Agora 4 (Gorffennaf / Awst)

Cynnwys Rhifyn 4 (Mis Gorffennaf / Awst)

(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

Agorab

Golygyddol

Yr Eglwys Gatholig a’r Gymru Gymraeg

Cnoi Cil

Gweithredu a Gwamalu                                           Ainsley Griffiths

Beth am y Moch?                                                        Enid R. Morgan

Astrowleidyddiaeth                                                    Dr Bleddyn Bowen

Dyfyniadau

Cymunedau Ffydd ar y We

 

  • Golygyddol

    Golygyddol

    Erbyn i’r geiriau hyn ymddangos ar eich sgriniau, gyfeillion C21, efallai y byddwn i gyd wedi dechrau treulio’r profiad o weld rhywbeth gwerthfawr, ond amherffaith ddigon, yn cael ei luchio ymaith fel pe na bai gwerth nac amcan wedi bod iddo o gwbl. A does dim llawer o bwynt rhestru ymhellach y celwydd, y methiant, y camarwain, y diffyg cymedroldeb sydd wedi bod ar y ddwy ochr. Mae’r rheini wedi peri i nodweddion peryclaf y Saeson a mwyaf di-ddeall y Cymry bleidleisio yn erbyn parhau i ymdrechu mewn sefydliad a ddaeth i fodolaeth i geisio dwyn ...

    Rhagor
  • CNOI CIL

    Cnoi Cil

    “Gwn fod Credo Nicea yn dweud bod Iesu ‘wedi esgyn i’r nefoedd ac yn eistedd ar ddeheulaw’r Tad’. Ond, fel aelodau cynnar yr eglwys, nid dealltwriaeth lythrennol sydd gen i o’r ysgrythurau. Ac fel nad ydw i ddim yn deall y Beibl yn llythrennol, felly dydw i ddim yn cymryd bod Credo Nicea i’w deall fel dehongliad llythrennol. Fel pob credo, mae credoau Nicea, Credo’r Apostolion a Chredo Athanasius (a Chredo Westminster a’r Gyffes Ffydd o ran hynny) yn snapshots o’r ddiwinyddiaeth oedd yn dderbyniol ar gyfnod ...

    Rhagor
  • BETH AM Y MOCH?

    Ymaflyd â’r Testunau (Luc 8:28–39, Mathew 8:28–34 a Marc 5:1–20)

    Beth am y moch?

    Enid R. Morgan

    ‘Mab ffarm oeddwn i,’ meddai fy nghyfaill, sydd dros ei naw deg mlwydd oed, ‘ac roeddwn i’n eistedd yn y capel yn meddwl am y moch: sawl hwch fagu oedd ymhlith yr holl filoedd a aeth dros y dibyn?’ Yn llais yr hynafgwr clywn fachgen sylwgar o oes a fu, a gwenodd y ddau ohonom wrth feddwl am blentyn yn rhoi ei fys ar y math o fanylyn tramgwyddus sy’n gallu drysu unrhyw drafodaeth am ystyr y Beibl.

    Felly, dyma ymdrech i feddwl eto beth ...

    Rhagor
  • Dyfyniadau

    Dyfyniadau

    DISGWYL

    Mae’r Duw a ddaeth at ei bobl yn Iesu yn mynd i dadlennu ryw ddydd ei deyrnas yn ei holl ogoniant gan ddwyn cyfiawnder a llawenydd i’r byd i gyd. Sut mae modd bod yn barod ar gyfer y dydd hwnnw? Ble mae’r ffyrdd i’w sythu? Pa goelcerth sydd angen ei chynnau i losgi’r llanast sydd ar ei lwybrau? Pa goed marw sydd angen eu torri i lawr? A lawn bwysiced, pwy ddylid eu galw i gyfrif, nawr, i edifarhau?

    N T Wright yn St Matthew for All

    *****************

    Rhagor

  • YR EGLWYS GATHOLIG A’R GYMRU GYMRAEG

    Yr Eglwys Gatholig a’r Gymru Gymraeg

    349663-the-vaticanCyfnod o lawenhau oedd degawdau olaf yr ugeinfed ganrif i Gatholigion Cymraeg gan fod dau o’r tri esgob Cymreig, sef Esgob Daniel Mullins ac Esgob Edwin Regan, yn siaradwyr Cymraeg ac yn bobl oedd yn deall Cymru ac anghenion yr Eglwys yn ein gwlad. Esgob Daniel Mullins oedd llais yr Eglwys Gatholig i’r Cymry Cymraeg ac yn llais Cymru i’r Catholigion nes iddo fe ymddeol.  Wedi iddo ymddeol, ei gyd-weithiwr yng ngogledd Cymru, Esgob ...

    Rhagor
  • GWEITHREDU A GWAMALU

    Gweithredu a Gwamalu

    gan Ainsley Griffiths

    Ar ôl treulio’r deng mlynedd diwethaf yn gweinidogaethu fel caplan ar Gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (Coleg y Drindod gynt), rwyf wedi dod i ddeall tipyn mwy am rai o agweddau a chwestiynau myfyrwyr cyfoes. Eang iawn yw ystod y sylwadau hyn ac wedi eu mynegi mewn amrywiol gyd-destunau: weithiau yn dilyn y Cymun ar fore Sul, weithiau mewn grŵp trafod neu gyfarfod o’r Undeb Cristnogol ac weithiau mewn sefyllfa hollol anghrefyddol – er enghraifft yn y caffi, y gampfa neu Undeb y Myfyrwyr. Rwy’n credu taw’r sgwrs ‘ddyfnaf’ ...

    Rhagor
  • Astrowleidyddiaeth

    Astrowleidyddiaeth

     Rhyfela yn y gofod a pharhad gwleidyddiaeth ar y ddaear drwy dulliau eraillGofod

     O’r Sputnik i’r Rhyfel Gofod Cyntaf

    Y Rhyfel Gofod Cyntaf? Beth ydw i wedi’i golli?

    Rhyfel y Gwlff, 1991, oedd y ‘rhyfel gofod cyntaf’. Doedd dim rhyfela yn y gofod, ond defnyddiwyd gwasanaethau o systemau gofodol a lloerennau ar faes y gad am y tro cyntaf ar raddfa fawr, e.e. GPS yn yr anialwch ac arfau manwl-gywir (precision weapons). Dangosodd Rhyfel y Gwlff effaith technoleg y gofod ar faes y gad ar y Ddaear.

    Wel ...

    Rhagor
  • Cymunedau Ffydd ar y We

    Cymunedau Ffydd ar y We

    Springfield Community Christian Church

    Mae nifer cynyddol o bobl sydd wedi dieithrio oddi wrth eglwysi nawr yn dod yn rhan o gymunedau eglwysig sy’n cyfuno’r rhithiol gyda rhywbeth mwy personol. Gallwch gael pregeth wythnosol, neu gymryd rhan mewn grwpiau trafod trwy Skype neu Facetime, a gallwch gael deunydd darllen. Ymddengys fod nifer fawr erbyn hyn yn gwirfoddoli, dyweder, gyda chynllun i’r digartref yn lleol neu fudiad cyfiawnder global, ac yn ymwneud â chymuned eglwysig rithiol i wreiddio’u bywydau defosiynol. Er nad yw’n ddewis sy’n apelio at lawer, mae’n amlwg fod posibiliadau cynyddol ...

    Rhagor