Agora 46 mis Gorffennaf-Awst 2021

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Haleliwia am Heresi
Adroddiad Emlyn Davies a recordiad llais o sgyrsiau John Bell

Diwedd y Byd?
Gethin Rhys

Gwaddol Caethwasiaeth
Jeff Williams

Cofio Cyril G. Williams
Gwilym Huws

Pabell Heddwch Llangollen
Mererid Hopwood

Y Chwyldroadwr
Adolygiad gan Geraint Rees

Nid gwyddoniaeth yw Genesis
Gwilym Wyn Roberts

Myfyrdod ar y Deyrnas
Geraint Rees

Myfyrdodau dyddiol
Richard Rohr

 

 

  • Diwedd y Byd?

    DIWEDD Y BYD?

    Eleni, traddodwyd Darlith Goffa Gethin Abraham-Williams ar Zoom gan y  Parchedig Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn.  Mae Gethin yn gyfrannwr cyson i wefan Cristnogaeth 21, ac yn un o awduron rheolaidd yr e-fwletin wythnosol.

    Mae’n bleser gennym gael cynnwys dolen ar dudalennau Agora i fynd â chi’n syth at y ddarlith ei hun, a addaswyd ar gyfer ei chyhoeddi ym mis Mehefin. Diolchwn i Gethin ac i Cytûn am yr hawl i’w chynnwys yma.

    Cliciwch YMA

    Rhagor
  • Cofio Cyril G Williams

    Cyril G. Williams 1921–2004

    Mae’n anodd dychmygu heddiw pa mor argyfyngus oedd hi ar y diwydiant llyfrau Cymraeg ar ddechrau’r 1950au. Ers oes aur gyntaf y wasg Gymraeg yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pethau wedi crebachu i’r fath raddau erbyn canol yr ugeinfed ganrif fel bod llawer o gyhoeddwyr a llyfrgellwyr yn darogan ei thranc o fewn degawd neu ddwy os na ellid sicrhau ymyrraeth cyrff llywodraethol. Ond yn ystod dyddiau llwm ddechrau’r 1950au cyhoeddwyd un gyfrol nodedig iawn gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, sef Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953). Cyfrol yw ...

    Rhagor
  • Pabell Heddwch Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

    Pabell Heddwch Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

    Fel y bydd darllenwyr AGORA’n gwybod yn siŵr, cynhaliwyd yr Eisteddfod Ryngwladol gyntaf ym mis Mehefin 1947 yn Llangollen. Roedd hi’n union wedi’r ail ryfel byd ac roedd gan y trefnyddion arloesol un nod syml ond uchelgeisiol: creu heddwch a harmoni.

    Drwy ddod â phobl o bob cwr o’r byd at ei gilydd i gydganu, roedden nhw’n argyhoeddedig y gellid cyflawni cyfeillgarwch rhyngwladol a chyd-ddealltwriaeth. Anfonwyd gwahoddiad agored at gorau’r byd yn datgan:

    Rhagor

  • Myfyrdod ar y Deyrnas

    Myfyrdod ar y Deyrnas gan Geraint Rees

    Mae cysyniad y ‘Deyrnas’ yn allweddol i’n dealltwriaeth o genadwri Iesu Grist. Trwy’r Gwynfydau, rhoddwyd blas i ni o werthoedd a blaenoriaethau’r Deyrnas, a honno’n Deyrnas yr ‘yma a nawr’. Dros y milenia fe gafodd cynifer o ddilynwyr Crist flas arbennig ar osod y Deyrnas honno mewn bywyd tu hwnt i’r bedd. Ar yr un pryd, gyda thwf a marwolaeth ymerodraethau gwleidyddol, fe ddatblygodd rhai ohonyn nhw ddimensiwn oedd yn honni i raddau eu bod yn fynegiant gwleidyddol o deyrnas Iesu Grist, fel y gwelir yn hanes concro De America gan y Sbaenwyr, yr Ymerodraeth Brydeinig yn ei hanterth, neu hyd yn ...

    Rhagor
  • Y Chwyldroadwr

    Y Chwyldroadwr

    The Revolutionary: Who was Jesus? Why does he still matter? (Gol. Tom Holland)

    Yn 2020 tynnwyd ein sylw gan C21 at lyfr o bwys gan Tom Holland, sef Dominion: The Making of the Western Mind. Roedd honno’n gyfrol o ymchwil treiddgar yn crisialu panorama diwylliannol oedd yn dangos sut y bu i’r traddodiad Cristnogol wareiddio byd o greulondeb, a sut y dyrchafwyd bodau dynol a sefydlu urddas a hawliau dynol o ganlyniad i ddysgeidiaeth yr eglwys. Yn 2021 mae Tom Holland wedi mynd gam ymhellach wrth edrych ...

    Rhagor
  • Gwaddol Caethwasiaeth

    Gwaddol Caethwasiaeth

    Nid un hanes yw hanes y Fasnach Caethion Trawsiwerydd (The Transatlantic Slave Trade). Mae’n wead cymhleth o straeon a hanesion sy’n creu un darlun brawychus o’r uffern y mae dynoliaeth yn gallu ei greu. Parhaodd y fasnach o 1440 hyd 1888; cipiwyd rhwng 10 a 12 miliwn o blant, gwragedd a dynion o Affrica i weithio fel caethion yn y gorllewin. Dyma un stori, wedi ei chofnodi yn fanwl gan Thomas Phillips, Aberhonddu:

    Ym mis Medi 1693 hwyliodd y llong Hannibal allan o Gravesend, ar yr afon Tafwys, a throi tua gorllewin Affrica. Ei chapten oedd Thomas Philips, o Aberhonddu. Prynwyd y ...

    Rhagor
  • Haleliwia am Heresi

    HALELIWIA AM HERESI

    (Adroddiad am ddwy sgwrs ar Zoom gan John Bell, o Gymuned Iona.)

    Fe welwch ein bod wedi cynnwys recordiad o’r ddwy sgwrs ar diwedd yr adroddiad isod.

    Rhaid i mi gyfaddef na wyddwn yn iawn beth i’w ddisgwyl pan glywais beth fyddai testun sesiwn John Bell ar gyfer cynhadledd flynyddol Cristnogaeth 21. “Haleliwia am Heresi” meddai’r llythrennau breision a awgrymwyd ganddo, ac roedd hynny’n swnio’n bryfoclyd o feiddgar hyd yn oed i griw rhyddfrydol C21.

     

    Ond buan iawn y daeth yn amlwg i ba gyfeiriad y byddai’n ein tywys wrth iddo ...

    Rhagor
  • Nid gwyddoniaeth yw Genesis, Penodau 1 a 2

     Nid gwyddoniaeth yw Genesis, Penodau 1 a 2

    Mae’n anhygoel, yn fy meddwl i, fod rhai pobl yn mynnu dehongli’r ddwy stori am y Creu ar ddechrau llyfr Genesis fel adroddiad gwyddonol am ddechreuadau’r byd a bywyd ar ein planed. Mae nifer o Gristnogion hyd yn oed yn ein hoes wyddonol ni yn dewis dehongli’r Beibl yn llythrennol.

    Dwi’n hoff iawn o ddarllen y penodau hyfryd hyn yn Genesis ac yn gwerthfawrogi’r neges hollbwysig sydd ynddynt. Dwi’n credu bod awduron y ddau adroddiad barddonol hyn yn ymdrechu’n ddidwyll i ddatgan yn eu hoes a’u hamser eu hunain mai Duw yw’r Alffa – yr UN a ddewisodd fod bywyd yn ei ...

    Rhagor
  • Myfyrdodau dyddiol Richard Rohr

    Myfyrdodau dyddiol Richard Rohr o’r Ganolfan Gweithredu a Myfyrio (The Center for Action and Contemplation)                   

    Mae nifer o gyfeillion C21 yn cael ysbrydoliaeth cyson o fyfyrdodau a llyfrau Richard Rohr. Mae Rohr yn perthyn i urdd Gatholig, ac yn cyhoeddi munud i feddwl dyddiol sydd ar gael drwy ebost ar y ddolen hon:

    Dechreuodd rannu myfyrdodau yn 1973 wedi i tua 1,200 o bobl ifanc gwrdd yn rheolaidd i wrando arno bob nos Sul mewn eglwys yn Cincinnati. Gyda datblygiad y chwaraeydd casetiau, fe ddaeth yn llais cyfarwydd i filoedd ar draws America, ac wedyn trwy waith Gŵyl Greenbelt fe ddaeth yn enw hysbys ...

    Rhagor