Dyfodol yr eglwys – ystyriaethau gwaith Gabor Maté

Dyfodol yr Eglwys Gristnogol – ystyriaethau sy’n deillio o waith Gabor Maté?

Yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, bu newid mawr yn natur ein heconomi, ein cymdeithas a natur ein teuluoedd. I bob pwrpas, i drwch cymdeithas, fe ddiflannodd pwysigrwydd y teulu estynedig. Yr un pryd fe ddiflannodd y syniad o gymuned sy’n bodoli o amgylch sefydliad economaidd fel pwll glo neu ffatri benodol, ac fe ddiflannodd gan amlaf hyd yn oed yr ymdeimlad gwledig o gadernid cymunedol rhwng teuluoedd y ffermydd a theuluoedd y pentref neu’r dre.

Yr un pryd, fe welwyd cenedlaeth (neu ddwy neu dair, erbyn hyn) o bobl a fagwyd mewn capel neu eglwys yn penderfynu peidio â rhoi’r un fagwraeth i’w plant eu hunain. Tenau iawn yw pobl yn eu 20au sy’n cynnal perthynas ag eglwys Gymraeg erbyn hyn. Mae hyn yn hysbys i ni i gyd, ond a ddylai fod yn destun gofid?

Yn ddiweddar bûm yn edrych ar waith y therapydd Gabor Maté. Gwnaeth ei enw yn fwyaf amlwg ym maes dibyniaeth (addiction), ond mae ganddo lawer i’w ddweud am gyflwr ein cymdeithas yn ehangach. Meddyg wedi ymddeol yw e, ac er iddo gael ei eni i deulu Iddewig yn Hwngari yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe dreuliodd ei fywyd yn gweithio fel meddyg yng Nghanada.

https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=23547626

Gabor_Maté, gan Gabor Gastonyi – Clare Day, CC BY-SA 3.0

Cafodd ddylanwad ar Gymru dros y cyfnod diwethaf o ganlyniad i’w waith arloesol ym maes datblygiad plant, ac effaith profiadau plentyndod ar bob oedolyn. Fe ddatblygodd fodel sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru – sef yr ACEs (Adverse Childhood Experiences). Hanfod y gwaith hwn fu canfod pa nodweddion o fagwraeth plentyn fydd yn dylanwadu’n sylweddol ar ei allu i weithredu fel oedolyn cyfrifol a hunangynhaliol. O ganlyniad i’w waith, mae model bras ar gael i ddarogan pa blant sy’n fwyaf tebygol o ddioddef anawsterau sylweddol yn eu harddegau a thu hwnt, wrth sgorio’r profiadau negyddol a gaiff plentyn yn ystod y blynyddoedd mwyaf ffurfiannol, e.e. byw gyda rhiant sy’n gaeth i gyffur, ysgariad rhieni, marwolaeth, camdriniaeth rywiol, ayyb. Mae Cymru erbyn hyn yn wlad arloesol yn y maes hwn, ynghyd â’r Alban, ac ambell dalaith yng Nghanada. Y gred yw y gellir arbed pwysau ar yr unigolyn a’r gwasanaethau cyhoeddus yn hwyrach mewn bywyd wrth fuddsoddi, pan maent yn ifanc, yn y plant sy’n dioddef yr ACEs mwyaf allweddol yn ystod eu plentyndod.

Yn fwy diweddar fe drodd Gabor Maté ei sylw at ffenomen sy’n destun pryder byd-eang. Yn ei waith, mae’n olrhain sut y bu plant yn cael eu meithrin dros y canrifoedd drwy gyfres o gamau, i’w helpu i dyfu o fod yn faban i fod yn oedolyn. Yn y camau hynny, byddai plant wedi cael y profiad o chwarae ond hefyd y profiad o dreulio oriau sylweddol mewn sefyllfaoedd pob oed, e.e. gyda rhieni, modrybedd, cymdogion yn galw am baned. Yn y gymysgfa gyfoethog hon byddai profiad plentyn o fod yn rhan o eglwys neu fosg neu synagog, gan ddysgu patrymau ymddygiad tuag at oedolion, a’r plentyn yn gorfod byw ar delerau oedolion o tua 7/8 oed. Rwy’n tybio mai dyma oedd norm bywyd yn tyfu i fyny i’r mwayfrif o ddarllenwyr C21.

Dadl Maté yw fod y byd gorllewinol (gydag America a Phrydain yn aml yn esiamplau mwyaf eithafol) wedi symud at sefyllfa erbyn hyn lle mae dylanwad oedolion ar blant yn llai ac yn llai. Mewn canran uchel o’n poblogaeth, mae plant yn cael eu magu gan y sgrin ddigidol a gan bobl o’u cenhedlaeth nhw eu hunain. Felly, o ganlyniad, yr ymddygiad sy’n normal i blentyn yw ymddygiad plant eraill. Yr ymddygiad sy’n normal yn ystod glasoed yw ymddygiad glaslanciau a glaslancesi eraill. Nid yw ymddygiad oedolion yn cael ei fodelu yn y ffordd y bu, ac mae’r prognosis sydd ynglwm â hyn yn un sy’n codi braw ar Maté.

Yn ystod y broses hon, rydym wedi mynd o feddylfryd fyddai wedi cymryd yn ganiatol ei bod yn cymryd pentref cyfan i fagu plentyn, i’r sefyllfa interim a ddywedai mai ei rieni, yn breifat, oedd yn magu plentyn, i’r sefyllfa bresennol sy’n golygu mai plant eraill sy’n magu ein plant ni. Mae canlyniad hyn, yn ôl Maté, yn ein gadael yn agored i fethiant cymdeithasol llwyr.  

Wrth ddilyn ei ddadl, fe welwn fod teclynnau electronig yn wael am helpu gyda datblygiad emosiynol, ond os mai’r ffynhonnell arall ar gyfer datblygiad plentyn yw plant eraill, bydd y sgiliau o ddangos empathi, cydymdeimlad, gofal a llawer o bethau eraill yn mynd yn sgiliau sy’n estron i genhedlaeth gyfan o oedolion. Mae’n bosib ein bod yn gweld ffrwyth hyn yn ystod y dyddiau diwethaf lle mae pobl ifanc niferus wedi bod yn herio’r drefn ar strydoedd a thraethau Cymru, ac yn ymddwyn heb gonsýrn amdanynt eu hunain nac am eraill yn ystod pandemig.

Yn y cyfamser, mae eglwysi yn treulio llawer o’u hamser yn becso am dynnu’r sêt fawr neu’n trafod statws merched neu a ydy “Duw Cariad yw” yn cynnwys pobl hoyw.

Os ydy dadansoddiad Gabor Maté yn iawn, byddai’n ddoeth i’r eglwys Gristnogol ddeffro’n gyflym, neu bydd y sgiliau a’r nodweddion sydd eu hangen i weithredu yn unol â’r Gwynfydau yn gwbl estron i drwch y ddynoliaeth. Rwy’n cofio’r beiciwr a’r efengylwr John Smith o Awstralia yn siarad yn Greenbelt. Fe ddywedodd bryd hynny: “God has no grandchildren”. Yr hyn yr oedd yn ei olygu oedd fod pob cenhedlaeth yn gorfod ffeindio’u traed eu hunain yn y bywyd ysbrydol, ac nad ydym fel pobl yn etifeddu duwioldeb oddi wrth ein cyndeidiau. Her John Smith yn y sesiwn honno dros chwarter canrif yn ôl oedd fod angen i bob eglwys wneud cyswllt uniongyrchol â’r ifanc. Os ydy Maté yn iawn, mae hynny jyst wedi mynd yn llawer mwy anodd nag y bu, ond hefyd yn fwy tyngedfennol i’n gwareiddiad.

Geraint Rees

Mehefin 2020