Agora rhif 34 mis Gorffennaf – Awst 2019
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Wynebu yfory yn yr Ewrop newydd
Gethin Rhys
Gorchymyn Rhedeg
Cyfieithiad Anna Jane Evans o gerdd gan Lena Khalaf Tuffaha
Distawrwydd
(cyf. Waldo Williams o waith gan J E Southall)
Encil C21 2019
(Manylion)
Ymddiheuriad
John Gwilym Jones
Triw
Mererid Hopwood
Wynebu Yfory yn yr Ewrop newydd
RhagorBeth sydd i mi mwy a wnelwyf ag eilunod gwael y llawr?: Yr eilunod fydd angen eu dymchwel yng Nghymru wedi Brexit
Crynhoad o gyflwyniad Gethin Rhys i Gynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21 ar y thema ‘Wynebu yfory yn yr Ewrop newydd’ yn gynharach eleni.
Diolch am y gwahoddiad i siarad yn y gynhadledd hon. Fel y gwyddoch, rwy’n gyflogedig gan Cytûn ac mae’n bwysig dweud ar y cychwyn mai siarad yn bersonol ydw i heddiw – ni ddylid casglu bod unrhyw beth rwy’n ei ddweud heddiw yn mynegi barn Cytûn na’i aelodau.
Yn fy ngwaith rwy wedi bod yn ymwneud llawer â helynt a helbul y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r ...
Distawrwydd
RhagorDISTAWRWYDD
Ugain mlynedd yn ôl, fe roddodd ffrind yn fy llaw lyfr bach a ddaeth yn drobwynt yn fy mywyd. “Gwir Heddwch” oedd ei enw. Neges o’r canol oesoedd ydoedd ac iddo un syniad yn unig – sef, fod Duw yn aros yn nyfnder fy mod i siarad wrthyf, ond i mi dawelu digon i glywed Ei lais.
Meddyliais y byddai hyn yn beth hawdd iawn a dechreuais ymlonyddu. Ond prin y dechreuais na ddaeth rhyw ddwndwr i’m clustiau, miloedd o seiniau croch o’r tu allan a’r tu mewn fel na allwn glywed dim ond eu sŵn hwy. Fy llais fy hun oedd rhai ohonynt, fy ...
Triw
RhagorTriw
Honnodd Wittgenstein bod ffiniau ei iaith yn nodi ffiniau ei fyd, ac yn sicr mae’r cysylltiad rhwng ein hiaith a’n ffordd o weld ac o ddirnad yn un dyrys. Tu hwnt i’r geiriau unigol a ddefnyddiwn i ddynodi ein hamgylchfyd, o’r pry’ i’r planedau, o’r cerrig i’r cestyll, rydym hefyd yn gwau geiriau at ei gilydd i ffurfio brawddegau a delweddau mewn pob math o ddulliau, a hynny er mwyn ceisio rhannu ein meddyliau ag eraill – ceisio dod mas â’r hyn sydd mewn. Fel arfer, trown at briod-ddulliau parod pa bynnag iaith a siaradwn ar y pryd i wneud hyn. Pan fyddwn ni’n siarad Cymraeg er enghraifft, ...
Gorchymyn rhedeg
RhagorRhydd-gyfieithiad gan Anna Jane Evans o’r gerdd ‘Running Orders’, gan Lena Khalaf Tuffaha – o’r gyfrol Letters to Palestine (gol. Vijay Prashad)
Gorchymyn rhedeg
Maen nhw’n ein galw rŵan
Cyn iddynt ollwng y bomiau.
Mae’r ffôn yn canu
Ac mae rhywun sy’n gwybod fy enw cyntaf
Yn dweud, mewn Arabeg perffaith,
‘David sydd ’ma.’
Ac yn fy nryswch o wydr yn torri a sonic booms yn chwalu
Yn fy mhen
Rwy’n gofyn, ‘Ydw i’n nabod unrhyw David yn Gasa?’
Maen nhw’n ein galw rŵan i ddweud,
Rhedwch!
Mae gennych 58 eiliad o ddiwedd y neges,
Eich tŷ chi sydd nesa.
Maen nhw’n meddwl am y peth fel ...Encil 2019
RhagorCristnogaeth 21
YR ENCIL FLYNYDDOLY Cread a’r Cymod 2019
yng nghwmniyr Athro Gareth Lloyd Jones,
Dyfed Wyn Roberts,
Sioned Webb ac Ifor ap GlynDydd Sadwrn, Medi 21ain
10.00 – 3.30Coffi am 10.00
Cost : £20.00 (yn cynnwys cinio)
Rhaid cofrestru erbyn Medi 14eg
01248 680858
Ymddiheuriad
RhagorYmddiheuriad
Mae hi’n gyfnod diddorol iawn o ran ymddiheuriadau: Almaenwyr yn ymddiheuro i Iddewon am yr holocost; Llywodraeth Prydain yn ymddiheuro i’r bobol hynny a ddaeth yma ar long yr Empire Windrush ond a alltudiwyd wedyn ar gam; Tony Blair yn ymddiheuro am ryfel Irac; awdurdodau Gogledd Iwerddon yn ymddiheuro am ladd ar y Sul Gwaedlyd; prifweithredwraig Hong Kong, Carrie Lam, yn ymddiheuro am ystyried creu deddf newydd; Michael Gove yn ymddiheuro am gymryd cocên. A theulu Carl Sargeant yn disgwyl ymdiheuriad gan Carwyn Jones. Mae’r rhestr yn faith. Hefyd, y mae’n codi cwestiwn: beth yw ymddiheuriad? Onid hanner ymddiheuriad yw ambell un. Wedi i Marc Field ymosod ar ...