Cynnwys Rhifyn 5 (Mis Medi)
(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)
Iaith Addoli Rwth Tomos
Ymlaen yr Awn Joyce Boyd Tilman
Yr Ymneilltuwyr Nia Higginbotham
Ofnau ar ôl Brexit Rocet Arwel Jones
Ond Rocet Arwel Jones
Rhodd Duw i Gymru Wynford Ellis Owen
Does neb yn poeni am Seion Enid Morgan
Golygyddol
GOLYGYDDOL
Dinas Barhaus?
Yr AlmaenYn yr Almaen mae miloedd o newydd-ddyfodiaid wedi cael croeso – a thipyn o gwyno o’r herwydd. Mae dull trefnus a phwrpasol yr Almaenwyr a doethineb Angela Merkel wedi golygu rhoi llety diogel dros dro i filoedd o bobl tra maent yn penderfynu sut i roi statws cyfreithiol iddyn nhw. Bu’n hynod ddiddorol gwrando ym mis Gorffennaf ar Almaenwyr ymroddedig a hoffus, rhai’n Gristnogion, rhai ddim, yn trafod canlyniadau’r mewnlifiad.Rhagor
Ymlaen yr Awn
Ymlaen yr Awn
Ymlaen yr awn yn llawn o’r Atgyfodiad, ymlaen yr awn, o nerth i nerth bob dydd, ymlaen yr awn mewn ffydd yn dweud yr hanes am gariad Duw a’n deil yn dynn a rhydd; fe ganwn gân i newid byd sy’n wylo, breuddwydio wnawn am glwyfau na fydd mwy, cawn lunio brodwaith o’r holl fyd mewn undod Rhagor
Ofnau
RhagorOFNAU’N CODI AR ÔL BREXIT
Rocet Arwel Jones
Mae gen i ofn. Am y tro cyntaf yn fy mywyd mae gen i ofn gwirioneddol ynglŷn â natur a chyfeiriad gwleidyddol a chymdeithasol Cymru.
Dyw canlyniad y refferendwm ar Ewrop ddim ond yn un darn o hynny. Fe fydd yn garreg filltir o bwys yn nhreigl y blynyddoedd hyn, ond yn ei hanfod, nid dyna’r broblem.
Dwi ddim yn awgrymu ...
Rhodd Duw i
RhagorRhodd Duw i’r 20fed Ganrif
Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AA (Alcoholigion Anhybys) (AA)
Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw CaerdyddWrth dderbyn gwahoddiad y golygydd i ysgrifennu am 12 Cam Alcoholigion Anhysbys dros y deuddeg mis nesaf i Agora, tybiais y byddai’n well, cyn dechrau, egluro peth o athroniaeth ac ethos y Stafell Fyw – fel y gallwch ddeall yn well beth sydd wrth wraidd ...
Dau Hanner Bywyd
RhagorDau Hanner Bywyd
Enghraifft yw’r isod o waith Richard Rohr – awdur toreithiog a Ffransisiad yn America sy’n gyfrifol am y Centre for Action and Contemplation
Datblygiad Dynol yn yr Ysgrythurau
Mae’n help gwybod am y ffurf bwa enfys cyfan sydd i’n hoes, i ble mae’n anelu ac yn arwain. Bu i Walter Brueggemann, un o’m hoff ysgolheigion ysgrythurol, wneud cysylltiad disglair iawn rhwng datblygiad yr ysgrythurau ...
Iaith Addoli
RhagorIaith addoli – yr angen am newid
Rwth Tomos
Datblygodd y Llyfr Gweddi Gyffredin bum canrif yn ôl mewn cyfnod o ddadleuon ffyrnig ynglŷn â beth yn union yr oedd Eglwys Loegr yn ei gredu. Datblygodd addoli Anghydffurfiol, gydag un weddi hir a phregeth hir, pan oedd gwrando ar un person yn siarad am gyfnod hir yn ddull cyffredin iawn o drosglwyddo gwybodaeth. Erbyn heddiw mae mathau eraill o gyfathrebu, gweledol yn bennaf, ...
Yr Ymneilltuwyr
RhagorDyma’r ail erthygl mewn cyfres am gyflwr yr eglwysi yng Nghymru. Mae’r gyntaf, am yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yn Agora 4.
Yr Ymneilltuwyr
Nia Higginbotham
Personol iawn yw fy myfyrdod ar sefyllfa Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Personol a chymysglyd. Does dim dechrau pendant na diweddglo clir. Does gen i ddim atebion. Sgwrs dros baned fel petai, nid erthygl gyflawn. Gan wybod hefyd fod yna eithriadau disglair.
Wrth nesu at oed yr addewid, synnaf at y newidiadau aruthrol ...
Ond
RhagorOND
Rocet Arwel Jones
Aberystwyth: Haf 2016
Mae gen i ofn yr haf a’i gymylau fel dyrnau duon yn poeri sen i gannwyll ein llygad.
Mae gen i ofn gweld ein plant yn gwreiddio mewn cynefin crin ac yn chwarae â thân, tra bod awel o hen fegin front yn siglo’r crud a chyfeilio i hwiangerddi’n hunllef.
Mae ...
Does neb yn poeni am Seion
RhagorYmaflyd â’r Testunau: Jeremeia 30:12-17; Luc 13:31-5 a 19:41-4
“Does neb yn poeni am Seion,”
Ydi Ewrop ar fin chwalu? Ydi’r drefn economaidd ar fin dymchwel? Ydi symud pobloedd yn mynd i ddadsefydlogi teyrnasoedd y ddaear? Ydi trais yn mynd i sgubo ymaith ein gwerthoedd a’n traddodiad? Ydi hi ar ben arnom ni?
Wrth edrych ar enbydrwydd ‘cyflwr y byd’ drwy sbectol y cyfryngau, y demtasiwn yw mynd i guddio, cysuro’n hunain y daw popeth yn iawn rywsut neu’i gilydd, mygu ...
Pytiau i’w Trafod
RhagorPytiau i’w Trafod
(Mae croeso i bawb anfon eu hoff ddyfyniadau i’r Golygydd i’w rhannu â phawb o bobl C21)
“Mae’r traddodiad Cristnogol yn rhodd, rhodd gymhleth, sy’n gwahodd ac yn hawlio hyrwyddo ac nid mygu dadl.”
Stanley Hauerwas
**********************
“Chwiliais mewn temlau, mewn eglwysi, mewn mosques. Ond yn fy nghalon y deuthum o hyd i’r dwyfol.”
Rumi
**********************
“Dwyt ti ddim yn berchen ar enaid, enaid ...