Agora 36 mis Tachwedd-Rhagfyr 2019

Agora rhif 36 mis Tachwedd – Rhagfyr 2019

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Cofiwch ailymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Duw yr holl genhedloedd
John Owen

Y dydd o brysur bwyso…
Gethin Rhys

Arswyd
O’r gyfrol Y Nadolig Cyntaf, Vivan Jones (PLlJ)

Nadolig y Stryd 2018
Cerdd gan Gareth Ioan

Pa dôn sy orau?
Neville Evans

Coda dy lais!
Geraint Rees

Cywiro Traddodiad!
Enid Morgan

Gweddi Movember
Geraint Rees

Gweddi yn seiliedig ar gyffes Karl Barth
Geraint Rees

Graffiti ar furiau crefydd
Geraint Rees

  • Duw yr holl genhedloedd

    Duw yr holl genhedloedd

    O Dduw yr holl genhedloedd,
    dy holl broffwydi gynt
    fu’n herio pob sefydliad
    a phob brenin ar ei hynt.
    Onestrwydd sydd yn werthfawr
    a’r gwir a saif rhyw ddydd,
    dy heddwch a’th gyfiawnder
    ynghlwm wrth gariad fydd.

    O Dduw, mewn dyddiau dyrys
    a chelwydd fel y gwir,
    â’r grymus yn eu balchder
    yn gwrthod cerydd clir.
    Pan welir chwant yn rhinwedd
    a chyfiawnder yn y baw,
    O am i’n harweinyddion
    ddewis dy ddehau law.

    Boed iddynt weld doethineb
    gan herio’r freuddwyd gau,
    wrth arwain gwlad ymdrechgar
    ar lwybrau sy’n iacháu.
    Boed iddynt weledigaeth
    sy’n parchu cyfraith dda,
    rhoi heibio pob uchelgais
    a herio’r ffug sy’n ...

    Rhagor
  • Arswyd

    Arswyd

     … a daeth arswyd arnynt. (Luc 2.9)

    Eglantyne Jebb (sylfaenydd Cronfa Achub y Plant) ddywedodd, ‘Mae pob rhyfel, cyfiawn neu anghyfiawn, aflwyddiannus neu fuddugoliaethus, yn rhyfel yn erbyn plant!’ Nid mater academaidd, damcaniaethol mo hwn. Mae miliynau o blant yn dioddef yn y byd. Yn Affrica, India (Yemen, Irac, Gasa a.y.b.) yn y byd. Am nad oes ganddynt gartrefi … am nad oes ganddynt ddŵr glân …. am i’w rhieni farw o Aids … am eu bod yn dysgu defnyddio drylliau cyn dysgu darllen llyfr. Mae plant yn dioddef yn ein gwlad ninnau hefyd. Am mai plant yw eu rhieni … am eu bod o dan ddylanwad cyffuriau yn y groth … am mai Barbies ...

    Rhagor
  • Pa dôn sy orau

    Pa dôn sy orau?

    Yn ddiweddar cefais brofiad arbennig mewn oedfa wrth ganu’r geiriau cyfarwydd, ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus …’ (Rhif 780 yn Caneuon Ffydd) ar y dôn gyfarwydd Calon Lân (Rhif 634). Pam profiad arbennig? Am fod yr emyn yn digwydd mewn oedfa ac nid mewn angladd neu mewn gêm rygbi. Mae’r ddau achlysur hyn yn peri i mi ryfeddu a gwingo oherwydd yn y naill a’r llall mae’n anodd canfod unrhyw argyhoeddiad crefyddol ymhlith y mwyafrif o’r cantorion/bloeddwyr; go brin y gellir sôn am naws. At hyn mae’r dryswch yn dwysáu o dderbyn bod y mwyafrif o’r rhai sy’n canu (gydag arddeliad, rwy’n cydnabod) heb ddigon o’r ...

    Rhagor
  • Gweddi ar sail cyffes Karl Barth

    Gweddi yn seiliedig ar gyffes gan Karl Barth

    O Arglwydd ein Duw, fe wyddost pwy ydym:
    pobl â chydwybod dda a rhai â chydwybod ddrwg,
    personau sy’n fodlon a’r rhai sy’n anfodlon, y sicr a’r ansicr,
    Cristnogion o argyhoeddiad a Christnogion o arferiad,
    y rheiny sy’n credu, a’r rhai hynny sy’n hanner credu, a’r rhai sydd yn anghredu.
    Fe wyddost o ble y daethom:
    oddi wrth gylch o berthnasau, o gydnabod a chyfeillion, neu o’r unigrwydd mwyaf llethol;
    o fywyd ffyniannus a thawel, neu o ddryswch a gofid;
    o deulu trefnus neu o gefndir sy’n anhrefnus, neu sydd o dan straen;
    o gylch mewnol y gymuned Gristnogol neu ...

    Rhagor
  • Cywiro traddodiad

    CYWIRO TRADDODIAD!

    Am gyfnod dros y ddeufis nesaf fe fydd grwpiau o Gymry’n canu’r gydag argyhoeddiad anwybodus y geiriau:

    Ein Meichiau a’n Meddyg, dan fflangell Iddewig
    Ar agwedd un diddig, yn dioddef,
    A’i farnu gan Peilat, a’i wisgo mewn sgarlat
    Gan ddynion dideimlad, rhaid addef.

    Oherwydd gyda’r Sul cyntaf yn Adfent ar Ragfyr 1af eleni y mae tymor y plygeiniau’n cychwyn a gall barhau tan Ŵyl Fair y Canhwyllau ar Chwefror 2il.

    Mae’r llinellau uchod yn ddyfyniad o Garol y Swper, sy’n cael ei chanu ar ddiwedd y blygain gan y dynion. Beth yw sail y gair Iddewig yn y fan hon? Dywed Efengyl Ioan:

    Yna cymerodd Pilat Iesu, ...

    Rhagor
  • Y dydd o brysur bwyso

    Y dydd o brysur bwyso …

    Why don’t you stand up for what your constituents voted for? I think it’s disgusting!

    Fe waeddwyd y geiriau hyn gan y ferch o’r Cymoedd oedd yn eistedd tu cefn i mi yn sesiwn holi ac ateb yr eglwysi yn etholaeth Castell-nedd. Fe enynnodd y sylw don o gymeradwyaeth gan y rhan fwyaf o’r gynulleidfa, ac roedd hi’n anodd i Christina Rees, AS, gael gwrandawiad i’w hateb – sef y byddai Brexit yn niweidio’r union bobl oedd yn eistedd o’i blaen.

    Yn yr eiliad yna y sylweddolais fod y Blaid Lafur wedi colli ymddiriedaeth ei phobl ei hun, yng nghymoedd de Cymru gymaint ag yn nhrefi ...

    Rhagor
  • Nadolig y Stryd 2018

    Nadolig y Stryd 2018

    Roedd dau wedi teithio o’r gogledd,
    I brofi’r brifddinas a’i stŵr.
    Dau docyn ar fws y Traws Cymru:
    Bydd llety yn rhywle mae’n siŵr.

    Rôl cerdded y strydoedd, gan synnu
    At fwrlwm a chynnwrf y lle,
    Fe ddaeth nos, a hwythau heb lwyddo
    Cael gwely yn unman drwy’r dre’.

    A hithau yn feichiog ers wythmis
    Dechreuodd hi wingo mewn poen.
    Cael babi ar strydoedd y ddinas Gefn gaeaf?
    Wel! Pwy fydde‘ mo’yn?!

    Daeth merch oedd yn gwerthu’r Big Issue
    I ffonio am ambiwlans brys;
    Ond gan bod hi’n Nos Wener Wirion
    Doedd ...

    Rhagor
  • Graffiti ar furiau crefydd

    Graffiti ar furiau crefydd

    Mae natur agored y we yn gwbl drawsnewidiol o ran ei gallu i rwydweithio pobl o farn debyg ar draws y byd. Ar un llaw mae iddi ei ochr sinistr, gyda rhai’n ei defnyddio fel ffordd o ymgysylltu mewn drygioni, rhai eraill yn ei defnyddio i ledu dogma wleidyddol neu grefyddol. I mi, llawenydd y we yw fy mod yn wynebu cysur a her ddyddiol wrth ddatblygu fel Cristion ac fel person, a hynny ers dyddiau coleg pan oedd popeth yn ...

    Rhagor
  • Gweddi Movember

    Gweddi Movember

    Nefol dad, a hithau bron yn ddiwedd ein Tachwedd ni, neu Fis Du ein cefndryd Llydewig, gweddïwn dros ddynion sydd yn profi effaith tywyllwch gormesol y gaeaf yn eu heneidiau. Sylweddolwn fod cynifer ohonom wedi cael ein dysgu o’n plentyndod i guddio ein gwendid a’n hangen, ac yn methu bod yn agored pan ddaw munudau llethol heibio.

    Maddau i ni am y cyfleoedd yr ydym wedi eu colli dros y blynyddoedd i gynnig llaw garedig neu glust amserol i unigolyn fu yn y fath angen, a hynny am ein bod yn ...

    Rhagor
  • Coda dy lais!

    Gŵyl Coda 2020
    24–26 Gorffennaf 2020
    Fferm Dôl Llys, Llanidloes

    Amrywiol, cynhwysol, croesawgar, hael

    Cymuned ar wasgar: yn uno ein celfyddyd, ein ffydd, ein creadigrwydd a’n gweithredu ac yn creu gofod lle gallwn ysgogi ein gilydd. Dyma ŵyl sydd yn denu ac yn gallu ysbrydoli pobl, eglwysi a chymunedau tuag at ffydd a gweithred.  

    Yn 2018 fe gynhaliwyd yr ŵyl gyntaf gan CODA ar gaeau maes carafannau a gwersylla Dôl Llys. Dyma’r casgliad Cymreig agosaf at egwyddorion C21 y gwyddwn i amdano. Y llynedd cafwyd penwythnos yn y Gymraeg a’r Saesneg wedi ei ...

    Rhagor