Ymateb i eithafiaeth etholedig

Ymateb i eithafiaeth etholedig

Gethin Rhys

Yn draddodiadol, “silly season” yw mis Awst – y gwleidyddion, y gweision sifil a’r gohebwyr gwleidyddol ar y traeth, fawr ddim yn digwydd ac felly manion yn denu’r sylw. Mae enwogion sy’n digwydd marw yn ystod mis Awst (megis Aretha Franklin a Kofi Annan eleni) yn cael llawer mwy o sylw na phe baent wedi marw yn ystod prysurdeb y gwanwyn neu’r hydref.

Ond mae 2018 braidd yn wahanol. Nid yn unig mae helbul Brexit (neu Prymadael, fel mae’r Eisteddfod wedi ein dysgu i gyfeirio ato) fel rhyw gleddyf Damocles uwch ein pennau, ond mae gennym ornestau arweinyddiaeth ym mhob un o’r pleidiau yng Nghymru. Daeth un ohonynt i’w therfyn, gyda Gareth Bennett yn cael ei ethol gan aelodau UKIP (nid bod llawer ohonynt – 269 pleidlais gafodd Mr Bennett). Mi oedd ei ymgyrch arweinyddol yn troi o gwmpas gwrthwynebu parhad y Cynulliad, gwrthwynebu ymdrechion i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a gwarchod “rhyddid mynegiant” yn wyneb gofynion “lleiafrifoedd” sy’n troi Prydain yn “Police State”.

O fewn oriau, roedd yr arweinydd newydd yn corddi’r dyfroedd. Disgrifiodd ferched sy’n gwisgo gwisg Islamaidd fel “drychiolaethau o gyfnod cyn y Canoloesoedd” ac fe gerddodd allan o gyfweliad â’r newyddiadurwraig Ruth Mosalski pan gafodd ei herio am ei farn am fewnfudo. Doedd hyn ddim yn annisgwyl – bu’r gallu i greu helynt gan Mr Bennett ers cyn ei ethol yn 2016, ac fe ddichon mai dyna un rheswm pam y bu i aelodau UKIP yng Nghymru ei gefnogi.

Mae’n newid cyfeiriad i’r blaid. Er gwaethaf ambell ymgais gan y cyn-cyn-arweinydd Neil Hamilton, AC, i gipio’r penawdau â’i rethreg amheus, ymuno â chonsensws gwleidyddol y Cynulliad fu polisi UKIP hyd yma, a cheisio ennill ei phlwyf fel plaid wleidyddol dderbyniol. Gwelwyd hyn yn enwedig ar ran Caroline Jones, AC, (y cyn-arweinydd), cyn-swyddog cyfartaledd yn y gwasanaeth carchardai, a David Rowlands ,AC, cyn-Ynad Heddwch, y ddau ohonynt eisoes â phrofiad o fod mewn swyddi cyhoeddus cyfrifol.

Y drafferth yw nad pobl sy’n ymddiried yn neiliaid swyddi cyhoeddus cyfrifol yw aelodau UKIP ar lawr gwlad. Pobl sy’n drwgdybio’r sefydliad ac am ei siglo ydynt – a chawsant eu cyfle yn yr etholiad hwn. Sut felly y dylai pobl ymateb?

Mae rhai eisoes wedi penderfynu fod taith UKIP i gyrion eithaf y byd gwleidyddol yn daith na ddylid rhoi gormod o sylw iddi. Felly cafwyd datganiad polisi gan Owen Donovan, perchennog y blog ardderchog Senedd Home, yn dweud na fydd bellach yn rhoi mwy o sylw nag sydd raid i Mr Bennett a’i gefnogwyr. Fe fu peth trafod adeg ethol UKIP i’r Senedd am y tro cyntaf ym Mai 2016 a ddylai mudiadau eraill, gan gynnwys yr eglwysi, fabwysiadu polisi tebyg. Sigwyd unrhyw awydd i’r cyfeiriad hwnnw gan ganlyniad refferendwm Mehefin 2016, pan sylweddolwyd fod UKIP yn lleisio barn mwyafrif pobl Cymru yn gywirach nag unrhyw blaid etholedig arall, o leiaf ar y mater hwnnw. Un peth yw anwybyddu plaid fechan ar gyrion gwleidyddiaeth; peth arall yw anwybyddu barn 52% o’r etholwyr. Tawelwyd y dyfroedd am ddwy flynedd gan ymddygiad anrhydeddus (ar y cyfan) aelodau etholedig UKIP yn y Senedd.

Mae ethol Mr Bennett wedi cyd-ddigwydd â thwf newydd yn y gefnogaeth i UKIP yn sgil amheuon a yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu ymadael yn llawn â’r Undeb Ewropeaidd – amheuon a borthir gan o leiaf hanner papurau newydd Llundain sydd mor uchel eu cylchrediad yng Nghymru. Er mai bychan yw’r aelodaeth ac mai simsan yw’r gefnogaeth ar lawr gwlad, mae apêl y blaid o hyd yn fawr ymysg pobl sydd am leisio trwy’r blwch pleidleisio eu gwrthwynebiad i’r Undeb Ewropeaidd.

Dyna galon y dilema. Er mor annymunol yw rhai o ddaliadau arweinydd newydd UKIP, mae ef a’i blaid yn gweithredu trwy’r blwch pleidleisio. Cawsant eu hethol yn ddemocrataidd. Nid ydynt yn yr un cae â mudiadau sy’n ceisio cael y maen i’r wal drwy ymddygiad bygythiol ar y strydoedd, megis Britain First neu’r English Defence League [RHYBUDD: Mae’r hyperddolenni i wefannau’r mudiadau hyn, a gall eu cynnwys beri pryder i ddarllenwyr.] (Peidiwch â rhuthro, da chi! Gol.)

Ar y naill law, felly, rydym yn ofni bod statws Aelodau Cynulliad, a’r mynediad i’r cyfryngau sydd gan arweinyddion y pleidiau yn enwedig, yn mynd i roi rhwydd hynt i fynegi syniadau y byddai’r rhan fwyaf o ddarllenwyr Agora yn eu cael yn wrthun. Mae’n demtasiwn anwybyddu neu geisio cuddio’r ffaith fod y syniadau hyn yn cael eu lleisio yn ein senedd genedlaethol.

Ar y llaw arall, fe wyddom beth sy’n digwydd gyda mudiadau sy’n teimlo iddynt gael eu cau allan o wleidyddiaeth seneddol, neu sydd o’r dechrau yn awyddus i’w thanseilio. Fe ânt â’u hachos i’r strydoedd. Mae mudiadau felly yn denu llawer iawn mwy o gefnogaeth pan allant ddweud wrth bobl, “Dyw pleidleisio ddim yn gweithio”. Fe all hynny fod o ganlyniad i anhrefn ymhlith y pleidiau gwleidyddol traddodiadol (fel yn yr Eidal a’r Almaen yn y 1920au, neu yn yr Eidal yn fwy diweddar yn arwain at ddyrchafiad Silvio Berlusconi ac wedyn Fudiad y Pum Seren a’r Gynghrair Ogleddol sydd bellach yn llywodraethu yno). Fe all fod oherwydd methiant y pleidiau traddodiadol i fynd i’r afael ag argyfwng economaidd neu gymdeithasol (fel yn y 1930au mewn llawer gwlad, gan gynnwys twf Ffasgwyr Oswald Moseley ym Mhrydain). Fe all hefyd fod o ganlyniad i weld y pleidiau traddodiadol yn rhy debyg i’w gilydd, yn rhan o un sefydliad mawr sy’n cadw grym yn groes i ddymuniad a buddiannau’r bobl – a dyna welwyd gyda thwf mudiadau asgell dde ar draws cyfandir Ewrop yn ddiweddar.

Ydym ni ar fin argyfwng tebyg yma? Nid yw’n amhosibl, yn enwedig yn wyneb mudiad cynyddol Pleidlais y Bobl sydd am weld refferendwm arall ar fater yr Undeb Ewropeaidd. Mae lladmeryddion y llwybr hwnnw fel petaent yn ddall i ddau bosibilrwydd. Y cyntaf yw y byddai’r ail ymgyrch hyd yn oed yn fwy ffyrnig a chamarweiniol na’r gyntaf ac yn arwain at ganlyniad tebyg – neu fwyafrif mwy i ymadael – gan ddyfnhau holl rwygiadau ein gwlad. Yr ail yw y byddai pleidlais y tro hwn i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at gri o “frad” ac y byddai’r mudiad gwrth-Ewropeaidd eithafol yn mynd i’r strydoedd gan ddweud, “Does dim pwynt pleidleisio, mae democratiaeth wedi methu – i’r gad.” Mae Leanne Wood, AC, arweinydd Plaid Cymru, eisoes wedi tynnu sylw at y posibilrwydd hwn ac yn rhybuddio yn ei erbyn (ar lafar mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd) – er bod nifer o Aelodau Cynulliad ei phlaid bellach yn cefnogi’r alwad am refferendwm arall.

Mae’r rhain yn ddyddiau anodd ac mae pob mudiad cyhoeddus yn wynebu penderfyniadau anodd. Gwelwn yr un dilema, wrth gwrs, ar draws Fôr Iwerydd wrth i bobl geisio ymateb i weithgarwch Donald Trump yn Arlywydd – a ddylid cydnabod canlyniad y bleidlais, gan ddadlau yn ei erbyn trwy ddulliau gwleidyddol a chyhoeddus yn unig, neu a ddylid gwrthod cydweithredu â’i weinyddiaeth, gan gadw ein hunain yn foesol lân ond gan beryglu hygrededd democratiaeth i’w gefnogwyr selog? Nid yw’n ddewis hawdd o bell ffordd.

Hyd y gwn i, nid oes gan unrhyw un o eglwysi na mudiadau Cristnogol Cymru bolisi ynghylch ymwneud ag UKIP neu beidio. Deallaf yn llwyr yr awydd i’w hanwybyddu, osgoi cynnwys eu barn mewn erthyglau a deunydd cyhoeddus, ac yn y blaen. Ond fy marn i yw fod yn rhaid deall ac adnabod y gelyn. Felly, dylem ddeall apêl dadl Gareth Bennett fod tactegau fel hyn yn rhwystro ei ryddid mynegiant a rhyddid mynegiant y sawl sy’n cytuno ag ef – gan felly greu achos dros frwydro mewn ffyrdd llai gwaraidd. Yr un ddadl yw hon yn y bôn â’r ddadl ynghylch refferendwm Ewropeaidd arall: ydym ni mewn perygl o ddweud ein bod yn credu mewn democratiaeth dim ond pan yw’n cynhyrchu’r canlyniad yr ydym ni yn ei ffafrio?

Onid wynebu’r dadleuon gwrthun i’n dadleuon – cryfach, gwell, mwy moesol – ein hunain yw’r dewis cywir? Nid yw’n llwybr hawdd, ac fe all ein tynnu i ambell sefyllfa ddigon annymunol. Ond rhaid cofio i apêl etholiadol y BNP gael ei dryllio gan ymddangosiad Nick Griffin ar Question Time a danseiliodd yn llwyr ei ddadl ei fod yn cael ei rwystro rhag lleisio’i farn yn agored. Yn yr un modd, ffawd bron y cyfan o gynghorwyr lleol UKIP (fel rhai’r BNP gynt) yw colli eu seddi ar ôl un tymor am iddynt fethu cyflawni eu swyddi yn effeithiol – ni ellir twyllo’r etholwyr am byth.

Mae yna un rhybudd arall yn y sefyllfa sydd ohoni. Yn ystod yr Eisteddfod gwelwyd protest y tu allan i adeilad y Senedd: “Cadwch gasineb allan o’r Senedd”. Nid protest yn erbyn Mr Bennett oedd hon, ond protest yn erbyn dychweliad Helen Mary Jones, AC, i’r sefydliad a’i chefnogaeth i’r mudiad Woman’s Space. (Roedd y protestwyr wythnos yn rhy hwyr, gyda llaw – nid oedd Helen Mary yno ar y diwrnod!) Mater arall i erthygl arall yw’r ddadl honno – ond mae’n deg gofyn a yw protestio yn erbyn mynegi barn ar y sail ei fod yn “gasineb” ddim ond yn tynnu sylw oddi wrth y bobl o fewn yr un adeilad sydd wir yn gas?

Mae Gethin Rhys yn Swyddog Polisi Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr erthygl hon, a ysgrifennwyd ar 19 Awst 2018.