Iaith Addoli

Iaith addoli – yr angen am newid

Rwth Tomos

Datblygodd y Llyfr Gweddi Gyffredin bum canrif yn ôl mewn cyfnod o ddadleuon ffyrnig ynglŷn â beth yn union yr oedd Eglwys Loegr yn ei gredu. Ll Gweddi GyffDatblygodd addoli Anghydffurfiol, gydag un weddi hir a phregeth hir, pan oedd gwrando ar un person yn siarad am gyfnod hir yn ddull cyffredin iawn o drosglwyddo gwybodaeth. Erbyn heddiw mae mathau eraill o gyfathrebu, gweledol yn bennaf, yn bodoli. Ond mae iaith ein haddoli wedi aros yn dafodiaith hynafol sydd yn annealladwy i fwyafrif y Cymry Gymraeg. Mae angen ystyried yn ddwys pa fath o iaith a ddefnyddiwn yn ein hoedfaon.

Mae sawl cyfle i addasu i iaith fwy cyfoes wedi mynd heibio. Mae blynyddoedd wedi mynd heibio ers dechrau’r alwad am iaith sy’n cynnwys gwragedd. Siom oedd Beibl 1988 i lawer oherwydd y diffyg hwn, ond mae’r Argraffiad Beibl.netDiwygiedig a Beibl.net wedi unioni’r sefyllfa cystal â phosibl mewn cyfieithiad o lyfr sy’n llawn rhagfarn rywiol yn y gwreiddiol. Gwnaed yr un camgymeriad gyda Caneuon Ffydd. Aeth yr angen i ddarparu deunydd addoli ar gyfer heddiw ar goll mewn ymdrech i gadw geiriau gwreiddiol yr emynau, hyd yn oed pan oedd fersiwn amgen ar gael, neu pan nad oedd angen llawer o newid. Aeth yr awydd i gadw rhai emyn-donau yn drech na’r ystyriaeth o addasrwydd yr emynau. Mae rhai emynau wedi goroesi yn well nag eraill, ond mae delweddau rhai ohonynt wedi heneiddio i’r fath raddfa fel y buasent yn well mewn llyfr o fyfyrdodau gyda nodiadau ar waelod y dudalen.

 

Mae iaith gynhwysol wedi dod yn dderbyniol yn y gymdeithas yn gyffredinol, ac fe glywir am chwiorydd yn ogystal â brodyr yn amlach mewn gweddïau, ond mae’r pwyslais ar eirfa wrywaidd am Dduw yn parhau. Dywedir na allwn alw Duw yn fam oherwydd nad yw’r gair yn cyflwyno’r un awdurdod â’r gair tad. Ond mae’r tad sy’n benteulu ag awdurdod dros ei blant hyd yn oed pan maent yn oedolion wedi hen ddiflannu. Beth yw ystyr y gair ‘tad’ (yn aml heb ychwanegu’r gair ‘nefol’) heddiw pan mae cymaint o blant yn cael eu magu mewn teuluoedd un rhiant, efallai ar ôl trais ar yr aelwyd, ac eraill yn gweld llystad ar ôl llystad yn cyrraedd a diflannu? Ganwyd Iesu yn Iddew yn ogystal â gwryw, ond ni phwysleisir hyn mewn addoliad. Oes gwir angen defnyddio’r gair ‘Mab’ mor aml? Ond mae’r angen am newid yn mynd llawer ymhellach na’r angen am iaith gynhwysol, ac mae’r rhai sy’n sibrwd ‘Mam’ pan ddônt at y gair ‘Tad’ a ‘chwiorydd’ pan ddônt at y gair ‘brodyr’ yn ymwybodol iawn o’r angen.

Quote Rwth TomosMae’r iaith sy’n cyfeirio at Dduw grymus yn peri dryswch. Defnyddir geirfa a oedd, ers talwm, yn dynodi unigolyn pwysig a grymus, megis arglwydd, brenin a thywysog, ond pan roddir yr Arglwydd Iesu ochr yn ochr â Thŷ’r Arglwyddi, Tywysog Tangnefedd wrth ochr Tywysog Cymru, neu Frenin Nef wrth ochr y Frenhines Elizabeth, sylweddolwn nad yw’r naill air na’r llall yn cyfleu yr un peth ag yr oeddent ganrifoedd yn ôl. Mae nifer o ddigwyddiadau’r 20fed ganrif a’r 21ain ganrif wedi peri i rai ofyn a ddylid pwysleisio’r syniad fod Duw yn hollalluog (holl-rymus yn Saesneg) a bod angen gofyn pa fath o allu, neu rym, neu nerth mae Duw yn ei ddefnyddio, neu’n dewis peidio’i ddefnyddio. Mae’r iaith sy’n cyfeirio at Dduw fel rhyw arwr mewn comig neu gartŵn sy’n anelu arf treisgar at elyn i’w orchfygu yn arwain naill ai at anghrediniaeth neu at ddryswch. Mae dysgu plant ‘Mae’n Duw ni mor fawr, mor gryf ac mor nerthol, does dim y tu hwnt iddo ef’ yn mynd i gael ei herio cyn gynted ag y mae’r plant yn dod ar draws sefyllfaoedd anodd pan nad yw Duw yn ymyrryd. Mae oedolion yn straffaglu gyda’r un cwestiwn. Mae geiriau sy’n awgrymu y dylai Duw ymyrryd gan orfodi datrys sefyllfa gymhleth yn creu anesmwythdra. Ni wnaeth Iesu erioed orfodi neb i’w ganlyn.

Silhouette of Jesus Christ crucifixion on cross on Good Friday Easter

Wrth sôn am aberth Iesu drosom, mae’r geiriau a ddewiswn yn rhyfeddach fyth. Rydym yn cyfeirio at ddull y Rhufeiniaid o ddienyddio ar groes, ond rydym yn fwy ymwybodol heddiw fod miloedd wedi’u dienyddio yn y dull creulon hwn a gwyddom fod arteithio, poenydio a lladd yn parhau’n gyffredin. Er hynny, sonnir am bren Calfaria, y ddwyfol groes, coron ddrain a’r gwaed i’n golchi yn lân yn orsathredig, a bron fel petaent i’w canmol. Gogoneddu arteithio a dienyddio yw hyn i rai.

Rydym wedi mynd yn ddiog iawn ac yn defnyddio’r un hen eiriau, mewn emyn, gweddi a phregeth, heb ystyried beth fyddent yn ei olygu i bobl sydd ddim wedi arfer clywed yr eirfa grefyddol. Wrth gwrs, yn ein criw bach dethol gallwn ddefnyddio ein iaith ‘gyfrinachol’ ni, ond mae’n rhwystr i genhadu. Anawsterau gwahanol sydd i Anglicaniaid ac Anghydffurfwyr. Yn y Llyfr Gweddi Gyffredin mae geiriau pob oedfa wedi’u cofnodi’n fanwl gyda’r fantais fod adolygu ystyrlon yn digwydd, ond mae’n digwydd o’r canol gan gyfyngu ar arbrofi lleol. Mae’r fersiynau diweddaraf wedi rhoi sylw i’r angen i gynnwys gwragedd yn yr iaith a defnyddir mewn gweddïau a dewis darnau o’r Ysgrythur sy’n sôn am wragedd yn amlach. Mewn eglwysi Anghydffurfiol mae geirfa oedfa, gan gynnwys pa gyfieithiad o’r Beibl a defnyddir, yn dibynnu’n llwyr ar yr unigolyn yn y pulpud, gyda’r fantais o gael arbrofi yn lleol. Ond mae angen paratoi manwl i osgoi defnyddio’r un hen eiriau ac ystrydebau. Dyma’r genhedlaeth olaf fydd yn bodloni ar ‘frechdan emynau’ Anghydffurfiol. Canlyniad glynu at y traddodiadol, os oes ysgol Sul, yw gweld yr holl athrawon a rhieni yn diflannu gyda’r plant, gan nad oes ystyr iddynt mewn oedfa bellach, ond y rhain ydy’r union bobl a all drosglwyddo’r ffydd Gristnogol.

Ni allwn anwybyddu’r angen am addasu iaith ein haddoli os nad ydym yn fodlon gweld y ffydd Gristnogol ei hun yn diflannu o Gymru.