Agora 48 mis Tachwedd-Rhagfyr 2021

Agora rhif 48 mis Tachwedd – Rhagfyr 2021

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Yn dawnsio o flaen yr allor
PLlJ

“Mentor, ffrind a chwmpawd moesol.”
Adroddiad Emlyn Davies

“Heulwen dan gymylau”
Adolygiad o Datod: Profiadau unigolion o ddementia. (Gol: Beti George)

Iesu v Cesar
Guto Prys ap Gwynfor

COP 26 – Dagrau ein Sefyllfa
Adroddiad arbennig gan Gethin Rhys

Argyfwng Tai – neu argyfwng cartrefi?
Dafydd Iwan

Plentyn ar goll?
John Gwilym Jones

Addasiad o fyfyrdod gan John Pavlovitz,
yn ystyried goblygiadau ei farwolaeth

Argraffiadau o Santiago de Compostela, dinas y pererinion
Geraint Rees

Sylwadau ar gelfyddyd eglwysig, wedi ymweliad â Santiago de Compostela
Geraint Rees

Addasiad o eitem ar flog Philip Yancey
Philip Yancey

  • Yn dawnsio o flaen yr allor

    Yn dawnsio o flaen yr allor

    Go brin fod Cân Nadolig Simeon wedi bod yn fwy addas i neb erioed nag yr oedd i Desmond Tutu drannoeth y Nadolig, ‘Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd, mewn tangnefedd, yn unol â’th air, oherwydd mae fy llygaid wedi gwedd dy iachawdwriaeth’ (Luc 2:29). Heb wybod am amgylchiadau ei farwolaeth yn 90 oed, fe fyddai Tutu wedi marw gyda gwên, fel y llun ar glawr ei gyfrol An African Prayer Book. Nid gormodiaith yw dweud, o fewn ychydig oriau i’w farwolaeth, yr oedd y wasg, llywodraethau ac arweinwyr eglwysig ledled byd yn galaru. Ond ni ...

    Rhagor
  • “Heulwen dan gymylau”

    “Heulwen dan gymylau”

    Datod: Profiadau unigolion o ddementia. Gol: Beti George Y Lolfa £8.99

    Adolygiad gan Emlyn Davies

    Ar hyn o bryd, mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wrthi’n ddygn yn trefnu ymgyrchoedd i geisio creu eglwysi dementia-gyfeillgar. Mae’r Eglwys yng Nghymru gam ar y blaen yn hyn o beth, gyda chyfoeth o adnoddau eisoes ar gael. Mae’n briodol ein bod ninnau yn Agora hefyd yn rhoi sylw i’r pwnc, a hynny drwy gyfeirio at Datod, y  gyfrol ddirdynnol gan 17 o gyfranwyr gwahanol yn cwmpasu ...

    Rhagor
  • COP 26 – Dagrau ein sefyllfa

    COP 26 – DAGRAU EIN SEFYLLFA

    Adroddiad arbennig gan y Parchedig Gethin Rhys

    (Mae’r erthygl hon yn rhyngweithiol: medrwch glicio ar y dolenni glas i ddarllen rhagor neu i weld fideo ar y pwnc.)

    Roedd hi’n ddydd Sadwrn Tachwedd 13 2021. Fe ddylai cynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 yn Glasgow fod wedi gorffen y noswaith flaenorol, ond bu raid parhau am 24 awr ychwanegol i’r gwledydd ddod i gytundeb.

    Roedd y rhan fwyaf o bobl fu’n gwylio yn teithio adre ac yn ceisio ...

    Rhagor
  • Plant yn addoli

    Plentyn ar goll?

    John Gwilym Jones

    Aeth blynyddoedd heibio ers imi weld rhyw fam, mewn oedfa, yn gorfod codi o’i chôr i fynd allan â’i babi. Mae sgrech y babi hwnnw yn atsain yn fy nghof o hyd. Yn yr un côr byddai brawd y babi, neu ei chwaer. Byddai’r teulu wedi bod yno yn gwrando, yn ôl eu harfer, yn ymyl ei gilydd ar y darlleniad, ar y weddi ac ar y bregeth. Byddai’r teulu wedi codi i ganu pob emyn, a’r rhieni’n medru canu llawer llinell heb edrych ar y llyfr emynau. Wedi’r oedfa byddai’r teulu wedi dychwelyd adre gyda’r atgofion am awr o addoli wedi eu plannu ...

    Rhagor
  • Sylwadau ar gelfyddyd eglwysig, wedi ymweliad â Santiago de Compostela

     

    Sylwadau ar gelfyddyd eglwysig, wedi ymweliad â Santiago de Compostela

    O fewn milltir i’r gadeirlan ysblennydd, ceir dros ugain o eglwysi plwyf, a phob un o’r rheiny yn rhyfeddod ynddi ei hun. Ar gyfer pob cwpwl o strydoedd yn yr hen ddinas, ceir eglwys ‘fach’ – gan amlaf gyda’r gofod i gynnal oedfa i ryw 200 o bobl. Ym mhob un o’r eglwysi hyn ceir celfyddyd gain, gyda delweddau godidog, nodweddiadol o gyfnod y dadeni a’r cyfnod baróc o’r Iesu gwyn a’i angylion.

    Un o nodweddion Cristnogaeth fodern yw’r ffaith mai ...

    Rhagor
  • Myfyrdod gan John Pavlovitz ar farwolaeth

    Addasiad o fyfyrdod gan John Pavlovitz, yn ystyried goblygiadau ei farwolaeth

    Mae Pavlovitz nawr yn flogiwr blaenllaw ac yn awdur sy’n gwneud ei orau i gynnig tystiolaeth Gristnogol i genhedlaeth yn America sydd wedi blino gydag agweddau cynyddol angharedig, arallfydol ac asgell dde eithafol Cristnogaeth ffwndamentalaidd eu gwlad. Yn ystod mis Hydref, cafodd tiwmor ei dynnu o’i ymennydd. Roedd ei flog ar farwolaeth wedi ei lunio a’i gyhoeddi ymhell cyn iddo fod yn ymwybodol o’r cancr, yn dilyn cyfres o flogiau ...

    Rhagor
  • “Mentor, ffrind a chwmpawd moesol.”

    “Mentor, ffrind a chwmpawd moesol.”

    Teyrngedau i’r diweddar Desmond Tutu

    Adroddiad Emlyn Davies

    Drannoeth marwolaeth Desmond Tutu, roedd y wasg Brydeinig yn hael eu teyrngedau iddo, a’r tudalennau blaen yn llafar eu hedmygedd. “Collodd y byd un o amddiffynwyr mwyaf hawliau dynol” meddai’r Guardian, a disgrifiodd y Daily Telegraph ef fel “un o gewri’r frwydr gwrth-apartheid”. I’r Daily Mirror roedd yn “eicon o heddwch,” ac yn un a fedrai “swyno arweinwyr y byd gyda’i gynhesrwydd a’i chwerthiniad heintus.” Dewisodd papur newydd yr i ei ddisgrifio mewn dau ...

    Rhagor
  • Iesu v Cesar

     

    Iesu v. Cesar
    gan Guto Prys ap Gwynfor

    Pan aned Iesu, Gaius Octavius, neu Octavian (63cc–14oc) oedd ymherodr Rhufain. Llwyddodd Octavian i gael ei gydnabod fel unben yn dilyn cyfres o ryfeloedd cartref gwaedlyd, a ddilynodd llofruddiaeth ei ewythr, a’i lys-dad, Iwl Cesar, yn 44cc. Parhaodd y rhyfeloedd hyd 31cc pan drechwyd Marc Antoni a Cleopatra ym mrwydr Actium. Mabwysiadodd Octavius yr enw Cesar Awgwstus, ac yn ôl yr enw hwnnw yr adnabyddir ef hyd heddiw, dyna’r enw a ddefnyddia Luc wrth iddo sôn am eni Iesu.

    Rhagor

  • Argyfwng Tai – neu Argyfwng Cartrefi?

    ARGYFWNG TAI – NEU ARGYFWNG CARTREFI?
    gan Dafydd Iwan

    Wrth geisio meddwl am bennawd i’r pwt yma, roedd rhywun yn ddiarwybod yn cyffwrdd â hanfod y broblem. Ai argyfwng tai sydd gennym yng Nghymru, neu argyfwng cartrefi? Mi fyddwn i’n bendant yn barnu o blaid yr ail, oherwydd nid prinder adeiladau sy’n creu’r broblem, ond y defnydd sy’n cael ei wneud o’r adeiladau sydd ar gael, yn enwedig felly o ran darparu cartrefi addas i bawb yn ein cymdeithas.

    I’r rheini ohonom sy’n hofran o gwmpas oed yr addewid, roedd y drefn o sicrhau cartref yn un weddol syml pan oeddem yn iau. Y dewis cyntaf fel arfer ...

    Rhagor
  • Addasiad o eitem ar flog Philip Yancey

    Addasiad o eitem ar flog Philip Yancey, sydd wedi bod yn ddylanwad cadarnhaol iawn ar genhedlaeth o Gristnogion sydd wedi bod ar daith o gulni dogmataidd i lwybr cariadus dilyn Iesu. Mae ei gyfraniadau’n parhau i ysbrydoli.

    Wrth drafod fy hunangofiant diweddar Where the Light Fell, rwy’n aml yn defnyddio’r geiriau “eglwyswenwynig” i ddisgrifio ffurf eithafol o grefydd ffwndamentalaidd taleithiau’r De y cefais fy magu ynddi. Rwy’n sôn ...

    Rhagor
  • Argraffiadau o Santiago de Compostela, dinas y pererinion

    Argraffiadau o Santiago de Compostela, dinas y pererinion

    Mae hi’n ddiwedd mis Hydref 2021, ac mae arwyddion boreol bod gaeaf ar ddod i’r ardal hon o Galisia, gogledd Sbaen. Fodd bynnag, yn haul lled gynnes y prynhawn mae Santiago dan ei sang wrth i gadwyn o grwpiau bach o bererinion gyrraedd y ddinas fu’n nod iddyn nhw. Wrth eistedd o flaen y gadeirlan gwelaf fod pedwar neu bump o bobl newydd yn cyrraedd bob awr, pob un yn arddangos emosiwn – rhai’n chwerthin yn llawen, rhai’n gwenu o glust i glust ac ambell un mewn dagrau wedi’r ymdrech. Beth bynnag yr ymateb, mae maint eu tasg yn dangos yn ...

    Rhagor