Agora 45 mis Mai-Mehefin 2021

Agora rhif 45 mis Mai – Mehefin 2021

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

 

Cynnwys

Cynhadledd Flynyddol C21

Y daith ydi adra
PLlJ

Adnewyddu Cristnogaeth: Parhau’r Drafodaeth

Reinhold Niebuhr
PLlJ

Mynd i Capel
Esyllt Maelor

Pentecost
John Gwilym Jones

Deg peth na ddywedwyd wrthyf am Iesu
John Bell

Cylch cythreulig y gellid bod wedi’i rag-weld
Jane Harries

Nid ynys sy’n goroesi (Gwawr wedi Cofid)
Aled Lewis Evans

Y pabydd Protestanaidd. cofio Hans Küng (1928–2021)
Glyn Tudwal Jones

Pa fath o ddiwygiad a ddaw nesaf? (4)
John Gwilym Jones

Hanes Gobeithiol
John Owen

  • Y daith ydi adra

    Y daith ydi adra

    Yn y misoedd ar ôl imi gael fy nhywys oddi wrth hunanladdiad, treuliais lawer o amser gyda Huw a Mair Wynne Griffith yn Aberystwyth. Eu cariad a’r modd yr oeddynt yn derbyn yn ddiamod yr hyn oedd yn wahanol amdanaf oedd yr angor a ddaliai’n gadarn ar adeg pan mai’r unig beth y medrwn obeithio amdano oedd gallu dal ati trwy’r ychydig oriau nesaf. Ac felly llwyddais i ‘ddal ati’ am ddyddiau, a’r dyddiau yn troi’n wythnosau, a’r wythnosau’n fisoedd. Weithiau byddai Huw yn cynnig llyfr yr oedd wedi ei ...

    Rhagor
  • Reinhold Niebuhr

    Reinhold Niebuhr

    Ar 1 Mehefin 1971, hanner can mlynedd yn ôl, bu farw Reinhold Niebuhr yn 78 oed.

     

    Ef oedd un o ddiwinyddion a phregethwyr enwocaf America yn ei ddydd, ond erbyn hyn anaml y clywir ei enw hyd yn oed. Ond, fel pob llais proffwydol, mae neges Niebuhr yn oesol ac mae’n werth nodi fod Barak Obama, yn ei gyfrol A promised land, yn sôn am baratoi ei anerchiad ar gyfer derbyn Gwobr Heddwch Nobel yn Oslo (2009) ac yn dweud ei fod wedi troi at weithiau Reinhold Niebuhr a Gandhi am ysbrydoliaeth. ...

    Rhagor
  • Pentecost

    Pentecost

    Mae Llyfr yr Actau yn sôn am yr Apostolion, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, yn siarad â thafodau, hynny yw yn llefaru mewn iaith ryfedd, a phawb yn ei chlywed fel ei iaith ef ei hun. Roedd yr arferion rhyfedd hyn i’w gweld mewn hen grefyddau paganaidd pan fyddai rhyw addolwr mewn ecstasi, ac fe gredid ei fod yn siarad iaith angylion.

    Daeth hyn wedyn yn rhan o fywyd ambell eglwys Gristnogol yn y canrifoedd cynnar, ac yn ddiweddarach ymhlith y Pentecostiaid a’r mudiadau Apostolaidd a’r Mormoniaid. Beth gaed fyddai un o’r addolwyr, yn hollol ddigymell, yn torri allan i lefaru mewn iaith a swniai’n garbwl annealladwy, ac weithiau ...

    Rhagor
  • Cylch cythreulig y gellid bod wedi’i rag-weld

    Dim ond gonestrwydd a thrafodaethau heddwch fydd yn atal y trais
    Cylch cythreulig y gellid bod wedi’i rag-weld

    Yn ystod yr wythnos a aeth heibio gwyliodd y byd mewn braw wrth i drais dorri allan ac ymledu yn nwyrain Caersalem, rhwng Israel a Gasa, ar draws y Lan Orllewinol ac mewn trefi yn Israel ei hun. Yn ôl Gweinyddiaeth Iechyd Gasa, erbyn 16 Mai (fe fydd yn llawer mwy pan fyddwch yn darllen yr erthygl hon) yr oedd 140 o bobl a 39 o blant wedi’u lladd yn Gasa, a 900 wedi’u hanafu. Mae o leiaf wyth o farwolaethau wedi bod yn Israel, gan gynnwys dau blentyn ...

    Rhagor
  • Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21

    Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21

    Dydd Sul, 27 Mehefin, am 3.00p.m.

    Eleni, yn hytrach na’r gynhadledd oedd i’w chynnal dros benwythnos ym Mangor, bydd yn rhaid bodloni ar un sesiwn yn unig, awr a hanner o hyd, ar Zoom. Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau arweiniad John Bell, y cerddor, y pregethwr, y darlledwr a’r awdur sy’n un o aelodau blaenllaw Cymuned Iona.

    ‘Haleliwia am heresi’

    Dyna fydd teitl pryfoclyd y sesiwn, ac fel y gŵyr y rhai hynny ohonom sy’n gyfarwydd ag ef, bydd ei gyflwyniad yn siŵr o fod yr un mor wreiddiol a ffres â’r teitl ei hun.

    Mae gan John Bell neges i bawb sydd yn ymwneud â ...

    Rhagor
  • Pa fath ddiwygiad (4)

    Pa fath ddiwygiad (4)

    (Rhan olaf erthygl John Gwilym Jones)

    Beth oedd yr emynau a genid yn y cyfarfodydd? Mae Sydney Evans yn sôn am frawd ym Mlaenannerch yn adrodd y pennill, “Dyma Geidwad i’r colledig.” Ym  Mhentre Estyll, ger Abertawe, mae Pennar Griffiths yn sôn am rywun yn sefyll ac yn adrodd, “Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd”. Mae J T Job yn sôn am gynulleidfa ym Methesda yn canu ac ailganu a thrydydd ganu “Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion”. Roedd Maud Davies a Florrie ...

    Rhagor
  • Adnewyddu Cristnogaeth – Parhau’r Drafodaeth

    Adnewyddu Cristnogaeth: Parhau’r Drafodaeth

    Fe gofia rhai o ddarllenwyr Agora am gynhadledd ‘Dechrau o’r Newydd’ a gynhaliwyd yn Aberstwyth yn 2019, wedi’i noddi ar y cyd gan Gristnogaeth 21, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion.

    Cafwyd ymdrech i ddatblygu ymhellach ‘agenda’ y gynhadledd honno – sef ystyried sut y gellid adnewyddu Cristnogaeth mewn oes ôl-wyddonol – mewn erthyglau gan ddau o’r cyfranwyr yn rhifynnau diweddaraf O’r Pedwar Gwynt.

    Yn ‘Heb ei Fai, heb ei Eni’ (Gaeaf 2020) mae Gareth Wyn Jones yn archwilio ymhellach y myth Iddewig-Gristnogol am y Cwymp yng ngoleuni’r darganfyddiadau gwyddonol diweddaraf, ahynny er mwyn dod i waelod ‘ein natur ddynol amwys’ a’r cyfuniad ...

    Rhagor
  • Mynd i Capal

    MYND I CAPAL

    Gan eu bod nhw’n gwybod y byddai pob lôn yn arwain at Ddinas Dinlle penderfynodd y ddau y bydden nhw’n mynd am dro i rywle arall. A mynd wysg eu trwyn ddaru nhw am Eifionydd. Anelu am ardal Bwlchderwin i ddechrau, a gweld lleoedd fel Ynys yr Arch a Chors y Wlad yn ymrithio’n chwedlau ar y lôn; roedd Crib Nantlle mor agos atyn nhw ac wedi bod wrthi ers ben bore yn tynnu pob blewyn a llwchyn o’r awyr. Rhyw bnawn Sul ffansïol felly.

    Doedd hi erioed wedi bod yn un dda am ddarllen y map. Iddi hi, roedd pob dim wedi’i osod ffordd groes arno ...

    Rhagor
  • Deg peth na ddywedwyd wrthyf am Iesu

     

    Deg peth na ddywedwyd wrthyf am Iesu

    Crynodeb o gyflwyniad John Bell i’w gyfrol, ‘Deg peth na ddywedwyd wrthyf am Iesu’ (2009)

    Mae Eglwys y Gorllewin wedi dioddef o dri pheth, o leiaf:

    1. Yn ein haddoli does dim digon o sylw i Iesu fel person cadarnhaol o gig a gwaed, dim digon o sôn am ddigwyddiadau yn ei fywyd. Un rheswm am hyn yw mai’r darluniau mwyaf poblogaidd ohono yw naill ai’n fabi ym mreichiau ei fam neu’n hongian ar y groes. Delweddau statig ydynt. Nid yw Iesu yn gwneud dim. I laweroedd, mae’r ddau ddarlun yn cuddio gweddill ei fywyd. Rhoddodd y ffilm The Passion of the Christ ...
    Rhagor
  • Nid ynys sy’n goroesi (Gwawr wedi Cofid)

    Nid ynys sy’n goroesi (Gwawr wedi Cofid)

    Â’r Cofid wedi dwyn ein haf
    a’n cysylltiadau,
    a rhwystro ymweld â’r mannau
    sy’n ein cadw ar lôn sadrwydd
    ar ein trywydd am y Trysor.

    Collasom y mannau sydd fel arfer
    yn dod â ni adref i gyfannedd.

    Fe gafwyd sgwrsio rhwng ynysoedd
    a chofleidio gyda’n llygaid
    o bellter diogel ein giatiau,
    a bendith ffrindiau newydd ar y we
    yn gyrru fferi’r neges destun
    fel dyhead oesol o’r galon.
    Dangosodd y Cofid i ni ffrindiau newydd,
    a chynhesrwydd galwad ffôn
    gan un sy’n gwybod amdanoch
    a’ch tylwyth ers cyn cof.

    Er i’r haint gau’r bont i’n hynys arferol,
    nid ynys yw ynys am byth.
    O ...

    Rhagor
  • Y Pabydd Protestannaidd – cofio Hans Küng (1928–2021)

    ‘Y Pabydd Protestannaidd’ – cofio Hans Küng (1928–2021)
    Trwy ganiatad Cenn@d

    Küng3Pan glywais ar 6 Ebrill eleni am farwolaeth Hans Küng, y cawr o ddiwinydd pabyddol o’r Swistir, aeth fy meddwl yn ôl bron hanner can mlynedd. Gweinidog ifanc oeddwn i ar y pryd ym Mhenbedw, ac roeddwn newydd orffen darllen ei gampwaith, On Being a Christian. Fe’m cyfareddwyd yn llwyr gan y gyfrol, a gyfieithwyd i’r Saesneg gan Edward Quinn yn 1976, a chefais fy symbylu i anfon ysgrif ar Küng a’i waith i’r cylchgrawn Porfeydd. O bosibl mai ...

    Rhagor
  • Hanes Gobeithiol

    Hanes Gobeithiol

    Cefais fy nenu yn y cyfnod mynachaidd sydd ohoni gan deitl cyfrol yr Iseldirwr Rutger Bregman, Humankind: a Hopeful History (Bloomsbury Publishing 2020), a ddisgrifir fel “The Sunday Times Bestseller”. Roedd yr awdur yn gwbl ddiarth i mi er ei fod wedi cyhoeddi ‘bestseller’ gyda chyfrol flaenorol â’r teitl Utopia for Realists. Cyfieithad yw honno fel y gyfrol hon. Fel y gwelir oddi wrth y naill deitl ...

    Rhagor