gyfer aelodau capel Bethel, Penarth.
Yn 1962 cyhoeddwyd llyfr defosiwn Cristnogol gan y Parchedig T. Glyn Thomas gyda’r teitl Ar Ddechrau’r Dydd. Yn hwn mae’r awdur yn trafod amrywiol destunau mewn saith myfyrdod bob wythnos o’r flwyddyn. Rwy’n dal i chwilota ynddo gan fod Mr Thomas mor ddysgedig; ces y fraint o fod yn aelod yn ei gynulleidfa yn Ebenezer, Queen St, Wrecsam. Mae ganddo faes eang: gwyliau crefyddol, damhegion, cwestiynau, problemau cymdeithas ac ati. Ar gyfer Wythnosau 35 a 36 mae’n defnyddio penawdau trawiadol, sef ‘Allwedd-eiriau’ a ‘Rhagor o Allweddeiriau’.
Rwy’n sylwi bod yr arfer hwn yn amlwg mewn ...
Ffordd Trwy’r Drain
RhagorFfordd Trwy’r Drain
Traethawd 4 – Byw ar Ffiniau
Enid R Morgan
Rywdro, heb fod yn bell iawn yn ôl, yr oedd llwyth o bobl yn Awstralia na fu mewn cysylltiad â phobl wynion. Roedden nhw’n byw ar y tir gan ddefnyddio’u gwybodaeth draddodiadol am y tywydd, y creigiau a’r pridd, y planhigion a’r creaduriaid, i gynnal ffordd syml a chaled o fyw. Roedden nhw’n byw mewn cytgord â’u hamgylchedd mewn rhwydwaith o fannau cysegredig, mannau a wnaed yn sanctaidd trwy gysylltiadau a chof gwerin. Yr oedd eu pennaeth yn ŵr da, a’i bobl yn ei barchu ac yn ymddiried ynddo am ei fod yn gwneud penderfyniadau doeth. Ond mae’n ...
Y Nadolig Cyntaf
RhagorY Nadolig Cyntaf
gan Vivian Jones (2006)
Mae cyfrol Vivian Jones, Y Nadolig Cyntaf, yn unigryw. Nid oes yr un gyfrol arall yn y Gymraeg wedi rhoi sylw manwl i’r Nadolig ar gyfer oedolion – neiniau, teidiau a rhieni’r plant a’r genhedlaeth sydd yn tueddu i gredu mai gŵyl i blant ydyw. Fel mae cyfranwyr eraill wedi ysgrifennu yn Agora yn ystod y mis, mae neges y Nadolig yn heriol ac yn radical iawn.
Meddai Vivian Jones yn ei Ragymadrodd:
Mae’n rhaid cofio bod ...
Dwy gerdd newydd gan Aled Jones Williams
RhagorDwy gerdd newydd gan Aled Jones Williams
‘duw’
er ei fyrred
mae’n fôr
a’i du mewn
yn eigion.rhyfeddaf
at y rhai
...Siopa
RhagorSIOPA
Wrth ymweld â Biwmares tua chanol mis Hydref, sylwais fod yna boster mawr y tu allan i un o’r siopau yn atgoffa pawb o nifer y dyddiau oedd yna cyn y Nadolig, sef 72 diwrnod. Dyna un ffordd o atgoffa pawb oedd yn pasio bod angen gwneud y gorau o’r amser oedd yn weddill i brynu eu hanrhegion, gan eu hannog i brynu ambell un yn y siop honno.
Ond arhoswch, mis Hydref oedd hi; oni ddylid bod wedi tynnu sylw at yr Ŵyl Ddiolchgarwch i ddechrau, ac mae pawb yn gwybod bod honno’n dod o flaen y Nadolig. Ond ni allwn ddisgwyl gweld posteri i hysbysu peth felly ...
Cysur
RhagorCysur?
Pa ffordd fyddwch chi’n darllen y Beibl? A fyddwch chi’n dehongli pob rhan ohono yn llythrennol? Clywsom i gyd, rywbryd neu’i gilydd, lythrenolwyr cadarn yn datgan fod pob llythyren o Air Duw yn wir, gan olygu ei fod yn llythrennol wir. Ond clywsom hefyd ddiwinyddion blaengar a rhyddfrydol yn honni y gwelir gwir werth rhai hanesion Beiblaidd drwy eu dehongli, nid yn llythrennol, ond fel mythau neu ddamhegion. Gwyddom mai dyna’r arfer gan lawer o ysgolheigion cynnar yr Eglwys. Byddai Origen, fel yn ei De principiis er enghraifft, yn dadlau o blaid dehongli rhai rhannau o’r Beibl yn alegorïaidd. Datblygiad ‘modern’ gan ddiwinyddion ceidwadol, meddir, yw’r duedd i ...
Dwy Ochr y Geiniog
RhagorDwy Ochr y Geiniog
Mae yna ddwy ochr i bob ceiniog, medden nhw, ac mae hynny yn wir i ni fel eglwysi yn ystod y pandemig yma hefyd. Mae’r salwch ei hunan wedi bod yn ddieflig ac wedi achosi dioddef a thristwch ymhlith teuluoedd ar draws y byd. Ein gobaith mwyaf yw y bydd brechiad i wrthsefyll yr haint ar gael cyn gynted â bo modd.
Mae’n bwysig ein bod ni yn gweddïo am nerth i ddelio gyda’r sefyllfa, yn gweddïo am ras wrth ddelio gyda phobl ac yn cofio egwyddorion yr Arglwydd Iesu o gynnig cymorth i’r gwan a’r tlawd. Ni ddylid anghofio’r effaith feddyliol ar bobl ...
Goroesi’r Pandemig
RhagorGOROESI’R PANDEMIG
Yn 1965 gwnaed ffilm The Flight of the Phoenix a seiliwyd ar nofel gan Elleston Trevor. Cyfarwyddwr y ffilm oedd Robert Aldrich, gyda’r actor James Stewart yn chwarae rhan Frank Towns, capten yr awyren cargo dwy injan. Nid oedd yn llwyddiannus pan lansiwyd hi yn 1965 ond erbyn hyn mae wedi ennill dilynwyr gan ddatblygu yn rhyw fath o gwlt.
Teithio mae’r awyren i Benghazi yn Libya, ac wrth iddi hedfan dros y Sahara mae storm dywod yn difrodi’r ddwy injan ac mae’n gorfod glanio ar frys yn yr anialwch. Mae’r rheini a oroesodd yn canolbwyntio’n llwyr ar sut i aros yn fyw, gan obeithio y daw rhywun ...
Trechu’r Firws
RhagorTrechu’r Firws
Mae’n destun cryn falchder yma fod Tsieina wedi trechu’r firws corona ac mae pobl yn gwylio’r hyn sy’n digwydd yn Ewrop, ac yn yr Unol Daleithiau yn arbennig, gydag anghrediniaeth. Ychydig iawn o bethau, os unrhyw beth, sydd wedi arddangos y gwahaniaethau sydd rhwng diwylliant y Gorllewin a Tsieina mor glir ag y mae’r argyfwng hwn wedi’i wneud.
Bu problemau yn yr ymateb cyntaf un yn Wuhan, ac fe dalodd y swyddogion oedd ar fai gyda’u swyddi am y camau gwag hynny. Ond wedi hynny fe welwyd llywodraeth a chymdeithas yn symud mewn cytgord cwbl ryfeddol.
Yma, yn nhalaith Guangdong yn y de-ddwyrain, roedd y mesurau a gymerwyd a’r ...
Tragwyddoldeb a chyfrifoldeb
Tragwyddoldeb a chyfrifoldeb
Seiliedig ar bregeth a draddodwyd yn rhithiol i gynulleidfa’r Tabernacl, Efail Isaf, ar Sul, 25 Hydref 2020
Darlleniadau: Deuteronomium 34.1–10; Salm 90 (Beibl.net)
Mae ein dau ddarlleniad yn canolbwyntio’n sylw ar natur tragwyddoldeb. Mae hanes marwolaeth Moses yn Deuteronomium yn gwneud hynny trwy ein hatgoffa beth nad ydyw. Os ewch chi ar daith yng Ngwlad yr Addewid, fe welwch chi safleoedd sy’n gysylltiedig ag Iesu a Phedr, Mair a Martha, Abraham a Jacob – a beth bynnag fo cywirdeb archeolegol rhai o’r cysylltiadau yma, mae ...