Diwrnod Cofleidio’r Dwyrain Canol

Gwahoddiad

Gwahoddiad gan Anna Georgina Chitty o Morfa Nefyn i ymuno yn Niwrnod Cofleidio’r Dwyrain Canol, 25 Medi 2021

 Dydd Sadwrn, 25 Medi

Ar-lein, 11–2 (yn cynnwys toriad i ginio)

Nid elusen newydd yw Cofleidio’r Dwyrain Canol (Embrace the Middle East). Mae wedi bod yn helpu pobl dan anfantais yn y Dwyrain Canol er pan gafodd ei sefydlu fel Turkish Missions’ Aid Society yn 1854, bryd hwnnw i gefnogi’r Armeniaid yn Nhwrci oedd yn byw dan ormes yr Ymerodraeth Otomanaidd.

Y dyddiau hyn, mae ‘Cofleidio’ yn gweithio gyda phartneriaid Cristnogol o bob enwad yn Libanus, Syria, Irac, Palesteina/Israel, ac yn yr Aifft. Mae gofalu am y mwyaf bregus mewn cymdeithas – plant, yr anabl, menywod a chleifion – wrth galon pob un o’r sefydliadau sy’n bartneriaid, ond ar ben hynny bellach rhaid meddwl am her a bygythiad Covid.

Ym Mhalesteina mae’r trawma y mae pobl yn ei ddioddef beunydd yn cynnwys cyrchoedd awyr yn Gaza – ymosodiadau ymsefydlwyr ar y Lan Orllewinol – a phlant yn cael eu harestio ar gam a’u cam-drin.

Yn Libanus, flwyddyn ar ôl y ffrwydrad erchyll yn Beirut, lle nad oes llywodraeth weithredol a lle mae gwerth arian wedi plymio, mae’r sefyllfa’n amhosib. Gwlad fach iawn ydi Libanus, ac mae wedi croesawu llu o ffoaduriaid o Syria yn ychwanegol at y Palestiniaid oedd yno ynghynt.

Ond er gwaetha’r holl rwystrau a’r amgylchiadau anodd, mae partneriaid Cofleidio yn dal i ddangos cariad Crist, ac yn cynnal golau gobaith mewn tywyllwch. Er nad yw’r gobaith i’w weld yn amlwg ar raddfa eang, mae gweithredoedd bychain da yn ddigon gyda’i gilydd i newid sawl bywyd.

Bob blwyddyn, mae’n arferiad gan Cofleidio i wahodd cynrychiolydd un o’r partneriaid i siarad â’r cefnogwyr am eu gwaith, a hyd at 2019 byddent yn cynnal dau Embrace Days, un yn yr Alban ac un yn Llundain.

Ond o’r diwedd, yn 2019, cawsom ddiwrnod Cofleidio yng Nghymru, yng Nghadeirlan Llandaf – digwyddiad gyda’r nos, yn dechrau gyda Gosber ac yn cynnwys lluniaeth (pwysig!) cyn anerchiadau gan Brif Weithredwr Cofleidio, a’r Archesgob Paul Sayah o Libanus. I gloi’r noson (ffordd dda o ymlacio’r meddwl), fe wnaeth Elin Fouladi a Dafydd Dabson lenwi’r gadeirlan â swyn llais a gitâr. Roedd yn llwyddiant mawr!

Roedd gennym ni gynlluniau mawr ar gyfer “Embrace Day Cardiff 2020”, ond, wrth gwrs, cyrhaeddodd Cofid a difetha pethau. Eleni bydd yr “Embrace Day” rhithiol cyntaf – dros y Deyrnas Unedig i gyd ar 25 Medi. Bydd yna siaradwyr, wrth gwrs – yn cynnwys Dr Alia Abboud a Dr Nabil Costa o Libanus. Ac yn ystod oedfa’r prynhawn byddwn ni’n medru cydio llaw mewn gweddi gyda’n brodyr a’n chwiorydd yn y Dwyrain Canol, ac ar draws ffiniau agosach, gyda ffrindiau o’r Alban ac o Loegr.

Comisiynwyd Sioned Webb i gyfansoddi darn o gerddoriaeth ar gyfer y defosiwn a’r gweddïau fydd yn cael eu cyhoeddi ar-lein fel rhan o’r diwrnod. Mae’n gymysgfa o arddulliau a cherddoriaeth ddwyreiniol a Chymreig.

‘Dwi wedi bod yn gweithio gyda Salih Hassan o Gaerdydd (Palesteina yn wreiddiol),’ meddai Sioned, ‘Mae o’n chwarae offeryn yr oud a dwi wedi’i gynnwys yn y gwaith. Dwi hefyd wedi cynnwys yr emyn-dôn “Aberystwyth”. Arfon Gwilym sy’n canu ac mae’r geiriau wedi’u hysbrydoli gan Esyllt Maelor wedi iddi hi glywed sgwrs y pensaer Naseer Arafat o Nablus ym Mhlas Tan-y-bwlch rai blynyddoedd yn ôl. Dyma’r geiriau:

Gwrando’n gweddïau, ailgodi’n tai,
ailafael ynddi, dyfalbarhau;
gweddi am obaith y daw hyn i ben
a choflaid fach dyner heddwch, Amen.

Felly, ymunwch â ni, os medrwch chi, i ddysgu ac i weddïo dros bobl y Dwyrain Canol. Gallwch gofrestru drwy’r ddolen hon:

Embrace Day 2021