E-fwletin 8 Ionawr, 2018

Blwyddyn Newydd Dda a bendithiol i bob un ohonoch.

O’r wasg 2017/18. Cyfathrebu cynhwysol!

Geiriau Brendan Walsh ar ddechra ei dymor fel golygydd newydd y Tablet: ‘Bod yn safonol, yn dosturiol, yn ddiddorol.’ 

Brendan Walsh

Meddai’r Golygydd am y Tablet. ‘Dim bugeilio trwm ar y darllenwyr i’w harwain i’r nefoedd ar hyd llwybr dewisedig, ond bob amser â theimlad o fod yn rhan o lif ein gwareiddiad. Mae safbwynt, wrth gwrs, – sef ‘rhyddfrydol’ /‘blaengar’ (progressive ). Digon teg, ond does neb am gael ei gyfyngu gan labeli chwaith. Mae ymrwymiad i eglwys ond mae hefyd annibyniaeth chwyrn  fel gwenyn yn niwsans mewn picnic. Nid maniffesto ond personoliaeth fyw – yn ffyddlon, gonest, hael, ymchwilgar ac o blaid diwygio parhaus. Map yw’r ddysgeidiaeth hanesyddol, nid pendraw taith na ffens drydan i’n cadw rhag crwydro, ond trampolîn i’n codi i lawenydd a chyffro. Nid yn aros yn llonydd mewn un man, ond yn byw yn y symudiadau sydd rhwng mannau a llannau, rhwng y lleol â’r rhyngwladol, rhwng ddoe, heddiw ac yfory. Dyna yw afiaith ac afradlonedd Duw. Onid dyna yw’r Ysbryd? Pa fath bynnag o Gatholigion yr ydym yn ei feddwl ydym, yr ydym angen y lleill? Mae angen  storïau da. Ac y mae gennym ni y stori fwyaf un.

Geiriau addas i eglwys/enwad/Cristnogion  ar ddechrau 2018?

Giles Fraser

Yna Giles Fraser, colofnydd y Guardian yn cyhoeddi ar Ragfyr 29ain ei fod yn gorffen ei golofn wythnosol, Loose Canon, ar ôl nifer o flynyddoedd. Gwenyn mewn picnic Anglicanaidd fu Fraser yn wir! Wrth edrych ar gynulleidfaoedd mawr y Nadolig, o bob lliw a llun yn St Mary’s Newington, sylwodd nad oes ganddynt fawr ddim yn gyffredin – ond eu ffydd. Ond y mae hyn yn ddigon iddynt weld ei gilydd fel teulu. Meddai Fraser: ‘Mae’r golofn wedi bod yn ymarferiad mewn amddiffyniad (apologetics) o’n ffydd – ymdrech i geisio perswadio pobl ‘who don’t do God’ nad  yw’r rhai ohonom sydd ‘yn gwneud Duw’ yn gul na phenboeth (‘bigots’ yw ei air). Yr wyf wedi ysgrifennu, nid i ennill rhai i gredu ond i’w gwneud yn haws i rai fel ni adnabod y rhai sy’n gyd-deithwyr â ni, beth bynnag eu profiad ysbrydol. Os ydym ni yn y gornel seciwlar, fechan, hon o’r byd am adnabod yr 84% o’r byd sydd ag ymrwymiad crefyddol- â’r cyfartaledd hwnnw yn tyfu ac nid yn lleihau- yr ydym angen gwell dealltwriaeth o natur ffydd a’r ffordd y mae’n ffurfio a datblygu ein bywydau fel unigolion ac fel cymuned. Mae’r rhai nad ydynt ‘yn gwneud Duw’ yn credu mai ‘credu nifer o bethau’ yw ffydd. Ond mae iaith ein cred yn iaith undod ein dynoliaeth hefyd. Mae perthyn yn rhagflaenu credu. Dyna pam fod yr undod mewn amrywiaeth yn ganolog yn ein heglwys gymunedol yn Newington.’

Annigonol, wrth gwrs. Ond iaith apologetics yw iaith Fraser – i ddarllenwyr y Guardian. Roedd yn iaith gwbl angenrheidiol yn hanes cynnar Cristnogaeth ac yn iaith sy’n fwy ystyrlon ac angenrheidiol heddiw nag iaith uniongyrchol grefyddol. Mae geiriau Brendan Walsh yn ein hatgoffa mai siarad gyda’n gilydd, o fewn ein cylchoedd ein hunain yr ydym neu ddewis peidio gwrando ar neb arall. Nid yw hynny yn ddigon os am fod yn eglwys i’n hoes.

Mae angen am wenyn ledled Cymru i fod yn niwsans yn ein sefyllfa gyfforddus – argyfyngus.