Argyfwng Tai – neu Argyfwng Cartrefi?

ARGYFWNG TAI – NEU ARGYFWNG CARTREFI?
gan Dafydd Iwan

Wrth geisio meddwl am bennawd i’r pwt yma, roedd rhywun yn ddiarwybod yn cyffwrdd â hanfod y broblem. Ai argyfwng tai sydd gennym yng Nghymru, neu argyfwng cartrefi? Mi fyddwn i’n bendant yn barnu o blaid yr ail, oherwydd nid prinder adeiladau sy’n creu’r broblem, ond y defnydd sy’n cael ei wneud o’r adeiladau sydd ar gael, yn enwedig felly o ran darparu cartrefi addas i bawb yn ein cymdeithas.

I’r rheini ohonom sy’n hofran o gwmpas oed yr addewid, roedd y drefn o sicrhau cartref yn un weddol syml pan oeddem yn iau. Y dewis cyntaf fel arfer oedd cael fflat neu dŷ ar rent (ac roedd Swyddog Rhenti Teg gan yr awdurdod lleol yn cadw llygad ar bethau rhag i landlordiaid fod yn rhy farus), ac yna symud ymlaen wrth i’n cyflog godi i brynu tŷ, trwy forgais fel rheol, a symud i le mwy wrth i’r teulu a’r cyflog gynyddu. I’r rhai oedd ar gyflog llai neu’n ddi-waith, aros mewn tŷ rhent preifat neu dŷ cyngor oedd raid. Yn raddol, symudodd Llywodraeth Llundain y pwyslais o dai Cyngor i dai dan ofal y Cymdeithasau Tai (Housing Associations), ac, yn fwy diweddar, i dai dan ofal y Cwmnïau Tai a ffurfiwyd i gymryd perchnogaeth o stoc dai’r Cynghorau Lleol.

A dyna oedd dechrau’r problemau, gan fod hawl gan rai tenantiaid i brynu eu cartrefi rhent am bris gostyngol (diolch yn bennaf i gyfnod Thatcheriaeth). Wrth i’r stoc tai cymdeithasol leihau, doedd dim digon o dai newydd yn cymryd eu lle, a’r un pryd roedd atebolrwydd democrataidd y Cymdeithasau/Cwmnïau Tai newydd yn dirywio, a gallu tenantiaid i fynnu gwelliannau i’w cartrefi yn araf wanhau.

Felly, gwelsom leihau graddol ar y stoc o dai cymdeithasol oedd ar gael i gartrefu’r teuluoedd oedd yn methu fforddio prynu, a lleihau hefyd ar y rheolaeth dros lefel y rhenti, a hynny’n arwain at renti oedd ymhell o afael llawer teulu. Roedd y system fudd-dâl tai i helpu’r rhai tlotaf bron yn amherthnaso

l am mai arian oedd hwnnw oedd yn mynd yn syth i bocedi’r landlord wrth i lefel y rhenti barhau i godi.

Ac yna, ar ben hyn oll, gwelsom newidiadau eraill sydd wedi gwneud yr argyfwng yn waeth fyth mewn ardaloedd sy’n denu ymwelwyr, prynwyr ail gartrefi a thai haf, a phobl sydd am ymddeol i’r wlad neu lan môr. Mae Brecsit a’r Pandemig wedi cyfuno i waethygu pob un o’r ffactorau hyn, ac nid gormodiaith bellach yw galw’r sefyllfa yn “Argyfwng”.

Bydd y ffeithiau uchod yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonoch, ond mae’n werth ail-ddweud rhai o’r ffeithiau hyn er mwyn ceisio deall y gwead cymhleth o ffactorau sy’n creu’r argyfwng presennol. Nid un ffactor sydd ar waith, ac nid un datrysiad sydd i’r argyfwng. Ond y mae dwy ffaith sylfaenol y mae’n werth eu pwysleisio, sef nad ydym fel cymdeithas yn gwneud defnydd iawn o’n stoc dai, a does dim digon o reolaeth ddemocrataidd dros ein stoc o dai cymdeithasol.

Yr ateb sydd wedi cael ei gynnig gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac eraill ers blynyddoedd yw “Deddf Eiddo”, sef deddf gwlad a fyddai i bob pwrpas yn caniatáu i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai yn eu hardaloedd, yn unol â’r galw a’r angen lleol am gartrefi. Mae’n ateb syml (a chymhleth!!) y byddwn i’n bers

onol yn cytuno â hi, ond nid yw’n debygol o ddigwydd yn y drefn gyfalafol sydd ohoni, lle mae’r “Farchnad Rydd” yn cael ei gweld fel y rheol aur i’w dilyn ym mhob maes. Felly, y gorau y medrwn anelu ato yw cyfaddawd fyddai’n caniatáu mwy o reolaeth dros ein stoc o dai cymdeithasol, ac yn creu “marchnad leol” ar gyfer tai yn yr ardaloedd (niferus) hynny lle mae gormod o dai yn cael eu prynu fel tai gwyliau ac ail gartrefi.

Yr hyn mae Cristnogaeth 21 yn anelu ato felly yw bod yn lefain yn y blawd i ddod â chynifer o gyrff at ei gilydd – yn Gymdeithasau Tai, Awdurdodau Lleol, cyrff fel Housing Justice Cymru, Cytûn a’r enwadau crefyddol yng Nghymru – i weld pa ddefnydd y gellir ei wneud o’r tir a’r adeiladau sy’n perthyn i’r enwadau a’r eglwysi i ymateb i’r galw am fwy o gartrefi i bobl yn eu cynefin.

Fel pobol sy’n credu mewn Cristnogaeth ymarferol, byddai’n anfaddeuol pe baem yn gwneud dim i geisio lleddfu’r broblem ddifrifol yma sy’n effeithio ar gymaint o unigolion a theuluoedd yng Nghymru. O feddwl am yr holl gapeli sy’n cau, a’r holl eiddo sy’n perthyn i ni fel enwadau Cristnogol, mae’n anodd credu nad oes gennym gyfraniad i’w wneud. Mi all fod yn fater o gydweithio â Chymdeithas Dai leol i addasu capel yn fflatiau (fel sydd wedi cael ei wneud eisoes mewn rhai mannau) ar gyfer eu gosod ar rent, neu’n gyfuniad o greu cartref newydd a lle o addoliad newydd cyfleus, neu greu canolfan aml-bwrpas ar gyfer y gymuned leol.

Yr elfen bwysig yw fod unrhyw gartref newydd a gaiff ei ddarparu o dan reolaeth leol i sicrhau mai ar gyfer galw lleol y bydd y cartref hwnnw. Y cyrff amlwg i reoli hyn fyddai’r Cymdeithasau Tai sy’n bod yn barod (megis Grŵp Cynefin yn siroedd y gogledd), neu gellir creu cymdeithasau tai newydd, lleol a gaiff eu rheoli gan y gymuned. Os gallwn wneud hyn gyda thafarndai, beth sydd i’n rhwystro rhag gwneud defnydd gwell o dir ac adeiladau ein capeli? Ac, wrth gwrs, ni ddylai hyn olygu prysuro’r broses o gau capeli, ond yn hytrach, gall fod yn ffordd o ailfywiogi rhai capeli a’u hysgwyd o rigol sy’n arwain yn anochel at gau’r achos. Mewn sawl ardal, yr hyn sydd ei angen yw dangos i’r gynulleidfa fod yna bosibiliadau newydd o fynd ati gydag eraill i feddwl yn greadigol, a diwallu angen yn ein cymdeithas am atebion ymarferol yn ogystal â chynhaliaeth ysbrydol.

Nawr yw’r union adeg i bwyso am hyn, gan fod y cytundeb newydd rhwng y Llywodraeth yng Nghymru a Phlaid Cymru yn bwriadu gweithredu yn y maes hwn. Ond ni fydd yn hawdd datrys y broblem, a dyna pam mae’n bwysig i bawb ohonom roi ein hysgwydd dan y baich, a chynnig cyfraniad ymarferol i ddatrys sefyllfa a all fod yn ergyd farwol i gymunedau ledled Cymru.