E-fwletin 15 Mai 2022

Mae Bywyd yn Llawn Pegynau

Dwi’n hoff o Aberaeron. Dwi ddim yn hoffi Aberaeron ym merw tymor yr haf ond yn hytrach yn ystod y gaeaf neu ar ddechrau diwrnod braf o wanwyn. Ac felly roedd hi’n ddiweddar, awr o segura a chyfle i yfed paned a darllen papur ar un o feinciau’r harbwr. Rhyw ddilyn yr un patrwm fydda i wrth ddarllen papur, rhyw fras edrych drwy’r cyfan i ddechrau, sylwi ar ambell i hysbyseb, edrych ar adran y coffâd ac yna dychwelyd at unrhyw bennawd sydd wedi dal fy sylw. Un o’r penawdau y bore hwnnw oedd ‘Survivors who escaped Azovstal describe horror’ ac ym mhlethiad geiriau’r awdur dyma ddod ar draws Anna. Mae Anna yn fam i blentyn chwe mis oed ac yn un o’r rhai hynny sydd bellach wedi dianc o gaethiwed gwaith dur Azovstal, Mariupol, yr Wcráin. Fe geisiodd ddianc dair gwaith.

“Dan ymosodiadau parhaol, yn cysgu ar fatiau dros dro, yn teimlo effaith y ffrwydradau, yn rhedeg gyda’ch mab ac yn cael eich lluchio i’r ddaear – roedd popeth yn erchyll. Mae magu plentyn yn anodd dan unrhyw amgylchiadau ond mae magu plentyn mewn byncer, mewn tywyllwch, yn anoddach fyth!”

Ac yna geiriau Elina Vasylina, yn sôn am y frwydr ddyddiol i ddarganfod dŵr a bwyd, a’r ffaith nad oedd wedi gweld bara am chwe wythnos. Ac wrth ymadael: “Fe ges fy ngalw’n ‘scum’ gan filwyr Rwsia!”

Am ryw ychydig funudau fe gollais ddiddordeb yn y baned goffi a llun o Anna ddagreuol yn gyfrwng i fynd a rhywun ymhell o olwg ac awyrgylch un o drefi bach glan y môr Ceredigion.

“Helo ti!” Doeddwn i ddim yn adnabod y perchennog ond fe ddaeth ei gi i synwyro wrth fy nhraed ac fe ddiflannodd Anna, Elina ac ambell i un arall, a dyna’r perygl. Stori ymhlith straeon a rhywun yn symud ymlaen at y nesaf ac ar ei waethaf yn anghofio ac yn datod oddi wrth unrhyw empathi. Hawdd caledu calon mewn byd hunanol!

Fel arfer fe fydd unrhyw bapur dyddiol yn cael ei daflyd i’r bin ailgylchu ond nid y tro yma. Wrth ysgrifennu’r ychydig eiriau yma mae llun Anna ddagreuol a’i phlentyn o’m blaen a bellach yn fy atgoffa’n ddyddiol:

  1. Fod Anna a phob un tebyg iddi yn rhan annatod o’n bywydau fel pobl ffydd. ‘Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.’
  2. Yr alwad i adnabod trugaredd yn ein bywydau. Henry Nouwen ddywedodd,

‘Y mae trugaredd yn rhodd gan Dduw… Wrth i Dduw ddod yn un â ni yng Nghrist y mae’n caniatáu i ni fynediad i ddirgelwch y bywyd ysbrydol… o ganlyniad gallwn gyfranogi yn ei drugaredd.’

  • Yr alwad i wasanaethu mewn gair a gweithred, gwasanaeth aruchel Crist, ‘yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’

Da cofio hynny ar unrhyw adeg ond yn arbennig felly ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol.

Pob bendith 
www.cristnogaeth21.cymru
 

 Cristnogaeth 21: Encil y Pentecost
“Y gwynt sy’n chwythu lle mynno”. (Ioan 3:8)

Cyfranwyr:

Yr Archesgob Andy John

Parch Anna Jane Evans

Parch Sara Roberts

Manon Llwyd

Parch Aled Lewis Evans

Cefyn Burgess

18 Mehefin 2022 yn Eglwys y Santes Fair, Porthaethwy.

Cost: £25 (gan gynnwys bwffe)

I archebu lle cysylltwch â Catrin Evans erbyn y 5ed o Fehefin:

catrin.evans@phonecoop.coop / 01248 680858