Cynnwys Agora mis Awst 2017
(Cliciwch ar y teitl i ddewis erthygl neu sgrolio i lawr nes dewch ati)
Golygyddol Enid Morgan
Eglwys yr Alban Nerys Ann Brown
Cam Naw yr AA – Gwneud Iawn Wynford Ellis Owen
Chwyldro ar Gerdded Elfed ap Nefydd Roberts
Meddylgarwch Cristnogol Margaret LeGrice
Golygyddol – Cristion a Ffeminydd?
Cristion a ffeminydd?
Yn un o lawer golygfa arswydus yn The Handmaid’s Tale, addasiad o nofel amharadwysaidd Margaret Attwood ar y teledu, mae’r Commander yn gorfod ceisio cenhedlu plentyn ar yr arwres Ofred a hithau’n gorwedd yn offrwm iddo rhwng coesau ei wraig ddiffrwyth. Dim syndod iddo fethu cyflawni’r dasg. Methu gwylio mwy o’r rhaglen fydda innau gan nad ffantasi yn unig sydd yn y nofel ond enghreifftiau o orthrwm a chasineb at wragedd. Mae’r gyfres yn lliwio thema’r nofel yng ngoleuni digwyddiadau cyfoes, ac nid yn unig yn yr Unol Daleithiau.
Mae ...
Eglwys yr Alban
RhagorYn eu cyfarfod cyffredinol ddechrau Mehefin, pleidleisiodd cynrychiolwyr Eglwys Esgobol yr Alban i newid cyfraith yr eglwys, gan gael gwared ar y cymal athrawiaethol oedd yn nodi mai rhwng gŵr a gwraig yn unig y mae priodas.
Dyma ymateb Nerys Ann Jones sydd yn offeiriad cynorthwyol yn Eglwys Ioan Fedyddiwr, Perth.
Proses fendithiol
Eglwys fechan o bobl mewn oed yn bennaf yw Eglwys Esgobol yr Alban, ond y mae hi’n eglwys yr wyf yn falch iawn o fod yn aelod ohoni oherwydd y ffordd yr aeth ati i benderfynu sut i ymateb i bwnc mor ddyrys a dadleuol. Y bleidlais ar yr wythfed o Fehefin oedd y cam olaf ...
Gwneud Iawn
RhagorCam 9 yr AA
Prin fod teulu yng Nghymru heb brofiad o afael dinistriol alcohol a chyffuriau ar fywydau anwyliaid. Dyma’r nawfed mewn cyfres o erthyglau gan Wynford Ellis Owen, Cyfarwyddwr Ystafell Fyw Caerdydd, ar egwyddorion a phrofiad 12 cam yr AA
GWNEUD IAWN
Yn y nawfed cam byddwn yn canolbwyntio ar wyleidd-dra, cariad a maddeuant. Deilliodd y gwyleidd-dra o edrych ar y niwed achoson ni i eraill a derbyn cyfrifoldeb amdano. Cydnabyddwn i ni ein hunain: “Ie, dyma’r hyn a wnes i. Fi sy’n gyfrifol am y niwed a achosais, ac rwy am gywiro’r niwed hwnnw.” Efallai fod y broses o weithio’r camau blaenorol wedi dwysáu’r ymdeimlad ...
Meddylgarwch Cristnogol
RhagorDdeng mlynedd ar hugain a mwy yn ôl, Transcendental Meditation oedd y bont ffasiynol rhwng gweddi draddodiadol ac ysbrydoledd di-dduw, seciwlar. Mewn Hindŵaeth yr oedd gwreiddiau ‘myfyrio trosgynnol’. Heddiw, Bwdïaeth yw gwreiddiau’r Mindfulness sy’n cael ei fabwysiadu gan lawer o fudiadau seciwlar, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd.
Yma mae Margaret LeGrice yn rhoi sylw i’r pwnc:
Meddylgarwch Cristnogol
Mae ‘meddylgarwch’ neu ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd. Mae gwreiddiau’r ddisgyblaeth mewn Bwdïaeth, sy’n grefydd heb unrhyw syniad o Dduw. Dysgir meddylgarwch mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd fel modd o helpu pobl i ymdopi â phwysau’r bywyd modern. Mae dosbarthiadau yn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, mewn ysgolion, ac mewn ...
James Alison ym Mhenarlâg
RhagorDydd Mercher, 1 Tachwedd 2017, 10.30 – 4.30 o’r gloch
Llyfrgell Gladstone, Penarlâg
DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON
Rhaglen y Dydd
10.30 am – Croeso, coffi a chofrestru
11 am – Sesiwn 1:
What does it mean to be taught by Jesus
in the midst of a world in meltdown?Cylchoedd Trafod
12.30 pm – Cinio
1.30 pm – Sesiwn 2:
The sceptical mind and Church tradition
– a personal approach.Cylchoedd Trafod
3 pm – Sesiwn: Holi’r darlithydd
3.30 pm – Defosiwn
4.15 pm – Te ac ymadael
Pris: £45.00 am y darlithiau, coffi, cinio a the
Nifer cyfyngedig, felly gyrrwch air a siec o £20 ...
Trugaredd a Rhyfel
RhagorYSTYRIWCH …
Gweithredoedd Trugaredd Gweithredoedd Rhyfel
Bwydo’r newynog Dinistrio cynhaeaf a thir
Rhoi dŵr i’r sychedig ...
Chwyldro ar Gerdded
ELFED AP NEFYDD yn rhoi croeso i gyfrol bwysig newydd gan Tom Wright
CHWYLDRO AR GERDDED
Go brin y byddai unrhyw un ar yr olwg gyntaf yn deall mai cyfrol ddiwinyddol yw hon. Mae’r teitl, a chynllun y clawr du a choch, yn awgrymu mai hanes chwyldro gwleidyddol ym mhen draw’r byd a drafodir, yn enwedig a’r llyfr yn dwyn y teitl The Day the Revolution Began, a’r gair Revolution wedi’i gysodi â’i draed i fyny. Dim ond o syllu’n fwy manwl ar yr is-deitl mewn llythrennau llai y gwelir mai cyfrol yw hon yn ystyried ystyr croeshoeliad Iesu Grist.
Rhagor