Encil y Pentecost, 18 Mehefin
‘Mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno’ (neu ‘Mae’r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad’, Beibl.net) oedd y thema i’n hysgogi a chadarnhau’r rhai sy’n ystyried bod lle i C21 a’i angen fel rhan o’r dystiolaeth Gristnogol yng Ngymru. Yn anorfod, mae’n bwyslais anghyfforddus ac anodd i’r traddodiadau a‘r enwadau sydd wedi eu caethiwo i’w hanes. Gyda phum o bobl yn arwain, ein hofn mwyaf oedd y gallai’r diwrnod fynd yn gynhadledd ac nid yn encil. Ond encil a gawsom – amser a lle i fyfyrio, gweddïo a gwrando ar ‘sŵn yr Ysbryd’ a dilyn ‘cyfeiriad yr Ysbryd’. Yr oeddem wedi ymgynnull yn eglwys hardd y Santes Fair, Porthaethwy.
Yr oedd arweiniad Archesgob Cymru ar ddechrau’r dydd yn ymateb gonest ac arwyddocaol. Wedi’r cyfan, mae’n cario baich a chyfrifodeb sefydliad eglwysig. Mae’r hen bwyslais (sef Duw yn gweithio trwy ei eglwys), meddai Andy John, yn cyfyngu Duw ac yn anwybyddu tystiolaeth y Testament Newydd, yn arbennig Llyfr yr Actau. Yr alwad i’r eglwys yw bod yn rhan o waith Duw yn ei fyd – gweld lle mae Duw ar waith ac ymuno ag ef. Mae’r arweiniad traddodiadol, ‘Datblygwch ac na wyrwch oddi wrth yr Ysgrythur’, yn mynnu ein bod yn cofio mai geiriau Crist i Nicodemus yw thema’r encil am y gwynt yn chwythu lle y mynno. Ysbryd rhydd ydyw, ond Ysbryd Crist ydyw. Beth a wnawn pan mae Duw ar waith yn ei fyd ac yn mynd yn groes i’r hyn mae’r eglwys wedi ei ddysgu? Mae’n sefyllfa newydd, amgylchiadau newydd, yn her a gwahoddiad newydd. Mae tystiolaeth yr Ysbryd yn ein harwain i’r man lle mae gwirionedd a chariad a ffrwythau’r Ysbryd i’w gweld. Wrth gydnabod e.e. fod perthynas a phriodas hoyw yn un o’r meysydd sydd mewn perygl o rwygo ei enwad ei hun, mae Duw, meddai’r Archesgob, yn galw ei bobl i gariad, daioni a gonestrwydd. Ac y mae’n ddyletswydd arnom i ddilyn arweiniad yr Ysbryd.
Ymhlith y cwestiynau yr oedd yr Archesgob wedi eu rhoi i ni i’w rhannu mewn grwpiau bychan – cyn cael cyfnod tawel o weddi – yr oedd y ddau yma: ’Oes ffiniau i ddatblygiad ffydd sydd yn ei thynnu oddi wrth yr Ysgrythur ?‘ a ‘Sut y gwyddom fod daioni’r byd yn dod oddi wrth yr Ysbryd?’
Mae’r Parchedig Sara Roberts yn ficer ym Methesda ac yn datblygu patrwm newydd o eglwys sy’n gymdeithas yn hytrach nag enwad neu adeilad, yn gymdeithas rydd yn hytrach na chyfyngedig. Gyda phenodi rhywun i hybu ‘eco-eglwys’ yng Nghymru erbyn hyn, arweiniodd Sara ni ar draws yr A5 i dawelwch byw Coed Cyrnol i ymdawelu a bod yn un â’r creu ac ‘Ysbryd Duw’ yn ‘ymsymud’ o’n cwmpas. Lle gwell a lle mwy naturiol i ddarllen Salm 104 (pawb yn llafar â’i adnod a rhannu bara? Er mor hardd yr eglwys, harddach y goedwig. Er bod y term ‘Cristnogaeth/eglwys wyllt’ yn cael ei ddefnyddio’n aml erbyn hyn, doedd dim yn llai gwyllt na’r hanner awr yn y coed.
Ar gyfer y pnawn roedd C21 wedi gwahodd tri gyda doniau arbennig ym myd cerddoriaeth, llenyddiaeth a chelf i rannu dylanwad yr Ysbryd creadigol ar eu gwaith a’u gwelediaeth o fywyd.
Wedi cinio blasus a chymdeithas dda, dechreuodd y prynhawn gydag awelon hyfryd o gyfeiriad yr Ysbryd di-ffiniau gyda Manon Llwyd a’i chân. Oherwydd iddi bellhau oddi wrth y ffydd heb wybod beth na phwy oedd yr Ysbryd na’i brofi, dywedodd ei bod bellach ar ‘ail siwrnai’. Cafodd wahoddiad gan Bwrw Golwg i gyfansoddi tôn i ran o Salm 31 sydd yn boblogaidd iawn yn Wcráin bellach, ac yn fuan wedyn daeth y gwahoddiad i gyfrannu i’r encil. Bu’r ddau brofiad yn ddechrau’r siwrnai newydd i Manon. Clywsom dair cân: un gan Bobby Macferrin am ‘deimlo’r Ysbryd’ ‘Every time I feel the spirit’, un arall gan y canwr jas James Ingram ‘Blessed assurance’ a chôr rhyngweithiol Eric Whitacre gyda dros 17,000 o leisiau ac wynebau o 129 o wledydd. Un llinell oedd i’r gân a gyfansoddwyd gan Whitacre: ‘Canwch yn dyner, fel un’. Mae gwylio’r fideo yn brofiad rhyfeddol: yr holl wynebau’n llithro i’w gilydd yn fap o’r byd. Yn y cyfan a thrwy’r cyfan bu’r Ysbryd sy’n ‘chwythu lle y mynno’ ar waith, ac mae Manon bellach yn gwybod ei bod mewn lle hapus a bodlon, a bron nad yw’r gân a’r gerddoriaeth wedi bod yn ail gyfle iddi.
Mae cyfraniad Y Parchedig Aled Lewis Evans i lenyddiaeth ddefosiynol yn fawr ac mae hynny’n rhan allweddol o’i weinidogaeth erbyn hyn, trwy’r deunydd y mae’n ei baratoi ar gyfer addoli ei eglwys. Ond yn ei gyflwyniad ni ddarllenodd Aled ei waith ei hun. Soniodd fod ambell gerdd yn ‘encil’ynddi ei hun ac yn fan i dychwelyd yno’n gyson. Nid yw’r encil honno o angenrheidrwydd yn un bersonol oherwydd mae‘r delweddau a’r geiriau yn gyfrwng rhyngweithio gydag eraill sy’n cael y fraint o rannu’r profiad. Dyfynnodd gerdd Menna Baines am griw bach ar doriad gwawr fore’r Pasg yn cerdded o’r coed i ben bryn:
Pererindod munudau
Yw hon o’r coed i ben y bryn,
O gaddug i oleuni,
Ac eto mae’n faith.
‘Rhwng dau olau’ yw teitl y gerdd (Cristion, Gorffennaf/Awst 2021). Dyfynnodd hefyd rai o’i gyfeithiadau o waith Nick Fawcett, J. M. Kendall, Eddie Askew ac eraill. Mae ysbryd gwylaidd a thawel Aled ynddo’i hun yn dystiolaeth fod barddoniaeth a llên yn gyfrwng sy’n gofyn am wyleidd-dra i’w werthfawrogi. Dyna pam yr oedd dyfyniad o gerdd gan Askew yn ddiwedd grymus i fyfyrdod Aled:
Rho i ni’r gwyleidd-dra
i dderbyn Dy wyleidd-dra Di.
Mae’r rhai sydd yn gwerthfawrogi’r Beibl fel llenyddiaeth yn unig yn awyddus iawn i bwysleisio fod llenyddiaeth hefyd yn gyfrwng i’n tynnu a’n cyfeirio tuag at yr Ysbryd sy’n chwythu fel y myn ac i bob cyfeiriad.
Mae gan Cefyn Burgess arddangosfa yn Oriel Storiel, Bangor, tan Orffennat 2ail. ‘Tu ôl i’r blwch’ yw’r teitl ac mae’n cynnwys trefluniau cyfoes mewn pwyth, print a thecstil o Fryniau Casia. Mae’n arddangosfa drawiadol, ond cip cyflym ar fideo a ddangosodd o’i waith yn yr encil.
Yn hytrach canolbwyntiodd, gyda dyfyniad o’r Efengyl – ‘Chwi yw goleuni’r byd … nid oes neb yn golau cannwyll a’i rhoi dan lestr’– ar yr hyn a ddarganfu yn ei ugain ymweliad ag India. Mae’r golau yn yr hanes yn prysur ddiffodd yn ein plith, fel y gwnaeth yn ei brofiad ef ei hun. Soniodd am ffydd pobl Bryniau Casia i gadw’r fflam yn fyw a dylanwad parhaol rhai fel Thomas Jones, Dr Arthur Hughes, Helen Rowlands a rhai llai adnabyddus fel Beryl Edwards. Soniodd am y fraint o gael darllen dyddiadur Beryl Edwards, fu’n nyrsio yn Ysbyty Shillong.
Soniodd Cefyn hefyd am Mair Jones fu’n cydweithio ag ef am rai blynyddoedd tan ei marwolaeth yn ddiweddar. Daeth Cefyn i’w hadnabod hyd yn oed yn well yn ei gwaeledd. Roedd gan Mair ddoniau cerddorol arbennig a daeth yn rhan o brosiect India Cefyn i ddathlu canmlwyddiant yr ysbyty yn Shillong. Rhoddodd wersi piano i Cefyn. Yn ei gwaeledd aeth Cefyn a hithau ati i recordio rhai o’n hemynau i gyfeiliant telyn a phiano., er mwyn eu hanfon fel cyfarchiad i India. Bu farw Mair ar ôl recordio chwe emyn yn unig. Ym Mair y gwelodd Cefyn y goleuni a thrwy ei berthynas â hi y daeth pob pennill o ‘Diolch i ti’ yn ystyrlon. Mae’n diolch y bydd ei llais, ei thelyn a’r ysgoloriaeth y mae wedi ei chyflwyno i’r eglwys ym Mryniau Casia yn dod yn rhan o’r golau yn y Bryniau ac yn yr ysbyty. Yn Mair a’i ffydd y gwelodd Cefyn ‘rywbeth glân yn golau’, fel y gwêl eraill yr Ysbryd sy’n parhau i chwythu yn y golau a’r lliwiau a welwn yng ngwaith Cefyn Burgess.
Y Parchedig Anna Jane, Cadeirydd C21, oedd yn arwain yr encil. Ar ddechrau’r dydd rhanwyd ffrwythau’r Ysbryd rhyngom fel cymdeithas oedd yn cyfarfod i fyfyrio, ymdawelu ac ymdeimlo â phresoldeb yr Ysbryd ac yn barod i ddilyn arweiniad yr Ysbryd: cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanddisgyblaeth. Hyn roddodd gynnwys i’n gweddi ar ddechrau’r encil.
Ar ddiwedd yr encil, dan arweiniad Anna Jane, yn ddirybudd ond yn gwbwl naturiol ac amserol, daeth y dydd i ben wrth wrando a chydweddïo gyda chôr eglwysig o Wcráin yn canu Gweddi’r Arglwydd yn eu hiaith eu hunain. Mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno ac o bob cyfeiriad.
P.Ll.J.