Agora 8 (mis Rhagfyr)

Cynnwys Agora mis Rhagfyr

(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

Agorab

Golygyddol                                         Enid Morgan

Newyddion

Cofio Gethin Abraham-Williams   Aled Edwards

Diwygio Rhannol                              John Gwilym Jones

Ffasgaeth ar Gerdded                      Gethin Rhys

Dweud Pader wrth Berson             Arwel Rocet Jones

Cofio Wncwl Gwilym                       Hefin Wyn

Y Pabi Coch  a Sul y Cofio               Cynog Dafis

Karen Armstrong                             Gethin Abraham-Williams

Y Siarter Tosturi                               Cyfieithiad

Trydydd Cam  AA                             Wynford Ellis Owen

Ystyr Darlleniadau’r Nadolig          Enid Morgan

Tanysgrifwyr Agora                         (Rhestr Cyfranwyr)

Gweddïau Adfent                             Addasiadau

 

  • Golygyddol

    GOLYGYDDOL

    Roedd ’na rywbeth hynod briodol bod Leonard Cohen, y bardd-ganwr o Ganada, fel petai wedi penderfynu mai digon oedd digon, a marw yn fuan ar ôl i Donald Trump ennill y frwydr i fod yn arlywydd yr Unol Daleithiau.

    Iddew ydoedd a lynodd wrth ei ffydd, yn ddwys ei ddiddordeb mewn Cristnogaeth ac yn Fwdydd profiadol ar ôl byw am bum mlynedd o fyfyrdod mewn mynachdy Bwdwaidd.

     

    Pynciau ei ganeuon oedd serch, cariad, angau a chrefydd: ‘Dance me to ...

    Rhagor
  • Newyddion Agora

    Colli’r annwyl a’r tawel Gethin Abraham-Williams

    Ychydig ddyddiau cyn  i Agora ymddangos daeth y newyddion am farwolaeth Gethin, yn 77 oed. Yn un o Aberystwyth  bu’n weinidog gyda’r Bedyddwyr mewn tair ardal yn Lloegr a hyn yn cynnwys profiad o weinidogaeth mewn tîm ecwmenaidd. Roedd hyn yn gymwysterau arbennig iddo fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn rhwng 1998 a 2006. “Roedd wedi llwyddo’, meddai Aled Edwards, ei olynydd,  ‘mewn ffordd cwbl ryfeddol i gael cymunedau ffydd Cymru at ei gilydd – cymunedau Hindŵaidd, Mwslimaidd, Iddewig ac eraill – i ddod i mewn i berthynas ...

    Rhagor
  • Dweud Pader wrth Berson

    Dweud Pader wrth Berson

    Arwel Rocet Jones

    Cynhaliwyd noson lansio Cymru i Bawb yn y Morlan yn Aberystwyth nos Wener,                  4 Tachwedd. Roedd Elin Jones AC, Mark Williams AS, Joyce Watson AC, Siôn Meredith ac Aled Edwards yn siarad. Dyma i chi’r Morlan ar ei gorau: Canolfan Ffydd a Diwylliant; Canolfan Ffydd ac Amlddiwylliannedd. Y lle’n orlawn o bobl o bob mathau o gefndiroedd a chredoau yn dyheu am y pethau gorau.

    Wrth fynd ati i drefnu a chadeirio’r noson un o fy mhryderon i oedd y bydden ni’n dweud pader wrth berson. Llond stafell ...

    Rhagor
  • Gyda’r Crynwyr yn Cofio Wncwl Gwilym

    Gyda’r Crynwyr yn Cofio Wncwl Gwilym

    Hefin Wyn

    Llefaru’r gerdd ‘Y Tangnefeddwyr’ yn seremoni pabïau gwyn y Crynwyr yn Arberth oeddwn i. Safasom wrth y garreg Geltaidd ganol bore yn griw brith yr olwg. Clywid mwy o lefaru na’r mudandod arferol sy’n nodweddiadol o gyfarfodydd y Cyfeillion. Canolbwyntir ar y tawelwch llethol er mwyn canfod y canol llonydd.

     

    Nid yw’r Crynwr yn credu mewn trais o dan unrhyw amgylchiad. Ni wna gymryd rhan yn yr un rhyfel. Nid arwain bataliwn arfog ...

    Rhagor
  • Y Pabi a Sul y Cofio

    Y Pabi a Sul y Cofio

    Diolch am olygyddol rhifyn Tachwedd, myfyrdod deallus ar gymhlethdod teimladau ac agweddau llawer. Cafwyd dadl ar Radio Cymru yn ddiweddar ynghylch a oedd y pabi coch yn wleidyddol.  Anodd credu nad yw e. Cyfeiriwyd at gerdd John McCrae, ‘In Flanders Fields’ fel cerdd anwleidyddol am gofio a cholled. Ond anogaeth i’r gad yw’r ail bennill. Y meirw sy’n llefaru:

    Take up your quarrel with the foe.
    To you, from falling hands, we throw
    The torch: be yours to hold ...
    Rhagor
  • Trydydd Cam yr AA

    Parhad gyda’r

    Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

    Wynford Ellis Owen,
    Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

    Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u ...

    Rhagor
  • Tanysgrifwyr

    Tanysgrifwyr

    Pan soniwyd gyntaf am lansio’r cylchgrawn digidol, mynegodd nifer o bobl eu dymuniad i gyfrannu’n ariannol tuag at y fenter. Dywedodd pwyllgor Cristnogaeth 21 y byddem yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r tanysgrifwyr hyn fel arwydd o’n gwerthfawrogiad. Rydym yn diolch yn gynnes iawn i’r selogion a anfonodd roddion at y Trysorydd. Byddwn yn diweddaru’r rhestr ymhen ychydig fisoedd.

    1. R Alun Evans
    2. Vivian Jones
    3. Gareth Roberts
    4. Chris Owen
    5. Geraint Rees                            
    6. Dyrinos Thomas
    7. J R Jones
    8. Rhian Parry
    9. Alun Morris
    10. Elwyn a ...
    Rhagor
  • Cofio Gethin Abraham-Williams

    Cofio Gethin Abraham-Williams

    gan Aled Edwards

    Yn dawel yn ystod munudau hyfryd cyntaf Sul yr Adfent bu farw un o hoff gymeriadau’r bywyd eglwysig Cymreig, y Parchedig Gethin Abraham-Williams. Wedi wynebu her gwaeledd hir gydag ysbryd aruthrol, fe’n gadawodd yn 77 mlwydd oed yng nghwmni ei wraig Denise a’i blant Owain ac Ellen. Brodor o Aberystwyth oedd Gethin, yn fab i’r diweddar Emlyn ac Anne Elizabeth Abraham-Williams. Cafodd ei ddysgu yn ysgolion y fro cyn graddio yng Ngholeg Regent’s Park, Rhydychen ac ennill MA yn 1967. ...

    Rhagor
  • Ffasgaeth ar gerdded

    Rhag ofn nad ydych yn gyfarwydd ag erthyglau rhyngweithiol, fe welwch ambell i gymal isod wedi ei danlinellu mewn glas. O glicio arno, cewch ragor o wybodaeth am yr agwedd honno.

    Mae Ffasgaeth ar gerdded:
    mae’n amser i Gristnogion ddewis eu hochr
    gan Gethin Rhys

    Rwy’n ymddiddori’n fawr mewn hanes gwleidyddol, a’r degawd fu’n fy niddori mwyaf efallai yw’r 1930au. Sut y bu i’r byd gerdded mor rhwydd, mor ddall, i gyflafan erchyll? Sut ...

    Rhagor
  • Diwygio Rhannol

    Diwygio Rhannol

    John Gwilym Jones yn disgwyl diwygiad trwyadl

    Cawsom ein geni’n Gristnogion. Cael ein magu’n Gristnogion. Bydd rhai ohonom wedi treulio’n bywyd yn gwasanaethu’r eglwys Gristnogol. Byddwn yn gartrefol yn sgwrsio am synod neu lyfr emynau neu gabidwl neu ysgol Sul neu gwrdd gweddi neu gadwraeth y Saboth neu Feibl neu henaduriaeth neu gymanfa. Dyna ddodrefn ein trigfannau crefyddol ni, ac fe gychwynnon ni ar daith bywyd yn tybio fod y dodrefn yn dragwyddol eu parhad. Ar hyd ein bywydau yr oedd yr Iesu cyfarwydd yn ...

    Rhagor
  • Siarter Tosturi

    Siarter Tosturi siarter-tosturi

    Egwyddor sydd i’w chael yng nghraidd pob traddodiad crefyddol, moesegol ac ysbrydol yw cydymdeimlad, yn galw arnom ni i drin pawb arall fel y dymunem ni ein hunain gael ein trin. Mae cydymdeimlad yn ein cymell i weithio’n ddiflino i laesu dioddefaint ein cyd-greaduriaid, i ddiorseddu ein hunain o ganol y byd a rhoi rhywun arall yno, ac i fawrygu sancteiddrwydd cysegredig pob un bod dynol, gan drin pawb, yn ddiwahân, yn gwbl gyfartal, â chyfiawnder a pharch.

    Rhagor

  • Karen Armstrong yng Nghaerdydd

    Karen Armstrong yng Nghaerdydd

    Gethin Abraham Williams

    Roedd Karen Armstrong yn siaradwraig wadd eleni mewn cinio aml-ffydd a drefnwyd gan Gyngor Moslemiaid Cymru yn Neuadd Dinas Caerdydd ym mis Hydref. Daeth y gyn-leian i’r amlwg yn 1993 gyda’i chyfrol A History of God: the 4,000-year Quest of Judaism, Christianity and Islam.

    Bûm yn ymdrechu i gael Armstrong i ddod i Gymru ers 2014 pan fûm yn cadeirio trafodaeth rhyngddi hi ac Irina Bokova, Cyfarwyddwr Cyffredinol UNESCO; yn y Tŷ ...

    Rhagor
  • Beth yw ystyr darlleniadau’r Nadolig?

    Enid Morgan yn gofyn

    BETH YW YSTYR DARLLENIADAU’R NADOLIG?

    Helpu cynulleidfaoedd i ddeall

    Â’r Nadolig yn agosáu a mwy o bobl nag arfer yn debygol o droi at wasanaeth carolau neu ‘Gyngerdd Nadolig’, mae nhw’n debyg o gael  detholiad o ddarlleniadau traddodiadol byrion heb unrhyw eglurhad ar eu cefndir na’u hystyr.  Mae llawer iawn ohonyn nhw wedi eu gosod gan Handel yn y Meseia, ac wedi bod ar hyd y canrifoedd yn destunau priodol i’r tymor. Sut y mae modd cyflwyno’r darlleniadau traddodiadol mewn ffordd sy’n dangos ...

    Rhagor
  • Gweddïau Adfent

    teitl-gweddiau-adfent

    Adfent 1

    O Dduw, ti sy’n ffynnon bod ac yn graig i’n byw,
    Wrth i ni baratoi i gofio am eni Iesu
    Cadw ni rhag meddalwch meddwl
    A rho i ni’r gwytnwch i ryfeddu at dy amcanion,
    I benlinio er mwyn deall, deall y rhyfeddod 
    a ddigwyddodd yn Iesu
    Er mwyn i ni adnabod Emaniwel,
    Duw gyda ni ...
    Rhagor