Agora 39 mis Mai – Mehefin 2020

Agora rhif 39 mis Mai – Mehefin 2020

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Dyfodol yr Eglwys Gristnogol – ystyriaethau sy’n deillio o waith Gabor Maté
Geraint Rees

BLM – o Eglwys Plymouth, Minneapolis
PLlJ

ZOOM!
Eifion Roberts

Pererindod o gwmpas y cartref
Margaret Le Grice
Cyfieithwyd gan Enid Morgan

Gwybodaeth a Neges Heddwch yr Urdd 2020

O Cox’s Bazaar i Gwm Sgwt
Anna Jane Evans

Emynau

Perthyn
Y Parch Desmond Davies

Ar Drothwy
Enid Morgan

GiG Cymru
Mererid Hopwood

Trefn Gwasanaeth Cymorth Cristnogol 2020

Gweddïau

Pandita Mary Ramabai
Enid Morgan

Gŵyl Fai 2020
Tecwyn Ifan

Diwrnod Coch Gwyn a Gwyrdd

Awdurdod y Cymun a’r Lockdown
Dyfed Wyn Roberts

 

 

  • Dyfodol yr eglwys – ystyriaethau gwaith Gabor Maté

    Dyfodol yr Eglwys Gristnogol – ystyriaethau sy’n deillio o waith Gabor Maté?

    Yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, bu newid mawr yn natur ein heconomi, ein cymdeithas a natur ein teuluoedd. I bob pwrpas, i drwch cymdeithas, fe ddiflannodd pwysigrwydd y teulu estynedig. Yr un pryd fe ddiflannodd y syniad o gymuned sy’n bodoli o amgylch sefydliad economaidd fel pwll glo neu ffatri benodol, ac fe ddiflannodd gan amlaf hyd yn oed yr ymdeimlad gwledig o gadernid cymunedol rhwng teuluoedd y ffermydd a theuluoedd y pentref neu’r dre.

    Yr un pryd, fe welwyd cenedlaeth (neu ddwy neu dair, erbyn hyn) o bobl a fagwyd mewn capel neu eglwys yn penderfynu ...

    Rhagor
  • Zoom

    ZOOM! Bob tro y bydda i’n clywed y gair yna, mae’r meddwl yn llithro’n ôl i ddyddiau plentyndod: dyddiau hafau ‘hirfelyn, tesog’, dyddiau’r oriau allan yn chwarae a dyddiau Split a Mini Milk, Pineapple Mivvi a Zoom! Dwi’n cael fy nhemtio i ddweud bod ‘eis-lolis’ yn fwy difyr y pryd hynny, ond nid dyna bwrpas yr ychydig eiriau yma.

    Bellach, mae Zoom yn golygu rhywbeth hollol wahanol, yn air a chyfrwng cyfarwydd i gynifer ac yn llwyfan i gyfathrebu o’r newydd, gan gynnwys yr Eglwys. A ninnau wedi bod yn pregethu cymaint am ddefnyddio cyfryngau ‘modern’ a ‘phethau’r oes’ i rannu’r Efengyl, fe’n taflwyd dros nos ...

    Rhagor
  • Neges Heddwch yr Urdd 2020

    Rhagor
  • Trefn Gwasanaeth Cymorth Cristnogol

     

    Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho ffeil PDF o drefn gwasanaeth Wythnos Cymorth Cristnogol 2020.

    Trefn Gwasanaeth Cymorth Cristnogol 2020

    ‘Ar ein rhan ni sy’n byw yn y Gogledd gawn ni ddiolch i Anna Jane am ei gwaith dros Gymorth Cristnogol yn ein plith ers blynyddoedd lawer. Dymunwn yn dda iddi wrth iddi dderbyn galwad i weinidogaeth lawn amser gydag eglwysi Seilo Caernarfon a Chapel y Waun, Waunfawr.  Pob bendith Anna Jane’.

    Rhagor
  • Pandita Mary Ramabai

    Pandita Mary Ramabai

    Gwyddom am ‘Pandit’ fel ffordd barchus yn India o annerch gŵr o ddysg, o awdurdod, o ddoethineb. Nid teitl i’w ddefnyddio am wraig, wrth gwrs. Pan aned merch i’r ysgolhaig o Framin Anant Shastri yng ngorllewin India ym 1858, fyddai neb wedi rhag-weld y byddai’r fechan hon yn tyfu i fod y wraig gyntaf i’w hanrhydeddu â’r enw ‘Pandita’.

    Roedd Anant Shastri yn ddigon annibynnol ac od yn ei ddydd i gredu mewn addysg i ferched ac fe fynnodd i’w ferch gael dysgu Sansgrit, hen iaith y grefydd Hindŵaidd ac iaith llên hynafol a hardd y Vedas a’r Shastras. Defnyddir yr iaith o hyd mewn defodau crefyddol, ...

    Rhagor
  • Ar drothwy

    Ar drothwy – ymdroi ar y ffin

    Fel llawer un yr wythnosau diwethaf hyn, rwy wedi bod yn treulio amser yn yr ardd, yn meithrin prosiectau newydd, yn symud planhigion, yn dyfrhau’r egin bach gwyrdd ac yn dyfalu a ddaw pethau i ffrwythlondeb. Ac mae ’na lu o ddamhegion am chwynnu a thocio a bwydo a dyfrhau i ffurfio tomen o ystrydebau pregethrwrol. Mae hi’n gyfnod rhwng dau fyd, yn gyfnod ar drothwy. Byddai Elfed ap Nefydd yn ein cymell, pan oeddem yn fyfyrwyr yn y coleg yn Aberystwyth, i gofio bod angen edrych yn y drych wrth yrru car er mwyn medru gyrru ymlaen yn ddiogel ...

    Rhagor
  • Perthyn

    Perthyn

    Diolch i’r Parch Desmond Davies, Caerfyrddin am baratoi yr erthygl hon, ac i Seren Cymru am eu caniatad i’w chyhoeddi yn Agora.

    Y mae byw drwy’r cyfnod hwn o hunan- ynysu ac ymbellhau cymdeithasol yn brofiad newydd a chwithig i bawb ohonom. Tra’n derbyn yn ddi- gwestiwn fod mesurau’r llywodraeth yn angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad haint Covid-19 (gwell enw arno yn ôl amlwg ddigon fod y cyfyngiadau yn gwyrdroi patrwm bywyd yn gyfan gwbl. Wrth reswm, y mae’r dull newydd hwn o fyw ac ymddwyn yn gwbl groes i’r hyn yw hanfod eglwys, lle mae cydymgynnull a chydaddoli yn sylfaenol bwysig. Oddi mewn ...

    Rhagor
  • Coch gwyn a gwyrdd

    “Ar Fai y cyntaf helpwch yr Urdd
    i droi’r diwrnod yn goch, gwyn a gwyrdd”

    Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi bod 1 Mai 2020, yn Ddiwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd, ac y bydd yn codi arian i Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru, ar y diwrnod arbennig yma. Mae aelodau a ffrindiau enwog yr Urdd yn annog pawb i gymryd rhan, trwy enwebu pum person i wisgo coch, gwyn a gwyrdd.

    Mae teuluoedd, plant a hyd yn oed anifeiliaid anwes yn cael ...

    Rhagor
  • O Eglwys Plymouth

    O Eglwys Plymouth, Minneapolis

    Plymouth Congregational Church is a progressive faith community grounded in the Christian tradition. In mutual care and with respect for our diverse understandings of God, we seek to embody the radical love and justice found in the life, teachings and spirit of Jesus.

     Minneapolis: 14 Mehefin 2020

    Ddydd Sul, 14 Mehefin 2020, yn Eglwys Annibynnol Plymouth, Minneapolis, sydd dair milltir o’r fan lle lladdwyd George Floyd, traddodwyd pregeth o bulpud y capel (heb gynulleidfa) gan Seth Patterson, sydd newydd ei alw’n weinidog ‘Spiritual Formation and Theatre’ fel rhan o dîm gweinidogaeth yr eglwys. Teitl y bregeth oedd ‘Gwrth-hilyddiaeth fel ymarfer ysbrydol’ ac meddai mewn ...

    Rhagor
  • Pererindod – o gwmpas y cartref

    PERERINDOD O GWMPAS Y CARTREF YN YSTOD Y PANDEMIC CORONAVIRUS

    Wrth bererindota fe fyddwn yn ymadael â’n cartrefi ac yn teithio i fan sanctaidd er mwyn gweddïo ac agosáu at Dduw. Ond mae ein cartrefi hefyd yn fannau sanctaidd, ac wrth symud o gwmpas ynddyn nhw gallwn weddïo ac agosáu at Dduw lawn cymaint â phetaem wedi mynd i ffwrdd ar bererindod.

    1. Y Drws Ffrynt

    Efallai nad ydych wedi defnyddio llawer ar eich drws ffrynt ers sawl wythnos – efallai ddim o gwbl os ydych yn llwyr ynysu’ch hunan. Dyma, gan amlaf, ein man cyswllt cyntaf â’r byd y tu allan.

    Arglwydd Dduw, mae’n anodd peidio mynd allan o’r tŷ. ...

    Rhagor
  • O Cox’s Bazaar i Gwm Sgwt

    Deialog gan Anna Jane Evans a ddefnyddiwyd ar oedfa Radio Cymru yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol. 

    [Roedd un o’r gwersylloedd yn Cox’s Bazaar yn rhan o ymweliad tramor cyntaf Amanda Mukwashi fel Prif Weithredwraig CC. Dyma sgwrs gyda chefnogwyr o Gymru (Youtube) – https://www.youtube.com/watch?v=RrkWP_ugsg0

    O Cox’s Bazaar i Gwm Sgwt

    1. Mae hi’n lockdown
    2. Mae hi’n lockdown
    3. Dwi’n y tŷ ’ma ers chwech wythnos
    4. ’Dan ni wedi gorfod gadael ein pentref ers tair blynedd
    5. Dwi mond yn cael mynd allan i brynu pethau hanfodol
    6. ’Dan ni ddim yn cael gadael y gwersyll
    7. Mae croen fy nwylo’n goch achos mod i’n eu golchi nhw mor aml
    8. Does gen i ddim sebon
    9. Maen nhw newydd agor ysbyty newydd yn ...
    Rhagor
  • Gweddïau

    Gweddïau

    O Arglwydd fy Nuw
                Sy’n fy nghreu a’m hail-greu,

    Mae fy enaid yn dyheu amdanat ti.
    Dwêd wrtha i beth wyt ti, y tu hwnt i’r hyn rwy wedi’i weld,
    Er mwyn i mi weld yn gliriach beth rwy’n dyheu amdano.
    Rwy’n ymdrechu i weld mwy,
    Ond wela i ddim y tu hwnt i’r hyn a welais i
    Heblaw tywyllwch.
    Neu’n hytrach, nid gweld tywyllwch yr ydw i,
    Nid yw hwnnw’n rhan ohonot ti,
    Ond rwy’n gweld nad ydw i’n gweld dim pellach
    Oherwydd fy nhywyllwch fy hun.

    Pam y mae hyn, Arglwydd?
    A dywyllwyd fy llygaid gan fy ngwendid
    Neu a ddallwyd fi ...

    Rhagor
  • GiG Cymru

    GIG CYMRU

     Diolch i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol

    Os baner a sosbenni – a’u sŵn mawr
            sy’n morio’r clodfori,
       clyw yn nwfn ein calon ni
       y diolch n’all ddistewi.

    Yn darian, yn dosturi – arwres
            drwy oriau’n trybini,
      chwaer yw hon, a’i charu hi
      a wnawn … nid jyst am ’leni.
                                                         Mererid Hopwood

     

    Rhagor
  • Emynau

    Emynau

    Mae’n rhyfedd fel ry’n ni’r Cymry yn aml iawn yn troi at emynau pan ry’n ni’n cael ein hunain mewn amgylchiadau anodd ac ansicr.

    Ers i’r pandemig yma ein cyrraedd ni, mae yna lawer mwy o emynau i’w clywed ar y radio – Radio Cymru, beth bynnag. Mae fel tase’r hen emynau yma yn rhoi mynegiant i rywbeth na allwn ni ei roi mewn geiriau am y ffordd ry’n ni’n teimlo. A dyna gamp llenyddiaeth ym mhob oes, sef galluogi rhywun i ganfod llais sy’n siarad ...

    Rhagor
  • Gŵyl Fai 2020

    Gŵyl Fai 2020

    Mae Gŵyl y Banc ddechrau mis Mai fel arfer yn cael ei chynnal ar ddydd Llun cynta’r mis. Y bwriad eleni, serch hynny, oedd cynnal yr ŵyl ddydd Gwener, 8 Mai, er mwyn nodi 75 mlynedd ers diwedd y rhyfela yn Ewrop ar 8 Mai 1945 – diwrnod VE (Victory in Europe). Bellach, mae Covid-19 wedi golygu na fydd unrhyw ddathliadau’n digwydd ar ŵyl Fai o gwbwl.

    Ond mae’r garreg filltir hanesyddol yma yn gyfle i ni gofio, er ei bod hi’n 75 mlynedd ers i’r rhyfel ddod i ben yn Ewrop, fod ymarferion milwrol a’r gwariant ariannol ar baratoadau ar gyfer rhyfela wedi parhau. Ers y ...

    Rhagor
  • Awdurdod y Cymun a’r lockdown

    Awdurdod, y Cymun a’r lockdown

    Tua diwedd yr 1980au oedd hi pan gododd y drafodaeth. Tydi hi ddim yn haeddu cael ei galw’n ddadl, heb sôn am ffrae, ond roedd yna drafodaeth eitha difrifol. Chofia i ddim bellach yn lle’r oedd yr Undeb i’w gynnal; aeth yr amser yn rhy hir i’r cof. Rhywle yn Sir Benfro, os cofiaf yn iawn, ond tydi hynny’n golygu fawr, gan mai’r gornel hynod honno o Gymru oedd un o gadarnleoedd yr enwad. Ond yn y sir honno yn rhywle yr oedd uchel ŵyl y Bedyddwyr i’w chynnal unwaith yn rhagor.

    Fel pob enwad anghydffurfiol arall yng Nghymru, cymysgedd o wahanol gyfarfodydd ...

    Rhagor