Gweddïau Adfent

teitl-gweddiau-adfent

Adfent 1

O Dduw, ti sy’n ffynnon bod ac yn graig i’n byw,
Wrth i ni baratoi i gofio am eni Iesu
Cadw ni rhag meddalwch meddwl
A rho i ni’r gwytnwch i ryfeddu at dy amcanion,
I benlinio er mwyn deall, deall y rhyfeddod 
a ddigwyddodd yn Iesu
Er mwyn i ni adnabod Emaniwel,
Duw gyda ni ar ddydd Nadolig. Amen.

O Dduw ein hanwylyd,
A aned o gorff gwraig;
Daethost er mwyn i ni fedru dy weld
A’th gyffwrdd â’n dwylo;
Pan ofalwn am ein gilydd, pan gyffyrddwn â’n gilydd,
Gad i ni gael ein cyffwrdd gennyt Ti –
Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd,
Iesu Grist, Amen.

Adfent 2

Dduw ystyr a phwrpas, mae hi’n anodd i ni ddeall dy amcanion
I’r ddynoliaeth, i dy eglwys, yn ein bywydau.
Ond eto, yn dy air cawn fod yr amcanion yn ymwneud â gobaith
A’th amcan i achub dy fyd rhag llanast.

Arglwydd, yn dy drugaredd
Gwrando ein gweddi … 

O Dduw, yr wyt ti’n teyrnasu mewn gwyleidd-dra a gwendid,
Felly, gweddïwn
Dros y rhai sy’n meddu ar bŵer a dylanwad yn ein byd 
er mwyn cyflawni dy amcanion.
Cofiwn yn arbennig am ………..
Rho awydd yn eu calonnau am gyfiawnder a thrugaredd,
Ac i chwilio am dangnefedd.

Arglwydd, yn dy drugaredd
Gwrando ein gweddi … 

Y mae dy gariad yn hael a di-ffael.
Gweddïwn dros y rhai sydd mewn angen:
Y newynog, y digartref, y rhai sydd heb ddim.
Dysg i ni ymateb i’w hangen a bod yn ddwylo i ti heddiw.

Arglwydd, yn dy drugaredd
Gwrando ein gweddi … 

Rwyt ti’n bwriadu iechyd a chyfanrwydd i ni.
Gweddïwn dros y cleifion mewn corff, meddwl ac ysbryd,
Dros y rhai na allant ymgysuro yn dy amcanion di 
ac sy’n dwyn beichiau trwm.

Arglwydd, yn dy drugaredd
Gwrando ein gweddi … 

Rwyt ti’n ein nerthu a’n harwain.
Gweddïwn dros yr eglwys, yma a thrwy’r byd, 
gan gofio am …...
Rho i ni ddealltwriaeth o’th amcanion a gweledigaeth 
o’r hyn rwyt am i ni ei wneud.
Dduw ystyr a phwrpas, gweddïwn drosom ein hunain
y bydd i ysbryd Crist ein brenin deyrnasu yn ein calonnau
ac yn rhoi i ni faddeuant, tangnefedd, llawenydd a chariad,
bywyd yn ei holl gyfanrwydd,
Dad trugarog,
Derbyn y gweddïau hyn, a dysg ni fyw’n debycach i Iesu.
Amen.

Arglwydd gobaith,
Gweddïwn dros ein dyfodol:
Am ddyfodol ein byd, ein cymuned, ein heglwys,
Am ein dyfodol ein hunain a’r rhai rydyn ni’n eu caru.

Arglwydd gobaith,
Helpa ni i rodio yn dy oleuni di.

Arglwydd cyfiawnder, dysg i ni dy ffyrdd,
Agor ein llygaid i ddirnad ymelwa a gorthrwm;
Dangos i ni sut i fyw’n gyfiawn mewn byd cymhleth.
Agor feddyliau arweinwyr y cenhedloedd;
Dangos iddynt fod cyfiawnder yn ffordd ddoeth 
sy’n arwain at heddwch.

Arglwydd tangnefedd, dysg i ni dy ffyrdd di.
Agor ein llygaid i hunanoldeb a thrachwant.
Dangos i ni sut i fyw mewn goddefgarwch a dealltwriaeth

Arglwydd gobaith,
Helpa ni i rodio yn dy oleuni di.

Arglwydd gobaith, dysg i ni dy ffyrdd,
Agor ein llygaid i dy weld ar waith yn ein byd.
Dangos i ni’r pethau yr wyt yn galw arnom i’w gwneud.
Agor ein meddyliau a gwna ni’n barod i dy adnabod,
Ac agor ein calonnau i gariad dy Fab.

Arglwydd gobaith,
Helpa ni i rodio yn dy oleuni di.

O Dduw, yng Nghrist daethost i ddangos i ni ffyrdd cyfiawnder, 
heddwch a chriad.
Daethost i roi i ni obaith drosom ein hunain a thros y byd,
nawr ac am byth.
Gweddïwn yn enw ein Gwaredwr ac yn yr hyder a’r gobaith
y mae ef yn eu rhoi.

gweddiau-gwyl-ystwyll
Gweddïwn dros y rhai sy’n treulio’u hoes yn ceisio arwain eraill atat ti,
gan gynnal a chalonogi pobl ar eu pererindod.
Dyro iddynt dy adnabod di, a derbyn dy gariad,
dy lawenydd a’th wyleidd-dra di.
Distawrwydd

Nefol Dad, heddiw a phob dydd
arwain ni atat ti dy hun.

Gweddïwn dros ein harweinwyr ym myd gwleidyddiaeth a busnes,
ym myd addysg ac iechyd.
Deisyfwn am werthoedd cadarn a gonestrwydd,
am diriondeb a chryfder i sefyll dros yr hyn sy’n iawn.
Nefol Dad, heddiw a phob dydd
arwain ni atat ti dy hun.

Gweddïwn dros ein perthynas â phobl eraill sy’n gymdogion 
a chyd-weithwyr,
a thros aelodau o’n teuluoedd;
gofynnwn am ras i faddau’n hael,
i wrando’n ofalus a bod ar gael pan fo ar bobl ein hangen ni.
Nefol Dad, heddiw a phob dydd
arwain ni atat ti dy hun.
 
Gweddïwn dros y gwan a’r clwyfedig,
dros y rhai sydd wedi drysu ac mewn anobaith,
am obaith mewn dioddefaint, am gysur,
am iachâd i gorff, meddwl ac ysbryd.

Nefol Dad, heddiw a phob dydd
arwain ni atat ti dy hun.

Gweddïwn dros y rhai a fu farw,
a thros y rhai sy’n galaru ac yn unig;
gweddïwn am ras i farw’n dangnefeddus
ac ymddiried yn dy amcanion tragwyddol di.

Nefol Dad, heddiw a phob dydd
arwain ni atat ti dy hun.

Gweddïwn dros y rhai a’n helpodd ar ein pererindod
a’n hysbrydoli;
am y profiadau hynny a’n dygodd i’th adnabod a’th garu’n well.
Nefol Dad,
derbyn y gweddïau hyn
er mwyn dy Fab,
ein gwaredwr Iesu Grist,
Amen.

advent_candles_first_lit

 
email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r adran hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.