Archif Awdur: Golygydd

E-fwletin 31 Gorffennaf 2022

Caneuon ein Ffydd?

Ar ôl hir ddisgwyl fe ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Geredigion ac i Dregaron, gyda phawb yn edrych ymlaen at fwynhau wythnos wych o uchel ŵyl ar ôl y cyfnod blin diweddar. Bydd rhai’n teithio i Dregaron i letya yno am yr wythnos, mewn gwesty neu garafán neu babell. Bydd eraill yn mwynhau’r arlwy ar y teledu ac ar amrywiol gyfryngau eraill ein hoes.

Heddiw, ar Ddydd Sul y Steddfod, mi fydd y Maes a’r cyfryngau, fel ei gilydd, yn atseinio i sŵn a sain ein hemynau enwog. Yn y gwasanaeth boreol ac yn y gymanfa ganu draddodiadol fin nos fe fydd y gynulleidfa yn morio canu’r hen alawon a miloedd adref ar y soffa yn ategu’r mawl.

Mae ein traddodiad emynyddol yn rhan gyfoethog iawn o’n treftadaeth ddiwylliannol, wrth gwrs. Bu canu emynau, y tu fewn a thu allan i fannau addoliad, yn nodwedd amlwg o’n hunaniaeth ddiwylliannol fel Cymry yn y canrifoedd diweddar. O ddyddiau Salmau Cân Edmwnd Prys hyd heddiw mae canu emynau’n fodd i gyfoethogi ein haddoliad a goleuo ein crefydda.

Ers dros 20 mlynedd bellach, Caneuon Ffydd (2001) yw’r casgliad a ddefnyddir gan bump o’n henwadau crefyddol i ganu mawl. Mae Emynau Catholig (2006) a Pherlau Moliant yr Undodiaid (1979) ynghyd â’r Perlau Moliant Newydd (1997) yn llai cyfarwydd i nifer ohonom efallai. Gyda’i gilydd maen nhw’n cynrychioli ystod go helaeth o arddulliau a mesurau, beirdd ac awduron. Maen nhw hefyd, wrth gwrs, yn cynrychioli rhychwant go eang o safbwyntiau athrawiaethol a diwinyddol.

Er i Ganeuon Ffydd gael ei gyhoeddi ar doriad yr unfed ganrif ar hugain, cynnyrch y 18fed a 19eg ganrif yw trwch emynau’r gyfrol. Cynnyrch diwygiadau efengylaidd y cyfnodau hynny ydyn nhw gan mwyaf. O’r herwydd mae’r emynau’n gyforiog o gyfeiriadaeth Feiblaidd sy’n ddieithr iawn i glustiau’n hoes ni. Maen nhw hefyd yn diferu o drosiadau Calfinaidd dramatig ac yn drymlwythog â chysyniadau athrawiaethol a ystyrir yn geidwadol, a hyd yn oed yn ormesol, yn ein dyddiau ni. Ond eto, eu canu a wnawn – a hynny heb fawr o gŵyn, sylw na beirniadaeth.

Na, dydyn ni ddim yn canu am ‘gannu’r Ethiop’ erbyn heddiw. Bu golygu ar ieithwedd hiliol y gorffennol. Bu rhywfaint o feddalu hefyd ar afael y batriarchaeth ar ein hemynyddiaeth, er mai prin iawn yw lleisiau menywod yng Nghaneuon Ffydd. Ond i ba raddau mae’r emynau a gennir gennym yn rheolaidd yn adlewyrchu ethos ein cyfnod a’r pynciau sydd o ddiddordeb byw i ni heddiw – yr amgylchedd, cadwraeth a llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac anghydraddoldeb economaidd byd-eang, cydraddoldeb yn nhermau rhywioldeb a rhywedd, amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol? Mae gwir angen modd i gyfleu consyrn y Crist byw ynghylch y materion hyn. A pha fodd gwell na thrwy emyn.

Felly, wrth i ni ryfeddu at ddawn ac awen ein beirdd a’n llenorion yn Nhregaron yr wythnos hon a gwerthfawrogi eu cynnyrch yn y Cyfansoddiadau weddill Awst, beth am i ni geisio cael ein hysbrydoli ganddyn nhw (neu brocio eraill) i droi llaw at gynhyrchu ambell bennill ac emyn sy’n adlewyrchu pryderon, gobeithion a daliadau Cristnogion ein dydd ni, Cristnogion yr unfed ganrif ar hugain? Beth am lunio caneuon ar gyfer ein ffydd ni heddiw?

E-fwletin 24 Gorffennaf 2022

Mae’n Twymo!

‘Mae’n twymo. Sdim un gwelltyn glas yn y parc ‘co. Ma’ hwn yn imbed o wael.’

Dyna oedd sylw un ffermwr ar ddechrau’r cwrdd Sul diwethaf. Halodd e’ fi i bwslo.

Dydw i ddim yn cofio rhyw lawer am neges y pregethwr gwadd. Wrth fyfyrio, pendroni a drychid mas trwy’r ffenest yr hyn a welwn oedd porfa crin a llwyni’n gwywo. Roedd hi’n 28 gradd yn y cyhudd am ddeg y bore.

Yn ystod yr wythnos diwethaf mae effeithiau cynhesu byd eang i’w gweld yn glir yma yng Nghymru. Gobeithio bod y gwres eithafol yn ’wake up call’ i’r rai hynny sy’n amharod i wynebu realiti’r argyfwng sy’n ein hwynebu.

Mae’n effeithio ar bawb ond yn effaith anghymesur ar y tlotaf yn ein cymdeithas. O ganiatáu i hyn ddigwydd mae ein difaterwch yn groes i orchymyn Duw i ni ofalu am yr hyn y mae wedi ei roi i’r ddynoliaeth.

Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i wneud ein rhan i sicrhau nad ydym yn gadael i’r genhedlaeth nesaf etifeddu planed sy’n gwywo ac yn marw oherwydd ffolineb a hunanoldeb ein cenhedlaeth ni. Ac mae angen i’n capeli wneud mwy. Mae angen i fi wneud mwy. Ond, sut?

Felly, yng nghefn Caneuon Ffydd, yn hytrach na gwrando ar y bregeth, dyma lunio rhestr o awgrymiadau ymarferol gallwn eu mabwysiadu er mwyn gwneud ein rhan i helpu yn y frwydr yn erbyn cynhesu byd-eang.

  • Ewch ati i drefnu cyfarfod ymhlith aelodau eich capel, gan osod un cwestiwn yn unig ar yr agenda. Beth allwn ni ei wneud i leihau ein hôl troed carbon?
  • Yn hytrach na chynnal oedfa draddodiadol, gwahoddwch arbenigwyr yn y maes a chynrychiolwyr elusennau i siarad gyda’ch aelodau er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon amlwg cynhesu byd eang. Penderfynwch ar newidiadau y gellid eu mabwysiadu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.
  • Os oes Ysgol Sul, trafodwch gynhesu byd-eang – mynnwch farn y plant.
  • Peidiwch â thorri’r borfa yn y fynwent, gadewch i’r holl blanhigion dyfu er mwyn annog mwy o fioamrywiaeth.
  • Plannwch goed yn y fynwent neu ger eich addoldy.
  • Mewn ardaloedd amaethyddol, anogwch yr amaethwyr yn eich plith i adael i’r cloddiau dyfu a pheidio â’u blingo yn ystod mis Awst.
  • Unwch oedfaon – ystyriwch sawl capel sy’n defnyddio ynni yn ddiangen ar gyfer y ‘dau neu dri’ pan allai pawb ddod ynghyd mewn un adeilad.
  • Yn yr hydref symudwch i’r festri i gynnal oedfa i arbed ynni.
  • Holwch os oes grantiau ar gael i osod paneli solar ar eich adeilad.
  • Cynigiwch rannu ceir. Ewch ati i greu rota sy’n cynnig lifft i gymydog neu gymdogion.
  • Cynorthwywch eich gweinidog i brynu neu logi car trydan i leihau ei ôl/hôl troed carbon wrth fugeilio a mynychu cyfarfodydd.
  • Byddwch yn radical! Caewch yr hen gapel sy’n mynd a’i ben iddo, sy’n ddrafftlyd ac yn damp ac yn oer ac yn costio ffortiwn i’w gynhesu am awr bob Sul. Symudwch i neuadd y pentref neu’r ysgol leol i gynnal eich eglwys.

Salm 65 9

 ‘Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau, gwnaethost hi’n doreithiog iawn ; y mae afon Duw’n llawn o ddŵr.’

 

E-fwletin 17 Gorffennaf 2022

Sefydliad v. Proffwydi

Ceir dau draddodiad ‘crefyddol’ yn cyd-redeg ac yn gwrthdaro â’i gilydd yn gyson yn yr Hen Destament. Y traddodiad sefydliadol a’r traddodiad proffwydol. Mae’r gwahanol feddylfryd a byd-olwg sy’n perthyn i’r traddodiadau yma’n dal i fodoli ac yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn ystyried ‘crefydd’ ac yn dehongli ei bwrpas hyd heddiw. Mae enwadau ac eglwysi yn ogystal ag unigolion yn arddel y safbwyntiau hyn heddiw, ac y maent yn effeithio’n uniongyrchol ar eu hagweddau a’u gweithredoedd.

Ceidwadol yw’r traddodiad sefydliadol, ac fe gred ei arddelwyr bod cyfrifoldeb arnynt i gynnal y gyfundrefn wladol yn ogystal a chrefyddol, sy’n bodoli er mwyn cynnal y ‘drefn’. Yn yr Hen Destament rhain oedd swyddogion y deml a’r proffwydi a gefnogai’r brenin a’i lys ac a lefarai ar ran y sefydliad gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol. Rhain a reolai y deml ac a gefnogai’r holl ganoli oedd wedi digwydd dan arweiniad Dafydd a Solomon yn Jerwsalem. Roeddent yn debyg i sefydliadau crefyddol y gwladwriaethau oedd o’u hamgylch yn y Dwyrain Canol – yr Aifft, Asyria, Babilon, Persia ac yn y blaen. Yr oedd un gwahaniaeth pwysig, i’r gwladwriaethau eraill yr oedd y brenin yn ddwyfol, ond i’r Israeliaid a’r Iddewon cynrychiolydd i Dduw oedd y brenin.

Cadw pethau i fynd gyda’r un gwerthoedd sylfaenol yn rheoli hyd yn ‘oes oesoedd’ yw pwyslais y drefn honno. Gwarchod a bendithio’r gyfundrefn oedd (ac sydd) yn bodoli yw ei phwrpas. Yn gyffredinol dyma yw safbwynt ac agwedd y llyfrau hanes, gydag eithriadau fel 1 Samuel 8, a’r llyfrau doethineb. Rhain yw’r adrannau a fawrygir gan yr eglwysi (ac unigolion) sefydliadol heddiw. Yn anffodus, dyma’r adrannau a ddefnyddir yn y beiblau darluniadol i blant ac ieuenctid oherwydd eu bod yn llawer mwy ‘cyffrous’ gyda’r holl ladd a rhyfela sy’n digwydd ynddynt.

Cynnal y drefn, ac annog pobol i dderbyn y drefn ac ar yr un pryd estyn ychydig gysur a chymorth arwynebol i’r rhai sy’n dioddef dan y drefn yw rôl yr eglwysi sydd yn y traddodiad hwn heddiw.

Ar y llaw arall mae’r traddodiad proffwydol yn gyson herio’r bobol grymus a chyfoethog, y brenhinoedd a’r archoffeiriadon a’u llysoedd. Pleidiant achos y tlodion, gweddwon ac estron, hynny yw pobol y cyrion, yn ddi-baid. Cyflwynant Duw fel y Creawdwr sy’n gweithredu er mwyn dwyn ‘creadigaeth newydd’ i fodolaeth sy’n seiliedig ar gyfiawnder, trugaredd a barn. Nid estyn cysur arwynebol yw eu bwriad ond gobaith gwirioneddol am waredigaeth o afael grymoedd drygioni.

Un a berthynai i’r traddodiad proffwydol oedd Iesu o Nasareth. Yn ôl yr efengylau y mae’n gosod ei hunan yng ngwersyll y proffwydi (Mathew 13:57; 21:11), mae’n canmol y proffwydi ac yn annog ei ddisgyblion i fod yn debyg iddynt (Mathew 5:12). Sonia yn ddilornus am y brenhinoedd fel Dafydd a Solomon (Marc 12:35 a Mathew 6:29), arwyr mawr y genedl – ac arwyr y meddylfryd sefydliadol, a’r beiblau lliw, hyd heddiw. Yn ôl y farn boblogaidd, a sefydliadol, un tebyg i Dafydd oedd y Meseia i fod. Mae Iesu’n cyflwyno ei hun fel y Meseia sydd i’r gwrthwyneb â’r portread o Dafydd a gawn yn yr Hen Destament.

Mae’r Meseia Iesu yn hyrwyddo ffordd cyfiawnder ac yn dilyn ffordd tangnefedd – ffordd y proffwydi, ac mae ei agwedd at Pilat, Herod a’r deml yn Jerwsalem yn cadarnhau ei agwedd at y ffyrdd hynny.

E-fwletin 10 Gorffennaf 2022

Bwrdd y Wledd

Codi fyny, gollwng gafael a pharatoi bwrdd i’r wledd oedd thema cyfarfod eglwysi CWM Ewrop yn Great Missenden yr wythnos ddiwethaf. Yno, cawsom gyfle i rannu’n profiadau personol o bobl yn codi i fyny drwy ddod ag eitemau efo ni o’n heglwysi, ein gwledydd a’n diwylliannau gwahanol. Roedd hynny’n ffordd dda o gyflwyno a dod i adnabod ein gilydd.

Roedd y drafodaeth am yr hyn sydd angen i ni eu gollwng yn ddiddorol ac un o’r pethau wnaeth fy nharo oedd y sylw ein bod ni, yn rhy aml o lawer, yn credu mai ein gwaith ni oedd cynnig a rhoi i bobl eraill. At hynny, y perygl sydd ynghlwm â hynny o gredu mai gennym ni y mae’r adnoddau a’r atebion i gyd. Mae gollwng gafael ar rym yn fwy o her nag unrhyw beth!

Wrth drafod ‘bwrdd y wledd’ a’n gwahoddiad ni i bobl ymuno, nodwyd nad ydym yn ddigon aml yn ymuno wrth fyrddau pobl eraill i ddysgu a derbyn ganddyn nhw. Nododd un bod bwrdd yn beth dieithr iawn mewn cynifer o ddiwylliannau – bwrdd y dyn gwyn, bwrdd bos y ffatri neu fwrdd y meistr ydy e ym meddyliau llawer. Dyma gofio hefyd nad ydy bwrdd bwyd yn beth cyffredin mewn nifer o gartrefi yng Nghymru bellach chwaith. Tybed sut mae hynny’n effeithio ar ein syniadaeth?

Ar y dydd Iau cafwyd cyfle i fynd i Luton – y tro cyntaf i nifer ohonom fod yno. Mae Luton yn dref lle mae yno 140 o ieithoedd yn cael eu siarad (gwych ynde!) a phobl o bob lliw a chred yn cyd-fyw. Cawsom ymweld â mudiad Grassroots, mudiad Cristnogol sydd wedi gweithio’n agos efo arweinwyr ffydd eraill yn lleol nes sefydlu’r Luton Council of Faiths. Roedd gwaith y cyngor hwnnw i adeiladu heddwch a chyd-ddeall rhwng pobl ar draws ffiniau cred a diwylliant yn ysbrydoliaeth. Roedd y cyfeillgarwch a’r tynnu coes naturiol a oedd yn digwydd rhwng yr arweinwyr o wahanol grefyddau yn hyfryd dros ben. Ond coron y dydd oedd ymweliad â’r Gurdwara – teml y Sîc (Sikh).

Mae’r ffydd yn 500 oed ac roedd y sylfaenydd, Guru Nanak, yn dysgu neges cariad. Mae’r grefydd Sikh yn edrych ar fywyd, nid fel cwymp oddi wrth ras, ond fel cyfle unigryw i ddarganfod a datblygu’r dwyfol ymhob un ohonom. Ystyr y gair Sikh yw disgybl – a’r Guru yw’r athro. 

Y degfed Guru oedd Guru Gobind Singh. Fe oedd yr un a gyflwynodd y 5 erthygl ffydd sy’n rhoi hunaniaeth glir i’r Siciaid. Ers 300 mlynedd mae’r dilynwyr yn cael eu hadnabod yn hawdd oherwydd eu gwallt hir a’r twrban.  Yng nghymdeithas draddodiadol India, dim ond rheolwyr a’r dynion o’r caste uchaf oedd yn gwisgo twrban ond wrth fynnu bod pob Sikh yn gwisgo un roedd Guru Gobind Singh yn mynegi pwysigrwydd pawb. Mynnodd hefyd fod y dynion i gyd yn defnyddio’r cyfenw Singh – a’r merched yn defnyddio’r cyfenw Kaur. Trwy hynny roedd yn tanseilio’r system caste lle mae cyfenw’n arwydd o safle dynion yn y gymdeithas.

Guru Gobind Singh oedd y guru dynol olaf. Gorchmynnodd gasglu dysgeidiaeth ysgrifenedig y Gurus cynharach, ynghyd ag ysgrifeniadau arweinwyr ysbrydol Mwslimaidd a Hindŵ oedd wedi dysgu syniadau tebyg.  Mae’r casgliad hwn o waith ysgrifenedig yn cael ei alw’n Guru Granth Sahib. Mae’n gasgliad ecwmenaidd unigryw o ysgrifau ysbrydol ac i’r Siciaid hwn yw ffynhonnell pob gwybodaeth ysbrydol ac awdurdod. Maent yn trin y llyfr fel bod dynol cwbl gysegredig ac roedd gweld y ffordd yr oeddynt yn ei barchu’n brofiad rhyfeddol!

Roedd y Gurdwara welsom ni’n Luton yn adeilad newydd sbon ar dri llawr – maes parcio yn y gwaelod, ystafell fawr i fwyta ar y llawr cyntaf a’r deml i addoli ar y llawr uchaf.  Roedd yr arweinydd yn ddyn tawel, hyfryd dros ben, a ddywedodd bod tua mil o bobl yn addoli yno ar fore Sul.

Cred Siciaid bod bwyd i fod i bawb ac roedd y Gurdwara’n bwydo tua 800 o bobl bob dydd o’r flwyddyn. Roedd yn agored drwy’r dydd ac roedd unrhyw un fyddai’n galw i mewn yn cael bwyd heb unrhyw gwestiwn nac amod – na phlât casglu! Aelodau’r Gurdwara sy’n darparu’r gwasanaeth, yn ferched a dynion, ac roedd y bwyd yn faethlon ac yn flasus.  Profiad anhygoel ac ymateb cyffredinol ein grŵp oedd rhwystredigaeth ein bod ni’n gwneud popeth mor gymhleth – ac mai’r cwestiwn cyntaf gennym bron bob tro ydi ‘faint neith o gostio’! 

Da oedd cael cyfle i eistedd wrth fwrdd rhywun arall a dysgu!

Gallwch gael mwy o wybodaeth am grefydd y Siciaid ar wefan www.SikhNet.com

 

 

 

E-fwletin 3 Gorffennaf 2022

Capeli Ar Werth

Beth sy’n gyffredin rhwng un o storïau cyfredol Pobl y Cwm a phentref Hermon, Sir Benfro?  Yr ateb syml yw: capeli ar werth. Mae Megan yn fawr ei gofid oherwydd y si fod Seilo, Cwrtmynach, yn cael ei droi’n fflatiau moethus a’r fynwent yn faes parcio ar gyfer trigolion y fflatiau hynny. Ei phrif ofid yw y gallai’r un peth ddigwydd i gapel Bethania.  

Roedd y sefyllfa hon yn gyffredin cyn y pandemig ond ers hynny mae’n ymddangos fod cau capeli yn digwydd yn fwy cyson, e.e. sylwadau yn y grŵp ‘Y Capel’ ar Facebook.  Nid yw gofid Megan yn anghyffredin ac onid y gwir yw fod llawer gormod o gapeli ac eglwysi ar hyn o bryd.  Mae’r niferoedd sy’n addoli yn y Gymraeg yn lleihau ac mae capeli yn wynebu costau sylweddol a chynyddol. Hwyrach ein bod yn medi’r hyn heuwyd yn nyddiau’r cystadlu ynghylch pwy oedd â’r capel mwyaf a’r organ orau! 

Mewn ambell i dref mae mwy nac un capel yn yr un stryd a’u cyflwr strwythurol yn amrywio. A allwn mewn gwirionedd gyfiawnhau gwario degau o filoedd o bunnau’n adnewyddu adeilad neu ei ‘batcho’ pan gallai dau gapel ymneilltuol ymuno neu rannu adeilad? Bron na ddwedwn ei fod yn anfoesol ac yn groes i’r efengyl i ystyried y fath wariant yn y dyddiau sydd ohoni. Ar y llaw arall, nid yw rhannu adeilad neu uno’n sicrhau ffyniant nac eglwys fyw – ond fe fyddai mwy o aelodau yno i ysgwyddo’r cyfrifoldebau.

Buddiol ystyried ymateb treiddgar yr Arglwydd Iesu wrth y wraig o Samaria wrth iddi godi’r sgwarnog o ble dylid addoli.  Nid y lle sy’n bwysig ond yr ysbryd (Ioan 4:21-24).  Dyna wyddai ein cyndadau ymneilltuol wrth iddynt addoli mewn ogofau, ysguboriau a thai tafarn.  Yn y pendraw, er bod cael adeilad wedi ei gysegru yn hyfryd, nid yw’n rheidrwydd. Cofied mai mewn goruwch ystafell y dathlwyd y cymun cyntaf! 

Cofied hefyd, bod yr academïau ymneilltuol i oedolion yng Nghymru’n bodoli dwy ganrif cyn ein colegau sefydliadol cyfoes, e.e. Academi Brynllywarch, Llangynwyd ac un Ystrad Wallter yn Llanymddyfri. Nid mewn adeiladau moethus y lleolwyd y rhain ond, yn aml, ar ffermydd. Roedd yr addysg gafodd Williams Pantycelyn yn academi Llwyn-llwyd yn un eang fel mae ei esboniad byw o’r aurora yn dangos.

 ‘Fe’m gwahoddwyd allan o’m tŷ gyda brys a dychryn ; yr oedd… yr holl wybren yn dawnsio, ac yn chwareu trwy ei gilydd … Rhai a geisiasant ddywedyd mae’r gelfyddyd newydd o electricty sydd yn dehongli’r peth oreu …’

Diolch am weledigaeth arweinwyr y fenter o droi Capel Brynmyrnach yn adnodd cymunedol a dwy fflat ar gyfer pobl leol ym mhentref Hermon. Dyma ddefnydd goleuedig o’n capeli diangen a byddai’n braf gweld hyn yn digwydd yn amlach ar draws Cymru. 

Wrth gwrs, yr eglwys leol yw ffocws yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr a’r gynulleidfa sy’n gallu penderfynu sut i werthu’r capel a beth dylid ei wneud efo’r arian. Braf darllen am Fedyddwyr Llanrug yn rhoi’r arian mewn cronfa i gynnal gweithiwr plant ac ieuenctid yn yr ardal, gan arwain at ail fuddsoddi yn y gymuned. Mae’r Eglwys Bresbyteraidd yn fwy cymhleth o ran rheoli eiddo ond trwy’r gyfundrefn honno byddai modd ystyried cydweithio â chymdeithas tai ar lefel genedlaethol i sicrhau fflatiau i bobl leol ar raddfa eang.

Er bod yr hyn sy’n digwydd i’n capeli yn dristwch rhaid i ni beidio â chysylltu addoli ag adeiladau’n ormodol. Enghraifft lwyddiannus o hyn yw Eglwys Ebeneser, Caerdydd, a werthodd ei chapel yng nghanol y ddinas, gan ddewis peidio prynu adeilad arall. Yn hytrach maen nhw’n llogi adeiladau’n wythnosol. Trwy hynny maent wedi rhyddhau’r eglwys i ganolbwyntio ar ei chenhadaeth, yn hytrach na chael ei llethu gan ofalon adeiladau.

Byddai’n dda casglu enghreifftiau eraill o arfer da. Beth amdani C21?

 

Encil 2022

Encil y Pentecost, 18 Mehefin

Encil 2022

‘Mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno’ (neu ‘Mae’r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad’, Beibl.net) oedd y thema i’n hysgogi a chadarnhau’r rhai sy’n ystyried bod lle i C21 a’i angen fel rhan o’r dystiolaeth Gristnogol yng Ngymru. Yn anorfod, mae’n bwyslais anghyfforddus ac anodd i’r traddodiadau a‘r enwadau sydd wedi eu caethiwo i’w hanes. Gyda phum o bobl yn arwain, ein hofn mwyaf oedd y gallai’r diwrnod fynd yn gynhadledd ac nid yn encil. Ond encil a gawsom – amser a lle i fyfyrio, gweddïo a gwrando ar ‘sŵn yr Ysbryd’ a dilyn ‘cyfeiriad yr Ysbryd’. Yr oeddem wedi ymgynnull yn eglwys hardd y Santes Fair, Porthaethwy.

Yr oedd arweiniad Archesgob Cymru ar ddechrau’r dydd yn ymateb gonest ac arwyddocaol. Wedi’r cyfan, mae’n cario baich a chyfrifodeb sefydliad eglwysig. Mae’r hen bwyslais (sef Duw yn gweithio trwy ei eglwys), meddai Andy John, yn cyfyngu Duw ac yn anwybyddu tystiolaeth y Testament Newydd, yn arbennig Llyfr yr Actau. Yr alwad i’r eglwys yw bod yn rhan o waith Duw yn ei fyd – gweld lle mae Duw ar waith ac ymuno ag ef. Mae’r arweiniad traddodiadol, ‘Datblygwch ac na wyrwch oddi wrth yr Ysgrythur’, yn mynnu ein bod yn cofio mai geiriau Crist i Nicodemus yw thema’r encil am y gwynt yn chwythu lle y mynno. Ysbryd rhydd ydyw, ond Ysbryd Crist ydyw. Beth a wnawn pan mae Duw ar waith yn ei fyd ac yn mynd yn groes i’r hyn mae’r eglwys wedi ei ddysgu? Mae’n sefyllfa newydd, amgylchiadau newydd, yn her a gwahoddiad newydd. Mae tystiolaeth yr Ysbryd yn ein harwain i’r man lle mae gwirionedd a chariad a ffrwythau’r Ysbryd i’w gweld. Wrth gydnabod e.e. fod perthynas a phriodas hoyw yn un o’r meysydd sydd mewn perygl o rwygo ei enwad ei hun, mae Duw, meddai’r Archesgob, yn galw ei bobl i gariad, daioni a gonestrwydd. Ac y mae’n ddyletswydd arnom i ddilyn arweiniad yr Ysbryd.

Ymhlith y cwestiynau yr oedd yr Archesgob wedi eu rhoi i ni i’w rhannu mewn grwpiau bychan – cyn cael cyfnod tawel o weddi – yr oedd y ddau yma: ’Oes ffiniau i ddatblygiad ffydd sydd yn ei thynnu oddi wrth yr Ysgrythur ?‘ a ‘Sut y gwyddom fod daioni’r byd yn dod oddi wrth yr Ysbryd?’

Mae’r Parchedig Sara Roberts yn ficer ym Methesda ac yn datblygu patrwm newydd o eglwys sy’n gymdeithas yn hytrach nag enwad neu adeilad, yn gymdeithas rydd yn hytrach na chyfyngedig. Gyda phenodi rhywun i hybu ‘eco-eglwys’ yng Nghymru erbyn hyn, arweiniodd Sara ni ar draws yr A5 i dawelwch byw Coed Cyrnol i ymdawelu a bod yn un â’r creu ac ‘Ysbryd Duw’ yn ‘ymsymud’ o’n cwmpas. Lle gwell a lle mwy naturiol i ddarllen Salm 104 (pawb yn llafar â’i adnod a rhannu bara? Er mor hardd yr eglwys, harddach y goedwig. Er bod y term ‘Cristnogaeth/eglwys wyllt’ yn cael ei ddefnyddio’n aml erbyn hyn, doedd dim yn llai gwyllt na’r hanner awr yn y coed.

Ar gyfer y pnawn roedd C21 wedi gwahodd tri gyda doniau arbennig ym myd cerddoriaeth, llenyddiaeth a chelf i rannu dylanwad yr Ysbryd creadigol ar eu gwaith a’u gwelediaeth o fywyd.

Wedi cinio blasus a chymdeithas dda, dechreuodd y prynhawn gydag awelon hyfryd o gyfeiriad yr Ysbryd di-ffiniau gyda Manon Llwyd a’i chân. Oherwydd iddi bellhau oddi wrth y ffydd heb wybod beth na phwy oedd yr Ysbryd na’i brofi, dywedodd ei bod bellach ar ‘ail siwrnai’. Cafodd wahoddiad gan Bwrw Golwg i gyfansoddi tôn i ran o Salm 31 sydd yn boblogaidd iawn yn Wcráin bellach, ac yn fuan wedyn daeth y gwahoddiad i gyfrannu i’r encil. Bu’r ddau brofiad yn ddechrau’r siwrnai newydd i Manon. Clywsom dair cân: un gan Bobby Macferrin am ‘deimlo’r Ysbryd’ ‘Every time I feel the spirit’, un arall gan y canwr jas James Ingram ‘Blessed assurance’ a chôr rhyngweithiol Eric Whitacre gyda dros 17,000 o leisiau ac wynebau o 129 o wledydd. Un llinell oedd i’r gân a gyfansoddwyd gan Whitacre: ‘Canwch yn dyner, fel un’. Mae gwylio’r fideo yn brofiad rhyfeddol: yr holl wynebau’n llithro i’w gilydd yn fap o’r byd. Yn y cyfan a thrwy’r cyfan bu’r Ysbryd sy’n ‘chwythu lle y mynno’ ar waith, ac mae Manon bellach yn gwybod ei bod mewn lle hapus a bodlon, a bron nad yw’r gân a’r gerddoriaeth wedi bod yn ail gyfle iddi.

Mae cyfraniad Y Parchedig Aled Lewis Evans i lenyddiaeth ddefosiynol yn fawr ac mae hynny’n rhan allweddol o’i weinidogaeth erbyn hyn, trwy’r deunydd y mae’n ei baratoi ar gyfer addoli ei eglwys. Ond yn ei gyflwyniad ni ddarllenodd Aled ei waith ei hun. Soniodd fod ambell gerdd yn ‘encil’ynddi ei hun ac yn fan i dychwelyd yno’n gyson. Nid yw’r encil honno o angenrheidrwydd yn un bersonol oherwydd mae‘r delweddau a’r geiriau yn gyfrwng rhyngweithio gydag eraill sy’n cael y fraint o rannu’r profiad. Dyfynnodd gerdd Menna Baines am griw bach ar doriad gwawr fore’r Pasg yn cerdded o’r coed i ben bryn:

Pererindod munudau
Yw hon o’r coed i ben y bryn,
O gaddug i oleuni,
Ac eto mae’n faith.

‘Rhwng dau olau’ yw teitl y gerdd (Cristion, Gorffennaf/Awst 2021). Dyfynnodd hefyd rai o’i gyfeithiadau o waith Nick Fawcett, J. M. Kendall, Eddie Askew ac eraill. Mae ysbryd gwylaidd a thawel Aled ynddo’i hun yn dystiolaeth fod barddoniaeth a llên yn gyfrwng sy’n gofyn am wyleidd-dra i’w werthfawrogi. Dyna pam yr oedd dyfyniad o gerdd gan Askew yn ddiwedd grymus i fyfyrdod Aled:

Rho i ni’r gwyleidd-dra
i dderbyn Dy wyleidd-dra Di.

Mae’r rhai sydd yn gwerthfawrogi’r Beibl fel llenyddiaeth yn unig yn awyddus iawn i bwysleisio fod llenyddiaeth hefyd yn gyfrwng i’n tynnu a’n cyfeirio tuag at yr Ysbryd sy’n chwythu fel y myn ac i bob cyfeiriad.

Mae gan Cefyn Burgess arddangosfa yn Oriel Storiel, Bangor, tan Orffennat 2ail. ‘Tu ôl i’r blwch’ yw’r teitl ac mae’n cynnwys trefluniau cyfoes mewn pwyth, print a thecstil o Fryniau Casia. Mae’n arddangosfa drawiadol, ond cip cyflym ar fideo a ddangosodd o’i waith yn yr encil.

Yn hytrach canolbwyntiodd, gyda dyfyniad o’r Efengyl – ‘Chwi yw goleuni’r byd … nid oes neb yn golau cannwyll a’i rhoi dan lestr’– ar yr hyn a ddarganfu yn ei ugain ymweliad ag India. Mae’r golau yn yr hanes yn prysur ddiffodd yn ein plith, fel y gwnaeth yn ei brofiad ef ei hun. Soniodd am ffydd pobl Bryniau Casia i gadw’r fflam yn fyw a dylanwad parhaol rhai fel Thomas Jones, Dr Arthur Hughes, Helen Rowlands a rhai llai adnabyddus fel Beryl Edwards. Soniodd am y fraint o gael darllen dyddiadur Beryl Edwards, fu’n nyrsio yn Ysbyty Shillong.

Soniodd Cefyn hefyd am Mair Jones fu’n cydweithio ag ef am rai blynyddoedd tan ei marwolaeth yn ddiweddar. Daeth Cefyn i’w hadnabod hyd yn oed yn well yn ei gwaeledd. Roedd gan Mair ddoniau cerddorol arbennig a daeth yn rhan o brosiect India Cefyn i ddathlu canmlwyddiant yr ysbyty yn Shillong. Rhoddodd wersi piano i Cefyn. Yn ei gwaeledd aeth Cefyn a hithau ati i recordio rhai o’n hemynau i gyfeiliant telyn a phiano., er mwyn eu hanfon fel cyfarchiad i India. Bu farw Mair ar ôl recordio chwe emyn yn unig. Ym Mair y gwelodd Cefyn y goleuni a thrwy ei berthynas â hi y daeth pob pennill o ‘Diolch i ti’ yn ystyrlon. Mae’n diolch y bydd ei llais, ei thelyn a’r ysgoloriaeth y mae wedi ei chyflwyno i’r eglwys ym Mryniau Casia yn dod yn rhan o’r golau yn y Bryniau ac yn yr ysbyty. Yn Mair a’i ffydd y gwelodd Cefyn ‘rywbeth glân yn golau’, fel y gwêl eraill yr Ysbryd sy’n parhau i chwythu yn y golau a’r lliwiau a welwn yng ngwaith Cefyn Burgess.

Y Parchedig Anna Jane, Cadeirydd C21, oedd yn arwain yr encil. Ar ddechrau’r dydd rhanwyd ffrwythau’r Ysbryd rhyngom fel cymdeithas oedd yn cyfarfod i fyfyrio, ymdawelu ac ymdeimlo â phresoldeb yr Ysbryd ac yn barod i ddilyn arweiniad yr Ysbryd: cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanddisgyblaeth. Hyn roddodd gynnwys i’n gweddi ar ddechrau’r encil.

Ar ddiwedd yr encil, dan arweiniad Anna Jane, yn ddirybudd ond yn gwbwl naturiol ac amserol, daeth y dydd i ben wrth wrando a chydweddïo gyda chôr eglwysig o Wcráin yn canu Gweddi’r Arglwydd yn eu hiaith eu hunain. Mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno ac o bob cyfeiriad.

P.Ll.J.

E-fwletin 26 Mehefin 2022

 

E-fwletin 26 Mehefin 2022

Annwyl gyfeillion,

Dyma e-fwletin olaf Mehefin ac yr ydym yn diolch  i un ymhlith niferoedd erbyn hyn sydd wedi croesi pont yr iaith, yn llafar ac yn ysgifenedig.

I gofio fy nhad a Bruce Kent.

Rwyf newydd gwblhau taith gerdded 19 diwrnod ar gyfer Cymorth Cristnogol rhwng 22ain o gestyll Gogledd Cymru. Fe wneuthum y daith hefyd er cof am fy nhad. Mae’r cestyll hyn wedi cydio yn fy nychymyg er pan aethom gyda fy annwyl dad i weld y rhan fwyaf o brif gestyll de Cymru yn ystod gwyliau hir yr ysgol. Yn wahanol i amgueddfeydd sych roedd y cestyll yn fannau lle gallech deimlo hanes mewn carreg a thŵr. Roedd y prynhawn pob amser yn dod i ben gyda gêm cuddio a honno yng nghastell Penfro yn para am dros awr!

Meddylfryd byd-eang sylfaenol fy nhad oedd (a thybed, ar y pryd, a oedd yn iawn?)  ‘might is right’, sef bod pŵer a chyfoeth a rhagoriaeth filwrol yn diffinio’r byd yn enillwyr a chollwyr, yn fuddugol a’r rhai a drechwyd. Yn amser Iesu parhaodd yr hyn a elwir yn Pax Romana –  heddwch trwy rym – am 200 mlynedd o 27 CC hyd at farwolaeth Marcus Aurelius yn 180 OC, yr olaf o’r ‘Pump Ymerawdwr Da’ fel y’i gelwir. 

Mewn cyferbyniad, mae Pax Christi Iesu yn cynnig i drefn fyd-eang a threisgar, heddwch na all y byd ei roi ac na fydd byth yn ei ddeall chwaith. Dyma  ffordd cyfiawnder, cymod a di-dreisedd yn hytrach na  phŵer, rheolaeth a goruchafiaeth. Ffordd ymwacau Crist oedd llwybr un nad oedd yn cyfrif cydraddoldeb â Duw yn rhywbeth i’w hawlio nac i ddal gafael ynddo. Yn hytrach, dewisodd Iesu, yn wahanol i Adda, y ffordd ddrutach o hunan-ymwadu, o ildio i bwerau gormesol y byd .Oherwydd hynny daeth rhywbeth hollol annisgwyl a thrawsnewidiol i’r amlwg trwy dywyllwch marwolaeth, methiant ac unigrwydd mawr. Yn sydyn, mewn gwendid, datgelir cryfder, daw golau trwy dywyllwch, drygioni a marwolaeth yn ildio i fywyd annisgwyl o obaith, daioni a chariad. Mae’r atgyfodiad yn arwain i drefn byd newydd lle mae Iesu yn Arglwydd – ac nid rhyw bŵer daearol nac unben hurt.

Heddiw, wrth i mi ysgrifennu hwn, byddai Bruce Kent, a fu farw ar 8fed o Fehefin, wedi bod yn 93 oed. Cefais fy nghymryd i’w glywed yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd pan oeddwn yn 16 oed gan fy offeiriad plwyf a deuthum yn aelod o CND. Nid oedd hyn yn gwneud unrhyw synnwyr i fy nhad, yn enwedig ymgyrch diarfogi unochrog CND. Ffordd y byd yw grym arfau, a’r ‘heddwch’ a ddaw o’r bygythiad niwclear, gyda’i stalemate yr hunllefus MAD sef mutual assured distruction. CDLl – Cytundeb Dinistr Llwyr.

Mae’r Efengyl – ffordd  y groes, ffordd yr ildio – yn ffolineb i’r rhai nad ydynt yn deall, meddai Paul yn 1 Corinthiaid, ond i ni sy’n credu, gallu Duw yw hi,  ‘..i’r rhai a alwyd, gallu Duw a doethineb Duw yw Crist. Oherwydd y mae doethineb Duw yn ddoethach na dynion, a gwendid Duw yn gryfach na dynion’

Pan fu farw yr oedd Bruce Kent yn Is-lywydd CND, yn Is-lywydd Pax Christi, ac yn Llywydd Emeritws y Mudiad tros Ddiddymu Rhyfel. Gedy weddw, Valerie Flessati a miloedd o gyfeillion yn diolch am ei arweiniad ac yn gweddio y bydd ei ddylanwad yn parhau.

Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cant hwy eu galw’n blant i Dduw.

Ein cofion atoch.
Cristnogaeth 21

 

E-fwletin 19 Mehefin 2022

Cristnogaeth 21

e-fwletin 19 Mehefin 2022

 

Annwyl gyfeillion,

Dyna neges arall, gyda’n cyfarchion.

 Y Jiwbilî

‘Digwyddodd, darfu, megis seren wib’, meddai’r bardd, a phrofiad tebyg fu dathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth II yn ddiweddar. Bu cryn hwyl am wythnosau a thrwy gydol un penwythnos, gyda gorymdeithiau, partïon stryd, gigiau cerddorol, a byntings coch, glas a gwyn rif y gwlith yn gorchuddio amryw fannau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Bu’n achlysur o lawenydd, yn gyfle i fynegi balchder cenedlaethol, i rai, ond i eraill, roedd yn destun beirniadaeth, yn dân Prydeinllyd ar groen, ac yn ysgogiad i nifer wneud rhywbeth an-Jibilïaidd mewn protest. Waeth ein bod ni’n frenhinwyr ai peidio, wedi ffoli ar y pomp a’r seremoni neu wedi sefyll mewn protest, nid oes amheuaeth nad oedd y digwyddiad yma wedi tanlinellu pwysigrwydd blwyddyn benodol, a chysyniad y Jiwbilî.

A ninnau’n byw mewn gwlad gynyddol seciwlar ac yn rhan o gasgliad o wledydd sy’n ymddangosiadol Gristnogol ond sydd, mewn difri, yn fwy aml-grefyddol na dim, teg fyddai dweud fod y Jiwbilî Blatinwm wedi bod yn sbardun i amryw ystyried yr hyn yw ‘Jiwbilî’ ac i amryw ganfod bod i’r cysyniad gynseiliau Beiblaidd.

O droi at Lefiticus 25, gwelir y cofnod am Flwyddyn y Jiwbilî yr oedd disgwyl i’r Hebreaid ei chadw unwaith iddynt gyrraedd Gwlad yr Addewid. Y flwyddyn honno, byddai ‘rhyddid’ yn teyrnasu; rhyddheid y caethion yn y wlad; dychwelid yr holl dir a gollwyd drwy dlodi neu dwyll; a dileid holl ddyledion pobloedd Israel. Delfryd o flwyddyn yn ddi-os. Ond ai blwyddyn anymarferol o iwtopaidd ydoedd? Mae ysgolheigion Beiblaidd ar hyd y canrifoedd wedi trin a thrafod y Jiwbilî Feiblaidd, gydag amryw’n pwysleisio pa mor unigryw ydoedd o’i chymharu efo’r hyn oedd i’w weld yn yr Hen Ddwyrain Agos. Ond, ac yn enwedig yn ddiweddar, gwelwyd barn gadarnach a ddywedai na ddigwyddodd y Jiwbilî mewn difri, ac mai’r cyfan ydoedd oedd blwyddyn ddelfrydol, freuddwydiol, ddymunol.

Ond a yw hynny’n golygu ei bod yn ddi-werth? A oes diben troi ati o gwbl? A oes pwrpas ei chadw yn y Beibl?

Dadleuodd amryw ar hyd y canrifoedd fod diben troi ati a phwrpas i’w chadw yn y Beibl. Enghraifft ddiddorol yn hyn o beth oedd cyfnod y 19eg ganrif, pan oedd yr ymgyrchoedd yn erbyn caethwasiaeth mewn bri. Ceid amryw’n defnyddio’r Beibl i gefnogi caethwasiaeth, drwy gyfeirio at ddeddfau sut i drin caethion yn Exodus a llythyr Paul at Philemon. Fodd bynnag, ceid eraill yn dadlau i’r gwrthwyneb, ac un o’r testunau a ddefnydddid fynychaf oedd Lefiticus 25. Roedd Blwyddyn y Jiwbilî yn ddelfryd yr ymlafniai’r gwrth-gaethiwyr a’r diddymwyr tuag ati. Dyma flwyddyn a fyddai’n rhyddhau’r caethion, yn sicrhau hawliau dynol, yn gofalu am chwarae teg, a daeth y Jiwbilî yn arwyddair yr ymgyrch gwrth-gaethwasiaeth yn fuan iawn.

A beth amdanom ni heddiw? A allem ni gadw’r Jiwbilî? Diau y byddai’n anodd ei rhoi ar waith, ond gallem ni oll gofio egwyddorion Blwyddyn y Jiwbilî: rhyddid, tegwch a chyfiawnder, a’u harddel i’r eithaf. Gofalwn am ein cyd-ddyn, gofalwn am ryddid, gofalwn am yfory.

Ein cofion atoch. 

Cristnogaeth 21

e-fwletin 12 Mehefin 2022

E-fwletin 12 Mehefin 2022

Annwyl gyfeillion,

Dyma ein e-fwletin, drannoeth Gŵyl y Pentecost. Ond does dim trannoeth i dymor y Pentecost, wrth gwrs.

 Diflaniad yr enwadau – eto

Eto fyth! Daeth ystadegau pellach, y tro hwn gan Fudiad Twf Eglwysig (Church Growth) sy’n llawn jargon fel Calibration Strategy. Gŵr o’r enw John Hayward yw’r awdur, a bu trafodaeth ar yr adrodddiad ar Bwrw Golwg ar Sul y Pentecost. Academydd yw’r awdur ond, ac yn bwysicach, mae’n ‘Gristion efengylaidd’ – ac y mae hynny’n allweddol.

The Welsh denominations are doing particularly poorly: the Welsh Presbyterians, the Church in Wales and the Union of Welsh Independents. Are there some peculiar factors in Wales that act against Christianity?

Fe wyddom y ffeithiau, ond bellach rhoddir ‘dyddiad diflaniad’ (extinction) ar sail yr ‘R factor’ fel yn y Cofid. Mae atodiad arbennig i’r eglwys Bresbyteraidd, ond mae’r adroddiad yn ‘profi’ y bydd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr yn diflannu yn fuan wedyn: P yn 2030, A a B yn 2040, oni bai eu bod yn derbyn arweiniad yr awdur. Mae’r adroddiad, mae’n debyg, ar wefan y Presbyteriaid gyda gwahoddiad i unrhyw un ymateb.

Dyma fentro ateb byr a chwbwl annigonol. Y rheswm (eto fyth) am ddirywiad yr enwadau  (yn ôl JH) yw iddynt ‘gofleidio rhyddfrydiaeth’ (progressive Christianity). Ond nid oes unrhyw ymdrech i ddiffino’r ‘rhyddfrydiaeth’ honno, nac i gydnabod fod rhyddfrydiaeth yn enfys o liw ac yn rhan o hanes Cristnogaeth ers dyddiau’r Testament Newydd. Ar ei gorau, mae’n radical, yn Feiblaidd a’i gwreiddiau yn yr Efengylau.

Ond, yn ogystal â’r rhyddfrydiaeth honedig hon, y rheswm arall dros ddirywiad yr enwadau, yn ôl JH, yw SSM (same sex marriage). Ond y mae’r Presbyteriaid wedi llusgo’u traed ar y mater gan roi’r argraff ei fod yn fater canolog i’r eglwys a’r Efengyl ei hun. Nid yw JH yn nodi’r ffaith, gyda llaw, fod yna eglwysi Efengylaidd sydd yn bendithio a phriodi cyplau hoyw. Efallai nad yw’r awdur wedi clywed am Sojourners chwaith. Does gan neb fonopoli ar ddehongli, tystio, nac atebion syml i argyfwng yr eglwysi.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi mai diffyg ‘tröedigaethau’ yw’r rheswm arall tros farwolaeth yr enwadau anghydffurfiol. Eto, nid oes unrhyw ymdrech i egluro pa fath o dröedigaeth, mwy nag oes ystyriaeth i gydnabod fod yr un neges am ‘dröedigaeth’ o hyd ac o hyd wedi diflasu cenedlaethau lawer a adawodd y capeli ers degawdau lawer. ‘Does dim,’ meddai‘r diwinydd Bruggemann, ‘yn waeth i’r Efengyl na’i gwneud yn ddiflas, undonnog a di-liw.’

Siomedig oedd y drafodaeth ar Bwrw Golwg. Roedd cyfraniadau unigol gwerthfawr, ond ar y cyfan, hen gân ydoedd. Ni soniwyd am y sylfaenol, syml: i fyw yfory, mae’n rhaid paratoi heddiw. Adfer Cymru i Grist a Christ i Gymru. Mae hynny’n golygu diwygio’r ffordd y cynlluniwn ac y gweithredwn – er mwyn Crist yn unig. Methiant i wneud hynny yw meddwl yn enwadol bellach. Yn iaith yr Ysbryd, hau gobaith yw paratoi a chynllunio, a dyna mae Duw yn ei ddisgwyl gan ei ddisgyblion. Dim llai. Ac os nad heddiw, pa bryd? Yr un pynciau fydd ar agenda flynyddol pob enwad eleni eto ac enwadol fydd y trafod. Ni fydd hyd yn oed ystyriaeth na dechrau paratoi yr un rhaglen fentrus, i bob enwad, wedi ei gwreiddio mewn gweddi a gweithredu. Dyna ddagrau pethau. 

Gyda’n cofion.

www.cristnogaeth21.cymru

Mae’r rhai sydd yn gyfrifol am baratoi’r bwyd yn barod i aros tan fory (dydd Llun) cyn derbyn y nifer terfynol ar gyfer yr Encil. Cysylltwch â

catrin.evans@phonecoop.coop   01248 680858

 

 

E-fwletin 5 Mehefin 2022

Cristnogaeth 21 E-fwletin 5 Mehefin 2022                                                     

Halen y ddaear.

Fe allaf ddychmygu rhai ohonoch, wrth weld y pennawd hwn, yn disgwyl imi sôn am ragorolion y byd, yn union fel rhestr anrhydeddau’r Frenhines. Yn wir y mae’r ymadrodd wedi cael ei ddefnyddio gennym yn Gymraeg dros y blynyddoedd gyda’r dehongliad hwnnw iddo. Fe welsom rai o’n cyd-Gymry yn cael eu henwi a’u anrhydeddu, a hynny yn hollol haeddiannol. Arwyr oeddent, yn helaeth eu cyfraniad i fywyd eu bro ac i fywyd y genedl, ac yn haeddu cydnabyddiaetth. A’r ffordd i wneud hynny oedd rhoi’r teitl anrhydeddus iddynt, “halen y ddaear”.

O weld Iesu’n galw’i ddisgyblion yn halen y ddaear fe aethom ni bregethwyr ati gydag arddeliad i ymhelaethu ar arwyddocâd halen yn nghyfraniad y disgyblion. Rhoi blas ar ymborth oedd yr elfen gyntaf gan lawer ohonom yn ein pregeth mae’n siwr. Dilynwyr Iesu yn rhai a roddai flas hyd yn oed ar fywyd diflas, gan dynnu allan ohono wedyn fendithion a roddai arbenigrwydd i fodolaeth ddiddim.  

Byddai ambell un ohonom a gawsai ei fagu ar fferm yn cofio’r cig moch yn cael ei halltu cyn dyddiau’r oergell, heb sôn am rewgell. Yr halen a ddefnyddid i gadw’r daioni rhag ei ddirywio a’i lygru. Cadw’r hyn sy’n werthfawr ar gyfer ein hyfory: hynny eto’n rhan o wasanaeth halen.

Yna byddem yn sôn am halen yn difa. A chyfrifoldeb dilynwyr Iesu fyddai difa’r elfennau drwg mewn cymdeithas. Efallai y mentrem awgrymu’r cyfrifoldeb i fod yn halen er mwyn difa’r drygioni yn ein calonnau ni ein hunain.

Byddem yn cofio wedyn mai siarad y mae Iesu â chynulleidfa’r ganrif gyntaf, ac wrth fentro pedwerydd pen i’r bregeth fe soniem am halen yn gwrteithio’r tir. Mae dilynwyr Iesu yn cael y fraint i fynd i’r mannau diffaith, lle mae bywyd yn galed. Maent yn cyfoethogi daear cymuned a fu’n ddiffrwyth a phridd cymdeithas na welsai dyfiant.

O glywed hyn i gyd byddem yn ymchwyddo gan falchder wrth feddwl fod gennym ni wasanaeth gwirioneddol werthfawr i fyd mor dlawd a gwag. Tybed a fyddai Pedr neu Iago neu Tomos wedi ymchwyddo wrth glywed Iesu yn eu galw hwy yn halen y ddaear. Go brin. Yr oeddent hwy mae’n siwr yn nabod eu hathro yn well na hynny. Mae fy mhregeth ffansïol bedwar-pen yn amherthnasol.

Oherwydd nid rhannu anrhydeddau a wnâi Iesu yn yr adnodau hyn. Gresyn inni ddwyn un o’i ymadroddion gan roi iddo ystyr hollol gamarweiniol. Nid gwobrwyo’r disgyblion a wnâi Iesu yn y cyd-destun hwn ond eu herio. Yn wir y mae’r “bregeth ar y mynydd” drwyddi yn ddifrifol o heriol. Her sydd yn yr adnod, “Chwi yw goleuni’r byd.” Nid canmoliaeth a welaf yn yr adndod honno eto, ond Iesu yn gosod y gofynion a’r disgwyliadau yn eithriadol o uchel.

Yn yr un bregeth down at ymadrodd caled arall sy’n drallodus o heriol y dyddiau hyn: “Gwyn eu byd y  tangnefeddwyr.” Rwy’n cofio meddwl flynyddoedd lawer yn ôl fod yna ryw naws neis i’r adnod hon. Druain ohonom heddiw. Beth yw eich ymateb chi i’r gwrandawr newyddion sy’n teimlo ton fach o ryddhad  pan glyw am awyren o Rwsia wedi ei saethu i’r llawr ?

Gyda’n cofion a’n bendith ar Ŵyl Y Pentecost.

Cofiwch mai heddiw yw’r diwrnod olaf i gofrestru ar gyfer Encil y Pentecost,Sadwrn Mehefin 18ed. yng nghwmni Archesgob Cymru, Sara Roberts,Aled Lewis Evans,Manon Llwyd,Cefyn Burgess ac Anna Jane Evans. Cysylltwch â

catrin.evans@phonecoop.coop   01248 680858

www.cristnogaeth21.cymru