Archifau Categori: Agora 8

Golygyddol

lloer-arian-eto

Llun: Iestyn Hughes

GOLYGYDDOL

leonard-cohen

Leonard Cohen

Roedd ’na rywbeth hynod briodol bod Leonard Cohen, y bardd-ganwr o Ganada, fel petai wedi penderfynu mai digon oedd digon, a marw yn fuan ar ôl i Donald Trump ennill y frwydr i fod yn arlywydd yr Unol Daleithiau.

Iddew ydoedd a lynodd wrth ei ffydd, yn ddwys ei ddiddordeb mewn Cristnogaeth ac yn Fwdydd profiadol ar ôl byw am bum mlynedd o fyfyrdod mewn mynachdy Bwdwaidd.

 

Pynciau ei ganeuon oedd serch, cariad, angau a chrefydd: ‘Dance me to the end of time’. Os nad ydych wedi eu clywed chwiliwch ar y We:

Everybody knows that the dice are loaded 
Everybody rolls with their fingers crossed 
Everybody knows that the war is over 
Everybody knows the good guys lost 
Everybody knows the fight was fixed 
The poor stay poor, the rich get rich 
That’s how it goes 
Everybody knows

Roedd ganddo’r ddawn greadigol i lunio cymal syml, deifiol a thôn gref i’w gario:

Ring the bells that still can ring, 
Forget your perfect offering               
There is a crack in everything  
That’s how the light gets in.

(Ar sail y gân hon ystyriwyd am ychydig alw’r cylchgrawn hwn yn ‘Crac’ – ond fyddai teitl yr oedd yn rhaid ei egluro ddim yn deitl da!)

trump

Y darpar Arlywydd Donald Trump

Ond ystyriwn am ychydig y picil rydyn ni ynddo – ond wna i ddim digalonni’r darllenwyr drwy ymhelaethu ar y peryglon sy’n ein hwynebu. Cafwyd mwyafrif yn Lloegr a Chymru i lyncu celwydd a ffug addewidion Farage a Johnson a Gove, ac yn America dyrfaoedd wedi rhoi bonllefau o gymeradwyaeth i frygowthan a chelwydd Trump.

Mae’r papurau wedi bod yn llawn dyfalu a chyfiawnhau (a brygowthan atseiniol) – amryw wrthi yn taer obeithio na fydd Trump cynddrwg â’i addewidion a’i fygythion.

Ond mae ’na gytundeb fod yna ddiflastod mawr, casineb a dicter tuag at wleidyddion proffesiynol, traddodiadol. Mae pleidiau’r dde a’r chwith yn cael eu cyhuddo o fod i gyd yr un fath, i gyd yno i bluo’u nyth. Mae’r bleidlais yn tystio i rwystredigaeth pobl sy wedi cael eu gadael a’u pardduo a’u dirmygu. Ac mae’r dyrfa-giwed wedi troi ar y rhai gafodd addysg ac sy’n cymryd yn ganiataol eu bod rywsut yn ‘uwch’ na nhw.

hillbilly-elegy

Hillbilly Elegy: A Memory of a Family and a Culture in Crisis

Weithiau daw help i ddeall o gyfeiriad annisgwyl. Cyhoeddwyd ym mis Awst gyfrol sy’n cael ei thrafod yn frwd yn y papurau – a darganfyddais adolygiad ohoni ynghyd â chyfweliad treiddgar gyda’r awdur ar wefan na wyddwn am ei bodolaeth hyd yn oed: The American Conservative. Enw’r gyfrol yw Hillbilly Elegy: A Memory of a Family and a Culture in Crisis gan J D Vance. Disgrifiad taer a theimladwy ydyw o fywyd tlodion ardal Appalachia a West Virginia lle y gwelir cefnfor o bosteri’n cefnogi Trump.

Trump oedd eu harwr am mai ef oedd yn mynegi dicter y tlawd at y crachach (yr elites) Democrataidd a Gweriniaethol. Ond gŵr cyfoethog yw Trump (a Farage, a Boris Johnson) yn marchogaeth gyda’i celwydd denu pleidlais ar gefn tlodi ac anobaith.

j-d-vance

J. D. Vance

Dyn a lwyddodd i ddringo allan o dlodi Appalachia yw J. D. Vance ac mae ei brofiad yn ddadlennol a’i edmygwyr yn mynnu ei fod yn llais i’r gymuned ddiyngan honno, cymuned a ddirmygir gan y ‘llwyddiannus’. Mae’n disgrifio problemau’r cymdeithasau hyn, grawnwin surion tlodi ac anghyfiawnder – cyflogau slafdod, a chysur heroin, teuluoedd ar chwâl, tadau wedi troi eu cefnau, cyfresi o gartrefi a llys-dadau gwahanol, anobaith, diffyg moes a chwrteisi, diffyg gwybodaeth, diffyg cysylltiadau i hyrwyddo a meithrin pobl ifanc i anelu at y gorau, ac nid bodloni ar y salaf a llyfu eu briwiau yn lle ymdrechu i wella’u byd.

Nid yw polisïau de na chwith wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i’r gwerinos druain hyn ac mae eu ‘buddugoliaeth’ o gael Trump yn Arlywydd yn fater o lawenhau oherwydd bod y gwleidyddion eraill wedi cael gwir fonclust a bod yna rywun yn barod i ddweud y pethau maen nhw’n eu teimlo i’r byw. Casáu byddigions â’u hacenion sgleiniog, rhugl, sy ddim wedi talu sylw i’r tomenni sbwriel a adawyd wrth i’r ffatrïoedd gilio. Maen nhw’n argyhoeddedig nad ydi addysg nac arian yn disodli synnwyr cyffredin a gwyleidd-dra gwerinol a bod cywirdeb gwleidyddol yn rhagrith sy’n gwrthod wynebu’r gwir fel y maen nhw’n ei weld.

quote-golygyddol

Dywed Vance: Ni fydd byth economi digon cyfoethog na rhaglen llywodraeth ddigon cryf i wneud iawn am ddiffyg teulu sefydlog a diffyg hunanddisgyblaeth. Mae trafodaeth ar broblemau’r tlawd yn dueddol o osgoi mater cyfrifoldeb moesol am fod y crachach dosbarth canol yn ofni barnu ac yn syml yn methu deall. Mae angen cydymdeimlad a gweithredu gan lywodraeth, ond mae angen hyfforddiant a gonestrwydd hefyd. Mae Vance yn disgrifio sut y bu iddo ef ddysgu’r pethau na ddysgwyd iddo gan y diwylliant o’i gwmpas. Ymunodd â’r Marines – am mai dyna mae llawer o wrywod tlawd yn ei wneud, a chafodd, meddai, bedair blynedd o addysg cymeriad a sut i drin ei hunaniaeth. Yr oedd wedi dysgu bod yn ddiymadferth adre; dysgodd sefyll yn syth yn y Marines. Swyddog arno yn y Marines, er enghraifft, a ddysgodd iddo i beidio â phrynu BMW ond bodloni ar Honda, ac i gael benthyciad o’r Undeb Credyd yn hytrach nag o’r banc. Dysgu yn y jargon cyfoes ‘individual agency’ – bod yn gyfrifol am eich hunan. Arswyd y byd, dyma ni ’nôl ym myd self help oes Fictoria a Samuel Smiles? Wel, mae rhywbeth i’w ddweud dros hynny, siawns! Dyna sut yr ymbarchusodd y Gymru Gymraeg wrth brofi bod y Llyfrau Gleision yn anghywir a chasglu’r ceiniogau prin i gael prifysgol yn Aberystwyth. Roedd ganddyn nhw obeithion ac amcanion hefyd ac roedden nhw’n frwd dros eu plant.

Wrth drafod Trump, dywed Vance fod ei galon yn cynhesu at y bonclustiau, ond ei grebwyll yn arswydo y bydd yr addewidion celwyddog yn gwneud pethau’n llawer iawn gwaeth ac y bydd yr adwaith pan ddatguddir y twyll yn ymateb enbyd iawn. Y mae, meddai Vance, yn ymfflamychu’r dde ac yn cefnogi greddfau gwaethaf y chwith. Ym myd Trump rydyn ni wedi troi’n cefnau hyd yn oed ar gogio perswâd.

Mae pwyslais Vance ar gyfrifoldeb unigolion a chyfrifoldeb byd llywodraeth yn bwysig ac yn fater o greu a chynnal diwylliant a chynnal ‘safonau’ a ‘gwerthoedd’. Nid o gyfeiriad Trump na Farage y daw’r pethau hyn.

aditya-chakrabortty

Aditya Chakrabortty Llun: The Guardian

Mae’r un problemau yn cyniwair yng Nghymru. Ysgrifennodd Aditya Chakrabortty am gyflwr Pontypŵl yn ddiweddar yn y Guardian. Yr un anobaith, yr un cylchdro o ddiflastod a diffyg ystyr a phwrpas: ‘Mae stori Pontypŵl yn stori o gyfoeth wedi ei afradu, egni wedi ei fygu, o gymuned gyfan wedi ei lluchio ar y tipiau.’

Dyma ardal Torfaen, lle’r oedd y bleidlais dros Brexit yn 60/40. Dydi Pontypŵl ddim yn chwyddo o fewnfudwyr o unrhyw fath!

Mae 75% o’r plant yn cael eu magu mewn tlodi. Mae 53% o gartrefi ystad fawr Trevethin yn byw mewn tlodi. Y problemau – teuluoedd yn methu talu rhent, y boblogaeth yn ysglyfaeth i fwy o glefydau, o gancr i afiechyd meddwl. Ac mae polisïau Llafur a Thorïaeth wedi methu gwneud unrhyw wahaniaeth i Bontypŵl ac i ardaloedd helaeth ‘ôl-ddiwydiannol’.

Mae’r rheini ohonom sy’n arswydo wrth feddwl am ddyfodol UKipaidd–Trumpaidd ac yn arswydo at ffolineb a pheryglon beth sy’n cael ei ddweud yn ddigalon. Fel y dywedwyd mewn cartwn bachog yn ddiweddar: ‘Rwy am gymryd diddordeb yn yr hyn sy’n mynd ymlaen, ond dydw i ddim eisiau colli ’mhwyll.’

A beth amdanom ni, Gristnogion? Cyfundrefnau’r ffydd yn eu gwahanol lifreiau, ar waethaf eu herchyll gamsyniadau, fu ffynhonnell cydwybod a chyfiawnder, dysg a diwylliant, caredigrwydd a chwrteisi yn Ewrop. Ac erbyn hyn mewn Ewrop aml-ddiwylliant mae’n rhaid i ni chwilio am y gorau yn ein gilydd ac ymroi i adnabod y bobl o’n cwmpas a pheidio ag ofni’r rhai sy dipyn yn wahanol. Mae angen i’r gymdeithas a roes gymaint o bwysau ar ‘wneud yn dda’ a dringo allan o’r pwll glo a’r gwaith llechi, ac sydd wedi elwa ar hynny, gofio’u cyfrifoldeb fel unigolion i’r gymdeithas honno. Gobeithio nad ydi hynny’n rhywbeth rhy debyg i ddisgwyl i’r cyfoethog dalu eu trethi!

Na wangalonner, ond bydd tipyn o hunanymchwilio’n lles i ni yn y cyfnod anodd hwn. Ac ymataliwn rhag rhoi’r bai ar bawb arall!

Tlodion – o bell ac agos. Methiant y pleidiau gwleidyddol.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Cofio Gethin Abraham-Williams

Cofio Gethin Abraham-Williams

gan Aled Edwards

Yn dawel yn ystod munudau hyfryd cyntaf Sul yr Adfent bu farw un o hoff gymeriadau’r bywyd eglwysig Cymreig, y Parchedig Gethin Abraham-Williams. Wedi wynebu her gwaeledd hir gydag ysbryd aruthrol, fe’n gadawodd yn 77 mlwydd oed yng nghwmni ei wraig Denise a’i blant Owain ac Ellen. Brodor o Aberystwyth oedd Gethin, yn fab i’r diweddar Emlyn ac Anne Elizabeth Abraham-Williams. Cafodd ei ddysgu yn ysgolion y fro cyn graddio yng Ngholeg Regent’s Park, Rhydychen ac ennill MA yn 1967. Bu’n weithgar fel Cadeirydd Undeb Colegau Diwinyddol Rhydychen. Yn hyn, cafwyd arwyddion cynnar o’i afael cadarn ar y grefft ddiwinyddol a’i ddawn i gyfathrebu ac ysgrifennu. 

gethin-2

Y diweddar Gethin Abraham-Williams

Cafodd ei ordeinio’n weinidog gyda’r Bedyddwyr yn 1965 a’i benodi’n fugail cynorthwyol yn ninas Coventry cyn symud i Sutton Coldfield, Surrey ac yn fwyaf arbennig, Milton Keynes. Yno, cyflawnodd waith blaengar yn meithrin traddodiad eciwmenaidd y ddinas. Fe ddefnyddiodd Gethin y cyfan a ddysgodd o’r profiadau eciwmenaidd cynnar hyn wedi iddo ddychwelyd i Gymru yn 1990 i wasanaethu Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol a Bwrdd Cenhadu’r Eglwys yng Nghymru. Tybir weithiau i’r broses eciwmenaidd fethu oherwydd i’r cynlluniau mawrion fethu. Nid dyna wirionedd y peth. Roedd gofal bugeiliol eithriadol Gethin o gefn mawr i sawl un mewn gweinidogaeth leol. Cynhyrchwyd gwasanaethau creadigol ar y cyd ac fe gafwyd canonau eglwysig sydd hyd heddiw yn caniatáu rhannu gweinidogaethau i rannau helaeth iawn. Bu Gethin yn hynod gefnogol i mi fel gweinidog bro gyda’r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ardal Botwnnog yn ystod y cyfnod hwn.

Wedi hynny, fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn fe adeiladodd Gethin ar waith da ei ragflaenwyr gyda dyfodiad y Cynulliad yn 1999. Arddelwyd cysylltiad â’r Cynulliad Cenedlaethol gan feithrin perthynas â chymunedau ffydd eraill. Galluogodd yr eglwysi i fod yn effeithiol wrth wynebu trychinebau fel y clwyf traed a’r genau yn 2001. Go brin cyn datganoli y byddai unrhyw un wedi dychmygu’r math o ymwneud gwleidyddol sy’n bodoli heddiw. Fe wnaeth Gethin y pethau hyn yn bosib.

Fe’n gadawodd nid yn unig i synau gweddïau’r gymuned Gristnogol ond i ddymuniadau da cymunedau ffydd eraill a chenedl ddiolchgar. Byddai clywed Iddew yn diolch am ei gyfraniad mewn Mosg yng nghwmni Cristnogion y dydd o’r blaen wedi ei blesio’n fawr. I’r rhai a fu’n ffodus i’w adnabod byddai’r wên annwyl a direidus honno a oedd yn gymaint nodwedd o Gethin yn sicr o ddod i’r cof.

 

 

Newyddion Agora

Colli’r annwyl a’r tawel Gethin Abraham-Williams

Ychydig ddyddiau cyn  i Agora ymddangos daeth y newyddion am farwolaeth Gethin, yn 77 oed. Yn un o Aberystwyth  bu’n weinidog gyda’r Bedyddwyr mewn tair ardal yn Lloegr a hyn yn cynnwys profiad o weinidogaeth mewn tîm ecwmenaidd. Roedd hyn yn gymwysterau arbennig iddo fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn rhwng 1998 a 2006. “Roedd wedi llwyddo’, meddai Aled Edwards, ei olynydd,  ‘mewn ffordd cwbl ryfeddol i gael cymunedau ffydd Cymru at ei gilydd – cymunedau Hindŵaidd, Mwslimaidd, Iddewig ac eraill – i ddod i mewn i berthynas ac i fod yn gyfeillion i’w gilydd – a bod hwnnw wedi ei wreiddio yn y dynamig gwleidyddol newydd… doniau ac athrylith Gethin oedd yn gyfrifol am lwyddiant mawr hynny.”Bu ei arweinaid i eglwysi Cymru yn un tawel a chynnes, fel Bugail oedd yn barod i wrando a holi, yn hytrach na datganiadau mawr. Fe fydd llawer yn cofio’r gwasnaeth arbennig iawn a luniodd ac a drefnodd i groesawu’r mileniwm yng Nghaerdydd.”

gethin-abraham-williams

Gethin Abraham Williams

Wedi ymddeol cyhoeddodd dair cyfrol oedd yn brawf o’i feddwl craff a’i ddiwinyddiaeth effro a threiddgar ar ddechrau’r ganrif newydd : Spirituality or Religion (2008), Seeing the good in unfamiliar spiritualities (2011) a Why the Gospel of Thomas matters (2015)  cyfrol â dderbyniodd adolygiadau arbennig yng Nghymru,  Prydain ac America.Yn y gyfrol hon mae’n egluro pam fod y gair Saesneg ‘incertainty’ yn well na’r gair  negyddol ‘uncertainty’. Mae dyfyniadau o’r gyfrol yn rhifyn Ebrill o Agora. Bu’n gefnogol iawn i Cristnogaeth 21 a chawsom ei gwmni mewn cynhadledd ac encil yn ogystal â darlith ganddo yng Nghynhadledd 2014.

Diolchwn i Dduw am fywyd, gweinidogaeth a chyfraniad Gethin, y Cristion gwylaidd a diymhongar.

Buom yn ddigon ffodus i dderbyn erthygl fer gan Gethin ychydig cyn ei farw, yn sôn am ymweliad Karen Armstrong â Chaerdydd.  Mae hi i’w gweld YMA. Fe welwch ein bod hefyd wedi ychwanegu teyrnged iddo gan Aled Edwards yn y rhifyn hwn o Agora. Mae hi i’w gweld YMA.

Crefydd a’r cyfryngau

Ar Dachwedd 25ain cyhoeddodd y BBC yn Llundain na fyddant yn apwyntio neb fel pennaeth Adran Grefydd a Moeseg i ddilyn Aaquil Ahmed sydd wedi symud i swydd arall. O hyn ymlaen  James Purnell (Pennaeth Radio ac Addysg) fydd â gofal am grefydd a moeseg. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ionawr gyda Tony Hall, Cyfarwyddwr y BBC, a James Purnell, gyda chynrychiolwyr o’r eglwysi a chrefyddau eraill i gynghori’r Gorfforaeth ar sut i greu a hyrwyddo rhaglenni crefyddol. Un o’r rhai sydd wedi beirniadu’r BBC yn hallt yw Roger Bolton (un o gyflwynwyr Radio 4, a chyn gyflwynydd y rhaglen Sunday) sydd wedi cyhuddo’r gorfforaeth o beidio cymeryd crefydd o ddifrif. Nid oes gan y BBC, meddai, Gomisiynydd Rhaglenni crefyddol tra bod comisiynwyr rhaglenni i pob math o feysydd eraill.

Ymddiheuriad esgobion

Ar  Sul cyntaf yr Adfent (Tachwedd 27) darllenwyd llythyr gan Esgobion Rwanda ym mhob Eglwys Gatholig drwy’r wlad yn ymddiheuro fod rhai esgobion ac offeiriad wedi bod yn rhan o’r lladdfa o filiwn o Tutsis (a rhai Hutus) yn 1994. Y mae’r lladdfa bellach yn cael ei ystyried yn hil-laddiad. Fe benderfynwyd gwneud y datganiad dros ugain mlynedd yn ddiweddarach oherwydd fod diwedd Blwyddyn Trugaredd  yr Eglwys Gatholig yn dod i ben ar ddechrau’r Adfent eleni. Fe wnaeth y Dutch Reformed Church ddatganiad o ymddheuriad yn 1992 ar ôl blynyddoedd o gefnogi polisi apartheid. Fe ddaeth y datganiad hwnnw ar ddiwedd gwaith y Comisiwn Gwirionedd a Chymod (dan gadeiryddiaeth Desmond Tutu) a dwy flynedd ar ôl rhyddhau Nelson Mandela. Mae’n cymeryd blynyddoedd, os nad canrifoedd, i’r eglwys roi ei thŷ a’i thystiolaeth mewn trefn.

Ffydd Fidel?

Mewn llythyr cydymdeimlad a anfonodd o garchar yn y cyfnod cyn y Chwyldro ( i deulu â gollodd fab yn y frwydr  ) meddai Fidel Castro, Duw yw’r ddelfryd fawr o ddaioni a chyfiawnder. Cafodd ei fedyddio i’r Eglwys Gatholig a’i addysgu gan y Jesiwitiaid ond eto pan ddaeth i rym yn 1959, dechreuodd gyfnod o erlid ar yr Eglwys yn Cuba. Er hynny bu iddo groesawu’r Pab ddeng mlynedd yn ôl . Dyna hanes Castro a dyna hanes yr Eglwys Gatholig yn Ne America ac America Ladin yn y gwrthdaro rhwng y Fatican a Diwinyddion Rhyddhad. Fe gredodd Castro ei bod yn bosibl bod yn ‘fath o Gristion’ a bod yn ffyddlon i’r ddelfryd Sosialaidd. ‘Os yw fy mhobl am fy ngalw yn Gristion oherwydd y weledigaeth sosialaidd,…yna yr wyf yn Gristion’ meddai yn 2006, ychydig cyn ymddeol ar ôl 50 mlynedd o arwain yn Cuba.

pab-a-castroBu’n gormesu’r eglwys oherwydd  ei hagwedd gwrth-gomiwnyddol ac aeth ati i genedlaetholi yr ysgolion Catholig, gwahardd cyhoeddiadau eglwysig ac, ar un cyfnod yn 1961, alltudiwyd 150 o offeiriadon i Sbaen. Ond erbyn 1991, roedd ei agwedd wedi newid a daeth mwy o ryddid i fywyd a gwaith yr eglwys yn Cuba. Gwahoddwyd y Pab i Cuba yn 1998 a gwelwyd Castro ym mhob un o ymddangosiadau cyhoeddus y Pab, gan gynnwys pob Offeren. Dechreuodd yr eglwys gael mwy o ddewrder a rhyddid i herio unrhyw drosedd yn erbyn hawliau dynol ac i ymgyrchu am ryddhau y rhai odd wedi eu carcharu am weithredu gwleidyddol yn erbyn y Llywodraeth. Llynedd aeth ei frawd a’i olynydd i’r Fatican i ddiolch i’r Pab o Dde America am ei gyfraniad i agor cyfnod newydd yn Cuba.  Ar wahan i faint y galaru cyhoeddus a’r eglwysi yn galaru ac yn diolch am ei gyfraniad, efallai mai’r tristwch mwyaf ym marwolaeth Fidel Castro yw gweld miloedd o alltudion Cuba ym Miami yn dathlu ac yn diolch fod gwr 90 oed wedi marw.

Gwahoddiad

13-church-in-wales-invite_a6jpgversion_welsh-copy

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r Newyddion, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Ffasgaeth ar gerdded

Rhag ofn nad ydych yn gyfarwydd ag erthyglau rhyngweithiol, fe welwch ambell i gymal isod wedi ei danlinellu mewn glas. O glicio arno, cewch ragor o wybodaeth am yr agwedd honno.

Mae Ffasgaeth ar gerdded:
mae’n amser i Gristnogion ddewis eu hochr
gan Gethin Rhys

gethin-yn-agora

Gethin Rhys, yn addas iawn, yn Agora.

Rwy’n ymddiddori’n fawr mewn hanes gwleidyddol, a’r degawd fu’n fy niddori mwyaf efallai yw’r 1930au. Sut y bu i’r byd gerdded mor rhwydd, mor ddall, i gyflafan erchyll? Sut y bu i gymaint o wledydd gwâr syrthio i Ffasgaeth? Pam y bu’r eglwysi Cristnogol, at ei gilydd, mor fud, ac yn wir rhai’n gefnogol i’r Ffasgwyr?

Go brin i mi ddisgwyl y byddwn yn dysgu’r atebion i’r holl gwestiynau hyn wrth fyw drwy 2016. Ond dyna ddigwyddodd. Ar Dachwedd 8 fe syrthiodd gwlad fwyaf pwerus y byd i Ffasgaeth – gydag 81% o Gristnogion efengylaidd croenwyn yn pleidleisio o’i phlaid.

Mae’r tebygrwydd i fuddugoliaeth 1933 yn yr Almaen yn hynod:

  • Chwerthin am ben Hitler a’i dwpdra fu deallusion yr Almaen tan y funud olaf. Felly hefyd gyda Trump.
  • Roedd rhai o arweinyddion democrataidd yr Almaen wedi manteisio ar gyfleoedd i ymelwa wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd y dosbarth deallusol yn gyffredinol wedi ymbellhau oddi wrth y werin, a oedd yn dioddef yn ofnadwy wedi argyfwng bancio 1929. Felly hefyd yn UDA a ledled y byd gorllewinol heddiw ar ôl argyfwng bancio 2008.

etholiad-america

  • Yn dawel fach yn y cefndir, roedd lladmeryddion Ffasgaeth yr Almaen wedi cipio dylanwad mewn rhannau o’r wasg a’r cyfryngau torfol. Trwy Breitbart News (ei bennaeth bellach yn un o gynghorwyr agosaf Trump), Fox News a’r ffug newyddion ar Facebook fe wnaeth lladmeryddion Trump hyd yn oed yn well. Byddai Goebbels yn eu hedmygu’n fawr.
  • Roedd yna ddigon o blith dosbarth gwleidyddol yr Almaen a chanddynt ddigon o hyder i gredu y gallent ddofi Hitler – Hindenburg oedd yr amlycaf, yn ei benodi yn Ganghellor. Roedd llawer o blith sefydliad y Blaid Weriniaethol yn UDA yn credu’r un peth am Trump.
  • Methodd Hitler ag ennill etholiad Tachwedd 1932, ond cafodd ei benodi’n Ganghellor beth bynnag. Methodd Trump ag ennill mwyafrif y pleidleisiau yn Nhachwedd 2016, ond mae pob arwydd y bydd y Coleg Etholiadol yn ei wneud yn Arlywydd p’un bynnag.
  • Serch yr hyn a ddywedwyd wedyn, nid oedd Hitler erioed wedi cuddio ei fwriadau. Fe gyhoeddwyd Mein Kampf ym 1925–6. Mae Trump wedi ei gwneud hi’n glir y bydd yn targedu pobl o Dde America a Mwslimiaid, a’i fod yn dilorni merched. Mae wedi galw am gadw ei wrthwynebwyr gwleidyddol dan glo (“Lock her up!”). Fedr neb ddweud na chawsant eu rhybuddio.
  • Fe arhosodd rhelyw’r eglwysi Cristnogol yn yr Almaen yn dawel, dan ddylanwad y ddiwinyddiaeth Lutheraidd a gredai mewn “dwy deyrnas” – teyrnas Dduw a theyrnas y byd, a’r eglwys yn ymwneud â’r gyntaf yn unig. Yn UDA, diwinyddiaeth “Left Behind” – dyletswydd Cristnogion yw paratoi at ddiwedd y byd, a hyd yn oed efallai ei gyflymu – sydd wedi dylanwadu ar gymaint o Gristnogion yno i lawenhau wrth weld o bell y dydd yn dod.
  • Fe gadwodd yr eglwysi yn dawel am ffaeleddau moesol personol Hitler. Felly hefyd yr eglwysi yn achos y datgeliadau am Trump.

Mae’n arwyddocaol i hyn ddigwydd pan fo’r olaf o’r genhedlaeth oedd yn oedolion ym 1933 wedi darfod o’r tir. Cenedl heb gof, cenedl heb amddiffyniad yn erbyn Ffasgaeth.

Nid yw hanes byth yn ailadrodd ei hun yn slafaidd, ond os bydd pethau’n parhau ar hyd linellau 1933, mae gennym syniad go lew beth ddaw nesaf.

ty-gwyn

Y Tŷ Gwyn

Yn gyntaf, fe fydd seremoni sefydlu’r Arlywydd newydd ar Ionawr 20 yn troi yn rali fawreddog, tebyg i Ralïau Nürnberg. Fe dynnir y lluoedd arfog a’r heddlu i mewn i ufudd-dod llwyr gydag addewidion o gefnogaeth ddiamod gan y wladwriaeth. Eisoes mae Trump wedi penodi Twrnai Cyffredinol sy’n annhebyg iawn o fynd ar ôl camweddau’r heddlu, ac mae Trump a’i Gynghorydd Diogelwch wedi dweud na fyddant yn gwrthwynebu poenydio gan y lluoedd arfog.

Yn fuan wedyn, bydd Trump yn cychwyn gweithredu ei addewidion. Fe fydd yn dechrau ar y broses o alltudio 2–3 miliwn o bobl o dras De America. Mae’n anochel y bydd rhai yn gwrthwynebu eu ffawd, y bydd teuluoedd a chyfeillion y bobl hyn yn ceisio atal yr heddlu rhag cyflawni eu gorchwyl, ac fe rydd hynny esgus i Trump gyflwyno Stad o Argyfwng pan ddaw hi’n anghyfreithlon i brotestio’n gyhoeddus. Yn wir, mae galwadau am hynny eisoes.

Dan gochl y gweithredu hwn fe fydd yn gallu troi ar Fwslimiaid. Fe fydd yn aros am esgus o ryw fath – gweithred derfysgol, efallai, neu arestio rhywrai am gynllunio terfysgaeth. Bydd y cyfryngau yn llawn hanesion am beryglon y grefydd, a bydd y cyfryngau cymdeithasol yn annog ymosodiadau ar Fwslimiaid gan unigolion eithafol – Kristallnacht Americanaidd (Fe gyhoeddwyd buddugoliaeth Trump union 78 mlynedd ar ôl Kristallnacht). Fe fydd wedyn yn gallu gorchymyn i Fwslimiaid gofrestru, ac “er eu diogelwch” fe gânt eu symud i ardaloedd penodol lle gellir eu “gwarchod” y tu hwnt i lygaid y cyhoedd. Go brin fod angen ymhelaethu ar natur y gwersylloedd hyn na thynged y sawl fydd ynddynt.

Fe fydd raid i Gristnogion yr Unol Daleithiau ddewis eu hochr o fewn y misoedd nesaf. Fe wyddom eisoes y bydd y mwyafrif yn cefnogi Trump, fel y bu i fwyafrif y “Cristnogion Almenaidd” gefnogi Hitler. Ond fe fydd yna Eglwys Gyffesol hefyd. Mae Jim Wallis eisoes wedi sefydlu Called to Resist gyda nifer dda o arweinyddion eraill, yn enwedig eglwysi croenddu. Diolch amdanynt.

bashir-naderi

Bashir Naderi Llun: Wales Online

Fel y bu i Iddewon geisio ffoi o’r Almaen, ond cael eu troi’n ôl o Balesteina gan filwyr Prydeinig ac o lawer o wledydd eraill Ewrop, fe fydd Mwslimiaid America hefyd yn ceisio ffoi. Ond fe welsom eisoes faint o groeso sy’n debyg o fod iddynt yng ngweddill y Gorllewin. Yn wir, wrth i mi sgrifennu’r erthygl hon yn ninas Caerdydd mae gŵr ifanc 19 mlwydd oed, Bashir Naderi, yn wynebu cael ei gludo i Afghanistan am y drosedd o gael ei eni yno; ac mae Faruk Yavuzel, sydd wedi sefydlu bwyty llwyddiannus iawn yn y ddinas, wedi methu adnewyddu ei fisa ac yn cael ei ddanfon yn ôl i Dwrci. Mwslimiaid yw’r ddau, wrth gwrs.

donald-trump

Donald Trump

Am resymau economaidd, fydd llywodraethau’r Gorllewin ddim am gythruddo Trump, ac fe fydd rhai yn cyfeillachu ag ef. Mae Theresa May a Boris Johnson eisoes yn dilyn camrau Neville Chamberlain a Lloyd George yn hyn o beth.

(Gyda llaw, nid wyf trwy hyn am feirniadu diplomyddion ac eraill fydd yn parhau â’u gwaith drwy’r cyfnod anodd nesaf hwn. Fe fu i ddiplomyddion, drwy eu gwaith gofalus, amyneddgar, achub nifer o Iddewon ac eraill rhag erledigaeth yn y 1930au a’r 1940au. Dylem weddïo dros ddiplomyddion ein hoes ni.) Fe fydd ambell wlad yn dilyn esiampl UDA – mae llywodraethau lled-Ffasgaidd eisoes yng Ngwlad Pwyl a Hwngaria (heb sôn am Rwsia), ac mae Ffasgaeth yn cynyddu’n gyflym yn Ffrainc.

Ac felly, fe fydd angen i Gristnogion y gwledydd hyn hefyd ddewis eu hochr, a hynny ar fyrder. Os dilynwn hanes Almaen y 1930au, fe welwn ddewisiadau annisgwyl. Roedd yr Eglwys Gyffesol yn cynnwys cyfuniad o Galfinwyr a Lutheriaid tra gwahanol i’w gilydd – a llawer o’u ffrindiau wedi aros yn yr eglwys swyddogol. Yn 2017, fe fydd rhai Cristnogion rhyddfrydol eangfrydig yn teimlo na ddylent beryglu eu heglwysi drwy fod yn rhy ymosodol, a’i bod yn well peidio beirniadu’n gyhoeddus. Fe fydd llawer o unigolion yn ofni colli eu swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus os ydynt ynghlwm wrth feirniadaeth ar Ffasgaeth, a byddant yn cadw’n dawel. Fe fydd enwadau traddodiadol yn ei chael hi’n anodd ochri ar goedd. Ar y llaw arall, fe fydd nifer o Gristnogion ceidwadol, efengylaidd eu diwinyddiaeth – y math o Gristnogion y mae llawer o ddilynwyr Cristnogaeth 21 yn ei chael hi’n anodd dygymod â nhw – yn gweld arwyddion eilun-addoliaeth ac anffyddlondeb i’r Efengyl yn nilynwyr Trump a’i debyg, ac yn sefyll yn ei erbyn.

marine-le-pen

Marine Le Pen

Fe droes y 1930au yn 1940au ac yn rhyfel byd. Mae’n eironig mai Sul y Cofio oedd y Sul cyntaf ar ôl buddugoliaeth Trump – ac i’r BBC ddarlledu cyfweliad â Marine Le Pen ar y bore hwnnw.

Y tro hwn mae pethau’n wahanol. Methodd yr Almaen â datblygu arfau niwclear cyn diwedd y rhyfel, ond mae gan y Ffasgwyr hyn ddigonedd ohonynt. Mae Trump eisoes wedi gofyn, Beth yw pwrpas bod ag arfau niwclear heb allu eu defnyddio? “Dyw hi ddim yn ddiwedd y byd,” meddwn i ac eraill drannoeth y refferendwm. Ond drannoeth etholiad America, ni ellid dweud y fath beth.

Mae rhai sylwedyddion wedi ceisio gweld gobaith yn nhrefn wleidyddol UDA:

  • Cyfansoddiad ysgrifenedig – ond roedd un gan yr Almaen ym 1933 hefyd.
  • Barnwyr annibynnol – ond Trump fydd yn llenwi’r swyddi gwag.
  • Etholiadau i’r Gyngres yn 2018. Ond fe gynhelir y rheini dan gysgod cyfryngau gwenwynig a thrais ar y strydoedd. Bydd UDA bron yn sicr o bleidleisio dros “ddiogelwch”.
  • Etholiad Arlywyddol arall yn 2020. Ond erbyn hynny fe fydd Trump wedi prynu tawedogrwydd rhai o’i wrthwynebwyr, ac fe fydd y gweddill dan glo.

Ond nid cyfres o ddigwyddiadau anochel yw hanes. Fe allwn newid ei drywydd. Ni allwn aros tan yr etholiad nesaf. Rhaid dewis ein hochr nawr. Ni fydd yr un ohonom yn gwneud penderfyniad pwysicach weddill ein bywyd. Ymhle safwn ni?

Mae Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a ysgrifennwyd ar 19 Tachwedd 2016.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Dweud Pader wrth Berson

Dweud Pader wrth Berson

Arwel Rocet Jones

Cynhaliwyd noson lansio Cymru i Bawb yn y Morlan yn Aberystwyth nos Wener,                  4 Tachwedd. Roedd Elin Jones AC, Mark Williams AS, Joyce Watson AC, Siôn Meredith ac Aled Edwards yn siarad. Dyma i chi’r Morlan ar ei gorau: Canolfan Ffydd a Diwylliant; Canolfan Ffydd ac Amlddiwylliannedd. Y lle’n orlawn o bobl o bob mathau o gefndiroedd a chredoau yn dyheu am y pethau gorau.

Cyfarfod cyntaf  "Cymru i Bawb" yng nghanolfan y Morlan, Aberystwyth. First meeting of "Cymru i Bawb", Canolfan Morlan, Aberystwyth

Cyfarfod cyntaf “Cymru i Bawb” yng nghanolfan y Morlan, Aberystwyth.  Llun: Marian Delyth

Wrth fynd ati i drefnu a chadeirio’r noson un o fy mhryderon i oedd y bydden ni’n dweud pader wrth berson. Llond stafell o bobl yn cytuno â’i gilydd, yn cymeradwyo’i gilydd, yn cefnogi ei gilydd.

Wrth drafod hyn gydag Elin Jones, ei barn hi oedd bod angen dweud pader wrth berson weithiau. Ac fe wnaeth hynny i mi feddwl.

 

Rhyw hen dinc digon beirniadol neu negyddol sydd yna i’r ymadrodd ‘dweud pader wrth berson’. Paid â wastio dy anadl yn dweud rhywbeth wrth rywun sydd eisoes yn gwybod neu hyd yn oed yn gwybod yn well na chdi. Ond onid ydy dweud pader wrth berson yn rhan hanfodol o’n byw a’n bod ni? Onid oes angen dweud pader wrth berson, yn enwedig pan fo pethau’n anodd? Onid ydy hynny’n un o hanfodion addoliad o Sul i Sul? Bod angen i ni fod yn gefn i’n gilydd. Bod angen i ni, mewn cyfnod o ofn a dychryn, roi’r nerth a’r geiriau i’n gilydd i sefyll. Ac weithiau, drwy ailadrodd y geiriau hynny, nid hyd at syrffed, ond hyd nes eu bod nhw’n treiddio i fêr eich esgyrn chi, y dôn’ nhw i ffurfio tarian amdanon ni. Ac o dipyn i beth y daw’r rhai hynny sy’n swil, yn ofnus neu’n ansicr yn fwy hyderus i godi llais a bod, yn eu tro, yn gefn i eraill. Yn wir, mae’n debyg y gallen ni, o ddiwrnod i ddiwrnod, o gyfarfod i gyfarfod, fod yn swil ac yn hyderus, yn ofnus a chadarn am yn ail.

Ledled y byd mae cysgod hanes yn pwyso’n drwm ar y cyfnod yma, i’r rhai hynny sy’n dewis teimlo pwysau cysgodion. Mae Prydain, America, Ffrainc, Awstria ac eraill yn gwawdio hanes.

Cyfarfod cyntaf  "Cymru i Bawb" yng nghanolfan y Morlan, Aberystwyth. First meeting of "Cymru i Bawb", Canolfan Morlan, Aberystwyth

Arwel Rocet Jones

Yn lleol, yn lleol iawn i’r Morlan, roedd dau ddigwyddiad pwysig yn pwyso. Y tu allan i’r neuadd mae llechen yn cofio fel y gwnaeth pobl fel ni, drigolion y dref, capelwyr parchus, academyddion a phobl gyffredin, gant a dwy o flynyddoedd yn ôl, droi ar un o’u cyfoedion a bygwth ei droi o’r dref oni bai ei fod yn gadael ohono’i hun. ‘Torf fawr’ ymgasglodd y tu allan i Siloh, meddai’r Gymraeg. ‘Mob’ meddai’r llechen yn Saesneg. Mae’n well gen i’r Saesneg yn yr achos hwn. Troi ar yr Athro Hermann Ethé, Almaenwr, wnaeth y mob – dyn oedd wedi cyd-fyw â nhw yn y dref hon am ddeugain mlynedd.

Ydy, mae’r llechen yn cofio’r ‘mob’ ac yn ymdynghedu na all o byth ddigwydd eto. Mae’r llechen hefyd yn ein hatgoffa ni mai pobl gyffredin, fel ni, oedd y ‘mob’. Ac mae’n rhybudd i ni, bob un ohonom, i beidio ailadrodd yr hanes hunllefus hwnnw, i gadw’r bwystfil sydd ym mhob un ohonom dan glo, i beidio cymryd ein chwipio gan wasg jingoistaidd i storm o chwerwedd a chasineb nes ein bod ofn y ‘gwahanol’, yr ‘arall’. Onid ydyn ni i gyd yn ‘arall’ o fath, pob un ohonom yn wahanol i’n gilydd mewn rhyw ddull neu fodd?

Yr ail ddigwyddiad oedd yno yn y cysgodion y noson honno oedd y cof am y Parch. Wynne Griffith a’r teulu yn rhoi lloches i ffoaduriaid o Hwngari, yn yr union adeilad sy’n rhan o’r Morlan erbyn hyn. A digwyddiad sy’n ein hatgoffa y gallwn ni ddewis sefyll dros yr hyn sy’n iawn yn ogystal. Mae’r Morlan yn groesffordd brysur i draffig hanesyddol.

Mae llawer wedi sôn am dderbyn etholiad Trump am ei fod yn etholiad democrataidd. Ond mae lleiafrif yn dweud fel arall. Diolch am Sturgeon. A diolch i Merkel am ddweud – mewn Almaeneg, cofiwch – nad ydyn nhw am dderbyn yr etholiad ar delerau Trump ond yn hytrach ar y telerau sydd wedi eu meithrin dros ddegawdau caled o gydweithrediad a chyd-ddealltwriaeth heddychlon. Fe ddaw dydd, ac efallai ei fod eisoes wedi dod, pryd y bydd raid i ninnau fel Cristnogion wrthod derbyn democratiaeth a gwrthod derbyn barn hyll y mwyafrif.

O dipyn i beth ac yn araf, mae cymdeithas yn llithro i mewn i ffasgaeth. A rywbryd yn ystod y llithriad graddol yna, mae’n rhaid i ni ddweud, i weiddi, STOP. Galw’r bwystfil wrth ei enw. Sefyll yn stond a mynnu na fyddwn ni’n llithro gyda’r oes. Rhaid dweud hyn yn aml ac yn glir ym mhob cylch rydyn ni’n troi ynddyn nhw, boed fach neu fawr, preifat neu gyhoeddus, proffesiynol neu gymdeithasol. Mae ffasgaeth yn digwydd ar fy ngwaethaf i, nid gyda fy mendith i.

poster-cib

Poster o waith Valeriane Leblonde

Y peth gorau allai ddigwydd ydy ein bod ni’n cael ein dal gan hanes yn gorymateb; y peth gwaethaf allai ddigwydd ydy bod hanes yn ein dal a’n tafodau a’n dwylo wedi eu clymu.

Dyna pam na ddylid derbyn etholiad Trump, ymddygiad Farage, sloganau’r wasg tabloid, y Blaid Geidwadol yn llithro i sôn am brofi dannedd plant a chreu cofrestri o dramorwyr, lleisiau hyll ar strydoedd ein trefi ni.

Dyna pam fy mod yn falch o fod â rhan fechan mewn cymdeithas o bobl fel Cymru i Bawb ac yn falch o ddweud pader wrth berson.

DATGANIAD

Cytgord nid Casineb

Dylid parchu pob bod dynol yn ddiwahân, beth bynnag fo’i hil, iaith, diwylliant, crefydd, rhyw, rhywioldeb neu abledd.

Rydyn ni’n ymhyfrydu yn amrywiaeth gyfoethog pobl Cymru ac yn mynnu bod gwahaniaethu yn erbyn unrhyw rai oherwydd cefndir neu briodoledd yn gwbl annerbyniol.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

 

 

 

Diwygio Rhannol

Diwygio Rhannol

John Gwilym Jones yn disgwyl diwygiad trwyadl

Cawsom ein geni’n Gristnogion. Cael ein magu’n Gristnogion. Bydd rhai ohonom wedi treulio’n bywyd yn gwasanaethu’r eglwys Gristnogol. Byddwn yn gartrefol yn sgwrsio am synod neu lyfr emynau neu gabidwl neu ysgol Sul neu gwrdd gweddi neu gadwraeth y Saboth neu Feibl neu henaduriaeth neu gymanfa. Dyna ddodrefn ein trigfannau crefyddol ni, ac fe gychwynnon ni ar daith bywyd yn tybio fod y dodrefn yn dragwyddol eu parhad. Ar hyd ein bywydau yr oedd yr Iesu cyfarwydd yn gartrefol ymhlith y celfi.

carsellino-iesun-glasnhaur-deml

Iesu’n glanhau’r Deml – Carsellino

Byddai Iddewon Jerwsalem yn gweld y ddeddf a’r sheceina a’r ebyrth a hanes y waredigaeth o’r Aifft yr un mor ddigyfnewid. Ond i ganol ffair y stondinau crefyddol hynny fe ddaeth yr Iesu byw. Mae’n amhosib i ni ddychmygu mor wrthun i Iddew o offeiriad neu Pharisead oedd clywed Iesu’n medru siarad am addoliad y deml yn dod i ben, neu’r adeilad yn cael ei chwalu, neu’n ei glywed yn cywiro cyfeiliorni’r ysgrythurau. Mae’n anodd i ni amgyffred mor chwyldroadol oedd Iesu i grefyddwyr ei ddydd. Eithr fe welwyd hynny’n eglur gan y sefydliad crefyddol hwnnw. Gweld fod Iesu, yn ei fywyd a’i waith a’i eiriau, yn peryglu eu holl strwythurau crefyddol. A bu’n rhaid ei groeshoelio.

Nid felly y mae hi gennym ni. I ni nid yw’r Iesu yn ymddangos yn heriol. Daethom i hen arfer â gweld rhyw Iesu o grefyddwr tirion yn gartrefol yn ein plith ac yng nghanol ein seiadau enwadol. Bu Iesu i ni ar hyd y blynyddoedd yn rhan o’r dodrefn, ac felly ni allwn ei weld yn peryglu dim ar ein mân sefydliadau cysegredig ni.

quote-john-gwil

Diwygwyr ddoe

O dro i dro ar hyd yr hen ganrifoedd caed eneidiau dethol a welai fod crefydd eu dydd ar gyfeiliorn. Yn eu plith gellid cyfeirio at rai o broffwydi Israel. Yn nes atom ni caed Pedr Waldo a’r Albigensiaid a John Huss. Dyma wroniaid a wyddai na fyddai’r Iesu a welent hwy yn y Testament Newydd yn esmwyth gyda rhai datblygiadau eglwysig. Yna, y gwroniaid amlwg i ni yw arweinwyr y Diwygiad Protestannaidd. Eithr er mor arwrol oeddent, diwygiadau ‘rhan o’r ffordd’ a gaed ganddynt hwythau hefyd. Er enghraifft, tra oeddent yn barod i daflu byrddau’r gwerthwyr maddeuebau allan o’r deml, ynghyd ag awdurdod y Pab, fe orseddwyd ganddynt awdurdod arall, sef y Beibl. A daeth hwnnw bron yn dduw gyda’r arwyddair ‘sola scriptura’. Iddynt hwythau, fel i ninnau, gwelent eu Iesu hwy yn eistedd yn ddiddig mewn llawer i hen ddodrefnyn.

Gafael yr hen

Yn  2009 fe fentrodd Gwasg Ignatius ollwng allan gyfrol fach ddiddorol o broffwydol yn cynnwys syniadau’r Cardinal Joseph Ratzinger fel y’u mynegwyd ganddo ym 1969–70. Roeddent i mi yn hollol annisgwyl a syfrdanol. Dyma grynodeb o ran ohonynt:

cardinal%20ratzinger-66

Cardinal Joseph Ratzinger

Bydd yr eglwys yn mynd yn fach, a bydd yn rhaid iddi gychwyn o’r newydd fwy neu lai o’r dechrau. Ni fydd hi’n bosib iddi bellach drigo yn yr adeiladau a gododd hi yn ei ffyniant. Wrth i niferoedd ei ffyddloniaid hi grebachu … fe fydd hi’n colli llawer o’i breintiau cymdeithasol … Fel cymdeithas fechan bydd hi’n disgwyl mwy o arweiniad gan ei haelodau unigol.

 

Yna meddai:

Bydd hi’n daith anodd i’r eglwys, oherwydd bydd proses y crisialu a’r clirio yn costio’n ddrud iddi mewn egni gwerthfawr. Bydd yn ei gwneud hi’n dlawd, gan beri iddi droi i fod yn eglwys yr addfwyn … Ond pan fydd prawf anodd y gwyntyllu hwn heibio, bydd grym nerthol yn llifo o eglwys fwy ysbrydoledig a syml. Bydd pobol mewn byd sydd wedi ei gynllunio’n llwyr yn cael eu bod yn anhraethol unig. Os byddant wedi llwyr golli golwg ar Dduw, fe deimlant holl ddychryn eu tlodi. Yna fe ddarganfyddant braidd bychan y credinwyr fel rhywbeth cwbl newydd. Byddant yn ei ddarganfod yn obaith a fwriadwyd ar eu cyfer hwy, yn ateb y buont ar hyd yr amser yn chwilio amdano’n ddirgel.  

pab-bened

Y Pab Benedict XVI

Dyna ddadansoddiad cwbl dreiddgar, yn arbennig o gofio pwy oedd yr awdur. Aeth y Cardinal Joseph Ratzinger yn Bab Benedict XVI yn 2005. Bu’n Bab am wyth mlynedd cyn ymddeol yn hollol annisgwyl yn 2013. Byddai unrhyw un a fyddai wedi ei ysbrydoli gan ei eiriau bum mlynedd ynghynt wedi disgwyl dechrau chwyldroad, o leiaf yn y Curia. Ond yn ystod ei gyfnod fel Pab bu’n gynyddol geidwadol ei syniadau. Ble’r aeth y weledigaeth ardderchog a gaed ganddo gynt? Tybed a ddiffoddwyd honno gan hudoliaeth awdurdod y Babaeth? Ni chawn fyth wybod.

Ond y mae yna un peth a wyddom: beth bynnag am Eglwys Rhufain, gwyddom fod holl ddodrefn ein crefydda ni bellach yn fregus iawn, ac y gall Iesu ryw ddiwrnod wneud eto ‘chwip o gordenni’ ar gyfer y clirio allan. Ac nid diwygiad rhannol fydd hwnnw. 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA  i adael sylw.

SYLWADAU:

Olwen D. Williams:

Wedi bod yn sôn am hon yn yr Ysgol Sul (Tabernacl, Porthaethwy).   Ninnau yn ddiweddar, wrth ddilyn llwybrau Paul, yn dod i sylweddoli mor fawr oedd problem yr Iddewon.  Ond fel y dangoswch mor glir yma, rhwydd yw gweld y brycheuyn yn llygad yr Iddew …..  Diolch

 

 

 

 

Gyda’r Crynwyr yn Cofio Wncwl Gwilym

Gyda’r Crynwyr yn Cofio Wncwl Gwilym

Hefin Wyn

Llefaru’r gerdd ‘Y Tangnefeddwyr’ yn seremoni pabïau gwyn y Crynwyr yn Arberth oeddwn i. Safasom wrth y garreg Geltaidd ganol bore yn griw brith yr olwg. Clywid mwy o lefaru na’r mudandod arferol sy’n nodweddiadol o gyfarfodydd y Cyfeillion. Canolbwyntir ar y tawelwch llethol er mwyn canfod y canol llonydd.

 

hefinwyn

Hefin Wyn (Llun: Y Lolfa)

Nid yw’r Crynwr yn credu mewn trais o dan unrhyw amgylchiad. Ni wna gymryd rhan yn yr un rhyfel. Nid arwain bataliwn arfog wnâi Crist wrth orymdeithio i Jerwsalem. Nid casglu cleddyfau a wnâi. Nid hyfforddi’r disgyblion i ddefnyddio ffyn tafl a wnâi. Nid oedd yn hogi arfau o wneuthuriad dyn.

Yng nghanol hyn meddyliwn am Nwncwl Gwilym.

 

Cyfeiriwyd at broffwydoliaeth Eseia a’r geiriau “curant eu cleddyfau’n geibiau, a’u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach”. Llefarwyd cân Ed McCurdy, ‘I had the strangest dream’, sydd wedi’i chyfieithu i dros saith deg o ieithoedd.

Meddyliais am eiriau Nwncwl Gwilym o’r ffosydd a’i ddisgrifiad o’r llygod mawr tewion y bu’n eu saethu.

Cyfeiriwyd at eiriau’r Corân a’r anogaeth i wrthwynebu drygioni gyda daioni gan droi eich gelyn yn gyfaill. Cyfeiriwyd at eiriau’r Iesu yn ein hannog i garu ein gelynion, i droi’r foch arall ac i gynnig ein crys pe cymerir ein siaced oddi arnom.

Meddyliais am Nwncwl Gwilym yn hysbysu ei frodyr a’i chwiorydd ei fod yn filwr cyflawn nawr.

Cyfeiriwyd at ddysgeidiaeth y Bwda nad yw casineb erioed wedi concro casineb. Ni all dim ond cariad drechu casineb. Cyfeiriwyd at egwyddor ahisma yr Hindŵiaid, sef osgoi achosi loes. Dyfarniad Mahavira oedd na cheid enaid amgenach na’r enaid di-drais ac na cheid amgenach ysbryd na’r ysbryd sy’n parchu bywyd.

Meddyliais am Nwncwl Gwilym yn hysbysu ei chwaer ei fod yn ysu i gyrraedd y llinell flaen er mwyn lladd Almaenwr.

Daeth yn bryd llefaru cerdd Waldo Williams cyn i arall lefaru cyfieithiad ohoni. Ceisiais bwysleisio’r gwynfyd sydd y tu hwnt i glyw a’r byd gobeithiol pan ddaw’r gwynfyd i glyw dynion fel y rhagwêl Waldo hynny ar sail y Gwirionedd yr oedd ei dad yn ymgorfforiad ohono a’r Maddeuant yr oedd ei fam yn ymgorfforiad ohono.

waldowilliams- llun

Waldo Williams

Roedd yna un neu ddau a gofiai Waldo’n mynychu’r Tŷ Cwrdd yn Aberdaugleddau ac eraill wedi clywed amdano i’r graddau eu bod yn ystyried eu bod yn ei adnabod. Roedd geiriau proffwydol y bardd a fu’n ysgolia yn Arberth yn eistedd yn gyffyrddus ochr yn ochr â geiriau pawb arall a lefarwyd yn ystod y gwasanaeth.

Canwyd yr emyn ‘Make me a channel of your peace’, sy’n seiliedig ar weddi Sant Ffransis o Assisi, yn lled herciog cyn gosod torch wrth y groes Geltaidd i gofio am bawb yn ddiwahân a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd. Erbyn heddiw amcangyfrifir mai dim ond rhyw 10% o filwyr sy’n colli eu bywydau wrth ryfela. Y diniwed yw’r 90% – yn famau, plant a’r oedrannus yn eu plith. Safodd pawb mewn tawelwch am gyfnod i gyfarch y gwynt mewn gweddi.

Wedi cyfarch gwell, brasgamais drwy’r dref. Roedd yna gadetiaid ifanc mewn lifrai milwrol yn cynnig pabïau coch i bwy bynnag âi heibio. Tebyg y dynoda’r lliw y gwaed a gollwyd a chydnabyddiaeth y caiff gwaed ei golli eto. wreath1Tra bo’r pabi gwyn yn dynodi purdeb ac ymgais i edrych y tu hwnt i’r gyflafan ac ymdynghedu i sicrhau na ddigwydd rhyfeloedd eto. Caiff arian eu gwerthiant ei ddefnyddio i gefnogi gwaith Médecins Sans Frontières, elusen sy’n barod i roi triniaeth feddygol i anffodusion rhyfel heb holi pwy na beth y maen nhw’n ei gefnogi.

Ond roedd y meddyliau am Wncwl Gwilym yn dal i fy nghnoi. Meddyliwn am breswylwyr yr aelwyd yn Nant-yr-afr ym mhlwyf Tre-lech a’r Betws ar y penwythnos hwnnw ym mis Mai union gan mlynedd ’nôl. Cyrhaeddodd amlen fore Sadwrn yn cynnwys llun swyddogol o Lefftenant Gwilym Williams, B.A., yn ei lifrai milwrol. Edrychai’n drwsiadus. Ond er y trawswch a dyfodd, ni fedrai wadu mai llanc ifanc chwech ar hugain oed oedd. Roedd ym mlodau ei ddyddiau.

is-gadben-gwilym-williams-002

Yr Is-gadben Gwilym Williams

Mae’n rhaid bod y llun wedi’i osod ar y seld a bod y tair chwaer a’r ddau frawd oedd adref wedi syllu arno’n edmygus, os ychydig yn betrusgar, dros y Sul. Roedd eu rhieni wedi marw ers tro. Roedd Eleanor, y chwaer iau, yn Rhydychen a hi dderbyniodd y llythyr gyda’r nodyn oeraidd yn sôn am ei obeithion o ladd y gelyn. Dyheu am ei weld yn dod adref yr oedden nhw yn Nant-yr-afr. Doedd e ddim hyd yn oed wedi taro heibio i ffarwelio o’r gwersyll ym Mae Cinmel wedi iddo gael yr alwad i faes y gad.

Bore Llun daeth llythyr o’r ffrynt yn Ffrainc yn sôn am ei antur. Dywedodd iddo dderbyn Testament wrth ei weinidog, y Parch. John Lewis. Roedd hefyd wedi derbyn llythyr wrth Helen meddai. Byddai hynny wedi bodloni’r teulu. Ond erbyn amser te cyrhaeddodd telegram i ddweud iddo gael ei glwyfo nos Sadwrn ac iddo farw bore Sul, yn dal yn anymwybodol. Rhoddwyd y gorau i waith y ffarm er mwyn galaru a cheisio dod i delerau â’r golled.

mynwent-filwrol-merville

Mynwent filwrol Merville

Daeth gohebiaeth bellach a chafwyd nodyn wrth uchel swyddog yn disgrifio sut y dywedodd Gwilym mewn sgwrs un min hwyr ei fod o’r farn ‘fod yna ramant mewn marw’n ifanc dros eich gwlad’. Fe’i claddwyd yn Merville, yn agos i’r ffin â Gwlad Belg.

Canfuwyd ei fod, i bob pwrpas, wedi cyfansoddi ei feddargraff ei hun.

 

Aeth o’i ing i fwth ango’, – i wely
Y milwr i huno;
Heb rodres wedi’r brwydro
Erys a chroes uwch ei ro.

Ymhen y flwyddyn cyhoeddodd y teulu gyfrol o’i waith o dan y teitl Dan yr Helyg. Cynhwysai ei bryddest ‘Gwanwyn Bywyd’, oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Ryng-golegol 1912 dan feirniadaeth T. Gwynn Jones, awdur ‘Ymadawiad Arthur’, mantra’r beirdd rhamantaidd.

Cyrhaeddodd llythyrau wrth Helen Rowlands o’r India. Disgrifiodd Gwilym fel ‘y bachgen mwyaf pur o galon a adnabûm erioed’.

Ni wyddwn hyn pan oeddwn yn grwt yn chwarae gyda’r gyllell, llwy a fforc yn un a fu yn nwylo Gwilym. Yn wir, ni wyddwn am amgylchiadau ei benderfyniad i wirfoddoli i ryfel. Ni pherthynai iddo anian y rhyfelwr. Bachgen llednais a breuddwydiol oedd Gwilym. Roedd mwy na jingoistiaeth y cyfnod wedi ei anfon i faes y gad.

Dim ond yn ddiweddar y darganfyddais iddo wirfoddoli i ryfel fis wedi i Helen o Borthaethwy gyhoeddi ei bod am gysegru ei bywyd i’r maes cenhadol.

Pe na bai hynny wedi digwydd, hwyrach y byddwn wedi adnabod Nwncwl Gwilym. Wedi’r cyfan roeddwn yn fy arddegau pan fu farw ei frawd hŷn – fy nhad-cu innau. A phe na bai ei gariad wedi mentro i gyfandir India, hwyrach y byddwn wedi adnabod Helen Rowlands hefyd a’m bywyd wedi’i gyfoethogi o’r herwydd.

Llwyddwyd i wahardd smygu o fannau cyhoeddus mewn nifer o wledydd am fod yr arfer yn aflan ac yn berygl i iechyd. Dylid yn yr un modd wahardd rhyfela am yr un rhesymau. Mae’r rhyfela sy’n digwydd yn Aleppo eisoes wedi profi y tu hwnt i amheuaeth ei fod yn ddansierus i iechyd.

Tina’r meddilie oedd yn dŵad i mi wrth droedio palmentydd Arberth ar benwythnos y ‘Cofio’.

 

NEGES GAN D. BEN REES:
Dyma ysgrif hynod o ddiddorol a phwysig . Fel un sy’n croniclo hanes y 
genhadaeth gymraeg yn yr india  ni wyddwn am garwriaeth Dr Helen Rowlands. 
Diolch o galon o Lerpwl i lenor Sir Benfro.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Siarter Tosturi

Siarter Tosturi siarter-tosturi

Egwyddor sydd i’w chael yng nghraidd pob traddodiad crefyddol, moesegol ac ysbrydol yw cydymdeimlad, yn galw arnom ni i drin pawb arall fel y dymunem ni ein hunain gael ein trin. Mae cydymdeimlad yn ein cymell i weithio’n ddiflino i laesu dioddefaint ein cyd-greaduriaid, i ddiorseddu ein hunain o ganol y byd a rhoi rhywun arall yno, ac i fawrygu sancteiddrwydd cysegredig pob un bod dynol, gan drin pawb, yn ddiwahân, yn gwbl gyfartal, â chyfiawnder a pharch.

Mewn bywyd cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd, rhaid hefyd ymatal yn gyson a chydag empathi rhag achosi poen. Ymwadu â’n dynoliaeth gyffredin yw gweithredu neu siarad yn dreisgar, oherwydd gwenwyn, siofinistiaeth neu hunan-les, er mwyn tlodi neu ecsbloetio unrhyw un, neu wadu ei hawliau sylfaenol, ac ennyn casineb drwy ddifrïo eraill – hyd yn oed y rhai a ystyriwn ni’n elynion.

charter_for_compassion2Mae taer angen i ni wneud cydymdeimlad yn rym eglur, gloyw, egnïol yn ein byd pegynol. Wedi’i wreiddio mewn penderfyniad egwyddorol i drosgynnu’r hunan, gall cydymdeimlad chwalu ffiniau gwleidyddiaeth, dogma, ideoleg a chrefydd. O’n cyd-ddibyniaeth ddofn y mae cydymdeimlad yn tarddu: mae’n hanfodol i gydberthynas ddynol ac i ddynoliaeth gyflawn. Dyma’r llwybr tua’r goleuni, ac mae’n anhepgor er creu economi gyfiawn a chymdeithas dangnefeddus fyd-eang. 

(Fel mae’n digwydd cyhoeddwyd erthygl arall ar y wefan beth amser yn ôl gan Delwyn Tibbot, sydd hefyd yn cynnwys cyfieithiad o’r Siarter.  Cliciwch YMA 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA  i adael sylw.

Y Pabi a Sul y Cofio

Y Pabi a Sul y Cofio

thepoem_clip_image002_0001

Cerdd McCrae yn ri lawysgrifen ei hun

Diolch am olygyddol rhifyn Tachwedd, myfyrdod deallus ar gymhlethdod teimladau ac agweddau llawer. Cafwyd dadl ar Radio Cymru yn ddiweddar ynghylch a oedd y pabi coch yn wleidyddol.  Anodd credu nad yw e. Cyfeiriwyd at gerdd John McCrae, ‘In Flanders Fields’ fel cerdd anwleidyddol am gofio a cholled. Ond anogaeth i’r gad yw’r ail bennill. Y meirw sy’n llefaru:

Take up your quarrel with the foe.
To you, from falling hands, we throw
The torch: be yours to hold it high.
If ye break faith with us who die,
We shall not sleep, though poppies grow
In Flanders fields.

Ac ymhlyg yn nathliadau heddiw mae’r anogaeth yn parhau.poppy-619313_960_720

Mi sefais innau ar sgwâr Llanbadarn eleni fel arfer a phrofi’r un gymysgedd o deimladau ag Enid Morgan. Ond yr hyn oedd yn chwithig i fi oedd y cyfeiriad at ‘aberth y bechgyn er mwyn ein rhyddid ni’, fel pe bai’r marw mewn amgylchiadau anynad rywsut yn effro wirfoddol. Do, fe wirfoddolodd miloedd dan ddylanwad y peiriant propaganda ond heb fawr syniad o’r hyn oedd yn eu hwynebu. Consgriptiwyd miloedd yn rhagor. Nid eu haberthu eu hunain a wnaeth y lliaws ond cael eu haberthu mewn lladdfa annisgrifiadwy, a hynny am resymau gwleidyddol – rhesymau sigledig ar y gorau.

Cynog Dafis

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA  i adael sylw.

 

Karen Armstrong yng Nghaerdydd

Karen Armstrong yng Nghaerdydd

Gethin Abraham Williams

Roedd Karen Armstrong yn siaradwraig wadd eleni mewn cinio aml-ffydd a drefnwyd gan Gyngor Moslemiaid Cymru yn Neuadd Dinas Caerdydd ym mis Hydref. Daeth y gyn-leian i’r amlwg yn 1993 gyda’i chyfrol A History of God: the 4,000-year Quest of Judaism, Christianity and Islam.

Bûm yn ymdrechu i gael Armstrong i ddod i Gymru ers 2014 pan fûm yn cadeirio trafodaeth rhyngddi hi ac Irina Bokova, Cyfarwyddwr Cyffredinol UNESCO; yn y Tŷ Opera Brenhinol y digwyddodd hynny, fel rhan o Dymor Ffydd y Cwmni Opera Cenedlaethol.

armstrong

Karen Armstrong

Derbyniwyd fy awgrym i’w gwahodd i ginio blynyddol rhyng-ffydd y Cyngor  Moslemiaid gan Dr Salim Kidwai, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor, ac ar 17 Hydref eleni gwelwyd canlyniad i allu Salim i ddal ati – yr oedd 450 o wahoddedigion yn bresennol.

 

Gofynnwyd i Karen sôn am ei Siarter  sy’n annog pobloedd a chrefyddau’r byd i gofleidio egwyddor wreiddiol cydymdeimlad (compassion). Mae’r siarter wedi ei gyfieithu i 30 o ieithoedd erbyn hyn. Dichon mai’r Gymraeg fydd yr iaith nesaf ar ôl i Armstrong a Dr Kidwai lofnodi’r siarter gyda’i gilydd y diwrnod canlynol.

Erbyn hyn mae hi’n 70 oed bywiog, a dim ond y mymryn lleiaf o’i dwyster argyhoeddiadol sydd wedi ei golli wrth iddi ddangos undod sylfaenol y gwahanol gyfundrefnau ffydd sydd bellach yn gorfod dysgu sut i fyw gyda’i gilydd os yw’r byd am fod yn lle mwy diogel. Roedd yn berfformiad gorchestol ac o’r hyn ddywedodd Salim wrtha i wedyn, bu’r achlysur yn dipyn o agoriad llygaid i Karen hefyd!

Gellir darllen y siarter ar http://www.charterforcompassion.org  ac mae fersiwn Cymraeg yn yr adran nesaf, sef YMA. Cawn weld a fydd ymweliad Karen Armstrong yn arwain at mwy o lofnodi tebyg: Awdurdodau Lleol, y Senedd, Cytûn – yn wir, pob cyfundrefn ar bob lefel yng Nghymru.

Yn fuan wedi derbyn yr erthygl hon, daeth y newydd trist am farwolaeth Gethin. Rydym yn cydymdeimlo â’r teulu i gyd yn eu profedigaeth. Fe welwch deyrnged i’w goffadwriaeth mewn man arall yn y rhifyn hwn o Agora.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.