Golygyddol – Cristion a Ffeminydd?

Cristion a ffeminydd?

 Yn un o lawer golygfa arswydus yn The Handmaid’s Tale, addasiad o nofel amharadwysaidd Margaret Attwood ar y teledu, mae’r Commander yn gorfod ceisio cenhedlu plentyn ar yr arwres Ofred a hithau’n gorwedd yn offrwm iddo rhwng coesau ei wraig ddiffrwyth. Dim syndod iddo fethu cyflawni’r dasg. Methu gwylio mwy o’r rhaglen fydda innau gan nad ffantasi yn unig sydd yn y nofel ond enghreifftiau o orthrwm a chasineb at wragedd. Mae’r gyfres yn lliwio thema’r nofel yng ngoleuni digwyddiadau cyfoes, ac nid yn unig yn yr Unol Daleithiau.

Mae Arkansas newydd ddeddfu na chaiff unrhyw wraig erthylu plentyn. Dim byth – boed y plentyn yn ganlyniad llosgach neu drais, neu’n dioddef o ryw glefyd marwol, neu os yw meddygaeth yn dangos ei fod wedi marw eisoes yn y groth neu heb ymennydd iddo fedru byw mwy nag ychydig ddyddiau. Yn y nofel (ac mewn llawer o wledydd yn y byd) nid oes angen gofyn i wraig neu ferch ifanc am ei chydsyniad. Mae hi yno i gael ei rheoli gan wrywod. Yn San Salvador y mae merch ifanc a dreisiwyd ac a gamesgorodd wedi cael ei charcharu am 30 mlynedd. Enghraifft enbyd arall o feio’r un sy wedi cael cam.

Mae’r nofel newydd Pantywennol gan Ruth Richards yn trin thema rhwystredigaeth gwragedd hefyd. Mae’r arwres yn cymryd at rwygo dillad fel yr unig ffordd o fynegi ei dicter. Mewn nofel newydd Saesneg gan Naomi Alderman, The Power, awn i fyd lle y mae gwragedd wedi ennill y dydd drwy ennill y grym i ladd dynion heb rwystr. Gweledigaeth lawn mor amharadwysaidd ag un Margaret Atwood! Ond mae’n dangos bod patriarchaeth yn y bôn yn dibynnu ar gryfder corfforol i reoli a thra-arglwyddiaethu, ac mae meddu pŵer yn warant i wrywod crefyddol ddefnyddio crefydd i roi sêl bendith ‘Duw’ ar drefniadau patriarchaidd. Mae gwrthod cydnabod yr elfen batriarchaidd yn yr Hen Destament a’r Newydd yn ddallineb bwriadol.

Beth felly am Gristnogaeth y 21 ganrif ?

Bu cyfnod yn y dyddiau cynnar pan oedd y gymuned o wŷr a gwragedd o gwmpas Iesu o Nasareth yn creu perthynas newydd rhwng gwŷr a gwragedd – a doedd hynny ddim yn hawdd. O ymchwilio i hanes yr eglwys fore, ymddengys i’r gwragedd hynny, ac yn arbennig Mair Magdalen, Mair a Martha ym Methesda a gwragedd fel Phoebe, Lydia a Deborah, chwarae rhan bwysig yn yr eglwys fore. Roedd y bywyd newydd a ddaeth trwy ddilyn Iesu yn beth cyffrous a chreadigol a newydd – ond yn hynod beryglus yn niwylliannau patriarchaidd Iddewiaeth, a byd Groeg a Rhufain. Buan iawn y mae’r Testament Newydd yn dechrau talu sylw i beth fydd pobl eraill yn ei feddwl am wragedd rhydd ac anghonfensiynnol.

Eleni mae tipyn o sôn wedi bod am Martin Luther – ond yr oedd yntau hefyd yn gynnyrch ei ddiwylliant patriarchaidd yn ogystal â’i ddiwinyddiaeth eglwysig. Wnaeth y Diwygiad Protestannaidd fawr ddim o blaid gwragedd. Roedd rheolaeth gwrywod yn amhosibl ei herio a thestunau ‘sanctaidd’ yn gwahardd meddwl pellach ar y pwnc. Pa syndod fod cynifer o wragedd wedi mewnoli’r rhagdybiaethau hyn i gyd a derbyn gwaharddiadau am mai ‘dim ond merch wyt ti’ neu ‘dyw merched ddim yn gallu/cael gwneud hynna’.

Mae’r un broses yn dal i reoli rhai carfanau Cristnogol yn ein dyddiau ni. Mae newidiadau pwysig yn digwydd yn eithriadol o gyflym yn ein cymdeithas a hen ragfarnau a diffyg dealltwriaeth wrth i’r gymuned LBTQ fynnu ei hawliau a herio anghyfiawnder a gwawd. Ond mae grŵp o lythyrenolwyr Cristnogol wedi mynegi gofid am y rhai sy’n mynd trwy’r broses o newid categori eu rhywedd am ei fod, yn eu tyb hwy, ‘yn wrthryfel yn erbyn Duw’. Sut? Mae’r Beibl yn dweud bod Duw wedi creu’r ddynoliaeth yn wryw ac yn fenyw. A dyna ddigon i osgoi gwrando ar brofiadau real pobl go iawn. Honnir nad yw ‘Duw’ yn gwneud camsyniadau.

Mae defnyddio’r ysgrythurau fel esgus am wrthod gwrando ar brofiadau pobl mewn enbydrwydd corff ac enaid yn beth llwfr ac anonest, yn ogystal â bod yn dwp. Dyma fersiwn cyfoes o gredu bod y byd yn wastad pan yw pawb yn gwybod ei fod yn grwn. Pan fydd ffug-dduwioldeb yn cael ei ddefnyddio i bastynu pobl am fod fel ag y maen nhw, does dim syndod bod pobl yn troi eu cefnau ar grefydd. ‘Mae’r eglwys wedi brifo cymaint o bobl,’ medd Jean Vanier, ‘ond beth sy’n cyfrif yw medru cynnyddu mewn tosturi’.

Cawn garfan sylweddol o seciwlariaid sy’n casáu unrhyw grefydd, a Christnogaeth yn arbennig am mai Cristnogaeth sydd wedi’u brifo. Mae Islamoffobia yn ymborthi ar y ffordd y mae patriarchaeth yn y grefydd honno yn gorthrymu gwragedd. Unrhyw esgus. Ac mae’n gyfrifoldeb ar gredinwyr Cristnogol ac Islamaidd i wynebu patriarchaeth sy’n gwrthod dehongli ysgrythurau mewn ffordd sy’n ein galluogi i dyfu mewn tosturi.

Flynyddoedd yn ôl bûm yn dadlau am ffeministiaeth gyda gwraig ifanc ddeallus ac annwyl iawn, yr oedd ei diwinyddiaeth yn dra cheidwadol. Meddai hi, ‘Nid mater o ddwyn Crist dan feirniadaeth ffeministaidd yw hi, ond rhoi ffeministiaeth dan feirniadaeth Crist.’ ‘Siŵr iawn,’ meddwn i! ‘A beth am roi patriarchaeth hefyd dan farn Crist?’

Pan ddaeth criw o ddynion â gwraig a ddaliwyd mewn godineb i’w barnu gan Iesu, fe droes ef yr achlysur i ddatguddio eu rhagrith hwy. Pan oeddwn i’n blentyn doeddwn i ddim yn deall i ble roedd y partner yn y godineb wedi diflannu!

Dim ond trwy edifeirwch a gweithredu’n wahanol y gallwn fynd ymlaen gan sylweddoli bod y gyfundrefn o dra-arglwyddiaethu sy’n creu rhyfel a gorthrwm ar wŷr a gwragedd yn llygru bywyd y ddynoliaeth gyfan a bod gorthrymu gwragedd a’u trin fel plant yn rhan o broblem fwy. Rhyfel a gorthrwm, anghyfartaledd a phatriarchaeth, gwanc am fwy a mwy a mwy … Anodd gollwng gafael ar bŵer, ac anos fyth gwrthsefyll y demtasiwn i feddwl y byddai troi’r drol yn datrys y broblem.

Ond mae doniolwch yn hyn hefyd, oherwydd mae profiadau gwŷr a gwragedd yn fiolegol wahanol, ac o ganlyniad yn seicolegol, yn emosiynol, a hyd yn oed yn ysbrydol wahanol. Mae gan un o genhedloedd cynhenid America stori berthnasol am y broblem. Fe benderfynodd y gwrywod rywdro eu bod nhw wedi cael llond bol ar y gwragedd – roedden nhw’n gwneud llanast o bethau ac yn rhoi pwysau arnyn nhw i ofalu am y plant ac ati. Penderfynwyd symud i fyw i ynys lle na fyddai gwragedd yn cael dod o gwbl. Dim ond y bechgyn. Gall y gwragedd sefyll ar ôl. Roedd y gwragedd yn reit fodlon am gyfnod. Aeth bywyd ymlaen yn reit dwt heb i’r dynion fod yn ymyrryd yn barhaus a chogio mai nhw oedd bwysica. Ond ar ôl ychydig flynyddoedd dyma’r dynion yn dechrau diflasu. Roedd bywyd braidd yn undonog; doedd y bwyd ddim cystal yn un peth. A dyma’r gwragedd yn sylweddoli eu bod nhw’n dechrau chwennych babanod ac roedd peth o’r gwaith llwytho a chario yn cymryd mwy o amser heb y dynion i helpu. Ac fe gynyddodd yr amheuaeth a oedden nhw wedi gwneud y peth iawn.

Os cofiaf yn iawn, y foeswers oedd bod y dynion wedi dychwelyd i fyw gyda’r gwragedd yn fwy amyneddgar, yn fwy goddefgar a gwerthfawrogol nag erioed o’r blaen. A oedd hi’n baradwys – dwn i ddim! Dechrau gweddol fyddai cael gwared ar drais yn y cartref, ac ar faldod ‘merchetaidd’.