Agora rhif 38 mis Mawrth – Ebrill 2020
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Cofiwch ailymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Gweddïau Cymorth Cristnogol (COVID-19)
Llwybrau: cerdd gan Judith Stammers
AJE
Paid â glynu wrthyf
Anna Jane Evans
Steve Chalke (2)
yn cael ei holi gan Huw Spanner (Rhan olaf)
Steve Chalke (1)
yn cael ei holi gan Huw Spanner (Rhan 1)
Yr Wythnos Fawr Mewn Hanner Awr
Karen Owen
O Sul y Palmwydd i Sul y Pasg 2020
JPG
Phoebe
Enid R. Morgan
Mewn cyfnod fel hyn…
Pandemig
Lynn Ungar – addasiad Cymraeg Enid R. Morgan
Rheol Buchedd Fach
Enid R. Morgan
Cerddaf o’r hen fapiau – adolygiad
Cynog Dafis
Cerddaf o’r hen fapiau
Pryderi Llwyd Jones ac Emyr Llywelyn
Arglwyddiaeth
Glyn Tudwal Jones
Rhyfeddod rhif (dathlu diwrnod Pai, 14 Mawrth)
Gareth Ffowc Roberts
Gweddiau covid-19 CC
RhagorPaid â glynu wrthyf
RhagorPaid â glynu wrthyf – paid dal gafael ynof fi
(Beibl.net)Ers tair wythnos bellach mae aelodau Eglwys y Berth, Penmaen-mawr, wedi cynnal eu hoedfaon dros y ffôn. Y Sul cyntaf, y gynulleidfa ffyddlon wythnosol oedd yno – ynghyd ag Elwyn, y trysorydd, sy’n byw yng Nghaeredin. Mae’r gynulleidfa bellach wedi tyfu i gynnwys aelodau eglwysi eraill o Lanbryn-mair; Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin; Tal-y-bont, Conwy; a Chasnewydd!
Yn ein Ffoniadaeth y Cysegr ar Sul y Pasg arweiniodd y Parch Olwen Williams ni’n ddychmygus drwy lygaid Mair Magdalen i weld digwyddiadau’r Wythnos Fawr: at artaith ac erchylltra’r Croeshoeliad, a thrwy hynny at fore bach y trydydd dydd a’r cyfarfyddiad hyfryd yn ...
Yr Wythnos Fawr Mewn Hanner Awr
RhagorYr Wythnos Fawr Mewn Hanner Awr
Karen OwenYR WYTHNOS FAWR MEWN HANNER AWR
Ar CD ac ar Facebook – leisiau yn dweud stori’r Pasg yn ystod lockdown 2020
Adnodd sain ar Facebook ar gyfer cyfnod y Pasg
Mae hanes wythnos olaf bywyd Iesu Grist yn un o straeon mawr y byd – ac nid i Gristnogion yn unig.
Mae’n llawn emosiwn a gwleidyddiaeth, mae’n trafod cyfeillgarwch a theulu, ffyddlondeb a brad, a sut y mae’r bobol fawr sy’n rhedeg y byd yn cymryd yn ...
Phoebe
RhagorPhoebe – yr un sy’n disgleirio
Enid R. MorganPan oeddwn yn blentyn, ‘Anti Ffebi’ oedd mam Anti May a lechai yn ei llofft gan lywodraethu’r cartre i gyd oddi yno. Yr oedd hi’n hen iawn, iawn, ac os rhywbeth yr oedd arnaf ei hofn hi. Ond yn ddiweddarach, wrth ymdrechu yn y ddadl dros ordeinio gwragedd, deuthum yn hoff iawn o’r enw gan fod Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid yn sôn amdani hi fel ‘diakon’, yn wir fel cyd-weithiwr ag ef.
Wyddwn i ddim mai ystyr yr enw yw ‘un sy’n disgleirio’, a minnau wedi bod yn ddigon hy i ddefnyddio’r gair fel ffugenw o ...
Llurig Sant Padrig
RhagorLlurig Sant Padrig
Yn emyn, yn weddi, yn fyfyrdod, yn adlais o weddïau’r Hen Destament a siantiau’r Derwyddon ond yn Grist ganolog, mae geiriau Padrig yn mynd â ni yn ôl i’r oes lle roedd bywyd o ddydd i ddydd yn llawn peryglon a dychryn. Ar ddydd Gŵyl Padrig eleni, fe dynnwyd sylw, yn fwy nag erioed o‘r blaen, gan bob traddodiad Cristnogol yn Iwerddon at eiriau Padrig pan gyhoeddwyd mesurau argyfwng llym yn y wlad yn dilyn y patrwn drwy Ewrop a’r byd.
Mae’r ymateb i’r Coronafirws yn nodweddiadol o’r ofnau a’r cwestiynau mewn cyfnod o argyfwng: mwy o gwestiynau nag atebion, mwy o ofergoeliaeth na rhesymeg, mwy o ...
Deunydd ar gyfer y Grawys
RhagorAr gyfer y Grawys
Oherwydd bod eglwysi wedi eu gwahardd rhag cydymgynnull yn sgil y coronafirws, mae Cristnogaeth 21 yn awyddus i dynnu sylw at ddau gwrs Grawys sy’n cynnig deunydd ac arweiniad sydd yr un mor addas i unigolion ag i’w hanfon ymlaen at eraill wrth inni droi ein golygon tuag at y Pasg. Beth bynnag yr ofnau a’r dychryn a’r galar, yr ydym ynghanol deffro’r gwanwyn ac yn edrych ymlaen at ŵyl fawr y Pasg.
- Mae ‘Agor yr Ysgrythyrau’ (gan Claire Amos) wedi ei seilio ar y daith i Emaus ac mae’n cynnig cyfoeth o ddeunydd mewn gweddi, myfyrdod ac astudiaeth Feiblaidd. Yn ddwyieithog, mae’r cyfan mewn lliw, ...
Cerddaf o’r hen fapiau
Rhagor‘Cerddaf o’r Hen Fapiau’
Ar ddiwedd wythnos Gŵyl Ddewi a thrannoeth Diwrnod y Llyfr profiad arbennig iawn oedd bod yn y Morlan i lansio cyfrol Aled Jones Williams, Cerddaf o’r Hen Fapiau. Nid ‘cyfrol’ chwaith ond rhodd gan Aled i’w ffrindiau. Y mae, ac fe fydd, yn rhodd amhrisiadwy. Fe wnaeth y cerddi gymaint o argraff ar y rhai a gafodd y fraint o’u derbyn fel yr aeth Cynog Dafis ac Emyr Llewelyn ati (gyda chaniatâd yr awdur – ‘Gwnewch chi be’ ydach chi isio’i wneud efo nhw rŵan, chi piau nhw.’) ...
Rhyfeddod rhif
RhagorRhyfeddod rhif
Un o ryfeddodau’r CreadDathlu Diwrnod Pai Cymru: 14 Mawrth
Mae’n debyg mai’r Groegwr Archimedes (tua 400 CC) oedd un o’r rhai cyntaf i geisio deall sut i ddadansoddi siapiau crwm: cylch, sffêr, côn ac ati. Un diwrnod, wrth dynnu lluniau cylchoedd yn y tywod, sylwodd fod y pellter o amgylch cylch – ei gylchedd – ychydig dros deirgwaith ei ddiamedr. Sylwodd hefyd nad yw’r gymhareb hon yn dibynnu ar faint y cylch. Yr un yw’r gymhareb wrth fesur modrwy ag wrth fesur y lleuad, ...
Llwybrau
RhagorDyma gerdd fuddugol i’r dysgwyr yn Eisteddfod 2017, gan Judith Stammers, gafodd ei anfon ataf fore Sul y Pasg, gyda thristwch nad oedd eglwysi Bangor eleni’n gallu ymgynnull i fyny yn y ‘Gwersyll Rhufeinig’ ar doriad gwawr i ddathlu’r atgyfodiad.
AJELLWYBRAU
Bore Sul y Pasg, Gwersyll Rhufeinig, BangorTrwy’r wawr ’dan ni’n dod
O bob cyfeiriad, i gopa’r bryn:
Ar lwybrau cul drwy’r goedwig dywyll
Lle mae llygaid Ebrill yn gloywi ymhlith y dail,
Llwybrau bach, prin yn weladwy dros y glaswellt,
Llwybrau llithrig, llethrog, ar y bryn.’Dan ni’n cyrraedd y copa.
’Dan ni o bob oed, bob ...Sgwrs gyda Steve Chalke (rhan 2)
RhagorSgwrs gyda Steve Chalke (Rhan 2)
gyda Huw Spanner
Yn rhan gyntaf y sgwrs fe fuom yn darllen am dröedigaeth a galwad Steve Chalke.
HS Beth am eich cyfrol The Lost Message of Jesus? Fe greodd gynnwrf mawr yn y cylch efengylaidd yr oeddech yn rhan ohono ar y pryd.
SCH Roeddwn wedi darllen brawddeg yn un o lyfrau Tom Wright oedd yn dweud fod Iesu yn fwy o wleidydd na phregethwr: roedd ganddo neges ynglŷn â sut i gynnal bywyd cymdeithasol. Yr oedd hynny yn ...
O Sul y Palmwydd i Sul y Pasg 2020
RhagorO Sul y Palmwydd i Sul y Pasg 2020
Sul y Palmwydd
Ac meddai rhai o’r Phariseaid wrtho o’r dyrfa, ‘Athro, cerydda dy ddisgyblion.’ Atebodd yntau, ’Rwy’n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.’ (Luc 19.39)
Llonydd fydd Sul y Palmwydd eleni:
dim gorymdeithio, dim chwifio’r canghennau,
dim ebol asyn a thyrfa camera yn gweiddi,
‘Hosanna’,
na phrotest yn y deml,
dymchwel byrddau’r farchnad
a’r muriau sy’n ymyrryd
â gwaith Creawdwr byd.Llonydd
yw’r llun hardd o’r Brenin tlawd
yn dod yn dawel i deyrnas
cariad, cymod a thangnefedd
ei Dad;
dod yn ostyngedig ddigoron
i ganol grymoedd teyrnasoedd daear.Llonydd yw’r dydd
fel mynwent oer, ...Rheol Buchedd Fach
RhagorRHEOL BUCHEDD FACH
I’R GARAWYS
Annerch y dydd trwy ddiolch am ddiogelwch y nos.
Ailgynnau a meithrin tân y galon.
Gwarchod bywyd ar y cilcyn yma o ddaear.
Gweithio, gweddïo, gorffwys.
Osgoi barnu.
Peidio gwneud drwg.
Meddwl am bethau sy’n cyfrif.
Gochel manion dibwys.
Talu sylw i’r corff.
Croesawu gwesteion a dieithriaid.
Derbyn beth ddaw yn ddiolchgar.
Croesawu’r nos gyda dewrder.
Adolygu’r dydd a chofio’r pethau
bychain llon na sylwyd arnynt ar y pryd.
Yna, yn y tywyllwch, ymddiried.Pandemig
RhagorPandemig
Addasiad Enid Morgan o gerdd gan Lynn Ungar, bardd a gweinidog gyda’r Undodiaid (Church for the Larger Fellowship :https://www.questformeaning.org/), sy’n byw yn San Francisco.Mae ei cherdd bellach wedi ei rhannu ar hyd ac ar led y cyfryngau cymdeithasol: http://www.lynnungar.com/poems/pandemic/?fbclid=IwAR20BVpdW_Xw6sRno3Xk66UBTxGz9-LIa0HSOmfL2wpZ2GvXKEo5_KorwhoGyda diolch i Lynn Ungar am ryddhau’r gerdd i’r byd ac i Enid Morgan am ei haddasu i’r Gymraeg – with deep thanks to Lynn Ungar for releasing the poem to the world, and to Enid Morgan for translation.
Beth am feddwl amdano
fel y mae’r Iddewon yn ystyried y Sabath –
yr amser mwyaf sanctaidd?Rhowch y gorau i deithio,
rhowch y gorau i ...Cerddaf – adolygiad
RhagorCerddaf o’r Hen Fapiau gan Aled Jones Williams
Dyma gyfrol o gerddi, cywrain, prydferth, diwastraff, di-falu-awyr, dwysfyfyriol, synhwyrus, craff-sylwgar, clyfar, a dyfeisgar mewn cyfrol ffacsimili fach gain yn llawysgrifen yr awdur.
Nid cefnu ar ‘hen fapiau’ y teitl sydd yma yn hollol ond rhaid mentro i diriogaeth newydd, ffyrdd newydd o ganfod realiti. Crwydro y mae’r bardd, nid cerdded yn hyderus. Roedd yr hen fapiau, sy’n aros yn y cof, yn ddiamwys-eglur. Amwys-aneglur yw’r mapiau newydd a’r bardd, drosodd a thro, yn ffaelu ffeindio’r ‘duw’, nid Duw sylwer, y mae’n ei geisio.
Beth bynnag, y gair ‘duw’ yn gymaint â’r sylwedd, a geiriau fel y cyfryw, yw testun y sylw. Ond ...
Arglwyddiaeth
RhagorARGLWYDDIAETH
Daeth i’m meddwl yn ddiweddar mor bellgyrhaeddol yw dylanwad Cristnogaeth ar fywyd a diwylliant y Gorllewin. Ble, er enghraifft, fyddai cerddoriaeth Ewrop heb J. S. Bach, Requiem Verdi, Mozart a Fauré? Mor dlawd fyddai ein celfwaith heb luniau’r Meistri o Enedigaeth Iesu, y Dioddefaint, a’r Pieta, heb sôn am gampwaith Michaelangelo ar nenfwd y Capel Sistinaidd yn y Fatican. A beth am holl bensaernïaeth Ewrop o’r Oesoedd Canol ymlaen? Byddai bwlch enfawr yn ein diwylliant cyfoethog petaem yn tynnu pob dylanwad Cristnogol allan ohono.
Ond mewn cyfrol newydd o’i waith mae Tom Holland yn mynd ymhellach o lawer, ac yn dadlau bod holl syniadaeth a gwerthoedd y byd gorllewinol ...
Steve Chalke
RhagorSteve Chalke
yn cael ei holi gan Huw Spanner (Rhan 1)Huw Spanner
Steve Chalke, mae’r hyn rydych wedi’i gyflawni yn eithriadol, fel Gweinidog gyda’r Bedyddwyr yn eglwys Oasis, Waterloo, yn Llundain; fel sylfaenydd ac arweinydd Oasis Trust, sy’n un o elusennu mwyaf Prydain bellach; fel Ymgynghorydd i’r Cenhedloedd Unedig ar Fasnachu Pobl (Human Trafficking); ac fel awdur llwyddiannus iawn. Beth sydd i’w gyfrif am eich llwyddiant? Ai mater o gryfder cymeriad ac egni neu …?
Steve Chalke
Na, hyn: ym mhob ffordd posibl y gallwch ddefnyddio’r gair ...