Cywiro traddodiad

CYWIRO TRADDODIAD!

Am gyfnod dros y ddeufis nesaf fe fydd grwpiau o Gymry’n canu’r gydag argyhoeddiad anwybodus y geiriau:

Ein Meichiau a’n Meddyg, dan fflangell Iddewig
Ar agwedd un diddig, yn dioddef,
A’i farnu gan Peilat, a’i wisgo mewn sgarlat
Gan ddynion dideimlad, rhaid addef.

Oherwydd gyda’r Sul cyntaf yn Adfent ar Ragfyr 1af eleni y mae tymor y plygeiniau’n cychwyn a gall barhau tan Ŵyl Fair y Canhwyllau ar Chwefror 2il.

Mae’r llinellau uchod yn ddyfyniad o Garol y Swper, sy’n cael ei chanu ar ddiwedd y blygain gan y dynion. Beth yw sail y gair Iddewig yn y fan hon? Dywed Efengyl Ioan:

Yna cymerodd Pilat Iesu, a’i fflangellu. A phlethodd y milwyr goron o ddrain a’i gosod ar ei ben ef a rhoi mantell borffor amdano. Ac yr oeddent yn dod ato ac yn dweud ‘Henffych well, Frenin yr Iddewon’ ac yn ei gernodio. (Ioan 19.1–3)

Pilat felly a orchmynnodd fflangellu Iesu, a milwyr Rhufeinig fu wrthi’n gwawdio’r Iddewon a’u gobeithion gwleidyddol am frenin fyddai’n Fab Dafydd. Sut felly’r ‘fflangell Iddewig’?

Mae llawer o ganmol ar y carolau plygain am eu trylwyredd ysgrythurol ac ehangder a dyfnder eu diwinyddiaeth. Mae gwir yn hynny. Ond yn y fan hon, nid yn unig y mae’r ysgrythur wedi ei hystumio, ond y mae’r awdur yn llithro i wrth-Semitiaeth fydd yn cael ei hailganu ym mhob plygain ledled Cymru eleni.

Ar hyn o bryd mae llawer o sôn am wrth-Semitiaeth yn y blaid Lafur a gwrth-Fwslemiaeth yn y Blaid Dorïaidd. Ond mae Cristnogion yn diddig anghofio’u cyfrifoldeb amlwg hwy eu hunain am feithrin agweddau gwrth-Iddewig tra’n honni dilyn Gwaredwr o Iddew. Nid chwyldro fyddai newid un gair mewn un garol fel ystum bach edifeiriol dros erledigaethau’r canrifoedd. Dylai fod cywilydd arnom.

Nid cyhuddo’r Cymry sy’n canu Carol y Swper o fod yn fwriadol wrth-Iddewig yr ydw i. Dydyn nhw’n talu dim sylw i ystyr y gair – fwy nag y maen nhw’n talu sylw i lawer o eiriau ein hemynau mwyaf poblogaidd. Difater ydyn nhw.

Mae newid ‘traddodiad’ yn her i hen arfer atgyfodedig. Ond rwy’n cofio Geraint Vaughan Jones yn dweud bod rhai o deuluoedd y cawsai weld eu carolau wedi bod yn ddig wrtho am eu cyhoeddi o gwbl yn ei gasgliadau. Yn y traddodiad, eiddo’r teulu oedd y garol. Nid felly y mae hi mwyach; mae’r traddodiad wedi newid er mwyn goroesi o gwbl. Gadewch i ni felly newid un gair bach gwenwynig yng Ngharol y Swper ac edifarhau am ein difaterwch.

Enid R. Morgan