Archifau Categori: Agora 36

Duw yr holl genhedloedd

Duw yr holl genhedloedd

O Dduw yr holl genhedloedd,
dy holl broffwydi gynt
fu’n herio pob sefydliad
a phob brenin ar ei hynt.
Onestrwydd sydd yn werthfawr
a’r gwir a saif rhyw ddydd,
dy heddwch a’th gyfiawnder
ynghlwm wrth gariad fydd.

O Dduw, mewn dyddiau dyrys
a chelwydd fel y gwir,
â’r grymus yn eu balchder
yn gwrthod cerydd clir.
Pan welir chwant yn rhinwedd
a chyfiawnder yn y baw,
O am i’n harweinyddion
ddewis dy ddehau law.

Boed iddynt weld doethineb
gan herio’r freuddwyd gau,
wrth arwain gwlad ymdrechgar
ar lwybrau sy’n iacháu.
Boed iddynt weledigaeth
sy’n parchu cyfraith dda,
rhoi heibio pob uchelgais
a herio’r ffug sy’n bla.

O Dduw yr holl genhedloedd,
i’r rhai sydd wrth y llyw
boed iddynt weld cyfiawnder
yn fendith dynolryw,
Y gwir a ddaw â rhyddid
a dewrder loywach nen,
a’r wlad a garwn ninnau
a wêl y da yn ben.

Carolyn Winfrey Gillette; trosiad J.O.
(Tôn: Llangloffan)

Rhoddir caniatad i ddefnyddio’r emyn yn rhad / Permission is given for free use of this hymn, gyda diolch i emynyddes.

Gellir gweld rhagor o emynau ar ei gwefan.

 

 

Y dydd o brysur bwyso

Y dydd o brysur bwyso …

Why don’t you stand up for what your constituents voted for? I think it’s disgusting!

Fe waeddwyd y geiriau hyn gan y ferch o’r Cymoedd oedd yn eistedd tu cefn i mi yn sesiwn holi ac ateb yr eglwysi yn etholaeth Castell-nedd. Fe enynnodd y sylw don o gymeradwyaeth gan y rhan fwyaf o’r gynulleidfa, ac roedd hi’n anodd i Christina Rees, AS, gael gwrandawiad i’w hateb – sef y byddai Brexit yn niweidio’r union bobl oedd yn eistedd o’i blaen.

Yn yr eiliad yna y sylweddolais fod y Blaid Lafur wedi colli ymddiriedaeth ei phobl ei hun, yng nghymoedd de Cymru gymaint ag yn nhrefi diwydiannol gogledd Lloegr, ac mai mwyafrif sylweddol i’r Ceidwadwyr fyddai canlyniad yr etholiad. O’r acenion a’r sylwadau wnaed gan y gynulleidfa ar faterion eraill yn ystod y sesiwn, mae’n amlwg mai cefnogwyr traddodiadol Llafur oedd wrthi. Roedden nhw’n dal yn gefnogol i Wasanaeth Iechyd Gwladol, i hawliau yn y gweithle, i wariant cyhoeddus. Ond roedden nhw hefyd yn awchu am ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – Undeb a oedd, meddent, wedi newid yr economi leol ac arwain at grebachu’r diwydiant dur yn Aberafan, sugno buddsoddiad a swyddi o’r Cymoedd i fannau eraill yn Ewrop, a gorfodi eu plant i symud o’u cynefin i chwilio am waith. Doedden nhw ddim yn gallu deall o gwbl pam yr oedd eu Haelod Seneddol nhw yn ymladd dros yr union wrthwyneb i’r hyn yr oedden nhw wedi pleidleisio drosto ym Mehefin 2016.

Fe sylweddolodd nifer o’r ymgeiswyr eraill beth oedd yn digwydd, a bu i bron bob un rywbryd yn ystod y noson ddweud: “Rydych chi wedi pleidleisio dros y Blaid Lafur am ganrif – ac i beth?” Cymeradwyaeth bob tro – hyd yn oed i’r Ceidwadwr! Fe gadwodd Christina Rees ei sedd ar Ragfyr 12, ond gyda mwyafrif wedi’i haneru, a gyda’r Ceidwadwr yn ail. Am y tro cyntaf ers 1959, fe gafodd hwnnw dros 10,000 o bleidleisiau (ac roedd poblogaeth Castell-nedd yn dipyn mwy ym 1959 nag ydyw heddiw).

Beth bynnag arall feddyliwch chi am Boris Johnson, mae’n feistr ar y slogan etholiadol llwyddiannus. Mae Take Back Control yn llefaru o hyd i bobl y Cymoedd – pobl sydd wedi dioddef syniadau pobl eraill yn cael eu gwthio arnynt ers i’r Cymoedd droi o fod yn rhai amaethyddol i fod yn rhai diwydiannol. Mi roedd Get Brexit Done yr un mor effeithiol.

Mae pobl y Cymoedd, a llawer man arall, wedi gwylio’n syfrdan wrth i Senedd San Steffan fethu cytuno ar ddim am dair blynedd a hanner. Pobl ‘glyfar’ yn chwarae gemau seneddol heb fedru esbonio i drwch y boblogaeth i beth na pham. Roedd addewid Mr Johnson mai un ffordd yn unig oedd o ddiweddu hyn – nid ail refferendwm na rhagor o negodi, ond cyflawni canlyniad refferendwm 2016 – yn neges syml a chlir. Wrth i mi sgrifennu hyn ar Ragfyr 17, mae ei gabinet wrthi yn gosod y cyfreithiau yn eu lle i wireddu’r addewid.

Roedd canlyniad yr etholiad yng Nghymru yn debyg iawn i’r canlyniad yn Lloegr, sef darlunio ac agor ymhellach y gagendor rhwng y brifddinas a gweddill y wlad. Mae un o fy merched yn byw yn Putney – yr unig sedd ym Mhrydain gyfan i Lafur ei chipio gan y Ceidwadwyr. Rydw i’n byw yng Ngogledd Caerdydd – yr unig sedd yng Nghymru lle cynyddodd y Blaid Lafur ei mwyafrif dros y Ceidwadwyr (er i Jo Stevens yng Nghanol Caerdydd ddod yn agos iawn at gyflawni’r un gamp). Mae’n swyddogol, felly – mae fy nheulu i yn gyflawn aelodau o’r metropolitan élite.

Pobl fel fi, felly, ddylai fod yn gwrando fwyaf astud ar bobl fel y ferch y tu cefn i mi yng Nghastell-nedd. Rydym wedi methu’n lân â deall rhwystredigaeth cynifer o’n pobl at wleidyddiaeth sy’n gêm yn hytrach nag yn fodd o wella bywydau pobl, sy’n fwy o seiat na ffordd o ddatrys problemau. Mae’r mantra a ailadroddwyd droeon gan ymgeiswyr yn y cyfryngau (ac yn nau, o leiaf, o gyfarfodydd holi’r eglwysi yng Nghymru), nad oedd pobl a bleidleisiodd i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn gwybod dros beth yr oedden nhw’n pleidleisio, yn darlunio’r dirmyg sydd gan yr élite at y werin datws. Roedd sylw fy nghymydog yng Nghastell-nedd yn darlunio’r annealltwriaeth lwyr o pam na all ein harweinwyr wrando ar y bobl maen nhw’n ceisio’u harwain.

Nid mater o bolareiddio rhwng ‘Gadael’ ac ‘Aros’ yn unig yw hyn. Mae ymchwil Coleg y Brenin, Llundain, yn dangos fod yna gryn dipyn yn gyffredin rhwng pobl bleidleisiodd y naill ffordd a’r llall – ac nad yw cri Boris Johnson y bore wedi’r etholiad, Let the healing begin, mor afrealistig ag y tyb rhai.

Y darlun poblogaidd yn y prifddinasoedd yw bod y sawl a bleidleisiodd i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn ddynion boliog â thatŵs, yn hiliol ac yn rhagfarnllyd eu hagweddau, ac yn ddi-addysg. Fe ddylai ystyried am eiliad yn unig ddweud wrthym nad felly mae 52% o bleidleiswyr ynysoedd Prydain! Doedd neb yn cyfateb i’r disgrifiad hwnnw yng nghyfarfod Castell-nedd. Yn wir, mamau’r cwm oedd y mwyaf llafar o blaid Brexit, a rhesymau asgell chwith ynghylch datblygu’r economi a lleihau nerth y grymoedd economaidd oedd ganddynt am hynny. Soniodd neb am fewnfudo.

Mae hi hefyd yn rhan o fytholeg y refferendwm fod pobl a bleidleisiodd ‘Gadael’ yn ddigymrodedd. Nid felly yn Nhŷ’r Cyffredin; methiant yr Aelodau Seneddol o blaid Aros i gyfaddawdu sydd wedi ein dwyn i’r sefyllfa bresennol. Mae ymchwil academaidd yn dangos fod yr un duedd ymysg y boblogaeth yn gyffredinol – yr ochr Aros sy’n ei chael hi’n anodd i wrando a chyfaddawdu, nid yr ochr Gadael. Y methiant hwnnw a’r chwalfa etholiadol ddaeth yn ei sgil sy’n golygu y gall Mr Johnson nawr wthio drwodd Brexit caletach nag yr oedd hyd yn oed y rhan fwyaf o’i gefnogwyr ei hun am ei weld.

Y wers, felly? Gwrandewch! Mae angen i’r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wrando’n astud iawn ar y bobl maen nhw’n ceisio’u denu i’w corlan. Mae’r Blaid Lafur yn enwedig mewn sefyllfa anodd iawn y tu allan i Gaerdydd. Fe gollwyd pob un ond un o’i seddi yng ngogledd Cymru, ac fe fu ymgeiswyr llwyddiannus y Ceidwadwyr yno yn ymgyrchu’n galed iawn ar y Gwasanaeth Iechyd. Mae methiant Llywodraeth Cymru i ddatrys sefyllfa ofnadwy Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn mynd i beri trafferthion mawr iddynt yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2021.

Am ryw reswm, mae’r cyfryngau Prydeinig wedi methu rhoi sylw i sgandal gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf – sgandal cyn waethed ag unrhyw beth sydd wedi digwydd yn Lloegr. Dyma’r Bwrdd Iechyd sy’n gwasanaethu llawer o gymoedd de Cymru, ac mae’r ffordd y caniatawyd i’r sefyllfa waethygu er bod pryderon wedi eu codi droeon, ac er gwaethaf sawl ymgais i chwythu’r chwiban, yn codi llawer o gwestiynau ynghylch a yw llywodraethwyr Caerdydd yn gwrando ar y cymoedd sydd gerllaw iddynt. Mae ymchwiliadau yno yn parhau, a fydd dim ond angen i un papur newydd neu sianel deledu Brydeinig afael yn y stori i enw da’r Blaid Lafur ynghylch y Gwasanaeth Iechyd gael ei ddarnio’n llwyr.

Mae Plaid Cymru hefyd mewn trafferthion. Fe lwyddon nhw i gynyddu eu mwyafrifoedd yng Ngwynedd a Cheredigion – ardaloedd a bleidleisiodd dros Aros – drwy ganolbwyntio ar Brexit. Fe dorrwyd y mwyafrif yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am yr un rheswm. Ond yng ngweddill Cymru, trydydd neu waeth ddaethon nhw ym mhob sedd. Does dim un sedd darged realistig ar lefel San Steffan bellach i Blaid Cymru; dim ond ymladd i gadw’r pedair sydd ganddyn nhw fydd eu hanes am y tro, a hynny heb y fantais o allu addo parhau i ymladd dros Aros. A fydd y Blaid yn gallu gwrando ar eu cefnogwyr hwythau – llawer ohonynt yn fwy Ewrosgeptig na’u harweinyddiaeth – a llunio naratif newydd ar gyfer Cymru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd?

Mae’n debyg mai’r peth caredig yw tynnu llen dros helynt y Democratiaid Rhyddfrydol. O fewn y flwyddyn nesaf byddant wedi colli prif bwrpas eu bodolaeth. Nid yw eu hymarweddiad, a’r holl siartiau bar amheus, wedi ennill lawer o ffrindiau iddynt, hyd yn oed ymhlith pobl sydd yn agos iawn atynt o ran polisi – fel y dangosodd gorfoledd anhygoel Nicola Sturgeon o weld Jo Swinson yn cael ei threchu.

Fe fydd y gêm wleidyddol yn parhau, wrth gwrs, er o dan amodau newydd sicrwydd Brexit. Ond y cwestiwn sylfaenol ac arhosol i bawb sy’n poeni am ddyfodol ein gwlad yw a fydd y bobl sydd yn llywio’r wlad – yn yr eglwysi, y trydydd sector, y cyfryngau a sefydliadau eraill, yn ogystal â’r pleidiau gwleidyddol – yn dysgu eto sut i wrando. Gwrando ar ei gilydd, ie, ond yn bwysicach gwrando ar bobl gyffredin. Fe fydd Brexit yn cyflwyno newidiadau mawr i’n heconomi ac i’n cymunedau; fe fydd effeithiau’r argyfwng hinsawdd yn newid llawer mwy. Gallwn ymdopi â hyn dim ond trwy wrando ar y gwir arbenigwyr ynghylch eu cymunedau, sef y bobl sy’n byw yno ac yn eu cadw i fynd. Y gwleidyddion fydd yn gwneud hynny fydd yn hawlio ein parch a’n cefnogaeth yn y pen draw.

Gethin Rhys

Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru), ond barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a ysgrifennwyd ar 17 Rhagfyr 2019.

Arswyd

Arswyd

 … a daeth arswyd arnynt. (Luc 2.9)

Eglantyne Jebb (sylfaenydd Cronfa Achub y Plant) ddywedodd, ‘Mae pob rhyfel, cyfiawn neu anghyfiawn, aflwyddiannus neu fuddugoliaethus, yn rhyfel yn erbyn plant!’ Nid mater academaidd, damcaniaethol mo hwn. Mae miliynau o blant yn dioddef yn y byd. Yn Affrica, India (Yemen, Irac, Gasa a.y.b.) yn y byd. Am nad oes ganddynt gartrefi … am nad oes ganddynt ddŵr glân …. am i’w rhieni farw o Aids … am eu bod yn dysgu defnyddio drylliau cyn dysgu darllen llyfr. Mae plant yn dioddef yn ein gwlad ninnau hefyd. Am mai plant yw eu rhieni … am eu bod o dan ddylanwad cyffuriau yn y groth … am mai Barbies and Rambos yw eu teganau. Am fod oedolion mewn swyddi cyfrifol yn eu defnyddio i foddio’u chwantau rhywiol.

Cymerodd lluoedd o oedolion y Gorllewin eu pleser ers tro, gan archwilio eu hunaniaeth a’i faldodi. Maent wedi profi o’r bywyd da, wedi mynnu eu hawliau, wedi dringo eu hysgolion, wedi cymryd eu rhyddid. Yr ydym ni, oedolion y Gorllewin, wedi adeiladu byd ar gyfer ein harchbersonau ni ein hunain. Mae’n bryd i blant gael eu tro ’nawr.

Mae’n bryd i bob un ohonom ystyried sut y gallwn ni’n bersonol gyfrannu at ddiogelwch cyrff, meddyliau ac eneidiau plant, sut y gallwn wneud y byd yn well byd iddynt. Pan fyddwn yn bobl ddifrifol a fydd, oherwydd ein bod yn arswydo rhag gwneud cam â nhw, yn pledio lles plant, gallwn fod yn fwy sicr o un peth nag y gallwn o ddim arall – bydd yr angylion hynny yn y nefoedd y dywedodd Iesu eu bod bob amser yn erych i lawr ar rai bach, a gyda’r rheiny pob angel yn hanesion y geni, yn canu a chanu a chanu a chanu – ‘heb ddiwedd byth i’r gân’.

(O’r gyfrol Y Nadolig Cyntaf, Vivan Jones, 2006)
PLlJ

Nadolig y Stryd 2018

Nadolig y Stryd 2018

Roedd dau wedi teithio o’r gogledd,
I brofi’r brifddinas a’i stŵr.
Dau docyn ar fws y Traws Cymru:
Bydd llety yn rhywle mae’n siŵr.

Rôl cerdded y strydoedd, gan synnu
At fwrlwm a chynnwrf y lle,
Fe ddaeth nos, a hwythau heb lwyddo
Cael gwely yn unman drwy’r dre’.

A hithau yn feichiog ers wythmis
Dechreuodd hi wingo mewn poen.
Cael babi ar strydoedd y ddinas Gefn gaeaf?
Wel! Pwy fydde‘ mo’yn?!

Daeth merch oedd yn gwerthu’r Big Issue
I ffonio am ambiwlans brys;
Ond gan bod hi’n Nos Wener Wirion
Doedd gobaith am nyrs na pholîs!

Cardotyn a’i gi ddaeth i’r adwy,
Fe wyddent am loches o’r gwynt;
A stopiodd tri chrwt yn eu dreadlocks
I helpu’r pâr coll ar eu hynt.

Hebryngwyd y ddau rownd y gornel
I freichiau angylion hi-viz;
Roedd fflip-fflops a dŵr gan Simeon,
A bydwraig naturiol oedd Liz.

Ac yno yng nghysgod rhyw garej
Fe anwyd dyn bychan i’r byd,
Yng nghwmni y tri Rastafarian,
Ci strae a bugeiliaid y stryd.

Diolchodd e, Joe, i’r dieithriaid
Am helpu ei Firiam fach dlos;
A hwythau yn diolch i’r baban
Am gariad a’u hunodd liw nos.

GI

Pa dôn sy orau

Pa dôn sy orau?

Yn ddiweddar cefais brofiad arbennig mewn oedfa wrth ganu’r geiriau cyfarwydd, ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus …’ (Rhif 780 yn Caneuon Ffydd) ar y dôn gyfarwydd Calon Lân (Rhif 634). Pam profiad arbennig? Am fod yr emyn yn digwydd mewn oedfa ac nid mewn angladd neu mewn gêm rygbi. Mae’r ddau achlysur hyn yn peri i mi ryfeddu a gwingo oherwydd yn y naill a’r llall mae’n anodd canfod unrhyw argyhoeddiad crefyddol ymhlith y mwyafrif o’r cantorion/bloeddwyr; go brin y gellir sôn am naws. At hyn mae’r dryswch yn dwysáu o dderbyn bod y mwyafrif o’r rhai sy’n canu (gydag arddeliad, rwy’n cydnabod) heb ddigon o’r Gymraeg i ddeall ystyr y geiriau. 

Beth bynnag, yn yr oedfa fendithiol hon roedd emyn 780 yn cydweddu’n gain â thri emyn arall (869, 816, 852) a chyda’r darlleniadau (Mathew 25:31–46, ‘yn gymaint ag i chwi …’ a Mathew 6:19–21, ‘Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear …’). Roedd y dewisiadau hyn yn sail ac yn ffrâm i’r myfyrdod oedd yn ein herio i ystyried sut y byddwn yn dewis ac yn casglu eiddo, cwmni a phrofiadau hoff, ac yna’n eu rhannu.

Wrth ganu a gwir geisio darllen ac ystyried y geiriau (nid hawdd, oherwydd rhaid mynd gyda’r organ), meddyliais fod y ddau neu dri bar sy’n cloi cytgan Calon Lân yn negyddu prif neges y geiriau. Y neges honno yw bod y galon lân yn medru canu YN Y NOS ac yn y dydd. Y gamp fawr/ y synhwyro deallus/ y sylweddoliad/ y weledigaeth yw bod y galon lân (y person cytbwys, cywir) yn medru canu (gorfoleddu/ bod yn gadarnhaol/ wynebu bywyd yn obeithiol) yn y NOS (cyfnodau tywyll, trist, bygythiol bywyd). Bron y gellir cynnig bod yr emyn yn mynegi’r hyn sy’n agos at fod yn hunan-eglur, sef y gall unrhyw galon (pawb ohonom) ganu yn y DYDD (cyfnodau hapus bywyd – dim problem, dim pryder). Her arall yw canu yn y nos; dyna pryd mae angen rhuddin gwahanol, personoliaeth gadarn, golwg wahanol ar fywyd, ffydd ac argyhoeddiad ysbrydol.  

Os canwch ddiweddglo cytgan Calon Lân fe brofwch fod y nodyn uchaf – y floedd – yn seinio ‘dydd’ cyn disgyn yn flinedig at y ‘nos’. Onid fel arall y dylai fod? Oes ateb? Y symlaf yw cyfnewid y geiriau ‘nos’ a ‘dydd’, ond byddai hynny, medd rhai, yn tramgwyddo’r odl rhwng ‘nos’ a ‘dlos‘. Ond, meddwn i, pwy sy’n poeni am odl neu’n clywed odl mewn cerddoriaeth?

Beth am ddewis tôn arall i’r geiriau? O chwilio Caneuon Ffydd cefais fod digon o ddewis, gan fod y mesur M10/87.87.D. yn boblogaidd iawn, y mwyaf poblogaidd gyda 65 o donau. Yn eu plith ceir rhai adnabyddus iawn, megis Dusseldorf (162), Hyfrydol (218), Arwelfa (516) a Blaenwern (595). Gyda hyn o wybodaeth yn codi fy ysbryd es ati i archwilio pob un o’r 65, ond fe gefais siom fawr; dim ond pump (19, 21, 72, 190, 543) sy heb ‘fai’ 780, sef diweddglo disgynedig yn y gytgan, ac felly ‘dydd’ yn cael llawer mwy o sylw na ‘nos’.

Wrth gwrs, rhaid cydnabod cyfraniad gwerthfawr cytgan i godi’r cantorion, boed mewn angladd neu ornest rygbi. O blith y 65 tôn ar y mesur M10/87.87.D. tair yn unig sydd â chytgan, sef 110, 190 a 634, hynny yw, cytgan sy wedi’i hargraffu ar wahân i’r penillion. Ond, daliwch eich gwynt, mae dwy arall, 21 a 373, lle mae pedair llinell yn guddiedig oddi mewn i bob pennill ac felly yn fath o gytgan. Pam dewiswyd y fformat hwn?

I gloi. A oes tôn ar wahân i ‘Calon Lân’ sy’n gweddu’n well i’m dehongliad i o’r geiriau? Oes, Sanctus (21). Mi wn yn iawn y bydd rhai cynulleidfaoedd, arweinyddion cymanfa a chodwyr canu capel yn protestio bod Sanctus yn gadwedig mewn glân briodas â’r geiriau, ‘Glân geriwbiaid a seraffiaid …’ Ond, ystyriwch. Mae agoriad Sanctus yn ogoneddus o fynegiant o fwriad: ‘NID wy’n gofyn …’ Mae Calon Lân yn wannaidd yma. Mantais arall sydd gan Sanctus yw’r barrau ar ddiweddglo’r gytgan lle mae’r tenoriaid yn dyrchafu a bywiocáu, yn enwedig yn y nos.

A oes côr neu gynulleidfa sy’n barod i fentro?

Neville Evans

Graffiti ar furiau crefydd

Graffiti ar furiau crefydd

Mae natur agored y we yn gwbl drawsnewidiol o ran ei gallu i rwydweithio pobl o farn debyg ar draws y byd. Ar un llaw mae iddi ei ochr sinistr, gyda rhai’n ei defnyddio fel ffordd o ymgysylltu mewn drygioni, rhai eraill yn ei defnyddio i ledu dogma wleidyddol neu grefyddol. I mi, llawenydd y we yw fy mod yn wynebu cysur a her ddyddiol wrth ddatblygu fel Cristion ac fel person, a hynny ers dyddiau coleg pan oedd popeth yn dueddol o ymddangos yn ddu a gwyn. Dros y byd mae’n amlwg fod unigolion, miliynau ohonyn nhw, ar yr un llwybr â minnau ac ar y we mae tipyn o’r gefnogaeth sydd ei hangen arnom.

O’r criw oedd yn rhan o fwrlwm Cristnogol dyddiau coleg, mae’n ddiddorol gweld fod rhai yn dal i fyw mewn byd o grefydd du a gwyn, eraill wedi cilio’n llwyr oddi wrth fywyd eglwysig ac eraill ohonom yn weithgar fel Cristnogion yn tynnu at ymddeoliad ond yn ffeindio’n hunain yn cymhwyso sicrwydd cadarn ein hieuenctid i ryw sicrwydd agored yn elfennau syml y ffydd wrth dyfu’n hen.

Facebook yw’r cyfrwng mwyaf amlwg ar gyfer y ddeialog gefnogol i mi, wrth iddo ganiatáu tecst estynedig, fideo a darluniau. Ac yno mae doniau arbennig gan bobl i ysbrydoli a chodi cwestiynau.

Colled enfawr o’r gymuned honno yn ystod 2019 oedd Rachel Held Evans. Bu farw’n annisgwyl ac ifanc, ond roedd iddi ddoethineb tu hwnt i’w hoedran. Os nad ydych yn gyfarwydd â hi, ewch i chwilio.

Erbyn hyn, rwy’n troi’n ddyddiol at dri yn arbennig.  

Y cyntaf yw John Pavlovitz sydd yn datblygu’n awdur toreithiog a heriol trwy ei flog a’i lyfrau.

Yr ail yw’r Tad Richard Rohr sy’n cyflwyno myfyrdod dyddiol o’i Center for Action and Contemplation. Gallwch gofrestru am ebost boreol oddi wrtho.

Y trydydd yw’r Nakedpastor, David Hayward. Wedi bod yn weinidog am rai blynyddoedd cafodd ei ddadrithio’n llwyr gan y diwylliant eglwysig. Teimlodd fod yn rhaid iddo adael ei alwedigaeth wreiddiol, ac ers hynny mae wedi sefydlu grŵp cwnsela i weinidogion sydd wedi teimlo dan ormes eu swydd neu eu heglwys, ac yn gwneud ei fywoliaeth fel awdur, ond gan fwyaf fel artist. Mae’n galw ei hunan yn artist graffiti ar furiau crefydd. Caiff ei luniau siarad drostyn nhw eu hunain, ond dyma sampl o’i gannoedd o gartwnau y gallwch eu prynu, neu fe allwch jyst ddangos eich cefnogaeth at ei waith yn www.nakedpastorstore.com.

Yr eglwys fodern…

 

Statws merched yn yr eglwys…

Ffiniau cariad Iesu

Diwinyddiaeth…

Beth wnaethon ni o’r efengyl ac o genhadaeth Iesu?

Ac wrth baratoi am y Nadolig …

Prin y geiriau, ond llond trol o wirioneddau. Diolch i David Hayward, y nakedpastor.

Gweddi ar sail cyffes Karl Barth

Gweddi yn seiliedig ar gyffes gan Karl Barth

O Arglwydd ein Duw, fe wyddost pwy ydym:
pobl â chydwybod dda a rhai â chydwybod ddrwg,
personau sy’n fodlon a’r rhai sy’n anfodlon, y sicr a’r ansicr,
Cristnogion o argyhoeddiad a Christnogion o arferiad,
y rheiny sy’n credu, a’r rhai hynny sy’n hanner credu, a’r rhai sydd yn anghredu.
Fe wyddost o ble y daethom:
oddi wrth gylch o berthnasau, o gydnabod a chyfeillion, neu o’r unigrwydd mwyaf llethol;
o fywyd ffyniannus a thawel, neu o ddryswch a gofid;
o deulu trefnus neu o gefndir sy’n anhrefnus, neu sydd o dan straen;
o gylch mewnol y gymuned Gristnogol neu o’i hymylon pellaf.

Ond yn awr, safwn i gyd o’th flaen, yn ein holl wahaniaethau, yn gwybod ein bod ni i gyd ar fai gyda’n gilydd am anhwylderau’r byd – tlodi, amgylchedd sy’n dirywio, eithrio cymdeithasol ac unigrwydd.  

Ond ry’n ni’n gwybod bod dy ras wedi’i addo i ni gyd a bod ysbrydoliaeth chwyldroadol ar gael i ni oll i drawsnewid ein byd trwy dy annwyl fab, Iesu Grist.

Amen.

“Dyw Iesu ddim yn rhoi ryseitiau sy’n dangos y ffordd at Dduw, fel y gwnaiff athrawon crefyddol eraill. Efe ei hun yw’r ffordd.” (Karl Barth)

Gweddi Movember

Gweddi Movember

Nefol dad, a hithau bron yn ddiwedd ein Tachwedd ni, neu Fis Du ein cefndryd Llydewig, gweddïwn dros ddynion sydd yn profi effaith tywyllwch gormesol y gaeaf yn eu heneidiau. Sylweddolwn fod cynifer ohonom wedi cael ein dysgu o’n plentyndod i guddio ein gwendid a’n hangen, ac yn methu bod yn agored pan ddaw munudau llethol heibio.

Maddau i ni am y cyfleoedd yr ydym wedi eu colli dros y blynyddoedd i gynnig llaw garedig neu glust amserol i unigolyn fu yn y fath angen, a hynny am ein bod yn rhy brysur neu ddim yn siŵr sut i ymateb i’w sefyllfa.

Mewn cyfnod pan fo teuluoedd ym mhob tref wedi eu chwalu o achos hunanladdiad dynion gweddïwn dros eu teuluoedd a’u ffrindiau. Weithiau, does dim atebion er gwaetha’r holl holi, a sylweddolwn mor boenus yw hynny.

Gweddïwn dros staff mewn ysgolion sydd yn gweithio mor ddiflino gyda phlant sydd wedi colli eu tadau mewn amgylchiadau mor drist. Weithiau, does dim atebion er gwaetha’r holl holi, a cydymdeimlwn ag athrawon sydd yn methu cynnig atebion i’r plant mewn sefyllfaoedd o’r fath.

Diolchwn am barodrwydd cynyddol dynion i siarad yn gyhoeddus am eu teimladau o fod yn annigonol ac am iselder, a diolchwn am y sefydliadau a’r mentrau sydd yn rhoi cyfleoedd i ddynion fynegi’n gyhoeddus eu consýrn am ei gilydd. Gwna dy eglwys yn effro i’r cyfleoedd sy’n bodoli iddi chwarae ei rhan, gan ymestyn llaw gobaith a thosturi.  

Er mwyn ein cyd-ddynion a phawb sydd yn annwyl iddyn nhw, ysbrydola ni i fod yn oleuni parod yn ystod misoedd tywyll yr enaid.

 

Amen.

https://uk.movember.com/

https://johnpavlovitz.com/2019/02/21/everyone-around-you-is-grieving-go-easy/

 

Cywiro traddodiad

CYWIRO TRADDODIAD!

Am gyfnod dros y ddeufis nesaf fe fydd grwpiau o Gymry’n canu’r gydag argyhoeddiad anwybodus y geiriau:

Ein Meichiau a’n Meddyg, dan fflangell Iddewig
Ar agwedd un diddig, yn dioddef,
A’i farnu gan Peilat, a’i wisgo mewn sgarlat
Gan ddynion dideimlad, rhaid addef.

Oherwydd gyda’r Sul cyntaf yn Adfent ar Ragfyr 1af eleni y mae tymor y plygeiniau’n cychwyn a gall barhau tan Ŵyl Fair y Canhwyllau ar Chwefror 2il.

Mae’r llinellau uchod yn ddyfyniad o Garol y Swper, sy’n cael ei chanu ar ddiwedd y blygain gan y dynion. Beth yw sail y gair Iddewig yn y fan hon? Dywed Efengyl Ioan:

Yna cymerodd Pilat Iesu, a’i fflangellu. A phlethodd y milwyr goron o ddrain a’i gosod ar ei ben ef a rhoi mantell borffor amdano. Ac yr oeddent yn dod ato ac yn dweud ‘Henffych well, Frenin yr Iddewon’ ac yn ei gernodio. (Ioan 19.1–3)

Pilat felly a orchmynnodd fflangellu Iesu, a milwyr Rhufeinig fu wrthi’n gwawdio’r Iddewon a’u gobeithion gwleidyddol am frenin fyddai’n Fab Dafydd. Sut felly’r ‘fflangell Iddewig’?

Mae llawer o ganmol ar y carolau plygain am eu trylwyredd ysgrythurol ac ehangder a dyfnder eu diwinyddiaeth. Mae gwir yn hynny. Ond yn y fan hon, nid yn unig y mae’r ysgrythur wedi ei hystumio, ond y mae’r awdur yn llithro i wrth-Semitiaeth fydd yn cael ei hailganu ym mhob plygain ledled Cymru eleni.

Ar hyn o bryd mae llawer o sôn am wrth-Semitiaeth yn y blaid Lafur a gwrth-Fwslemiaeth yn y Blaid Dorïaidd. Ond mae Cristnogion yn diddig anghofio’u cyfrifoldeb amlwg hwy eu hunain am feithrin agweddau gwrth-Iddewig tra’n honni dilyn Gwaredwr o Iddew. Nid chwyldro fyddai newid un gair mewn un garol fel ystum bach edifeiriol dros erledigaethau’r canrifoedd. Dylai fod cywilydd arnom.

Nid cyhuddo’r Cymry sy’n canu Carol y Swper o fod yn fwriadol wrth-Iddewig yr ydw i. Dydyn nhw’n talu dim sylw i ystyr y gair – fwy nag y maen nhw’n talu sylw i lawer o eiriau ein hemynau mwyaf poblogaidd. Difater ydyn nhw.

Mae newid ‘traddodiad’ yn her i hen arfer atgyfodedig. Ond rwy’n cofio Geraint Vaughan Jones yn dweud bod rhai o deuluoedd y cawsai weld eu carolau wedi bod yn ddig wrtho am eu cyhoeddi o gwbl yn ei gasgliadau. Yn y traddodiad, eiddo’r teulu oedd y garol. Nid felly y mae hi mwyach; mae’r traddodiad wedi newid er mwyn goroesi o gwbl. Gadewch i ni felly newid un gair bach gwenwynig yng Ngharol y Swper ac edifarhau am ein difaterwch.

Enid R. Morgan

Coda dy lais!

Gŵyl Coda 2020
24–26 Gorffennaf 2020
Fferm Dôl Llys, Llanidloes

Amrywiol, cynhwysol, croesawgar, hael

Cymuned ar wasgar: yn uno ein celfyddyd, ein ffydd, ein creadigrwydd a’n gweithredu ac yn creu gofod lle gallwn ysgogi ein gilydd. Dyma ŵyl sydd yn denu ac yn gallu ysbrydoli pobl, eglwysi a chymunedau tuag at ffydd a gweithred.  

Yn 2018 fe gynhaliwyd yr ŵyl gyntaf gan CODA ar gaeau maes carafannau a gwersylla Dôl Llys. Dyma’r casgliad Cymreig agosaf at egwyddorion C21 y gwyddwn i amdano. Y llynedd cafwyd penwythnos yn y Gymraeg a’r Saesneg wedi ei dargedu at bobl ffydd, neu ymlwybrwyr agored, o amgylch pabell fawr oedd yn gyrchfan i gerddoriaeth o bob math, drama a chymdeithasu.

Rownd y babell fawr roedd pebyll llai er mwyn cynnal seminarau a thrafodaethau amrywiol a diddorol. Yno fe fues yn gwrando ar Wisam Salsaa, perchennog gwesty Banksy ym Methlehem, yn siarad am brofiadau’r Palestiniaid. Am brofiad ysgubol mewn cae yng Nghymru! https://www.theguardian.com/world/2017/mar/03/banksy-opens-bethlehem-barrier-wall-hotel

Hefyd yn cymryd rhan yn y penwythnos yr oedd yr ymgyrchydd hawliau dynol Israelaidd Daphna Baram; mae’n gweithio fel stand-yp, a daeth yn syth i lawr o Gaeredin i gefnogi CODA. Daphna sy’n arwain yr ymgyrch ym Mhrydain yn erbyn adeiladu tai Israelaidd ar dir Palestinaidd. https://www.greenbelt.org.uk/artists/daphna-baram/

Yn yr un lle roedd sesiynau gan Gethin Rhys, Manon Ceridwen James, Anna Jane a Delyth Wyn Davies, athro Economeg o Brifysgol Caerdydd ar gyfiawnder ac anghyfiawnder economaidd, a llu o weithgareddau eraill – y cyfan a mwy mewn cae hamddenol ar lannau’r Hafren yn Llanidloes.

Plis cadwch y dyddiad ar gyfer haf nesaf – y penwythnos rhwng y Sioe Amaethyddol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Ac os ydych ar gael i ganu, i siarad, i actio neu gefnogi gweithgaredd, plis cysylltwch â geraintrees@hotmail.com er mwyn i griw CODA wybod am eich parodrwydd.    

Yn dilyn gŵyl 2018 fe ddywedodd Delyth Wyn Davies, “Un o lwyddiannau Coda yw bod siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg yn gallu dweud, ‘Mae Coda i mi. Mae Coda’n gwerthfawrogi, yn cynrychioli ac yn cynnwys fy niwylliant.’ Rhywbeth arall yw ei fod yn gynhwysol: mae Coda yn lle diogel, ac yn lle agored, i’r rhai sy’n teimlo eu bod ar gyrion cydeithas neu eglwys neu beidio.”

Byddai’n dda gweld C21 yn cefnogi penwythnos arbennig i bob oed sydd wir yn dathlu’r hyn yr ydym.