Agora 27 mis Awst 2018

Agora rhif 27 mis Awst/Medi 2018

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Ymateb i eithafiaeth etholedig                     Gethin Rhys

Encil Blynyddol C21  

Blwyddyn Madagasgar                                  Pryderi Llwyd Jones

  • Blwyddyn Madagasgar

    Blwyddyn Madagasgar 1818/1968

    Bu’r dathliadau 200 mlynedd ers i’r cenhadon o Gymru gyrraedd Madagasgar yn ysbrydoliaeth i bawb ac yn deilwng iawn o’r hanes. Diolch i’r Annibynwyr am bob agwedd o’r dathlu: o gyhoeddi dyddiadur David Griffiths yn dairieithog i’r apêl arbennig i gyrraedd yr 80% o boblogaeth Madagasgar sydd yn ei gwneud yn ddegfed wlad tlotaf y byd; o’r deunydd sydd wedi ei baratoi ar gyfer y dathlu i’r cyflwyniad/pasiant a gyflwynwyd gan eglwysi Ceredigon yn Theatr Felin-fach pan oedd yr Undeb yr Annibynwyr yn Aberaeron ym mis Mehefin; o’r cyfan sydd wedi ymddangos yn y wasg brint ac ar wefannau – crefyddol a seciwlar – i ...

    Rhagor
  • Encil Blynyddol C21

     

     

    Encil Blynyddol C21
    Sadwrn Medi 22ain 10.00 – 3.30

    Eglwys Clynnog Fawr yn Arfon.

    Duw’r Creawdwr
    yng nghwmni
    Dr Hefin Jones, Y Tad Deiniol,
    Parch  Mererid Mair, Lloyd Jones a Gwawr Maelor.

    Cost £25.00 (i gynnwys cinio)

    I gofrestu cysylltwch â Catrin Evans
    cyn Medi 12ed.
    catrin.evans@phonecoop.coop

    01248  680858

    Rhagor
  • Ymateb i eithafiaeth etholedig

    Ymateb i eithafiaeth etholedig

    Gethin Rhys

    Yn draddodiadol, “silly season” yw mis Awst – y gwleidyddion, y gweision sifil a’r gohebwyr gwleidyddol ar y traeth, fawr ddim yn digwydd ac felly manion yn denu’r sylw. Mae enwogion sy’n digwydd marw yn ystod mis Awst (megis Aretha Franklin a Kofi Annan eleni) yn cael llawer mwy o sylw na phe baent wedi marw yn ystod prysurdeb y gwanwyn neu’r hydref.

    Ond mae 2018 braidd yn wahanol. Nid yn unig mae helbul Brexit (neu Prymadael, fel mae’r Eisteddfod wedi ein dysgu i gyfeirio ato) fel rhyw gleddyf Damocles uwch ein pennau, ond mae gennym ornestau ...

    Rhagor