GOLYGYDDOL
Dinas Barhaus?
Yr Almaen
Yn yr Almaen mae miloedd o newydd-ddyfodiaid wedi cael croeso – a thipyn o gwyno o’r herwydd. Mae dull trefnus a phwrpasol yr Almaenwyr a doethineb Angela Merkel wedi golygu rhoi llety diogel dros dro i filoedd o bobl tra maent yn penderfynu sut i roi statws cyfreithiol iddyn nhw. Bu’n hynod ddiddorol gwrando ym mis Gorffennaf ar Almaenwyr ymroddedig a hoffus, rhai’n Gristnogion, rhai ddim, yn trafod canlyniadau’r mewnlifiad.
Roedd un Cristion yn siomedig iawn yn ymateb yr eglwysi – eu bod wedi bod yn araf a diweledigaeth. Roedd un arall wedi bod wrthi’n helpu i ddangos i griw o ferched ifanc sut i ddygymod â bod mewn gwlad newydd a pheidio â mynd yn ysglyfaeth i’r rheini a fynnai fanteisio arnyn nhw. Eglurodd fod llety eitha cyfforddus wedi’i drefnu yng nghanol y dref a’u bod wedi dechrau cyfarwyddo â sut mae pethau’n gweithio, a dechrau dysgu Almaeneg. Ond ar ôl cael papurau’n cyfreithloni eu presenoldeb yn yr Almaen yr oedd y cymorth i dalu am lety yn darfod, a byddai’n rhaid iddyn nhw fyw fel Almaenwyr di-waith sy’n byw ar fudd-daliadau. Allan nhw ddim fforddio talu rhent i gael fflat yng nghanol y dref mwyach; rhaid bodloni ar lety digon di-raen mewn rhyw bentrefi cyfagos tlodaidd. Ac maen nhw’n tybio y gall eu ffrind eu helpu. Sut mae egluro y buasai parhau i’w noddi nhw, ond heb wneud fawr ddim dros Almaenwyr ar gyflogau isel, yn peri mwy o drafferthion nag sydd eisoes wedi brigo i’r wyneb?
Mae mewnfudwyr lu yn yr Almaen eisoes, a’u plant yn yr ysgolion. Daeth llu o weithwyr-ymwelwyr yno o Dwrci ar ôl y rhyfel. Roedd rhai o’r rheini’n Gristnogion Syriaidd heb lawer o werthfawrogi arnyn nhw yn Nhwrci Foslemaidd, a thybiaeth yn yr Almaen mai Moslemiaid oedden nhw i gyd. Mae math newydd o Almaeneg yn cael ei siarad yn eu plith a rhai o gymhlethdodau’r iaith ei hun yn cael eu dileu. Mae’r gwahaniaethau der-die-das yn cael eu llyfnu, a rhai o nodweddion cain yr iaith yn siŵr o gael eu herydu. Fe gollodd y Saesneg y fath wahaniaethau ganrifoedd yn ôl, a gwelir yr un broses o newid ieithyddol naturiol yn digwydd ar garlam.
Cofiais innau am Gymraes yn cwyno am newydd-ddyfodiaid yn dod i’w phentref rywdro: ‘Pam ddylen ni newid o’u hachos nhw?’ Mae rhoi croeso i ddieithriaid yn golygu bod pawb yn gorfod newid.
Mynwy
Un o nodweddion hyfrytaf yr Eisteddfod eleni oedd clywed gwirfoddolwyr – yn y meysydd parcio, yn gyrru’r bysys, yn gwerthu bwyd – yn mentro’u Cymraeg newydd yn benderfynol a hyderus. Mae cyflwr y Gymraeg ym Mynwy yn newid er gwell o ganlyniad i waith caled a mentro a chyd-ddyheu a dadlau’r achos a chynnal dosbarthiadau drwy nosweithiau tywyll y gaeaf. Nid yw’r iaith wedi marw; mae hi’n ymgryfhau – ac wrth gwrs nid yr hen Wenhwyseg fel y mae ar lafar cryf a swynol y Dr Elin Jones fydd hi, ond Cymraeg â thipyn o lediaith arni, iaith debycach i Gymraeg yr ysgolion Cymraeg yn ardaloedd trefol y de a Sir y Fflint. Daw cystrawennau’r Saesneg yn ogystal â’i geirfa i mewn i’r Gymraeg. Newid er gwell – ond newid anghyfforddus i bobl sydd wedi meddwl yn nhermau gwarchod a chadw yn unig.
Rwmania
Un arall o bleserau’r haf oedd cwrdd ag Emilia Ivancu, bardd ac academydd o Rwmania sydd wedi treulio tipyn o amser yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf, diolch i’r Comisiwn Ewropeaidd a chynllun Erasmus. Mae iaith Rwmania yn gymysgedd gyfoethog a rhyfeddol sy’n adlewyrchu troeon hanes. Mae’n debyg i Eidaleg; gall Rwmaniad ddeall 80 y cant o’r hyn a ddywedir mewn Eidaleg. Ond nid yw’r Eidalwyr yn gallu deall Rwmaneg am fod gwreiddiau’r iaith ynghlwm wrth y Slafoneg sy’n rhan o’u hetifeddiaeth hynaf – ynghyd â geiriau o’r Roeg a Thwrceg. Mae Cristnogion Uniongred a Chatholig, ar waethaf castiau gwleidyddol, wedi gorfod dysgu byw gyda’i gilydd wrth i bobl o wahanol rannau o Rwmania ei hun, yn ogystal ag o wledydd eraill, lifo ynghyd i ardaloedd diwydiannol. Mewn llif pobloedd a’u diwylliannau, a’u cred, eu straeon, eu profiadau, eu caneuon, a’u hanes y mae ieithoedd yn datblygu, yn addasu, yn newid mewn proses fywiog a bywiol. Soniodd Emilia am lenor disglair o offeiriad a fu yng ngharchar am gyfnod hir yn amser Ceaușescu; llwyddai i ddweud ei offeren a’i rhannu â’r carcharorion eraill drwy guro llythrennau cod Morse ar y pibau cynhesu (nad oedd yn gweithio) fel bod pawb yn y carchar yn gallu clywed. Hanesion felly sy’n etifeddiaeth Cristnogion a fu tu hwnt i’r llen haearn.
’Nôl i’r Eisteddfod
Nos Iau’r Eisteddfod cynhaliodd y Cylch Catholig eu hofferen flynyddol yn eglwys y Fenni. Roedd yn ddathliad dwbl am ei bod hefyd yn nodi can mlynedd ers sefydlu talaith Cymru a Henffordd fel archesgobaeth ar wahân i esgobaeth Birmingham, fel yr oedd cynt. Cymro o Faesteg, y Tad Alan Jones, sy’n Ganon Awstinaidd yn Lloegr, oedd y pregethwr – a’i thema oedd newid. Soniodd am ddod i’r Fenni a chlywed Cymraeg ar y stryd am fod yr Eisteddfod wedi cyrraedd. Soniodd am y newid a ddaeth i’r Eglwys Gatholig Rufeinig wrth iddi gydnabod arbenigrwydd ac arwahanrwydd Cymru gan mlynedd yn ôl.
Araf y mae’r Eglwys Gatholig, a phob cyfundrefn ffurfiol, yn newid, ond aeth yr amser heibio pan na châi Catholigion ddweud Gweddi’r Arglwydd gyda Phrotestaniaid. Dim ond ychydig ddyddiau ynghynt bu i’r Pab Ffransis agor y drws ar drafodaeth ar le gwragedd yn y ddiaconiaeth yn yr eglwys fore – ac fe fydd sgrech o brotest, mae’n siŵr, o rai cyfeiriadau. Roedd amryw o gyfeillion eciwmenaidd yn yr offeren ac yn cynhesu at wyleidd-dra ac anwyldeb yr Esgob Regan wrth iddo ddatgan i’r gynulleidfa eang o’r di-Gymraeg a’r Cymry mai iaith yr offeren yw cariad.
Cynhadledd Cristnogaeth21 – Newid a Thyfu
Rhyw gymysgedd o argraffiadau, felly, yn troi ar y ffaith fod pethau’n newid, beth bynnag wnawn ni, sy’n peri bod thema cynhadledd C21 yn hynod o berthnasol i’n cyflwr fel Cristnogion ac fel Cymry Cymraeg ar hyn o bryd. Yn hytrach na gwahodd siaradwr allanol i wneud argraff arnom a newid dim, teimlad y pwyllgor lleol oedd bod angen llunio rhaglen fyddai’n tynnu pawb i mewn i drafodaeth bwrpasol ynghylch sut i groesawu a chyfeirio newid yn ein cymdeithas ac yn ein heglwysi. Y thema fydd ‘Tyfu a Newid’. Byddwn yn ymrannu’n dri grŵp a bydd tri ‘Ysgogydd’ yn cychwyn trafodaeth ar y thema ac yn procio pawb i gyfrannu eu profiad, eu dyhead, eu hofnau. Y tri fydd Owain Llŷr, Judith Morris a Bethan Wyn Jones. Bydd ymdrech i fod yn gryno ac i lunio blaenoriaethau perthnasol i C21 ac i’r meysydd gwahanol yr ydyn ni’n gweithio ynddyn nhw. Nid gwrthsefyll pob newid sydd raid, ond adnabod a chyfeirio. A’r amcan yw dod at ein gilydd, cryfhau ein hamgyffrediad o sut mae pethau arnom ni fel Cristnogion Cymraeg, i’n calonogi a’n cryfhau i ymroi i’r dyfodol lle y byddwn ni’n hunain yn newid a thyfu.
Dewch â’ch siswrn meddyliol, a mwynhewch ddiwrnod creadigol a chyffrous gyda ni yn y Morlan, Aberystwyth, ar 24 Medi. Rhagor o fanylion YMA