Cofleidio newid

COFLEIDIO NEWID

Yn nrama Saunders Lewis, Gymerwch chi Sigarét?, mae Marc, yr anghredadun o swyddog comiwnyddol, dan orchymyn ei feistri i saethu tad bedydd ei wraig, Iris, sy’n Gristion Catholig o argyhoeddiad. Os na fydd Marc yn ufuddhau a throi’n llofrudd, bydd Iris yn siŵr o gael ei lladd. Ond mae hi’n benderfynol na chaiff Marc ‘beryglu ei enaid’ i’w hachub hi a’r plentyn mae hi’n ei ddisgwyl. Yng ngwewyr y dewis a orfodir arno mae Marc yn protestio: ‘Mae hi’n fy ngharu fel petae tragwyddoldeb yn bod.’

Mae’r ymadrodd wedi glynu yn fy nghof am ei fod yn cyfleu’n ingol ddryswch a dicter y Marc di-ffydd yn wyneb ffydd gadarn Iris. (Ac mae angen i mi ddarllen y ddrama eto ar ôl blynyddoedd lawer er mwyn ailystyried arwyddocâd y stori. Ai stori am aberthu dyn diniwed ydyw? Ynteu stori am hunanaberth y wraig ifanc sy’n ofni cosb dragwyddol ar ei chariad?) Y peth hanfodol yw fod ffydd Iris yn golygu ei bod hi’n wahanol, a’r argyfwng yn peri i Marc newid. Mae ei hamcanion, ei gobeithion, ei hamgyffred o’i bywyd yn wahanol am ei bod yn credu yn Nuw.

Yn nhymor yr Ystwyll cawn gyfle i ystyried sut y mae galwad/gwahoddiad Duw yn Iesu yn golygu ein bod ni’n gorfod newid. Mae hi’n thema gyson yn ysgrythurau’r tymor, ac i eglwyswyr mynegir y thema yn y Colect sy’n crynhoi gweddïau’r ffyddloniaid ar ail Sul yr Ystwyll. Dyma hi yn y fersiwn diwygiedig:

Hollalluog Dduw, yng Nghrist yr wyt yn gwneud popeth yn newydd: trawsffurfia dlodi ein natur â chyfoeth dy ras, ac yn adnewyddiad ein bywydau gwna’n hysbys dy ogoniant nefol: trwy Iesu Grist dy Fab  …

 Roeddwn i’n meddwl ar y llinellau hyn pan ddaeth y newyddion trist am farw Peter Preston, cyn-olygydd y Guardian. Cefais y cyfle i’w adnabod ychydig pan oeddwn yn fyfyriwr yn dechrau gweithio ar bapur newydd y Brifysgol yn Rhydychen. Yr oedd yn seren hyderus bryd hynny, a sylwais yn y teyrngedau iddo ei fod wedi cofleidio newid – yn wir, fod ei yrfa i gyd wedi bod yn broses o reoli newid i bobl eraill a’i fod yn gyson yn calonogi pobl. Dichon fod cael polio yn blentyn a bod am ddwy flynedd mewn peiriant anadlu dur wedi datblygu ynddo ewyllys gadarnhaol a di-ildio. Unig arwydd allanol y profiad oedd ei fraich wywedig – a châi neb fyth ei helpu i roi ei gôt fawr amdano. Ychydig iawn ohonom sy’n medru dal yn gadarnhaol wrth weld pethau da’n crebachu a diflannu; mae’r mwyafrif llethol ohonom yn ochelgar iawn ynglŷn â newid ac os taw ein prif falchder yw ein bod ni ‘Yma o Hyd’, mae’r ofn yn wyneb newid yn faich ychwanegol. Peth newidiol a diflanedig ydi pob diwylliant, ac ym mhob diwylliant ceir hadau eilunaddoliaeth. Mae cerdd Waldo am ‘hen ieithoedd diflanedig’ dynol ryw yn ein pigo i’r byw. Yn wyneb tragwyddoldeb Duw beth sy o wir bwys? Sut mae caru Cymru a’r Gymraeg felly ‘fel petae tragwyddoldeb yn bod’? Sut mae ymateb i alwad Duw heb ddal ein gafael yn dynn yn ein delw ohonom ein hunain? Oherwydd ar lun a delw Duw yr ymddiriedwn i ni gael ein creu. Sut mae deall ymadrodd Iesu ei hun fod y sawl sy’n ceisio arbed ei enaid yn siŵr o’i golli, a’r sawl sy’n ei golli ei hun dros y deyrnas yn siwr o gadw’i ‘hunan’?

Yn nechrau Efengyl Ioan mae Iesu wrthi’n galw’i ddisgyblion a Philip yn perswadio Nathanael, ddigon amheus ei ymadrodd, i ddod i weld drosto’i hun. Mae croeso Iesu iddo’n gynnes, gan gydnabod dilysrwydd didwyll ei ymlyniad wrth ei Iddewiaeth. Ond dywed Iesu:

‘A wyt yn credu oherwydd i mi ddweud wrthyt fy mod wedi dy weld dan y ffigysbren? Cei weld pethau mwy na hyn. Yn wir, yn wir rwy’n dweud wrthych, cewch weld y nef wedi agor, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.’

Ar un olwg dyma Efengyl Ioan ar ei mwyaf dryslyd. Pam addo i ddisgyblion Iesu y cânt brofiad Jacob o weld ysgol yn estyn i’r nefoedd ac angylion yn esgyn a disgyn rhwng nef a daear? Ai addewid am ailadrodd rhyw brofiad ysbrydol oedd yn hysbys i Iddew da sydd yma? Neu ddefnyddio darlun traddodiadol i gyfleu sut y mae pontio bwlch rhwng yma a Duw? Mewn oes fwy ysgrythurol ei chrebwyll byddai pobl yn gwneud y cysylltiad yn syth â phrofiad Steffan, y merthyr cyntaf (y cofiwyd amdano drannoeth y Nadolig). Wrth farw, mae yntau’n gweld y ‘nefoedd yn agored’ fel yr addawodd Iesu i Nathanael.

Yn ôl ei arfer, mae Iesu’n defnyddio iaith ac amgyffrediad y traddodiad crefyddol Iddewig gyda’i ddisgyblion. Ond nid ailadrodd profiadau y mae, gan ei fod yn tanseilio’r amgyffrediad ac yn cyfeirio at y newid sydd yn dod i bawb o ganlyniad i’w ddyfodiad, ac agosrwydd ei deyrnas. Galwedigaeth Iesu yw rhannu gweledigaeth am ffordd newydd o berthyn i’n gilydd ac i Dduw. A dydyn nhw ddim yn deall. Cofiwch am ebychiad Iesu am arafwch ei ddisgyblion, gan gynnwys Philip, i ddeall dyfnder y gwahaniaeth mae’n ei gynnig iddyn nhw. Mae’n sôn am glustiau sy’n methu clywed a llygaid sy’n methu gweld. Mae’r arafwch hwnnw wedi bod yn amlwg drwy ganrifoedd Cred yr eglwysi.

Fydd dim angen ysgol nac angylion i gael cip ar Dduw mwyach. Bydd adnabod Iesu, trigo gydag ef ac ynddo ef yn ddigon o ysgol ynddi ei hun. Iesu ei hun yw’r ysgol at Dduw.

Prin y gallai Nathanael na Philip na neb o’r lleill sylweddoli bod eu hymateb i Iesu yn mynd i olygu cymaint. Ara deg y maen nhw’n newid, ac mae eu profiad o’r Pasg yn allweddol i’r newid hwnnw. Mae’r newidiadau’n parhau yn hanes yr Eglwys Fore a chawn ddisgrifiadau ohonynt yn llyfr yr Actau. Ystyriwch dröedigaeth Paul. Mae’r stori’n un ddramatig tu hwnt, a’r duedd yw ystyried y dröedigaeth honno’n batrwm i dröedigaethau eraill. Sylwer bod Paul wedi diflannu i Arabia am dair blynedd cyn dechrau pregethu, gan adael i’r newid ynddo aeddfedu a dechrau dwyn ffrwyth cyn dechrau cyhoeddi dim i bobl eraill! (Byddai Emrys ap Iwan yn bur sychlyd am dröedigaethau sydyn a dramatig gan nodi ei bod yn berffaith hysbys nad ydi pawb sy’n cael calon newydd ddim o reidrwydd yn cael pen newydd!)

Anaml iawn y sonnir am ‘dröedigaeth’ Pedr. Ond dyna hanfod profiad Pedr gyda Cornelius, y canwriad Rufeinig, a barodd iddo newid ei feddwl am ‘aflendid’ y bwydydd traddodiadol tabŵ yn y traddodiad Iddewig. Mae Paul a Phedr yn gorfod gweld dymchwel eu hargyhoeddiadau dyfnaf a chroesawu’r trawsffurfio oedd yn digwydd iddynt.

Ydyn ni’n barod i weld dymchwel ein hunaniaethau ni ein hunain. Ai dyma un ystyr ar ‘golli enaid i’w hennill’? Mae’r chwalfa sydd ei hangen arnom yn brofiad y gwrthwynebwn yn chwyrn rhag wynebu’r boen o gael ein hailadeiladu. Sut mae croesawu’r newid ynon ni ein hunain, yn ein cymunedau, yn ein teuluoedd a’n cenedl? Pwy ydyn ni ond pobl y mae Duw’n eu galw i fodolaeth? Heb yr alwad honno dydyn ni’n ddim ond cynnyrch ein hedmygedd a’n heiddigedd ohonom ein gilydd. Yma y daw doethineb y gorffennol i’n helpu. Dyma Julian o Norwich, yr ancr a fu byw drwy ganrif enbyd y pla du a gwrthryfel y werin a’i gorthrwm a’i dilynodd: ‘Dyma ni, gnawd ac ysbryd, wedi’n gwisgo o’n corun i’n sawdl yn naioni Duw.’

Felly, ar ddechrau blwyddyn arall beth ddaw ohonom wrth ymateb i ‘ddod i weld’? Mewn man arall yn yr efengyl y mae’r disgyblion yn dwyn Groegiaid at Iesu sy’n dweud: ‘Ni a fynnem weld Iesu.’ Meddai’r Archesgob George Noakes: ‘Peidiwn ni â bod yn rhwystr iddyn nhw.’

Hollalluog Dduw, yng Nghrist yr wyt yn gwneud popeth yn newydd: trawsffurfia dlodi ein natur â chyfoeth dy ras, ac yn adnewyddiad ein bywydau gwna’n hysbys dy ogoniant nefol: trwy Iesu Grist dy Fab.

Enid R. Morgan