Mynd i Capal

MYND I CAPAL

Gan eu bod nhw’n gwybod y byddai pob lôn yn arwain at Ddinas Dinlle penderfynodd y ddau y bydden nhw’n mynd am dro i rywle arall. A mynd wysg eu trwyn ddaru nhw am Eifionydd. Anelu am ardal Bwlchderwin i ddechrau, a gweld lleoedd fel Ynys yr Arch a Chors y Wlad yn ymrithio’n chwedlau ar y lôn; roedd Crib Nantlle mor agos atyn nhw ac wedi bod wrthi ers ben bore yn tynnu pob blewyn a llwchyn o’r awyr. Rhyw bnawn Sul ffansïol felly.

Doedd hi erioed wedi bod yn un dda am ddarllen y map. Iddi hi, roedd pob dim wedi’i osod ffordd groes arno a dyna pam eu bod nhw wedi mynd ar goll braidd. Ac aeth pethau shedan yn flêr wedi iddyn nhw basio’r un goedlan dair gwaith. Rywsut mi landion nhw yng Nghapel Brynengan ac mi ddaru’r ddau ddotio at ei bensaernïaeth. Roedd llechen ar ei bared yn nodi ers faint y bu’n sefyll yno. Llwyddodd Pantycelyn i gyrraedd y fan mewn da bryd ar ôl 1777.

Ymlaen wedyn ar hyd y lonydd bach cul ac yn y man cyrraedd Capel y Beirdd. ’Rôl gwthio a chodi fymryn ar y drws, i mewn â nhw a landio’n syth yn y Sêt Fawr. Yn un rhes wrth ochra’i gilydd roedd hen Feiblau, Caneuon Ffydd a Beibl.net – dyna daith y llygad – wedi’u gadael yn sgi-wiff, yn dynodi ôl bodio neu ddarllen, ella.

Roedd yna Lyfr Ymwelwyr hefyd ac er bod Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu yn sbio arnyn nhw drwy’r fframiau ar y wal, am ryw reswm ddaru nhw ddim crafu eu henwau. Sbio ar enwau pobol eraill ddaru nhw a dweud dim. Roedd gweld drws y festri ym mhen draw’r capal yn gorad yn taro’n flêr ar ei llygad – ôl bod y lle ar iws, ella. Gwelodd fod yno focsys wedi’u selio a bod llyfrau lliwgar maint A4 ar ben ambell un. Storio llyfrau, ar gyfer ysgol Sul yn rhywle, meddyliodd. Meddwl am fwy o bethau ddaru hi wedyn, ac ar ôl gweld y jwg a phowlen fetel wen a rhesen las iddyn nhw yn edrych yn ddigalon ar fwrdd yn y gornel penderfynodd adael reit handi.

Mi fuo hi’n trio peidio gadael i’r llwch a’r pryfed cop ddod efo hi i’r car. Roedd dringo’r gamfa chydig lathenni nes ’mlaen yn help i stwytho, fel y cerdded ar draws y cae i gyfeiriad adfail Capel Galltgoed ar lan yr afon. O leia fedar adfail ddim cau drws, meddyliodd, wrth sbio ar yr hen ffenest eglwysig.

Er ei bod hi’n gwybod yn iawn y byddai’n hwyr yn cyrraedd, mi benderfynodd yn y diwedd bod raid mynd, er mai ista’n car ar ochr lôn ddaru hi. Mynd i capal ar ei ffôn ar nos Sul clychau’r gog yn Eifionydd a sbio ’run pryd arno fo yn cerdded ar hyd y lôn ac yn diflannu’n ara deg dan fwa’r coed.

Esyllt Maelor