AGORA
Agora rhif 49 (2022) YMA
Agora mis Tachwedd-Rhagfyr 2021 YMA
Agora mis Medi-Hydref 2021 YMA
Agora mis Gorffennaf-Awst 2021 YMA
Agora mis Mai-Mehefin 2021 YMA
Agora mis Mawrth-Ebrill 2021 YMA
Agora mis Ionawr-Chwefror 2021 YMA
Agora mis Tachwedd-Rhagfyr 2020 YMA
Agora mis Medi-Hydref 2020 YMA
Agora mis Gorffennaf-Awst 2020 YMA
Agora mis Mai-Mehefin 2020 YMA
Agora mis Mawrth-Ebrill 2020 YMA
Agora mis Ionawr-Chwefror 2020 YMA
Agora mis Tachwedd-Rhagfyr 2019 YMA
Agora mis Medi-Hydref 2019 YMA
Agora mis Gorffennaf- Awst 2019 YMA
Agora mis Mehefin-Gorffennaf 2019 YMA
Agora mis Mai-Mehefin 2019 YMA
Agora gwanwyn 2019 – Dechrau o’r Newydd YMA
Agora mis Ionawr-Chwefror 2019 YMA
Agora mis Tachwedd-Rhagfyr 2018 YMA
Agora mis Hydref 2018 YMA
Agora mis Awst 2018 YMA
Agora mis Gorffennaf 2018 YMA
Agora mis Mehefin 2018 YMA
Agora mis Mai 2018 YMA
Agora mis Mawrth 2018 YMA
Agora mis Chwefror 2018 YMA
Agora mis Ionawr 2018 YMA
Agora mis Rhagfyr 2017 YMA
Agora mis Tachwedd 2017 YMA
Agora mis Hydref 2017 YMA
Agora mis Medi 2017 YMA
Agora mis Awst 2017 YMA
Agora mis Mehefin 2017 YMA
Agora mis Mai 2017 YMA
Agora mis Ebrill 2017 YMA
Agora mis Mawrth YMA
Agora mis Chwefror YMA
Agora mis Mai: YMA
Pam Agora?
Man agored, medd y geiriadur; man cyfarfod yn yr iaith Roeg, y man lle’r aeth Paul ati i geisio mynegi’r newyddion da mewn iaith seciwlar, sef iaith ei gyfnod. Mae’n disgrifio’n dda amcan y fenter hon i greu cylchgrawn digidol Cymraeg fydd o ddiddordeb a bendith i bawb y mae enw Iesu yn bwysig iddyn nhw (er bod capel ac eglwys yn eu digalonni). Y gobaith yw y daw yn fan agored a diogel i bobl holi a thrafod, man lle y gellir anghytuno heb ddigio, heb ymosod, heb gondemnio, ac yn sicr heb sarhau na bwrw neb allan. Yn yr hen Agora yr ymdrechodd Paul i gyfathrebu â chymdeithas amlddiwylliannol Athen, lle roedd yn bosibl i bawb a phob un fynegi ei syniadau a chael gwrandawiad.
O newid pwyslais o’r sill cyntaf i’r ail, mae ystyr pellach i Agora sydd hefyd yn ferf orchmynnol Gymraeg. Agora ddrws i fyd sy’n newid yn garlamus, agor meddyliau i ddulliau mynegiant newydd, ac agor calonnau i’n profiadau tra amrywiol ni, Gymry Cymraeg a’n cyfeillion heddiw. Mae fel gyrru car: mynd ymlaen, ond gan gadw llygad ar y drych sy’n dangos beth ddigwyddodd y tu cefn i ni.
Rydyn ni’n mentro lansio ‘cylchgrawn digidol’ ar wefan Cristnogaeth21 gan obeithio y gallwn ddatblygu a gwneud y gorau o’r posibiliadau technegol newydd sy’n agored i ni.
Yn ei erthygl i rifyn cyntaf Agora, roedd Aled Jones Williams yn rhoi cip i ni ar y gymdeithas sy’n bod yng Nghymru heddi, Cymru dra gwahanol i’r Gymru draddodiadol fytholegol a fu’n llawer iawn mwy amrywiol ei haelodau nag yr oedd y myth yn caniatáu. A ninnau Gristnogion wedi colli’r hawl i orchymyn a deddfu, be wnawn ni i godi amgenach pabell pan yw’r cyfundrefnau eglwysig yn glynu wrth ieithwedd y bymthegfed ganrif a ninnau, er gwell neu er gwaeth, yn meddwl sut y gall Iesu gael ei glywed un ganrif ar hugain ers ei groeshoelio gan rymoedd crefydd ac ymerodraeth?