Agora 31 gwanwyn 2019

Agora rhif 31
Gwanwyn 2019

Rhifyn arbennig cynhadledd
‘Dechrau o’r Newydd’

 

Cyflwyniad – Dal i gredu: ail-ddehongli myth Cristnogaeth       
Cynog Dafis

Achos i Faddau … Achos i Feddwl: Pererindod Bersonol             
Rocet Arwel Jones

Agweddau ar ‘Ffydd’ a ‘Chredu’
Catrin H Williams

Mytholeg ac Esblygiad Ymddygiad                                                     
Gareth Wyn Jones

Dyneiddiaeth o’r Newydd: Troi yn ôl at Gristnogaeth                  
Huw L. Williams

Tystiolaeth y beirdd                                                                                
Jane Aaron

Pedwar Darlleniad a Sylwadu                                                       
Cynog Dafis

Credo                                                                                                     
Cynog Dafis

  • Agweddau ar ffydd a chredu

    Agweddau ar ‘Ffydd’ a ‘Chredu’

    Catrin H. Williams
    Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant

    Mae amryw o’r trafodaethau diwinyddol ar ‘grefydd’ a ‘ffydd’ yn ystod y deng mlynedd diwethaf wedi ceisio ymateb i’r llu o lyfrau ac erthyglau a gyhoeddwyd gan awduron sydd yn galw eu hunain yn ‘atheistiaid newydd’. Nid gormodiaith yw dweud bod dadleuon a rhethreg rhai fel Richard Dawkins a’r diweddar Christopher Hitchens wedi bod yn gyfrifol am greu darlun syml a stereotypaidd o ‘grefydd’ fel ffenomen ffwndamentalaidd a gwrth-ddeallusol. Gwelir hyn yn y modd y mae Dawkins yn crynhoi ei ddadl ar ddechrau ei gyfrol, The God Delusion: ‘I’r mwyafrif o gredinwyr ar draws ...

    Rhagor
  • Dechrau – achos i faddau

    Achos i Faddau … Achos i Feddwl: Pererindod Bersonol

    Rocet Arwel Jones

     Map

    Mae cyfeirio at y bywyd ysbrydol fel taith yn hen, hen, ystrydeb. Ond nid wyf yn rhy falch i ddefnyddio hen ystrydebau, felly os wnewch chi faddau i mi a’i a chi ar daith. Fydd llawer o’r golygfeydd yn hynod o gyfarwydd i lawer ohonoch chi, felly eto rwy’n erfyn am eich maddeuant. Ond siawns, o’r holl gynulleidfaoedd yn y byd, y dylwn i allu dibynnu arnoch chi am hynny, o leiaf! I hwyluso’r daith dyma gynnig mymryn o fap i chi.

    Er fy mod yn perthyn i’r eglwys o’r crud rwy’n cyfrif bod y daith ...

    Rhagor
  • Dechrau – dyneiddiaeth o’r newydd

    Dyneiddiaeth o’r Newydd: Troi yn ôl at Gristnogaeth

     Huw L. Williams

     Cyflwyniad

    Daeth myfyrdodau Aled Jones Williams, Cynog Dafis a Gareth Wyn Jones ar Gristnogaeth a chrefydd ar adeg amserol iawn o’m rhan i. Yn sosialydd ac athronydd gwleidyddol, rwyf wedi bod ers tro yn myfyrio ar gyfyngderau’r chwith, a’r methiant i gynnig syniadaeth radical yn dilyn brwydrau aflwyddiannus y mwyafrif o’r gwladwriaethau comiwnyddol, a meddiannu sosialaeth ddemocrataidd gan drydedd ffordd Anthony Giddens, Blair, Brown a’u tebyg. Profwyd canlyniadau cymysg yr ail duedd gan y Cymry yn gymaint â neb – gyda thwf dros dro mewn safonau byw, ond heb y diwygio strwythurol i’r sustem neo-ryddfrydol a fyddai’n caniatáu ...

    Rhagor
  • Dechrau – cyflwyniad

    Dal i Gredu: Ail-ddehongli Myth Cristnogaeth

     Cynog Dafis

    1       Fframio’r Drafodaeth

    Man cychwyn unrhyw drafodaeth adeiladol am ddyfodol Cristnogaeth (a chrefydd yn gyffredinol) yw cydnabod mai am fyth rydyn ni’n sôn. Myth, nid fel celwydd, ond fel stori ddychmyglawn sy’n cyfleu ei hystyr drwy symboliaeth a metaffor. Goddrychol, nid gwrthrychol, yw ei dehongliad, ac o feddwl dyn, nid o unrhyw ffynhonnell oruwchnaturiol, y mae’n tarddu.

    Nid gwneud yn fach o Gristnogaeth mo’i gweld yn y termau hynny ond agor y drws i weld ei gwir werth, canfod hyd a lled ei chyfoeth dihysbydd. Nid rhyw ddull israddol, diffygiol o ddehongli realiti yw myth ond, ys dywed Aled Jones Williams ...

    Rhagor
  • Dechrau – credo

    Credo

    Cynog Dafis 

    Rhyfeddu ac Ymostwng

    Plygwn yn ostyngedig yn wyneb rhyfeddod y Bydysawd

    ei bellteroedd anrhaethol

    ei alaethau a’i fydoedd aneirif

    ei yriant creadigol

    ei undod a’i drefn

    dirgeledigaethau gofod ac amser

    ceinder y bychanfydoedd cuddiedig

    gwyrth Bywyd

    Gwerthfawrogwn y fraint anrhaethol o gael bod yn rhan, ennyd awr, o lif Bywyd ar ein planed amhrisiadwy ni.

    Derbyn Cyfrifoldeb

    Cydnabyddwn gyfrifoldeb arbennig Dynoliaeth i drysori a gwarchod cyfoeth y byd naturiol

    Cydnabyddwn

    ein galluoedd unigryw ymysg yr anifeiliaid

    ein tueddiad i ymrannu, chwalu a dinistrio

    ein hunanoldeb barus a’n creulondeb

    Ymrwymwn o’r newydd i oresgyn tueddiadau gwaethaf ein natur

    i fyw mewn cytgord ...

    Rhagor
  • Dechrau – tystiolaeth y beirdd

    Tystiolaeth y Beirdd

    Jane Aaron

    i)   Yn y dechreuad yr oedd ynni. Proses yw ynni; nid yw’n sefydlog. O brosesau ynni y daeth bywyd a’r bydysawd. Mae ynni ymhob uned byw.

    Gweler Dylan Thomas, ‘The force that through the green fuse’ , Collected Poems, t.8

    The force that through the green fuse drives the flower
    Drives my green age….
    The force that drives the water through the rocks
    Drives my red blood…

    ii)   Wedi marwolaeth yr uned, rhyddheir yr ynni i fodoli mewn unedau eraill

    Gweler R. J. Derfel, ‘Ryfeddwn i Ddim Pe Gwyddwn’, Caneuon (1891), t. 115.

    Marwolaeth a bywyd nid ydynt
    Ond rhannau gwahanol o’r un:
    Mae bywyd yn ...

    Rhagor
  • Dechrau – 4 darlleniad

    PEDWAR DARLLENIAD A SYLWADAU

    Cynog Dafis

    Darlleniad 1: ‘Yr Hen Allt’

    Cerdd am atgyfodiad yw ‘Yr Hen Allt’ gan Waldo Williams, cerdd am y broses naturiol o ymadfywio ar ôl marwolaeth. Mae’n agor ac yn cau ar nodyn o obaith ond rhwng y ddau ben mae tywyllwch, dinistr ac erchylltra.

    Wele, mae’r hen allt yn tyfu eto,
    A’i bywyd yn gorlifo ar bob tu
    Serch ei thorri lawr i borthi uffern
    Yn ffosydd Ffrainc trwy’r pedair blynedd ddu.

    Pedair blynedd hyll mewn gwaed a llaca,
    Pedair blynedd erch ’mysg dur a phlwm –
    Hen flynyddoedd torri calon Marged,
    A blynyddoedd crino enaid Twm.

    Ond wele, ...

    Rhagor