Distawrwydd

DISTAWRWYDD

Ugain mlynedd yn ôl, fe roddodd ffrind yn fy llaw lyfr bach a ddaeth yn drobwynt yn fy mywyd. “Gwir Heddwch” oedd ei enw. Neges o’r canol oesoedd ydoedd ac iddo un syniad yn unig – sef, fod Duw yn aros yn nyfnder fy mod i siarad wrthyf, ond i mi dawelu digon i glywed Ei lais.

Meddyliais y byddai hyn yn beth hawdd iawn a dechreuais ymlonyddu. Ond prin y dechreuais na ddaeth rhyw ddwndwr i’m clustiau, miloedd o seiniau croch o’r tu allan a’r tu mewn fel na allwn glywed dim ond eu sŵn hwy. Fy llais fy hun oedd rhai ohonynt, fy nghwestiynau oedd rhai, fy ngweddïau oedd rhai. Eraill oedd llais y temptiwr a chynnwrf y byd. Ni sylweddolais o’r blaen fod cymaint o bethau i’w gwneud, i’w dweud, i’w meddwl; ac o bob cyfeiriad fe’m gwthiwyd a’m tynnwyd a’m cyfarchwyd gan y cyffro swnllyd. Teimlwn fod yn rhaid imi wrando ar rai ohonynt ond dywedodd Duw, “Peidiwch a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw.” Yna y daeth pryderon a gofalon a dyletswyddau bywyd; ond dywedodd Duw, “Peidiwch.” Ac wrth i mi wrando ac araf ddysgu ufuddhau a chau fy nghlustiau i bob sŵn, mi gefais yn y man, wedi peidio o’r holl leisiau neu wedi i mi beidio â’u clywed, bod llef ddistaw fain yn nyfnder fy mod a ddechreuodd lefaru â thynerwch mawr ac â nerth a diddanwch. Wrth i mi wrando daeth ataf lais gweddi a llais doethineb a llais dyletswydd. Nid oedd raid i mi feddwl na gweddïo nac ymddiried mor galed. Yr oedd llef ddistaw fain yr Ysbryd Glân yn fy nghalon, yn weddi Duw yn fy enaid cyfrin, yn ateb Duw i’m holl gwestiynau, yn fywyd a nerth Duw i gorff ac enaid. Roedd yn sylwedd pob gwybodaeth a gweddi a bendith; canys y Duw byw ei hun ydoedd a’m bywyd a’m cyfan.

Dyma angen dyfnaf ein hysbryd. Ni fedrwn fynd drwy fywyd ar ruthr; ond rhaid inni gael oriau tawel, mannau dirgel y Goruchaf, amserau aros am yr Arglwydd. Yna adnewyddwn ein nerth a dychwelwn i redeg heb flino ac i rodio heb ddiffygio.

[Dyfyniad yw’r neges hon o The Power of Stillness (J. E. Southall) ac fe’i troswyd i’r Gymraeg gan Waldo Williams yn 1968]

Diolch i R Alun Evans am dynnu sylw at y darn hwn.