AGORA Mis Mai 2016Cliciwch yma i weld y rhifyn pdf: Agora mis Mai 2016neu sgroliwch i lawr i weld pob erthygl yn unigol a rhyngweithiol: A ninnau wedi baglu braidd gydag Agora 1, dyma fentro arni gyda’r ail rifyn. Croeso’n ôl i chi, gan obeithio y byddwch chi’n teimlo’n rhydd i gyfrannu, i anfon adroddiadau am bethau lleol fydd o ddiddordeb ehangach. Anfonwch sylwadau, cwestiynau, dyfyniadau, cartwnau, cerddi sy’n codi o fyd ffydd a byd amheuaeth yng Nghymru heddiw. Cynnwys Rhifyn 2 (Mis Mai)Golygyddol Enid R. Morgan
Cofio Gwyn Thomas Meg Elis‘Cael profiad’ a ‘Gwybod am’ Eric HallHoli tipyn ar awdur Dyfed EdwardsDyfyniad o IddewSut aeth yr encil?Canllaw i WeddïoYdwyf yr hyn ydwyf Enid MorganYdwyf gan James AlisonRownd y GwefannauDigyfaddawd Heriau’r Esgob Spong Arwel Rocet JonesHunaniaeth Ewropeaidd?Cerdd: Ble bynnag y mae cariad Arwel Rocet JonesAmgyffred WaldoAdolygu Ar Drywydd Dewi Sant Ann Parry OwenCadw a Newid |
Golygyddol
RhagorGolygyddol
gan Enid R. Morgan
‘What do you think of all this immigration then?’ gofynnodd y lletywraig Gymreig yn Sir Fflint i mi (hyn ryw flwyddyn yn ôl). Teimlwn fy ngwrychyn yn codi wrth ateb, ‘We’ve been coping with immigration in Wales for many years.’ Edrychodd yn reit syn tuag ata i wrth sylweddoli nad oedd y ddwy ohonom yn sefyll ar yr un tir. Profiad anghysurus y dyddiau hyn ydi gwrando ar y Saeson hynny sy’n dadlau yn erbyn caniatáu i estroniaid ddod i mewn a newid natur cymunedau Seisnig. Ac os oes yna linyn sbeitlyd ynom, ...
‘Cael Profiad o’ a ‘Dysgu am …’ gan Eric Hall
Rhagor‘Cael Profiad o’ a ‘Dysgu am …’
Meithrin dawn y galon mewn addysg gan Eric Hall
Rydym ni i gyd yn ymwybodol fod cefnogaeth i’r ffydd Gristnogol yn y wlad yma ac yn Ewrop yn gyffredinol yn gwanhau yn gyflym. Er bod nifer o ffactorau yn cyfrannu at hyn, mae yna un sy’n allweddol, sef methiant ein hymdrechion yn ein hysgolion a’n
hysgolion Sul i ddarbwyllo dysgwyr o ...
Holi tipyn ar Dyfed Edwards, awdur Iddew
RhagorHoli tipyn ar Dyfed Edwards, awdur Iddew
Dyfed, diolch i chi am gytuno i ateb rhai cwestiynau.
Llongyfarchiadau ar gyfrol sydd wedi ennyn cymaint o ddiddordeb. Mae dros 300 o weithiau creadigol llenyddol wedi eu cyhoeddi am Iesu yn Saesneg. Mae rhai wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg ond mae hon, a dweud y lleiaf, yn wahanol iawn.
- Mae ôl ymchwil manwl iawn ar Iddew o safbwynt iaith, cefndir a’r stori wreiddiol. Mae dewis a dethol, wrth gwrs, a hynny’n anorfod. Ai ailedrych ar y stori oedd yn stori eich cefndir a’ch magwraeth, ynteu oeddech chi’n dibynnu’n llwyr ar ymchwil newydd?
Mae ...
Ydwyf yr hyn ydwyf – IHWH gan Enid R. Morgan
Ydwyf yr hyn ydwyf – IHWH gan Enid R. Morgan
‘Nid enw yw “Duw” ond Berf’
Mae’r ymadrodd trawiadol hwn gan Aled Jones Williams yn Duw yw’r Broblem wedi glynu yn fy meddwl a’m hatgoffa am y berth yn llosgi, a’r Moses a droes o’r neilltu i sylwi arni. Oes yna ffordd o ddehongli’r stori a fyddai’n help i ni? Wrth y berth ac ar ôl mynnu mai’r un Duw ydyw â’r un siaradodd ag ‘Abraham, Isaac a Jacob’ y mae’r presenoldeb yn yngan y gair IHWH.
Nant Gwrtheyrn, 8–9 Ebrill 2016
RhagorNant Gwrtheyrn, 8–9 Ebrill 2016
Encilio i Nant Gwrtheyrn? Pa encil corfforol mwy trylwyr? Ac roedd hi’n oer a gwlyb (ddim dan do, wrth gwrs – mae’r ddarpariaeth yn raenus a chynnes a hardd) ac eira yn Llithfaen. Ond bwriad encilio oedd tyfu i fod yn gymuned newydd. Nos Wener cawsom wylio’r ffilm Malala yw fy Enw a sylweddoli mor rhannol, mor rhagfarnllyd, mor Orllewinol o gam yw ein dealltwriaeth o beth sy’n digwydd ym Mhacistan, ac yn y gwrthryfel mileinig sy’n llithro o un enw i’r llall – Taliban – Al-Quaeda – Isis.
Ar y Sadwrn clywsom ddwy fardd ...
Canllaw i Weddïo
Canllaw i Weddïo
TYDI
Tydi – tangnefedd pob tawelwch
Tydi – y man i guddio rhag niwed
Tydi – y goleuni sy’n llewyrchu yn y tywyllwch
Tydi – gwreichionen dragwyddol y galon
Rhagor
Rownd y Gwefannau
Rownd y Gwefannau
Mae gwefan Cristnogaeth21 wedi dangos y cyfraniad unigryw y gall cymuned ar-lein ei wneud i’n taith Gristnogol. Gyda rhai miloedd wedi darllen rhai erthyglau ar y wefan, mae’n amlwg fod angen yn cael ei ddiwallu. Byddai’n braf petai darllenwyr Agora yn gallu rhannu eu gwybodaeth am wefannau sydd yn help i’w cynnal. Dyma bedair gwefan sydd o ddiddordeb wythnosol i un o selogion C21 ar hyn o bryd.
John Pavlovitz
Digyfaddawd Heriau’r Esgob Spong gan Rocet Arwel Jones
RhagorDigyfaddawd Heriau’r Esgob Spong gan Rocet Arwel Jones
Sawl asgwrn i’w gnoi
Fe fydd yr enw John Shelby Spong yn hen gyfarwydd i lawer ohonoch. Ond efallai i rai y bydd yn enw newydd. Mae’n enwog am gynnig atebion radical i ffwndamentaliaeth Gristnogol asgell dde Gogledd America.
O danysgrifio i’w wefan cewch ddilyn hynt a helynt ei gyfrol ddiweddaraf, a gyhoeddir fesul ysgrif wythnosol dan y teitl Mapio Diwygiad Newydd.
Mae’n gwneud deuddeg gosodiad:
- Duw
Mae deall Duw fel bod goruwchnaturiol, yn byw yn rhywle y tu hwnt i’r byd ac yn ymyrryd ynddo gyda grymoedd gwyrthiol bellach ...
Hunaniaeth Ewropeaidd?
RhagorHunaniaeth Ewropeaidd?
Ddiwedd Ebrill cynhaliodd Cyngor Eglwysi’r Byd Ymgynghoriad yn Genefa ar y thema ‘Hunaniaeth Ewropeaidd. Wrth i Agora Mai ymddangos nid oedd adroddiadau o’r Ymgynghoriad wedi eu cyhoeddi, ond fe fyddant yn ymddangos yn ystod mis Mai mewn pryd i hybu trafodaeth yn yr eglwysi cyn y Refferendwm ar Fehefin 23ain. Wrth gyhoeddi’r Ymgynghoriad dywedodd Olav Fykse, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor, ei fod yn gweld y digwyddiad fel rhan o raglen byd-eang y Cyngor, ‘Pererinod o gyfiawnder a heddwch’, sydd, meddai, ‘yn annog parodrwydd i symud ymlaen a bod yn agored’. Soniodd am Jim Wallis yn America yn ...
Trychiad, Tylluan a Nadolig Durham gan Meg Elis
RhagorTrychiad, Tylluan a Nadolig Durham
Gwyn Thomas: Bardd, Athro, Diacon (1936–2016)
gan Meg Elis
Darluniodd y darlithydd gysyniad llenyddol y ‘trychiad’ i’w ddosbarth trwy gyfeirio at un o erchylleiriau Williams Pantycelyn – “Constant-fawr-inople”. Ond er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod y ffurf yn dal yn gynhyrchiol, fe gyfeiriodd hefyd at ebychiad gyrrwr bws yn y Blaenau pan gamodd cerddwraig ddiofal allan i’r lôn o’i flaen – “Ddaru hi ddim hesi-blydi-tetio”.
A dyna Gwyn Tom. Yn medru esbonio dyfais lenyddol o ddyddiau Dafydd ap Gwilym drwodd ...
Ydwyf gan James Alison
RhagorYdwyf gan James Alison
Dywedodd Duw wrth Moses “YDWYF YR HWN YDWYF”
Dyma, felly, ateb yr atebion, ac ar yr un pryd y pennaf ddim-ateb-o-gwbl. Oherwydd y mae’r un Duw sy ddim yn cystadlu â dim sy’n bod, ac sy’n bwriadu dod â rhywbeth newydd i fodolaeth trwy ddefnyddiau tra anaddawol, yn gwbl y tu allan i ffurfiau cyffredin o ymddygiad dwyfol, hefyd yn gwrthod bod yn Beth nac yn Ef. YDWYF, ond yna Byddaf yr hwn y byddaf. (Mae hwn o bosibl yn gyfieithiad llai camarweiniol o’r cymal eithriadol o annirnad hwn.) Dyma rywbeth na ellir gafaelyd ynddo, ...
Iddew gan Dyfed Edwards
Iddew gan Dyfed Edwards
Mae Iesu a’i ddisgyblion ar lethrau Mynydd yr Olewydd (Har HaZeitim) ac mae Iesu yn edrych ar y cannoedd o bererinion yn torheulo, yn ymlacio, yn diogi ac yn gweld y milwyr Rhufeinig ar ben muriau Jerwsalem. Mae’n cynhyrfu ynddo’i hun. Mae Pedr (Kepha) yn torri ar draws ei feddyliau. Mae Pedr yn gweld Yako (brawd Iesu).
(tudalennau 170–171 )
Mae ei lygaid yn chwilio. Yn chwilio’r ddinas. Yn chwilio’r muriau. Yn chwilio llethrau Har HaZeitim. Yn chwilio –
Rhagor
Darlith Morlan-Pantyfedwen
Darlith Morlan-Pantyfedwen
‘Ydi Cristnogaeth yn Newyddion Da i’r tlawd?’ oedd y cwestiwn a osodwyd gan Loretta Minghella, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol, wrth draddodi darlith flynyddol Morlan-Pantyfedwen yn Aberystwyth, nos Lun, 25 Ebrill. Bu’n gweithio ym myd yr arian mawr. (Hi oedd yn gyfrifol am arwain y corff fu’n darparu iawndal i bobl a gollodd arian yn sgil dymchwel y banciau yn 2008.) Dywedodd ei bod yn disgrifio’i hun fel un a syrthiodd o Eglwys Rufain, yn amheuwr am gyfnod ac yn briod ag anffyddiwr, ond sydd bellach yn addoli mewn eglwys Anglicanaidd yn Llundain.
Rhagor
Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw … gan Rocet Arwel
Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw … Rocet Arwel
Lleisiau’n trampio i mewn i’r tawelwch Yn chwalu cadeiriau rhydd Mewn gofod gwyn A fu’n gorau uniongred. Sgrin Yn hoelio Sylw Ac arni lwybr o nodau Fel cerrig I gamu Dros afon. Taro nodyn, Rhagor
Amgyffred Waldo
RhagorAmgyffred Waldo
I’r enw nad oes mo’i rannu;
Y rhuddin yng Ngwreiddyn Bod,
Tawel ostegwr helbul hunan.
Darlith Morlan-Pantyfedwen
RhagorDarlith Morlan-Pantyfedwen
‘Ydi Cristnogaeth yn Newyddion Da i’r tlawd?’ oedd y cwestiwn a osodwyd gan Loretta Minghella, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol, wrth draddodi darlith flynyddol Morlan-Pantyfedwen yn Aberystwyth, nos Lun, 25 Ebrill. Bu’n gweithio ym myd yr arian mawr. (Hi oedd yn gyfrifol am arwain y corff fu’n darparu iawndal i bobl a gollodd arian yn sgil dymchwel y banciau yn 2008.) Dywedodd ei bod yn disgrifio’i hun fel un a syrthiodd o Eglwys Rufain, yn amheuwr am gyfnod ac yn briod ag anffyddiwr, ond sydd bellach yn addoli mewn eglwys Anglicanaidd yn Llundain.
Rodd hi’n ddarlith gynhwysfawr, yn gweu ynghyd ...
Cadw a Newid
RhagorCadw a Newid
‘Mae ’na ryw bethau mae’n rhaid i mi sôn wrthych amdanyn nhw,’ meddai Betonie’n dawel. ‘Mae gan y bobl heddiw ryw syniad am y defodau. Maen nhw’n credu bod yn rhaid cyflawni’r defodau yn union fel y buon nhw erioed, efallai oherwydd y gallai un camsymud neu gamsyniad bach olygu bod yn rhaid rhoi diwedd ar y ddefod a dinistrio’r darlun yn y tywod. Mae cymaint â hynny’n ddigon gwir. Maen nhw’n credu, os yw’r cantor yn newid unrhyw ran o’r ddefod, y gellid gwneud drwg mawr a gollwng rhyw ...
Adolygu ‘Ar Drywydd Dewi Sant’
RhagorCroeso i ‘Lyfr Bychan’
Ann Parry Owen‘Llyfr bychan yw hwn,’ meddai Gerald Morgan ar ddechrau’r gyfrol fach ddeniadol hon, ond nid bychan o gwbl yw’r dasg y mae’r awdur wedi ei gosod iddo’i hun, sef esbonio yn glir ac yn syml pwy oedd Dewi a phryd a pham y datblygodd i fod yn nawddsant Cymru. Dyma’r cwestiynau sydd yng nghefn ein meddyliau ni i gyd pan ddaw’r cyntaf o Fawrth bob blwyddyn a ninnau’n gwisgo ein cenhinen Bedr neu’n cennin gyda balchder mewn ciniawau dathlu, mewn eisteddfodau ysgol neu leol, ...