Agora rhif 24 mis Mai 2018
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Camau’r AA gan Wynford Ellis Owen
Dwn i ddim Gethin Rhys
Dwn i ddim
Rhagor‘Dwn i ddim …’
Mae gan wleidyddion fel arfer lawer i’w ddweud. Ond ymadrodd fyddwch chi prin yn ei glywed yn dod o’u genau yw ‘Dwn i ddim’. Yn wir, mae peidio gwybod pethau wedi troi yn arwydd o wendid ym marn y cyhoedd, neu o leiaf ym marn y cyfryngau.
Dwn i ddim pryd yn union y dechreuodd hyn. Efallai mai methiant Dan Quayle i sillafu’r gair ‘potato’ yn ystod ymgyrch etholiadol yr Unol Daleithiau yn 2008 oedd un o’r camau tyngedfennol. Byth oddi ar hynny mae gofyn cwestiynau o’r fath i wleidyddion – sillafu, symiau, cwestiynau o’r arholiad ar gyfer darpar-ddinasyddion ...
Camau
Camau’r AA
Mewn cyfnod o ychydig dros flwyddyn, fe gyflwynodd Wynford Ellis Owen ddeuddeg cam yr AA i’r darllenwyr.
Er hwylustod, dyma grynhoi’r dolenni at yr holl erthyglau hyn.
Cofio James Cone
RhagorCofio James Cone
– a fu ‘o fewn munudau i adael yr eglwys’
Bu farw’r diwinydd James Cone ar 28 Ebrill yn 79 oed. Fe’i penodwyd yn Athro Diwinyddiaeth yng Ngholeg Union, UDA, yn 1969 ac yr oedd yn parhau i ddarlithio, ysgrifennu a phregethu i’r diwedd, bron. Roedd yn weinidog yn Eglwys Fethodistaidd Esgobol Affrica. Go brin y bydd ei enw yn golygu fawr ddim i’r mwyafrif o Gristnogion Gymru, ond fe fydd pawb yn gwybod am yr un a gafodd y dylanwad mwyaf arno, sef Martin Luther King. Bu Malcolm X yn ddylanwad arno hefyd. Cone yn fwy na neb, yn wir, a adeiladodd ar waith King a ...
Cynhadledd 2018
RhagorCynhadledd Flynyddol C21
‘Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur’
yng nghwmni’r Tra Pharchedig Jeffrey John, Deon St Albans
dydd Sadwrn 30 Mehefin yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd
Lawrlwythwch y poster yma