Agora 20 mis Ionawr 2018

 

Agora rhif 20 mis Ionawr 2018

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Cofleidio newid      Enid Morgan

Cam 12 yr AA          Wynford Ellis Owen 

Duw Llaw-chwith  

Pytiau

Ni all tywyllwch…

Henaint ni ddaw ei hunan?

Michael Morpurgo yn siarad gyda Huw Spanner

  • Michael Morpurgo

    Michael Morpurgo
    yn sgwrsio gyda Huw Spanner (gwefan High Profiles)

    Diolchwn am ganiatâd i gyhoeddi rhan o’r sgwrs hon gydag un o awduron mwyaf cynhyrchiol Lloegr sy’n fyd-enwog yn arbennig fel awdur War Horse (nofel, drama a ffilm) ond yn ogystal â nifer fawr o lyfrau i blant yn arbennig (dros 100 ohonynt). Bu’n fardd plant yn Lloegr ac mae wedi ennill llu mawr o wobrau. Prynodd ef a’i briod dŷ yn Nyfnaint gan sefydlu elusen i roi profiad i blant y dinasoedd o fyw am gyfnod ar fferm ac mewn cymuned bentrefol. Erbyn hyn mae’r elusen yn cynnal ffermdai ger ...

    Rhagor
  • Ni all tywyllwch…

    Ni all tywyllwch fwrw allan dywyllwch;
    Dim ond goleuni all wneud hynny.
    Ni all casineb fwrw allan gasineb;
    Dim ond cariad all wneud hynny.

     Martin Luther King

    Rhagor
  • Duw Llaw-chwith

    Duw Llaw-chwith –

    Seiliedig ar waith Richard Rohr

    Mae’r ymdrech i gadw ein bywyd mewnol ac allanol yn un bywyd yn golygu edrych ar ddwy ochr bywyd yn onest a chlir. Fe ddylem wynebu llawenydd a rhyfeddod bywyd yn ogystal â’i boen, ei anghyfiawnder a’i hurtrwydd. Fy enw i ar ochr dywyll bywyd yw ‘llaw chwith Duw’ neu ‘dirgelwch poenus pethau’. Cefais sawl cyfarfyddiad â chanser, a dyna i chi enghraifft dda. Roeddwn i wedi pregethu sawl gwaith ar y pwnc ond dair gwaith fe estynnodd allan ac ennill fy sylw.

    Dyna sut mae pethau’n digwydd. Mae bywyd yn mynd yn ei flaen yn dwt, ...

    Rhagor
  • Cofleidio newid

    COFLEIDIO NEWID

    Yn nrama Saunders Lewis, Gymerwch chi Sigarét?, mae Marc, yr anghredadun o swyddog comiwnyddol, dan orchymyn ei feistri i saethu tad bedydd ei wraig, Iris, sy’n Gristion Catholig o argyhoeddiad. Os na fydd Marc yn ufuddhau a throi’n llofrudd, bydd Iris yn siŵr o gael ei lladd. Ond mae hi’n benderfynol na chaiff Marc ‘beryglu ei enaid’ i’w hachub hi a’r plentyn mae hi’n ei ddisgwyl. Yng ngwewyr y dewis a orfodir arno mae Marc yn protestio: ‘Mae hi’n fy ngharu fel petae tragwyddoldeb yn bod.’

    Mae’r ymadrodd wedi glynu yn fy nghof am ei fod yn cyfleu’n ingol ddryswch a dicter ...

    Rhagor
  • Henaint ni ddaw ei hunan?

    Henaint, ni ddaw ei hunan?

    Bendigedig fyddo Duw, rwy’n mynd yn hen! Henaint sydd hardd. Heneiddio sydd dda.
    Rhydwen Williams

    Yn y bôn, does dim datrys ar broblemau mwyaf a phwysicaf bywyd. Fedrwn ni mo’u datrys, dim ond tyfu’r tu hwnt iddyn nhw.

    Mae’r hyn sy’n uchelgais normal i berson ifanc yn troi’n dramgwydd niwrotig mewn henaint.

    Ni ellir byw prynhawn ein bywyd yn ôl rhaglen bore oes; oherwydd fe fydd pethau pwysig bore oes o lai o bwys yn yr hwyr, a beth oedd yn wir ym more oes wedi troi’n gelwydd erbyn yr hwyr.
    Carl Jung

    Rhagor

  • Pytiau

    PYTIAU

    Dysgwch ddawnsio, bobl; neu fydd yr angylion yn y nefoedd ddim yn gwybod beth i’w wneud â chi.
    Awstin Sant

    Gwneud
    Crefydd yn rhesymol,
    Trais yn annychmygol,
    Heddwch yn bosibilrwydd.

    ‘Os nad ydym yn “bobl yr ymylon” ein hunain mewn rhyw ffordd, mae angen i ni berthyn i ryw grŵp o bobl sydd ar “yr ymylon” er mwyn cael golwg goleuedig yr efengyl a chael troedigaeth at dosturi.’

    http://www.theologyandpeace

     

    Rhagor
  • Cam 12 yr AA

     Gweithredu’r egwyddorion a chario’r neges i eraill

    Wynford Ellis Owen yn dwyn ei gyfres ar 12 cam yr AA i ben

    Mae cyflawni unrhyw beth gwerth chweil mewn bywyd yn golygu cyfnodau o ymdrech ddiflino cyn y gorfoledd; ni ddaw’r fuddugoliaeth heb yr ymlafnio. Mae pob nod sy’n cynnig inni bleser o’i gyflawni yn golygu cyfnodau o boen ar y ffordd. A gallwn fod yn sicr o un peth: bod ein datblygiad ni fel unigolion yn dibynnu i raddau helaeth ar y modd yr ydym yn ymgodymu â’r profiadau anodd hynny.

    Heddiw, felly, gallwn ddathlu: rydym ar y ffordd i fuddugoliaeth. Mae ...

    Rhagor