Agora rhif 25 mis Mehefin 2018
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Darlith Flynyddol Ystafell Fyw Caerdydd
Darlith Flynyddol Ystafell Fyw Caerdydd
RhagorDarlith Flynyddol Ystafell Fyw Caerdydd
Cynhelir 10ed Darlith Flynyddol Stafell Fyw Caerdydd ar 19 Mehefin yn yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd, rhwng 7 a 9 y.h.
Traddodir y ddarlith ar y testun ‘Diogelu’r genhedlaeth nesaf rhag niwed’ gan yr Athro Samantha Thomas. Prifysgol Deakin, Melbourne, Awstralia.
Croeso mawr i bawb.
Gellir cofrestru ar livingroom-cardiff.com neu drwy eu ffonio ar 029 2049 3895
Cynhadledd 2018
RhagorCynhadledd Flynyddol C21
‘Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur’
yng nghwmni’r Tra Pharchedig Jeffrey John, Deon St Albans
dydd Sadwrn 30 Mehefin yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd
Lawrlwythwch y poster yma
Yn Deg Oed
RhagorYn ddeg oed
Mae Cristnogaeth 21 yn ddeg oed eleni. Mae dweud hynny braidd yn ymhonnus, wrth gwrs, fel petaem yn hawlio ‘Cristnogaeth’! Mae awgrymu mai dyma Gristnogaeth yr unfed ganrif ar hugain yr un mor ymhonnus, wrth gwrs. Parhad, atodiad, trafodaeth, amrywiaeth, darganfod, dysgu, ysgogi yw Cristnogaeth 21, a hynny’n barhad o hen, hen draddodiad. Mae’r ffydd Gristnogol wedi parhau’n ffydd fyw oherwydd bod yr eglwys a Christnogion wedi rhannu a thystio mai mudiad ydyw – neu, yng ngeirfa’r Pentecost, yr Ysbryd ar waith – a bod y gwaith a’r dystiolaeth mor fyw ac amrywiol ag erioed. Mae Cristnogaeth 21 mor hen â hynny! Mae hynny’n ...