Archif Awdur: Golygydd

E-fwletin 5 Mehefin 2022

Cristnogaeth 21 E-fwletin 5 Mehefin 2022                                                     

Halen y ddaear.

Fe allaf ddychmygu rhai ohonoch, wrth weld y pennawd hwn, yn disgwyl imi sôn am ragorolion y byd, yn union fel rhestr anrhydeddau’r Frenhines. Yn wir y mae’r ymadrodd wedi cael ei ddefnyddio gennym yn Gymraeg dros y blynyddoedd gyda’r dehongliad hwnnw iddo. Fe welsom rai o’n cyd-Gymry yn cael eu henwi a’u anrhydeddu, a hynny yn hollol haeddiannol. Arwyr oeddent, yn helaeth eu cyfraniad i fywyd eu bro ac i fywyd y genedl, ac yn haeddu cydnabyddiaetth. A’r ffordd i wneud hynny oedd rhoi’r teitl anrhydeddus iddynt, “halen y ddaear”.

O weld Iesu’n galw’i ddisgyblion yn halen y ddaear fe aethom ni bregethwyr ati gydag arddeliad i ymhelaethu ar arwyddocâd halen yn nghyfraniad y disgyblion. Rhoi blas ar ymborth oedd yr elfen gyntaf gan lawer ohonom yn ein pregeth mae’n siwr. Dilynwyr Iesu yn rhai a roddai flas hyd yn oed ar fywyd diflas, gan dynnu allan ohono wedyn fendithion a roddai arbenigrwydd i fodolaeth ddiddim.  

Byddai ambell un ohonom a gawsai ei fagu ar fferm yn cofio’r cig moch yn cael ei halltu cyn dyddiau’r oergell, heb sôn am rewgell. Yr halen a ddefnyddid i gadw’r daioni rhag ei ddirywio a’i lygru. Cadw’r hyn sy’n werthfawr ar gyfer ein hyfory: hynny eto’n rhan o wasanaeth halen.

Yna byddem yn sôn am halen yn difa. A chyfrifoldeb dilynwyr Iesu fyddai difa’r elfennau drwg mewn cymdeithas. Efallai y mentrem awgrymu’r cyfrifoldeb i fod yn halen er mwyn difa’r drygioni yn ein calonnau ni ein hunain.

Byddem yn cofio wedyn mai siarad y mae Iesu â chynulleidfa’r ganrif gyntaf, ac wrth fentro pedwerydd pen i’r bregeth fe soniem am halen yn gwrteithio’r tir. Mae dilynwyr Iesu yn cael y fraint i fynd i’r mannau diffaith, lle mae bywyd yn galed. Maent yn cyfoethogi daear cymuned a fu’n ddiffrwyth a phridd cymdeithas na welsai dyfiant.

O glywed hyn i gyd byddem yn ymchwyddo gan falchder wrth feddwl fod gennym ni wasanaeth gwirioneddol werthfawr i fyd mor dlawd a gwag. Tybed a fyddai Pedr neu Iago neu Tomos wedi ymchwyddo wrth glywed Iesu yn eu galw hwy yn halen y ddaear. Go brin. Yr oeddent hwy mae’n siwr yn nabod eu hathro yn well na hynny. Mae fy mhregeth ffansïol bedwar-pen yn amherthnasol.

Oherwydd nid rhannu anrhydeddau a wnâi Iesu yn yr adnodau hyn. Gresyn inni ddwyn un o’i ymadroddion gan roi iddo ystyr hollol gamarweiniol. Nid gwobrwyo’r disgyblion a wnâi Iesu yn y cyd-destun hwn ond eu herio. Yn wir y mae’r “bregeth ar y mynydd” drwyddi yn ddifrifol o heriol. Her sydd yn yr adnod, “Chwi yw goleuni’r byd.” Nid canmoliaeth a welaf yn yr adndod honno eto, ond Iesu yn gosod y gofynion a’r disgwyliadau yn eithriadol o uchel.

Yn yr un bregeth down at ymadrodd caled arall sy’n drallodus o heriol y dyddiau hyn: “Gwyn eu byd y  tangnefeddwyr.” Rwy’n cofio meddwl flynyddoedd lawer yn ôl fod yna ryw naws neis i’r adnod hon. Druain ohonom heddiw. Beth yw eich ymateb chi i’r gwrandawr newyddion sy’n teimlo ton fach o ryddhad  pan glyw am awyren o Rwsia wedi ei saethu i’r llawr ?

Gyda’n cofion a’n bendith ar Ŵyl Y Pentecost.

Cofiwch mai heddiw yw’r diwrnod olaf i gofrestru ar gyfer Encil y Pentecost,Sadwrn Mehefin 18ed. yng nghwmni Archesgob Cymru, Sara Roberts,Aled Lewis Evans,Manon Llwyd,Cefyn Burgess ac Anna Jane Evans. Cysylltwch â

catrin.evans@phonecoop.coop   01248 680858

www.cristnogaeth21.cymru

 

 

 

E-fwletin 29 Mai 2022

Rhoi Llaw ar yr Aradr.

Mae hi’n wythnos o wyliau yr wythnos nesaf i rai ohonan ni. Mae hi hefyd yn wythnos dwy Ŵyl arbennig yma yng Nghymru – Eisteddfod yr Urdd a Gwyl y Gelli. Mae hi hefyd yn gyfnod arholiadau allanol i nifer o ieuenctid.

Mae Gwyl y Gelli yn dathlu’r gair ysgrifenedig yn fwy na dim arall a cherddorion rhyngwladol yn perfformio yno hefyd. Mae Eisteddfod yr Urdd yn dathlu pob math o gampau a chelfyddydau erbyn hyn. Yr hyn sy’n gyffredin i’r cyfan ydi fod yna baratoi manwl yn digwydd dros gymaint o fisoedd i gael y perfformiad clodwiw yna ar lwyfan neu i gael llyfr i’r wasg. Nid edrych yn ôl ond edrych ymlaen am gymeradwyaeth fyddarol mae’r perfformiwr. Edrych ymlaen tuag at ddal llyfr printiedig yn ei law mae’r awdur. A thuag at gyfnod pellach yn eu hanes mae myfyrwyr yn anelu hefyd drwy astudio a sefyll arholiadau.

Gwn o brofiad beth yw paratoi a deisyfu’r wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd, fel pianydd ac fel athrawes. Does dim arall yn cyfri nac yn tycio bron. Mae’r meddwl wedi’i hoelio ar y gwaith caled. Ac os daw llwyddiant, dyna’r safon ddisgwyliedig wedyn – does wiw troi’n ôl a llaesu dwylo y flwyddyn ganlynol. Mae cael llyfr i’r wasg yn golygu’r un ymroddiad. Job ddiflas yw gorfod mynd drwy broflen ar ôl proflen. Ond gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati a rhedeg y ras sydd o’n blaenau i’w diwedd,” meddai Paul gan annog yr Hebreaid i ddyfalbarhau fel Cristnogion.

Yn Luc 9:61-62, mae Iesu’n sgwrsio gyda dyn arall am y gost o’i ddilyn:

Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd, ond gad i mi fynd i ffarwelio â’m teulu gyntaf.” Atebodd Iesu, “Dydy’r sawl sy’n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu’r Duw sy’n teyrnasu.”

Aradwr go dila fyddai’n edrych yn ôl wrth aredig a thorri cwys gam. Nid yw’r cyfan mor syml â hynny, wrth gwrs. Mae’n rhaid i rywun golli os oes rhywun arall yn ennill mewn eisteddfod a’r un modd mewn ras neu gêm bel droed. Yn hytrach, meddyliwn am y cyfan fel cyflawni ras pellter penodedig, yn araf neu’n gyflym, ond i’w diwedd. Yr hyn mae Iesu’n ei bwysleisio yma ydi’r ymroddiad i’r Deyrnas. Ddylai dim oll ein llygad dynnu oddi wrth ddilyn Iesu. Ymlaen â ni gan beidio ag edrych yn ôl. Pan gawn ein denu ar hyd llwybr arall, pan syrthiwn, pan faglwn, mae croeso inni droi trwyn ein calonau nôl at Iesu a dal ati. Nid galwad i fynd nôl at yr hen ffyrdd, yr hen atebion, yr hen gredoau ac arferion yw goblygiadau gafael yn yr aradr. Mae’r hyn fu’n ein llorio a’n caethiwo, y methiannau a’r rhwystredigaethau i gyd yn y drych hwnnw sy’n dangos yr hyn sydd tu cefn ichi. Gan brofi’r rhyddid bendigedig hwn, pob dymuniad da i bawb sy’n torri cwys newydd yn yr wythnosau nesaf.

Pob Bendith

www.cristnogaeth21.cymru

COFIWCH AM: 
 

Cristnogaeth 21: Encil y Pentecost

DYDDIAD CAU 5 Mehefin…

“Y gwynt sy’n chwythu lle mynno”. (Ioan 3:8)

Cyfranwyr:

  • Yr Archesgob Andy John
  • Parch Anna Jane Evans
  • Parch Sara Roberts
  • Manon Llwyd
  • Parch Aled Lewis Evans
  • Cefyn Burgess

18 Mehefin 2022 yn Eglwys y Santes Fair, Porthaethwy.

Cost: £25 (gan gynnwys bwffe)

I archebu lle cysylltwch â Catrin Evans erbyn 28ain Mai:

catrin.evans@phonecoop.coop

01248 680858

E-fwletin 22 Mai, 2022

O lle dwi’n dod a lle ydw i heddiw.

Llyfr bach coch sydd wedi f’arwain i at lle ydw i heddiw. Llyfr bach, clawr meddal 10x16cms, 50c neu am ddim. Dwi wedi ei roi fel anrheg i gyfeillion, ac unwaith neu ddwy wedi teimlo mod i’n or-frwd gyda’m cydnabod.

Roedd yn arferiad gan Anti Neli roi copi o’r Testament Newydd yn anrheg geni i’n blant ni. Tu mewn i’w glawr mae hi wedi ysgrifennu cerdd T. E. Nicholas, ‘Y Beibl’:

“Triniwch ei ddail yn dyner, Y mae’r blodau sydd rhwng ei ddail yn llawn goleuni a lliw a rhin ei ddail yn llifo o’r adnodau, Yn falm i wella’r claf a lleddfu ei friw …”

Mae e yn “lyfr y llyfrau” ond ai gair yr Arglwydd ydy e? Nid fi ofynnodd hynny ond Jeffrey John yn narlith ddiweddar Morlan. Teitl cyfan y ddarlith ysgubol hon oedd The Word of the Lord? – Making the Bible Make Sense. Ro’n i mor falch mod i wedi mynd i wrando arno. Un o’i bwyntiau oedd nad ydy addysg ddiwinyddol yn mynd i’r afael a ‘gwneud sens’ o’r Beibl. Geiriau pwy ydynt? Storiâu pwy ydynt? Pryd a beth oedd cyd-destun yr ysgrifau?

Fe ges i fagwraeth gyfforddus, gynnes mewn dau gapel annibynnol gyda gweinidogion fel Herman Jones, Huw Ithel, Ted Lewis Evans a Hedley Gibbard. Mae’u henwau a’u natur wedi aros gyda fi ynghyd â nhad oedd yn flaenor anfodlon. Canllaw bywyd ges i ganddyn nhw drwy’r ‘dail tyner’ hefyd gydag amryw o athrawon Ysgol Sul annwyl a hirymarhous er ein haerllugrwydd fel dosbarth ‘glasoed’ hyf, yn fwy parod i drafod pics nos Sadwrn na Dameg yr Heuwr.

Mae hi wedi cymryd chwe deg mlynedd i fi ddarganfod y llyfr bach coch sy’n gwneud sens i mi. Mae’n rhoi cyngor ar bob agwedd o fywyd. Daw rhai o’r cynghorion o’r ddeunawfed ganrif fel ‘cynghorion cyffredinol’ i’r Cyfeillion hynny oedd yn Grynwyr ym Mhrydain. Mae ystod eang i’r 42 cyngor sydd o fewn y llyfr bach coch hwn – Cynghorion a holiadau. Dros y blynyddoedd mae’r testun wedi ei ddiwygio’n gyson, gyda’r adolygiad diwethaf yn 1994.

Chwilfrydedd ar ôl darllen hwn ddaeth a fi at y Crynwyr. Mae’r deunydd o’i fewn wedi’i wreiddio mewn Cristnogaeth, ac i mi hwnnw’n Gristnogaeth ymarferol i’r 21G. I bob ymholiad ceir cyngor e.e.

rhif 25 Y mae perthynas tymor-hir yn dwyn tyndra yn ogystal â boddhad – a’r cyngor …;

 rhif 42 Nid ni piau’r byd, ac nid eiddom ni mo’i oludoedd i’w gwaredu fel y mynnom – a’r cyngor…;

rhif 1 Ystyriwch, Gyfeillion annwyl gymhellion cariad a gwirionedd yn eich calonnau – a’r cyngor …

Mae ‘na hefyd lyfr mawr coch sef Ffydd ac Arferion y Crynwyr sy’n orlawn o ddarllen perthnasol i heddiw. Mae pob cenhedlaeth wedi teimlo’r angen i’w adolygu. Y pumed argraffiad yw’r un presennol. Nid yn unig bod hwn yn cynnwys ysgrifau byr, hen a newydd ond mae hyd yn oed yn cynnwys, canllaw ar weinyddiaeth mewnol y Cyfeillion. Dull y dylai pob pwyllgor ei ddilyn.

“Mae’r llythyren yn lladd ond yr ysbryd sy’n bywhau.”

 

Cristnogaeth 21: Encil y Pentecost

“Y gwynt sy’n chwythu lle mynno”. (Ioan 3:8)

Cyfranwyr:

  • Yr Archesgob Andy John
  • Parch Anna Jane Evans
  • Parch Sara Roberts
  • Manon Llwyd
  • Parch Aled Lewis Evans
  • Cefyn Burgess

18 Mehefin 2022 yn Eglwys y Santes Fair, Porthaethwy.

Cost: £25 (gan gynnwys bwffe)

I archebu lle cysylltwch â Catrin Evans erbyn 5 Mehefin:

catrin.evans@phonecoop.coop

01248 680858

E-fwletin 15 Mai 2022

Mae Bywyd yn Llawn Pegynau

Dwi’n hoff o Aberaeron. Dwi ddim yn hoffi Aberaeron ym merw tymor yr haf ond yn hytrach yn ystod y gaeaf neu ar ddechrau diwrnod braf o wanwyn. Ac felly roedd hi’n ddiweddar, awr o segura a chyfle i yfed paned a darllen papur ar un o feinciau’r harbwr. Rhyw ddilyn yr un patrwm fydda i wrth ddarllen papur, rhyw fras edrych drwy’r cyfan i ddechrau, sylwi ar ambell i hysbyseb, edrych ar adran y coffâd ac yna dychwelyd at unrhyw bennawd sydd wedi dal fy sylw. Un o’r penawdau y bore hwnnw oedd ‘Survivors who escaped Azovstal describe horror’ ac ym mhlethiad geiriau’r awdur dyma ddod ar draws Anna. Mae Anna yn fam i blentyn chwe mis oed ac yn un o’r rhai hynny sydd bellach wedi dianc o gaethiwed gwaith dur Azovstal, Mariupol, yr Wcráin. Fe geisiodd ddianc dair gwaith.

“Dan ymosodiadau parhaol, yn cysgu ar fatiau dros dro, yn teimlo effaith y ffrwydradau, yn rhedeg gyda’ch mab ac yn cael eich lluchio i’r ddaear – roedd popeth yn erchyll. Mae magu plentyn yn anodd dan unrhyw amgylchiadau ond mae magu plentyn mewn byncer, mewn tywyllwch, yn anoddach fyth!”

Ac yna geiriau Elina Vasylina, yn sôn am y frwydr ddyddiol i ddarganfod dŵr a bwyd, a’r ffaith nad oedd wedi gweld bara am chwe wythnos. Ac wrth ymadael: “Fe ges fy ngalw’n ‘scum’ gan filwyr Rwsia!”

Am ryw ychydig funudau fe gollais ddiddordeb yn y baned goffi a llun o Anna ddagreuol yn gyfrwng i fynd a rhywun ymhell o olwg ac awyrgylch un o drefi bach glan y môr Ceredigion.

“Helo ti!” Doeddwn i ddim yn adnabod y perchennog ond fe ddaeth ei gi i synwyro wrth fy nhraed ac fe ddiflannodd Anna, Elina ac ambell i un arall, a dyna’r perygl. Stori ymhlith straeon a rhywun yn symud ymlaen at y nesaf ac ar ei waethaf yn anghofio ac yn datod oddi wrth unrhyw empathi. Hawdd caledu calon mewn byd hunanol!

Fel arfer fe fydd unrhyw bapur dyddiol yn cael ei daflyd i’r bin ailgylchu ond nid y tro yma. Wrth ysgrifennu’r ychydig eiriau yma mae llun Anna ddagreuol a’i phlentyn o’m blaen a bellach yn fy atgoffa’n ddyddiol:

  1. Fod Anna a phob un tebyg iddi yn rhan annatod o’n bywydau fel pobl ffydd. ‘Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.’
  2. Yr alwad i adnabod trugaredd yn ein bywydau. Henry Nouwen ddywedodd,

‘Y mae trugaredd yn rhodd gan Dduw… Wrth i Dduw ddod yn un â ni yng Nghrist y mae’n caniatáu i ni fynediad i ddirgelwch y bywyd ysbrydol… o ganlyniad gallwn gyfranogi yn ei drugaredd.’

  • Yr alwad i wasanaethu mewn gair a gweithred, gwasanaeth aruchel Crist, ‘yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’

Da cofio hynny ar unrhyw adeg ond yn arbennig felly ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol.

Pob bendith 
www.cristnogaeth21.cymru
 

 Cristnogaeth 21: Encil y Pentecost
“Y gwynt sy’n chwythu lle mynno”. (Ioan 3:8)

Cyfranwyr:

Yr Archesgob Andy John

Parch Anna Jane Evans

Parch Sara Roberts

Manon Llwyd

Parch Aled Lewis Evans

Cefyn Burgess

18 Mehefin 2022 yn Eglwys y Santes Fair, Porthaethwy.

Cost: £25 (gan gynnwys bwffe)

I archebu lle cysylltwch â Catrin Evans erbyn y 5ed o Fehefin:

catrin.evans@phonecoop.coop / 01248 680858

 

 

 

Encil C21 Porthaethwy

Rhaglen

10.00 Coffi a chofresru

10.30
Arweiniad a chroeso
Y Parchedig Anna Jane Evans (Cadeirydd Cristnogaeth 21)

10.45—11.30
Yr Ysbryd sy’n diwygio ac yn adfywio
Yr Archesgob Andy John

11.45—12.30
Yr Ysbryd sy’n gwneud pob peth yn newydd
Y Parchedig Sara Roberts, Bethesda

12.45—1.45 Cinio bwffe

2.00—3.30
Yr Ysbryd sy’n creu
Manon Llwyd
Aled Lewis Evans
Cefyn Burgess

3.45
Myfyrdod ar ddiwedd yr encil

Cost yr encil £25.00
Talu ar y diwrnod.
I archebu lle cysylltwch â
Catrin Evans
catrin[dot]evans[at]phonecoop[dot]coop
Ffôn: Dim un dau pedwar wyth 680858

Erbyn Mai 28ain (estynwyd hyd 5 Mehefin)
Gan nodi unrhyw anghenion arbennig
(Nifer cyfyngedig, felly y cyntaf i’r felin)

Lleoliad

Eglwys y Santes Fair
Ffordd Mona
Porthaethwy
LL59 5EA

Manylion eglwysi Bro Tysilio – https://bangor.eglwysyngnghymru.org.uk/ficerbrotysilio/

 

E-fwletin 8 Mai 2022

Gwyn ei byd y gwleidydd…

Wrth fynd am dro un nos Sadwrn yn ddiweddar, fe gerddon ni heibio’r dafarn leol. Roedd dau fachgen, tua 10 ac 8 oed, allan ar eu pennau eu hunain yn y maes chwarae bach sy’n cynnwys castell dringo, llithren ac offer tebyg, yn ogystal â chadeiriau metel i bobl gael eistedd allan yn yr ardd. Doedd gan y ddau yma ddim diddordeb yn yr offer chwarae. Eu gêm nhw yn hytrach oedd taflu’r cadeiriau o gwmpas y lle, cyn eu cicio a’u sathru’n filain gan floeddio’n fuddugoliaethus.

Dyma ddechrau meddwl tybed beth oedd wedi sbarduno’r ymddygiad treisgar yma gan rai mor ifanc. A theimlo wedyn ein bod wedi colli cyfle i sgwrsio â nhw. Oedden nhw’n smalio chwarae gêm gyfrifiadur neu raglen deledu – neu ai ceisio efelychu ymddygiad plant hŷn neu aelodau o’r teulu oedden nhw?

Fe wnaeth hyn f’arwain i ystyried pwysigrwydd arweinwyr a gosod esiampl dda i’r genhedlaeth iau, yn enwedig yng nghyd-destun yr etholiadau sydd wedi’u cynnal yn ystod yr wythnos.

Mae angen tipyn o ddewrder a stamina i fod yn ymgeisydd etholiadol y dyddiau hyn. Un peth sydd wedi dod yn amlwg iawn yw’r diffyg ‘ffydd’ mewn arweinwyr cyhoeddus, a’r teimlad gan bobl gyffredin eu bod ‘wedi cael eu gadael i lawr’ gan rai roedden nhw’n tybio oedd yn gweithredu er eu budd. Yr awgrym oedd fod nifer o’r rhai sydd wedi cael eu hethol i wasanaethu yn defnyddio’r cyfle i droi’r dŵr i’w melin eu hunain yn hytrach na gwasanaethu’r rhai roedden nhw wedi eu hethol i’w cynrychioli.

Wrth ddymuno’n dda i’r rhai sydd wedi eu hethol i gynrychioli eu cymunedau – a chydymdeimlo hefyd â’r rhai na lwyddodd i wireddu eu huchelgais y tro hwn, ble gwell i ddechrau na gyda ‘maniffesto’ teyrnas amgen, fel a geir yn ‘Y Gwynfydau’ (Mathew 5:3–12). Mae’r pwyslais yma ar addfwynder, gweithio dros gyfiawnder, dangos trugaredd, bod â chalon bur ac yn dangnefeddwyr yn arbennig o berthnasol i’r amgylchiadau rydyn ni’n byw ynddynt ar hyn o bryd.

Aeth y Cardinal François-Xavier Nguyễn Vãn Thuận o Fietnam ati i lunio ‘Gwynfydau’r Gwleidydd’ a dyma gynnig addasiad ohonynt:

Gwyn ei fyd y gwleidydd sydd ag uchelgais anrhydeddus a gwir ddealltwriaeth o’i rôl.

Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n dangos y gellir credu ynddo / ynddi drwy ei (h)esiampl.

Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n gweithio er lles pawb ac nid er ei fudd / ei budd ei hun.

Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n dangos cysondeb.

Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n gweithio dros undod.

Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n gweithio er mwyn cyflawni newid blaengar.

Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n gallu gwrando.

Gwyn ei fyd y gwleidydd sydd heb ofn.

Er nad yw’r rhain i’w cymharu â’r Gwynfydau ‘go iawn’, yn fy marn i, gobeithio y bydd y cynghorwyr newydd a’n gwleidyddion profiadol yn anrhydeddu’r gwaith y maent wedi’i ethol i’w gyflawni. Nhw fydd yr arwyr a’r esiampl i genedlaethau’r dyfodol – a gobeithio wedyn y bydd bechgyn y maes chwarae yn dewis gemau o gymod a brawdgarwch.

 

E-fwletin 1 Mai 2022

Addasu iaith?

Yn ddiweddar ddes i ar draws podlediad Nomad, ddylai fod o ddiddordeb i ddilynwyr C21. Mae’r cyflwynwyr ar daith debyg i ni ac yn trin ac yn trafod gydag unigolion sydd â rhywbeth difyr a diddorol i’w gyfrannu at y drafodaeth.

Un o’r rhifynnau nes i wrando arnyn nhw’n ddiweddar oedd sgwrs gyda Terry Wildman sydd wedi addasu’r Beibl Saesneg i ieithwedd cenhedloedd cynhenid Gogledd America. Gallwch wrando ar y rhaglen yma: Nomad: Terry Wildman .

Mae hi’n sgwrs ddiddorol ond mae’n sgwrs anodd ar adegau hefyd. Sgwrs sy’n canu cloch i ni fel Cymry Cymraeg oherwydd pwysigrwydd cael y Beibl yn ein hiaith ein hunain, ac yn larwm boenus i’n cydwybod ni fel Cymry a Christnogion am ein rhan ni yn y coloneiddio a ddigwyddodd.

Yn achos llawer o’r cenhedloedd cynhenid doedd ganddyn nhw ddim traddodiad ysgrifenedig. Roedd ganddyn nhw draddodiadau llafar cyfoethog mewn nifer fawr o ieithoedd a iaith arwyddo gyffredin i gyfieithu rhwng diwylliannau. Er bod ymdrech wedi bod i gyfieithu’r Beibl i rai o’r ieithoedd, ychydig o ymdrech a wnaed i ddysgu pobl i’w darllen nhw. Wedi’r cyfan mae anllythrennedd ac anwybodaeth wedi bod, ac yn parhau i fod, yn arf pwysig i goloneiddwyr. Erbyn hynny hefyd, ysywaeth, roedd Saesneg, fel Cristnogaeth, yn prysur ddatblygu’n lingua franca.

Dilema Terry ac eraill oedd y tyndra rhwng eu hawydd i gynnal a dathlu eu diwylliant a’u hymrwymiad i’w ffydd fel Cristnogion. A oedd rhaid cefnu ar y naill er mwyn anwesu’r llall? Rhan o’r ddilema yma oedd iaith neu’n hytrach ieithwedd yr ysgrythurau. O dderbyn mai Saesneg fyddai’r iaith gyffredin, roedd yr ieithwedd, y delweddau a’r ymadroddion yn parhau yn ddieithr.

Felly dyna oedd wrth wraidd yr addasu a fu ar y testunau. Maen nhw’n parhau yn Saesneg ond yn defnyddio iaith, ymadroddion a delweddau sy’n codi o draddodiadau llafar y cenhedloedd cynhenid.

Bron nad yw’n sefyllfa ni o chwith. Sut bynnag y bu hi pan oedd yr hen ‘Gymry’ yn cael eu hudo oddi wrth eu crefyddau cynhenid at Gristnogaeth mae hynny a chyfieithu’r Beibl wedi digwydd ers cymaint nes bod blas y Beibl yn drwm ar ein hiaith a’n traddodiad llenyddol ni.

Dwi’n rhyfeddu’n aml wrth ddarllen Beibl.net at waith y tîm sydd rhywsut, rhywfodd wedi creu testun ysgrifenedig y mae modd ei ddarllen yn uchel yn rhwydd mewn unrhyw acen.

Ond dwi ddim mor siŵr bod yr iaith a ddefnyddir o gwmpas ein haddoliad wedi datblygu llawn cymaint. Rydym yn barod iawn i lithro i ddefnyddio hen ymadroddion ac yn gyndyn o newid trefn addoliad. Mae gweinidogaeth Terry Wildman yn mynd gam ymhellach nag addasu’r ysgrythur ac yn cynnwys defnyddio rhai o arferion addoliad a diwylliant y cenhedloedd cynhenid i gyfathrebu a dyfnhau profiadau ysbrydol ei braidd.

Nid ffordd unffordd mo’r profiad hwn gan bod yr addasiad yn Saesneg mae’n dal i fod yn ddarllenadwy i ni, a thra bydd elfennau’n siŵr o fod yn ddieithr fe fyddan nhw hefyd yn siŵr o daflu goleuni a chynnig dehongliadau newydd o’r testunau i ni yn Gymraeg.

E-fwletin 24 Ebrill 2022

DCDC yn ysbrydoli

Pan gefais gynnig i gyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol, doedd e ddim yn rhywbeth yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Dw i ddim yn berson uniongred ac eto mae fy nghefndir fel rhan fwyaf o Gymry Cymraeg ynghlwm â thraddodiad Cristnogol sy’n rhan annatod ohonom. Hyd yn oed i’r rheiny sy’n anghredinwyr, mae canu Calon Lân neu emyn poblogaidd arall yn debygol o fod yn rhan o’ch repertoire personol neu gymdeithasol, boed hynny yn y capel, yr aelwyd, ar faes chwarae, ysgol, neuadd bentref neu hyd yn oed mewn tŷ tafarn. Mae bron yn amhosib osgoi ei ddylanwad arnom. Ond beth mae hynny’n ei olygu?

I mi’n bersonol, mae’n rhaid i mi ddychwelyd i’m plentyndod ac aelwyd Mam-gu a Tad-cu yn Y Felin, Llechryd, i geisio deall hyn. Roedd Tad-cu, y diweddar Jac Davies, yn Gristnogol ac yn wleidyddol iawn a’r hyn rwy’n ei gofio yw bod y ddau beth yn un. Roedd ei eiriau fel petai’n plethu elfennau Cristnogol gydag anghenion pobl – y gwan, y gorthrymedig, y tlawd a’r anghenus. Roedd e’n wybodus iawn yn ei Feibl ac wedi ei ddarllen o glawr i glawr droeon. Ond roedd ei straeon i fachgen pum mlwydd oed yn syml. Hyn rwy’n cofio ynghyd a chlywed trac sain Mam-gu yn canu geiriau fel Iesu, Iesu rwyt ti’n ddigon neu Mi glywaf dyner lais. Fel y soniais yn gynt, elfennau anorfod yn y ffwrnes o ffurfio personoliaeth Cymro! Ond beth mae hynny’n golygu heddiw?

Wrth dyfu’n hyn, roedd dysgu mwy am hanes, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a chrefydd yn llywio myfyrdodau gwahanol ac yn anochel, yn codi cwestiynau. I fod yn onest, mae’r elfennau hyn mewn brwydr barhaol â’i gilydd ac am wn i, mae hynny’n beth iach. Rwy’n credu fod hi’n bosib i grediniwr, anghrediniwr, gwyddonydd a diwinydd greu consensws cadarn yn eu nod o greu byd gwell. Y cwestiynu a’r gwthio hynny sy’n hanfodol i siapio dynoliaeth. Rwyf hefyd yn credu na all rhai o’r elfennau hyn fyw’n annibynnol ar ei gilydd. Mae angen yr athronwyr, diwinyddion a’r gwyddonwyr i wthio ei gilydd i sicrhau fod afon syniadau yn llifo tuag at aber gwell.

Cafodd rhai o fy rhagfarnau ei chwalu yn ystod y 4-5 mlynedd diwethaf fel cyflwynydd DCDC. O’r cychwyn, roeddwn yn gweld fy hun fel heliwr straeon cwbl niwtral, a dyma rwy’n credu dylai unrhyw un fod wrth drafod bywydau unigolion. Serch hynny, ar gychwyn fy nhaith, roeddwn yn tueddu i feddwl bod traddodiad y capel yn erydu yng Nghymru a bod yna geidwadaeth yno a oedd yn gyfrifol am i’r traddodiad beidio symud gyda’r oes. Serch hynny, deuthum yn ymwybodol fod yna ddiwygiad tawel ar droed nad oeddwn yn ymwybodol ohono tan i mi ymlwybro ar hyd lawr gwlad a’i ddarganfod.

Yr hyn wnes i ddarganfod oedd bod yna lu o enwadau, capeli a phobl erbyn hyn sy’n ail-ddiffinio eu ffydd a’u ffyrdd o’i weithredu. Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y symudiad newydd sydd ar droed lle mae capeli a chanolfannau yn cysylltu â’r gymuned yn y ffordd fwyaf ymarferol. Mae yna ormod o enghreifftiau i’w henwi’n unigol. Ond yn fras maent yn fudiadau sy’n defnyddio eu canolfannau fel mannau i helpu eraill ac i estyn allan at yr anghenus; canolfannau sy’n gefn i ffoaduriaid, plant, y digartref, y difreintiedig, y gorthrymedig. Mae’r rhestr yn parhau. Swnio’n gyfarwydd? Mae’n adlais o eiriau fy nhad-cu.

Rwy’n ymwybodol fod sefydliadau crefyddol wedi gwneud hyn erioed ond yn fy mhrofiad diweddar, rwy’n credu bod capeli erbyn hyn yn newid o fod yn fannau addoli yn unig i fod yn ganolfannau i symud allan a dangos beth mae ffydd yn eci olygu. Y weithred  sy’n dod i’r adwy. Erbyn hyn, rwy’n gyfarwydd â gweld bagiau bwyd a dillad ar loriau capel yn fwy nag erioed ac mae hynny’n codi’r galon gymaint. Yn wir mae’n fraint ac yn ysbrydoliaeth i brofi’r arwriaeth dawel sy’n bodoli ymhlith trigolion Cymru. Does dim ots beth yw eich dadleuon deallusol neu eich credoau personol. Mae esiampl un person yn ddigon. Pob tro rwy’n gweld rhywun yn gwneud daioni, mae’n ysgogiad i mi geisio gwneud rhywbeth hefyd.

E-fwletin 19 Ebrill 2022

Cristnogaeth y Pasg

“Dwi’n hoffi’ch Crist chi”, meddai Mahatma Gandhi unwaith, “ond dwi ddim yn hoffi’ch Cristnogion”.

Daeth y sylw hwnnw i’m meddwl wrth ddarllen Trydariad Jacob Rees-Mogg ar Sul y Pasg yn ein hatgoffa fod Crist wedi atgyfodi, gan ychwanegu ‘Alleluia’, wrth gwrs. Gandhi ddwedodd hefyd, pan ofynnwyd iddo beth oedd o’n meddwl o ddemocratiaeth Brydeinig, “Ie, byddai’n syniad da”. Ond diolch byth bod Archesgob Caergaint yn ddigon o Gristion, ac yn ddigon dewr,  i gondemnio cynllun hurt y Llywodraeth Dorïaidd i anfon ffoaduriaid i Rwanda i’w ‘prosesu’ fel un sy’n ‘groes i natur Duw’.

Mae condemnio arweinwyr Cristnogol am ddatgan barn ar faterion gwleidyddol yn codi ei ben yn gyson. Ond diddorol yn yr achosion cyfredol hyn yw nodi nad yw’r rhai sy’n gwrthwynebu hawl yr Archesgob i ddatgan barn ar faterion gwleidyddol yn gweld unrhyw fai ar Rees-Mogg am ddatgan barn ar faterion crefyddol. Y ffaith amdani yw ein bod wedi cyrraedd lle peryglus iawn yn ein bywyd cyhoeddus yng ngwledydd Prydain; ac mae nifer cynyddol ohonom yn credu fod y ddadl dros annibyniaeth i Gymru a’r Alban a thros Iwerddon Unedig yn cryfhau’n feunyddiol wrth i ddiwylliant llygredig Llywodraeth Llundain a’r Wasg asgell-dde fynd yn rhemp.

Meddyliwn am y peth am funud. Y Prif Weinidog yn creu cyfreithiau i wahardd pobol rhag ymweld â’i gilydd – hyd yn oed os yw perthynas agos ar wely angau – yn mynd i bartïon ym mhrif swyddfa’r Llywodraeth, yn gwadu ei fod wedi torri unrhyw reolau, yn gwadu nad oedd yna bartïon o gwbl, yn cydnabod (wedi i dystiolaeth ddod i’r amlwg) ei fod yn bresennol, ond nad oedd yn ymwybodol fod parti yn groes i’r rheolau, ac yn rhyw led-ymddiheuro wedi i’r heddlu ei ddirwyo. Yn y cyfamser, gan fod unben o Rwsia wedi penderfynu chwalu gwlad arall gan achosi miloedd o farwolaethau a dinistr di-ben-draw, wele’r Prif Weinidog dan sylw yn defnyddio’r rhyfel fel ffordd i dynnu’r sylw oddi wrth ei gelwyddau a’i dor-cyfraith ei hun. Pa fath o arweiniad yw hyn?

I ni Gristnogion, dyw’r ffaith fod rhywun fel Boris Johnson yn galw’i hyn yn Gristion ddim yn rheswm dros anwybyddu ei ffaeleddau dybryd. Yn wir, ein dyletswydd ni yw tynnu sylw at ei ffaeleddau a chyhoeddi’n groch nad yw ymddygiad o’r fath yn deilwng o arweinydd gwladwriaeth; ac ymhellach na hynny bod y tanseilio presennol ar safonau bywyd cyhoeddus yn fygythiad gwirioneddol i’n democratiaeth.

Roedd y Rhufeiniaid a reolai yng nghyfnod Iesu yn bobl athrylithgar. Ond roedd eu grym a’u cyfoeth wedi eu llygru; ac roedd eu hymerodraeth yn rhwym o ddadfeilio, fel pob ymerodraeth ddaearol yn ei thro. Serch hynny, ymhlith y Rhufeiniaid roedd rhai canwriaid a sylweddolodd fawredd yr Iesu. Roedd un ohonyn nhw wrth droed y Groes ar y Pasg tyngedfennol hwnnw – yr un a ddywedodd, “Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn”. Diolchwn ninnau am yr unigolion hynny, megis Justin Welby, sy’n barod i sefyll a dinoethi gweithredoedd gwrth-Gristnogol Llywodraeth lwgr Boris Johnson.

 

 

E-fwletin 10 Ebrill 2022

“Nid oes rhagor…”

Mae Cristnogaeth perthnasol yn Gristnogaeth sydd yn gyfrwng a all newid cymdeithas er gwell. Ac er mwyn newid cymdeithas er gwell, mae’n rhaid mynd i’r afael â’r holl anghyfartaledd sy’n rhoi mantais i rhai grwpiau a charfannau ar draul rhai eraill.

Gellid trafod yr her fawr hon yng nghyd-destun hil, cefndir diwylliannol, crefydd a nifer o ffactorau eraill. Ond canolbwyntir ar un peth yma, sef yr anghyfartaledd amlwg rhwng dynion a merched. Mae lefelau tâl yn anghyfartal ac mae presenoldeb merched mewn gwleidyddiaeth, busnes a chwaraeon yn dal yn isel. Caiff llai o ferched fynediad at addysg ac at wasanaethau iechyd drwy’r byd. Ac mae trais yn erbyn merched yn parhau’n broblem fawr.

Sut ydym ni fel Cristnogion yn ymateb i’r anghyfiawnderau amlwg hyn? Gellid dechrau gyda Galatiaid 3:28: ‘Nid oes rhagor rhwng Iddew a Groegwr, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.’ Cyfartaledd yw’r egwyddor sylfaenol.

Eto, nid mater hawdd yw dibynnu ar dystiolaeth ysgrythurol bob amser. Mae rhai cyfeiriadau cadarnhaol at ferched yn y Beibl wedi’u dileu neu’u glastwreiddio gan gyfieithwyr. Cymerwch Rhufeiniaid 16:1 – ‘Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phoebe ein chwaer, yr hon sydd weinidog i eglwys Cenchrea‘, dyna a geir yng nghyfieithiad William Morgan (1588). Erbyn fersiwn 1620 mae’r gair ‘[g]weinidog’ wedi’i newid i ‘[g]weinidoges’. Ond o fynd o’r cyfieithiadau cynnar hyn i Feibl Cymraeg 1988, gwelwn fod yr adnod yn wahanol iawn: ‘Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu’r eglwys yn Cenchreae.’

Y gair Groeg diakonos yw’r pwynt dan sylw. Gall olygu nifer o bethau, yn amrywio yn ei ystyr o ‘weinidog’ neu ‘swyddog eglwysig’ i rywun sy’n gwasanaethu mewn modd mwy materol, gan gynnwys rhywun o statws gwas neu forwyn.

Fe ymddengys fod cyfieithwyr Beibl Cymraeg 1988 wedi dewis yr ystyr fwyaf ‘saff’, gan fod ‘sydd yn gwasanaethu’r eglwys’ yn gallu golygu gwasanaethu fel gweinidog neu swyddog yn ogystal â ‘gwasanaethu (fel gwas/morwyn)’. Yr hyn sy’n taro rhywun yw bod William Morgan wedi trosi’r adnod mewn ffordd sy’n dangos bod merch yn cael ei hystyried fel arweinydd crefyddol gan rai Cristnogion cynnar a bod cyfieithiad o’r Beibl sy’n fwy modern o lawer wedi cefnu ar y posibiliad hwnnw.

Mae Rhufeiniaid 16:7 yn enghraifft ddiddorol hefyd. Yn gyntaf, William Morgan ym 1588: ‘Anerchwch Andronicus, ac Junia fy ngheraint a’m cydgarcharorion, y rhai sy hynod yn mhlith yr Apostolion…’. Ac ym Meibl Cymraeg 1988: ‘Cyfarchion i Andronicus a Jwnias, sydd o’r un genedl â mi, ac a fu’n gydgarcharorion â mi, gwŷr amlwg ymhlith yr apostolion…’.  Mae tystiolaeth gref o wahanol ffynonellau yn dweud mai enw merch oedd Junia. Ond, yn debyg i nifer o gyfieithiadau Saesneg sy’n troi’r enw yn enw gwrywaidd drwy ychwanegu ‘s’ a’i wneud yn Jwnias, mae cyfieithwyr Beibl 1988 wedi cefnu ar benderfyniad a wnaethpwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan William Morgan a throi’r arweinydd Cristnogol benywaidd yma yn ddyn.

Fel Cristnogion gadewch inni gefnogi ymgyrchoedd cyfredol am gyfartaledd rhwng dynion a merched, brwydrau sydd yn gwbl gyson â neges greiddiol ein ffydd Gristnogol.