Agora 47 mis Medi-Hydref 2021

Agora rhif 47 mis Medi – Hydref 2021

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

 

Cynnwys

Dim lle, dim amser, dim gwerth
Pryderi Llwyd Jones

Dyfodol y Weinidogaeth (ii)
Eileen Davies 
Karen Owen

Dyfodol y Weinidogaeth (i)
Aled Davies

Diolchgarwch (myfyrdod Cymorth Cristnogol)
Llinos Roberts

Meddai’r diweddar Esgob John Selby Spong …

Cyfarfod Blynyddol C21

Gwahoddiad i Gofleidio’r Dwyrain Canol
Anna Georgina Chitty

Gwyddau Gwyllt: ystyried cerdd Mary Oliver
Anna Jane Evans

 

  • Dim lle, dim amser, dim gwerth

    Dim lle, dim amser, dim gwerth

    Pori drwy gyfrol gyfoethog y diweddar Elfed ap Nefydd Roberts, Gwerth y Funud Dawel (Cyhoeddiadau’r Gair £12.99) wnaeth dynnu fy sylw ar newid arall yng nghyfraniad y meddwl a’r bywyd Cristnogol i fywyd cyhoeddus Cymru. Ac nid yw’n ymddangos (o’r hyn a welais ac a glywais) fod neb wedi sylwi hyd yn oed, ar wahân i erthygl yn Y Tyst. Fe ddigwyddodd mor dawel â chau capel. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae lleisiau wedi codi ynglŷn â chau a gwerthu capeli, ond ...

    Rhagor
  • Dyfodol y Weinidogaeth

    Cynhadledd Rithiol Cristnogaeth 21

    Dyfodol y Weinidogaeth

    Nos Fawrth, 28 Medi

    Cafwyd arweiniad gan dri yn y Gynhadledd ac yr oedd y nifer yn bresennol yn awgrymu’r diddordeb ym mhob rhan o Gymru ac o fewn pob traddodiad yn y maes a’r sefyllfa sydd yn ein hwynebu.

    Fe gyhoeddwn yma arweiniad y Parchedig ALED DAVIES, Chwilog, a’r wythnos nesaf fe fydd crynodeb o arweiniad y Parchedig Eileen Davies, Archddiacon Abertieifi, a Karen Owen Pen-y-groes.

    Mae’n debyg ein bod ni’n trafod hyn yn bennaf yn sgil effaith Cofid-19 a 18 mis o geisio ymdopi ...

    Rhagor
  • Meddai’r diweddar Esgob John Selby Spong

    Meddai’r diweddar Esgob John Selby Spong…

    Bu farw John Spong ar 12 Medi yn 90 oed (gw. e-fwletin, 19 Medi). Rhwng 1973 a 2018 cyhoeddodd 26 o gyfrolau, gan ysgrifennu’n helaeth ar y Beibl a sut i gyflwyno Cristnogaeth i oes (yn y gorllewin) sydd wedi hen droi cefn ar grefydd draddodiadol o safbwynt cred a sefydliadau cyfundrefnol. Efallai mai’r gyfrol Jesus for the non-religious (2007) sy’n cyfleu orau nod ei waith a’i weinidogaeth fel esgob, ysgolhaig a Christion radical. Mae’n waith ac yn weinidogaeth i ni i gyd. Os bu esgob ac ysgolhaig dadleuol ...

    Rhagor
  • Gwahoddiad – Cyfarfod Blynyddol

    CYFARFOD BLYNYDDOL CRISTNOGAETH 21

    Wrth i ni gamu’n betrus allan o’r cyfnod clo, mae’r drafodaeth eisoes wedi dechrau bywiogi ynghylch natur y weinidogaeth fydd yn ein hwynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod. Nid bod hynny’n beth newydd mewn gwirionedd, gan bod ‘Dyfodol y Weinidogaeth’ wedi bod yn bwnc trafod mewn rhai cylchoedd ers degawdau. Ond efallai fod mwy o reswm dros wyntyllu’r mater eleni nag erioed o’r blaen.

    Dros y misoedd diwethaf, bu pwyllgor Cristnogaeth 21 yn trafod pa ffurf y gallai gweinidogaeth amgen ei chymryd, a chlywsom am wahanol fodelau llwyddiannus a chyffrous o bob cwr o Gymru. Derbyniwyd adroddiadau i’r gwrthwyneb hefyd, wrth i hanesion ein cyrraedd ...

    Rhagor
  • Dyfodol y Weiniogaeth ii

    Cynhadledd Rhithiol Cristnogaeth 21

    Dyfodol y Weiniogaeth

    Nos Fawrth, 28 Medi

    Cafwyd arweiniad gan dri yn y gynhadledd ac yma cyflwynwn grynodeb o arweiniad Eileen Davies a Karen Owen. Cyhoeddwyd arweiniad Aled Davies eisoes.

    Mae’r Parchedig Eileen Davies yn Archddiacon Aberteifi ac, ynghyd â’r Esgob Wyn Evans (sydd bellach wedi ymddeol) yn gyfrifol am sefydlu Tir Dewi fel llinell gymorth a gwasanaeth cefnogi i ffermwyr a’u teuluoedd yn wyneb anghenion a phroblemau’r gymuned wledig ac ym mywydau ffermwyr. Mewn pum mlynedd mae Tir Dewi (sydd bellach wedi ymestyn tu hwnt i Esgobaeth ...

    Rhagor
  • Myfyrio ar gyflwr y greadigaeth dros Ŵyl y Diolchgarwch   

    Myfyrio ar gyflwr y greadigaeth dros Ŵyl y Diolchgarwch    

    Yn ddiweddar aeth criw o gefnogwyr Cymorth Cristnogol ar daith gerdded er mwyn myfyrio ar gyflwr y greadigaeth mewn cyfnod allweddol yn hanes y byd a’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd. Isod, mae Llinos Roberts, Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymorth Cristnogol yn y gogledd, yn dweud yr hanes ac yn ei osod yn ei gyd-destun. Mae hefyd yn cynnwys y myfyrdod byr a ddefnyddiwyd ar y diwrnod.

    Mae cyfnod y Diolchgarwch yn aml iawn ...

    Rhagor
  • Gwyddau gwyllt

    Gwyddau Gwyllt

    Rhannodd ffrind i mi y gerdd isod gan Mary Oliver ar dudalen gweplyfr i goffáu 9/11. 

    Fy ymateb cyntaf oedd meddwl am logo Gwasg Gyhoeddi Cymuned Iona – Wild Goose Publications – sy’n ein hatgoffa bod yr ŵydd wyllt yn hen symbol Celtaidd o’r Ysbryd Glân.

    Mae fy ail ymateb yn tarddu o’n camddealltwriaeth ddiwinyddol dros ddegawdau am le’r ddynoliaeth yn y greadigaeth. Fy nheimlad ydi ein bod wedi camddefnyddio Salm 8 i gyfiawnhau ein gormes a’n rhaib o adnoddau’r byd wrth i ni arglwyddiaethu’n drahaus ar dir y lord.

    Efallai mod ...

    Rhagor
  • Diwrnod Cofleidio’r Dwyrain Canol

    Gwahoddiad

    Gwahoddiad gan Anna Georgina Chitty o Morfa Nefyn i ymuno yn Niwrnod Cofleidio’r Dwyrain Canol, 25 Medi 2021

     Dydd Sadwrn, 25 Medi

    Ar-lein, 11–2 (yn cynnwys toriad i ginio)

    Nid elusen newydd yw Cofleidio’r Dwyrain Canol (Embrace the Middle East). Mae wedi bod yn helpu pobl dan anfantais yn y Dwyrain Canol er pan gafodd ei sefydlu fel Turkish Missions’ Aid Society yn 1854, bryd hwnnw i gefnogi’r Armeniaid yn Nhwrci oedd yn byw dan ormes yr Ymerodraeth Otomanaidd.

    Y dyddiau hyn, mae ‘Cofleidio’ yn gweithio gyda phartneriaid Cristnogol o bob enwad yn Libanus, Syria, Irac, Palesteina/Israel, ac yn yr Aifft. Mae gofalu am y mwyaf bregus mewn cymdeithas – plant, yr ...

    Rhagor