Pa dôn sy orau

Pa dôn sy orau?

Yn ddiweddar cefais brofiad arbennig mewn oedfa wrth ganu’r geiriau cyfarwydd, ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus …’ (Rhif 780 yn Caneuon Ffydd) ar y dôn gyfarwydd Calon Lân (Rhif 634). Pam profiad arbennig? Am fod yr emyn yn digwydd mewn oedfa ac nid mewn angladd neu mewn gêm rygbi. Mae’r ddau achlysur hyn yn peri i mi ryfeddu a gwingo oherwydd yn y naill a’r llall mae’n anodd canfod unrhyw argyhoeddiad crefyddol ymhlith y mwyafrif o’r cantorion/bloeddwyr; go brin y gellir sôn am naws. At hyn mae’r dryswch yn dwysáu o dderbyn bod y mwyafrif o’r rhai sy’n canu (gydag arddeliad, rwy’n cydnabod) heb ddigon o’r Gymraeg i ddeall ystyr y geiriau. 

Beth bynnag, yn yr oedfa fendithiol hon roedd emyn 780 yn cydweddu’n gain â thri emyn arall (869, 816, 852) a chyda’r darlleniadau (Mathew 25:31–46, ‘yn gymaint ag i chwi …’ a Mathew 6:19–21, ‘Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear …’). Roedd y dewisiadau hyn yn sail ac yn ffrâm i’r myfyrdod oedd yn ein herio i ystyried sut y byddwn yn dewis ac yn casglu eiddo, cwmni a phrofiadau hoff, ac yna’n eu rhannu.

Wrth ganu a gwir geisio darllen ac ystyried y geiriau (nid hawdd, oherwydd rhaid mynd gyda’r organ), meddyliais fod y ddau neu dri bar sy’n cloi cytgan Calon Lân yn negyddu prif neges y geiriau. Y neges honno yw bod y galon lân yn medru canu YN Y NOS ac yn y dydd. Y gamp fawr/ y synhwyro deallus/ y sylweddoliad/ y weledigaeth yw bod y galon lân (y person cytbwys, cywir) yn medru canu (gorfoleddu/ bod yn gadarnhaol/ wynebu bywyd yn obeithiol) yn y NOS (cyfnodau tywyll, trist, bygythiol bywyd). Bron y gellir cynnig bod yr emyn yn mynegi’r hyn sy’n agos at fod yn hunan-eglur, sef y gall unrhyw galon (pawb ohonom) ganu yn y DYDD (cyfnodau hapus bywyd – dim problem, dim pryder). Her arall yw canu yn y nos; dyna pryd mae angen rhuddin gwahanol, personoliaeth gadarn, golwg wahanol ar fywyd, ffydd ac argyhoeddiad ysbrydol.  

Os canwch ddiweddglo cytgan Calon Lân fe brofwch fod y nodyn uchaf – y floedd – yn seinio ‘dydd’ cyn disgyn yn flinedig at y ‘nos’. Onid fel arall y dylai fod? Oes ateb? Y symlaf yw cyfnewid y geiriau ‘nos’ a ‘dydd’, ond byddai hynny, medd rhai, yn tramgwyddo’r odl rhwng ‘nos’ a ‘dlos‘. Ond, meddwn i, pwy sy’n poeni am odl neu’n clywed odl mewn cerddoriaeth?

Beth am ddewis tôn arall i’r geiriau? O chwilio Caneuon Ffydd cefais fod digon o ddewis, gan fod y mesur M10/87.87.D. yn boblogaidd iawn, y mwyaf poblogaidd gyda 65 o donau. Yn eu plith ceir rhai adnabyddus iawn, megis Dusseldorf (162), Hyfrydol (218), Arwelfa (516) a Blaenwern (595). Gyda hyn o wybodaeth yn codi fy ysbryd es ati i archwilio pob un o’r 65, ond fe gefais siom fawr; dim ond pump (19, 21, 72, 190, 543) sy heb ‘fai’ 780, sef diweddglo disgynedig yn y gytgan, ac felly ‘dydd’ yn cael llawer mwy o sylw na ‘nos’.

Wrth gwrs, rhaid cydnabod cyfraniad gwerthfawr cytgan i godi’r cantorion, boed mewn angladd neu ornest rygbi. O blith y 65 tôn ar y mesur M10/87.87.D. tair yn unig sydd â chytgan, sef 110, 190 a 634, hynny yw, cytgan sy wedi’i hargraffu ar wahân i’r penillion. Ond, daliwch eich gwynt, mae dwy arall, 21 a 373, lle mae pedair llinell yn guddiedig oddi mewn i bob pennill ac felly yn fath o gytgan. Pam dewiswyd y fformat hwn?

I gloi. A oes tôn ar wahân i ‘Calon Lân’ sy’n gweddu’n well i’m dehongliad i o’r geiriau? Oes, Sanctus (21). Mi wn yn iawn y bydd rhai cynulleidfaoedd, arweinyddion cymanfa a chodwyr canu capel yn protestio bod Sanctus yn gadwedig mewn glân briodas â’r geiriau, ‘Glân geriwbiaid a seraffiaid …’ Ond, ystyriwch. Mae agoriad Sanctus yn ogoneddus o fynegiant o fwriad: ‘NID wy’n gofyn …’ Mae Calon Lân yn wannaidd yma. Mantais arall sydd gan Sanctus yw’r barrau ar ddiweddglo’r gytgan lle mae’r tenoriaid yn dyrchafu a bywiocáu, yn enwedig yn y nos.

A oes côr neu gynulleidfa sy’n barod i fentro?

Neville Evans