Cerddaf – adolygiad

Cerddaf o’r Hen Fapiau gan Aled Jones Williams

Dyma gyfrol o gerddi, cywrain, prydferth, diwastraff, di-falu-awyr, dwysfyfyriol, synhwyrus, craff-sylwgar, clyfar, a dyfeisgar mewn cyfrol ffacsimili fach gain yn llawysgrifen yr awdur.

Nid cefnu ar ‘hen fapiau’ y teitl sydd yma yn hollol ond rhaid mentro i diriogaeth newydd, ffyrdd newydd o ganfod realiti. Crwydro y mae’r bardd, nid cerdded yn hyderus. Roedd yr hen fapiau, sy’n aros yn y cof, yn ddiamwys-eglur. Amwys-aneglur yw’r mapiau newydd a’r bardd, drosodd a thro, yn ffaelu ffeindio’r ‘duw’, nid Duw sylwer, y mae’n ei geisio.

Beth bynnag, y gair ‘duw’ yn gymaint â’r sylwedd, a geiriau fel y cyfryw, yw testun y sylw. Ond y tu ôl i’r gair mae cysyniad, ac yn y cysyniad mae duw (os nad Duw) annirnad yn llechu, neu’n ymrithio – er nad yw’n ‘bod’ yn ystyr synnwyr-cyffredin y gair hwnnw.

Yn ôl y rhagair mae geiriau’r cerddi yma i fod i ‘symud o’r ffordd er mwyn creu lle’ a’r ‘lle a grëir sydd oruchaf nid yr hyn a ddywedir’. Ond rhaid cael y geiriau er mwyn ‘creu lle’ ac mae’r ‘hyn a ddywedir’ yn cyfrif er mwyn i’r lle sy’n cael ei greu fod yn ‘oruchaf’ iddo. Does dim dewis felly ond astudio’r geiriau, gan gydnabod ar yr un pryd bod ystyr pethau, natur bod a’r bydysawd, y Dirgelwch, y tu hwnt i eiriau am ei fod y tu hwnt i’n deall cyfyng ni ac yn llithro o’n gafael yn dragwyddol.

Y tu allan i’r hen fapiau mae’r bardd yma, fel y bydd beirdd, yn dyfalu drwy drosiadau yn ei ymgyrraedd at ‘dduw’. Mae’n craffu ar bethau diriaethol mewn ffordd sy’n creu hyfrydwch oddi mewn i’r darllenydd ac yn deffro’i ddychymyg – brigau, rhaeadr, abwyd ar lein bysgota, cwn yn hela, rhewlif, dyn yn dychwelyd o daith, gwiail, gwydr, gogor, llaw, adeiladau (rhai cysegredig) ac ati. Drwy’r diriaethau cyfareddol hyn a’r geiriau sy’n eu disgrifio y mae’n ymgyrraedd at yr anhraethol – yr hyn na ellir traethu amdano – ac yn anochel yn methu cyrraedd.

Dilyn teithiau y mae’r bard – rhai crwydrol, igam-ogam, chwilfrydig, drwy diriogaeth ddieithr. Mae’n cychwyn gyda methiant rhwystredig, anhyfryd. Erbyn y diwedd mae’r naws wedi altro. Mae’n ymgadw rhag cilio ’nôl i’r hen fapiau. Rhaid i’r gwir weld drwy’r rhithiau. Ond dyw hi ddim yn glir bod y ‘lleufer anhraethadwy’ yn cael ei ‘falu’n siwrwd’. Mae sôn am ffyddlondeb yn y sêr; blagur a haf; peidio siomi am golli’r goruwchnaturiol; rhyfeddod bod ac anchwiliadwyedd anhraethol y cosmos.

Erbyn y diwedd rwy’n synhwyro, ac yn wir yn teimlo, llonyddwch. Ac mae’r gair ‘duw’ yn offeryn cain, defnyddiol, anhepgor efallai, os annigonol, wrth geisio dirnad y Dirgelwch llonydd hwnnw.

Cynog Dafis
12.02.20 
(Ymddangosodd yr adolygiad hwn yn y rhifyn cyfredol o Barn)

FFURFLEN ARCHEBU COPI YMA