Golygyddol

Golygyddol

gan Enid R. Morgan

‘What do you think of all this immigration then?’ gofynnodd y lletywraig Gymreig yn Sir Fflint i mi (hyn ryw flwyddyn yn ôl). Teimlwn fy ngwrychyn yn codi wrth ateb, ‘We’ve been coping with immigration in Wales for many years.’ Edrychodd yn reit syn tuag ata i wrth sylweddoli nad oedd y ddwy ohonom yn sefyll ar yr un tir. Profiad anghysurus y dyddiau hyn ydi gwrando ar y Saeson hynny sy’n dadlau yn erbyn caniatáu i estroniaid ddod i mewn a newid natur cymunedau Seisnig. Ac os oes yna linyn sbeitlyd ynom, mae ’na demtasiwn i wenu’n gam wrth weld ein cymdogion hyderus yn diodde’r un ofn â ninnau. Mae newid yn aml yn boenus.

Ac mae’n codi ngwrychyn i (ydi, digon hawdd ei godi, mae arna i ofn!) pan fydd gwleidyddion yn crybwyll y Kindertransport fel enghraifft o groeso Seisnig. Ymateb unigolion tanbaid oedd y Kindertransport i’r ffaith fod y llywodraeth yn gwrthod croesawu oedolion Iddewig oedd yn ceisio ffoi rhag amcanion llofruddiol Hitler. Gwn am ŵr fu’n warant ariannol i nifer o Iddewon ddaeth i Brydain yn y tridegau. Roedd un ohonyn nhw’n gorfod mynd i gofrestru yn swyddfa leol yr heddlu bob dydd – a’r rheini, chwarae teg iddyn nhw, yn swil o embaras o’i gweld dro ar ôl dro, a hithau’n fygythiad i neb.

Nid yr un peth yw’r ‘mewnlifiad’ i Gymry ag yw ‘immigration’ i Saeson, ar waethaf y tebygrwydd arwynebol. Nid tlodion digartref mewn unrhyw berygl oedd yn prynu ail dai yng Nghymru. Yr oedd, ac y mae, llawer o fewnfudwyr sy’n dod i fyw’n barhaol mewn pentrefi Cymraeg yn dod â digon o arian ac egni i ailadeiladu tai sydd ar fin dadfeilio. Mae rhai’n dymuno bod yn rhan o’r gymdeithas leol ond yn gorfod sylweddoli bod perthyn yn golygu gwaith caled, a thipyn o wyleidd-dra.

_81157048_mered2

Meredydd Evans

A doedd neb wedi llefaru’n fwy eglur yn erbyn peryglon y mewnlifiad na Merêd. Tybiwyd gan rai nad oedd yn ei adnabod, ond a glywodd am ei anerchiad fel Llywydd yn Eisteddfod Abergwaun, ei fod yn eithafwr hiliol. Ond er ei wrthwynebiad i her economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y mewnlifiad, yr oedd Merêd ar lefel bersonol yn rhoi croeso i bawb.

 

Ar ddiwrnod llym-awel ei angladd yng Nghwmystwyth yr oedd y ffyrdd yng ngogledd Ceredigion i gyd yn arwain i gapel Cwmystwyth. Rhoddais innau bàs i wraig reit anghenus ei golwg; ie, mynd i angladd Merêd yr oedd hi. ‘Lovely man,’ meddai hi. ‘I know I won’t understand anything much, but I’ve got to come to say goodbye.’ Mewnfudwraig (heb lwyddo i ddysgu fawr ddim Cymraeg) oedd wedi syrthio dan gyfaredd y gŵr oedd yn rhoi nid yn unig groeso personol iddi hi, ond croeso i’r diwylliant Cristnogol Cymraeg yr oedd ef yn ei amddiffyn a’i feithrin gyda’r fath arddeliad. Roedd ganddo ddiddordeb croesawus, cariadus, gwerthfawrogol o bawb, hyd yn oed y mewnfudwyr – efallai’n arbennig y mewnfudwyr! Roedd yna nifer sylweddol ohonyn nhw yn yr angladd – roedden nhw’n meddwl y byd ohono. Roedd Merêd yn hyderus gyfleu i ddieithriaid y cynhesrwydd agored sydd weithiau’n nodweddu ein byd bach Cymraeg ni. Rydyn ni’n gallu bod yn gul, yn amheus ac yn ochelgar o bobl ‘wahanol’ – yn union fel ein cymdogion Seisnig. Roedd e’n dangos i ni ein bod yn gymdeithas werth gwneud ymdrech i berthyn iddi. Roedd yn amddiffyn heb fod yn amddiffynnol. Gwers i ni i gyd: gwers i ni, Gymry, gwers i Saeson ac i Ewrop gyfan wrth i ni dalu’r pris am ormes a chelwydd ymerodraethau sydd wedi edwino.

Yn y cyd-destun yma mae stori Iesu’n iacháu ‘gwas y canwriad’yn werth talu sylw iddi. (Roedd yn hysbys bod ‘gwas canwriad’ yn aml yn wrthrych serch rhywiol swyddogion y fyddin Rufeinig orthrymus.) Nid yw Iesu’n gosod unrhyw amod, na deddfol grefyddol na chenedlaethol, ar ffordd haelioni a thrugaredd. Ymateb trugarog yw ymateb Iesu i bopeth ac eithrio rhagrith hunangyfiawn. Dynwared yr haelioni penagored hwnnw yw’r alwedigaeth anodd i ni i gyd.