Dechrau – achos i faddau

Achos i Faddau … Achos i Feddwl: Pererindod Bersonol

Rocet Arwel Jones

 Map

Mae cyfeirio at y bywyd ysbrydol fel taith yn hen, hen, ystrydeb. Ond nid wyf yn rhy falch i ddefnyddio hen ystrydebau, felly os wnewch chi faddau i mi a’i a chi ar daith. Fydd llawer o’r golygfeydd yn hynod o gyfarwydd i lawer ohonoch chi, felly eto rwy’n erfyn am eich maddeuant. Ond siawns, o’r holl gynulleidfaoedd yn y byd, y dylwn i allu dibynnu arnoch chi am hynny, o leiaf! I hwyluso’r daith dyma gynnig mymryn o fap i chi.

Er fy mod yn perthyn i’r eglwys o’r crud rwy’n cyfrif bod y daith hon wedi cychwyn yn haf 2013.

Fe gychwynnais ar daith o fod yn aelod, ac hyd yn oed yn flaenor, yn credu’n llythrennol-oddefol yn yr hyn a glywn o Sul i Sul, i ddechrau holi o ddifrif be rwy’n gredu ac os ydw i’n credu.

Rwyf wedi dod i’r casgliad nad oes dim Duw hollalluog.

Rwyf wedi dod i’r casgliad fy mod yn credu yn Iesu, boed hwnnw’n hanesyddol, yn fytholegol neu’n ychydig o’r ddau.

Rwy’n ymgodymu gydag arwyddocâd y ddau beth yna.

Rwy’n ymgodymu hefyd gyda’r baich sydd ar yr eglwys gyfoes o ran dysgeidiaeth a hanes.

Yn syml mae’r traddodiad yr wyf i, a’r rhan fwyaf ohonoch chi wedi ein geni a’n magu ynddo wedi cyrraedd y diwedd a hynny’n ystadegol ddi-droi’n-ôl. Os byddaf byw i oed fy mam fydd pob capel wedi cau, ag eithrio ambell un mewn canolfannau sydd a phoblogaeth i gynnal un neu ddau o achosion. Ar hyn o bryd rydyn ni wedi troi tua’r pared ac yn disgwyl y diwedd yn stoicaidd.

A hawdd deall pam. Hwn yw ein traddodiad ni, hwn yw fy nhraddodiad i, trwy’r ffenest hon rwy’n gweld y byd, nid wyf yn gwadu nad oes ffenestri eraill yr un mor ddilys i’w cael, ond hon, fel fy iaith a fy niwylliant, yw’r ffenest ysbrydol yr wyf i’n edrych ar y byd drwyddi.

Mae’r ffenest yn prysur dywyllu.

Felly beth nesaf? Tipyn bach o finlliw ar yr amdo? Chwilio am flagur ir yn y boncyff celain? Bodloni ar griw o eneidiau hoff gytûn i gyfathrebu gyda nhw? Dechrau eto? Fel unigolyn, fel cynulleidfa? A yw hynny’n golygu diffinio, ymffurfio, cenhadu?

Dyna i chi fap digon blêr! Ymlaen!

Cychwyn

Hoffwn gredu fy mod o ddydd i ddydd yn un parod i faddau. Rai blynyddoedd yn ôl cefais achos i geisio maddau i rai oedd wedi gwneud cam â fi. Ond pan ddaeth hi’n ddydd o brysur bwyso methais â maddau i’r unigolion hynny oedd wedi chwalu fy myd a fy mreuddwydion, a fy ngobeithion ynglŷn â’r cyfleon allwn i eu cynnig i fy nheulu. Methais, methais yn llwyr. Allwn i ddim. Alla’i ddim, hyd heddiw, a thaflu’r baich hwnnw oddi ar fy ngwar. Ac fel gronyn o dywod mewn esgid mae hynny’n fy mhoeni, ac yn fy ngyrru i gwestiynu natur ac ystyr yr hyn rwy’n ei gredu.

Wedi’r cyfan rwyf, dros hanner canrif, wedi fy magu mewn traddodiad sy â maddeuant wrth ei galon; rwyf wedi fy nerbyn iddo fel oedolyn a fy nghodi’n flaenor, ac wedi priodi, bedyddio a magu fy mhlant yn y traddodiad hwnnw. Siawns na ddylai’r angen, yr awydd, a’r gallu i faddau fod yn ail natur i mi? Ond, pan fo’r angen fwyaf, nid felly mae hi. A yw fy ymdrech i a fy rhieni, ac ymdrech fy ngwraig a minnau wrth fagu ein plant ein hunain, yn wastraff llwyr o’r herwydd?

Felly, cychwynnais ar daith i chwilio beth yn union ‘ddylwn’ fod yn ei wneud.

 

Y daith o gyfrol i gyfrol

Dechreuais drwy chwilio am grynodeb o ‘eiriau Iesu’. Nid barn yr efengylau neu’r apostolion ond beth yn union oedd Iesu ei hun wedi ei ddweud. Geiriau, ymadroddion, dywediadau a damhegion Iesu wedi eu hynysu, allan o bob cyd-destun. Deuthum ar draws Jesus Christ in His Own Words ar Amazon.[1]

Wrth gwrs, buan y deuthum i sylweddoli nad geiriau Iesu verbatim oedd y rhain. (A dechreuais bendroni yr un mor fuan, a oeddwn i erioed wedi credu mai geiriau Iesu oedden nhw mewn gwirionedd.) Ar y gorau, yr hyn oedden nhw oedd geiriau oedd wedi eu priodoli i Iesu ddegawdau ar ôl iddo farw. Fel arall, yr hyn oedden nhw oedd geiriau’r hen broffwydi wedi eu gosod yng ngenau Iesu. Felly, a oedd yr ymarferiad hwn o unrhyw ddefnydd i mi?

Roedd yr ymarferiad yn un dadlennol iawn.

Deuthum ar draws y llyfr Kissing Fish: Christianity for People Who Don’t Like Christianity a’r gymuned sy’n cael ei harwain gan Roger Wolsey.[2] Llyfr digon blêr o ran ei resymu a rhyw deimlad o ruthr o’i gwmpas o. Ond drwy hwnnw y dechreuais sylweddoli bod cymuned o bobl oedd yn credu bod yna ffordd wahanol o ddehongli Cristnogaeth. Bod modd dehongli Cristnogaeth.

Arweiniodd hyn fi at waith John Shelby Spong a mudiad y Progressive Christians yn yr Unol Daleithiau, oedd wrth gwrs yn cynnig corff o waith ysgolheigaidd i arwain chwilfrydedd dyn.

Rwyf wedi pendroni llawer ynglŷn â’r cyfieithiad o ‘Progressive Christians’. Mae Cristnogion Blaengar yn fy nharo fel cyfieithiad braidd yn ymhonnus. Ond o bori yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru cynigir rhai cyfystyron diddorol megis ‘eiddgar, eofn, beiddgar, rhyfygus’ a rhywsut mae’r rheiny’n gweddu’n well. At hynny cynigia Geiriadur yr Academi ‘pleidiol i gynnydd’. Tybed a fyddai Cristnogion Cynnydd yn well cyfieithiad?

Trwy Spong a Borg ac eraill dysgais am gronoleg y Testament Newydd. Dysgais nad oedd llyfrau’r Testament Newydd wedi eu cyfansoddi yn y drefn y gosodwyd hwy yn y Beibl.[3] Mae’n ddadlennol eu darllen yn nhrefn eu cyfansoddi rhwng canol y ganrif gyntaf a dechrau’r ail, rhwng ugain mlynedd a chanrif ar ôl marwolaeth Iesu. Mae’n dechrau, wrth gwrs, gyda saith llythyr Paul a gyfansoddwyd yn y 50au, Marc yw’r cyntaf o’r efengylau wedi ei dilyn gan Mathew a Luc a daw Ioan gryn dipyn yn ddiweddarach; daw’r Datguddiad tua’r canol. Cynnyrch yr eglwys fore wrth iddi ddatblygu yw’r efengylau yn hytrach na’i maniffesto. O’u darllen yn eu trefn gronolegol gellir olrhain datblygiad rhai o’r credoau sy’n ganolog i’n ffydd ni heddiw. Bwriadwyd pob un ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol a sefyllfaoedd gwahanol iawn ar lawr gwlad. Wrth i ddehongliad o brofiad ffydd a chyd-destun traddodiad gael eu gosod mewn geiriau ar femrwn a phapur, ac o’u gosod mewn geiriau eu rhewi mewn credoau, a’u carcharu mewn dogmâu, mae gwerth y profiad a’r dehongliad yn mynd yn llai ac yn llai dros amser, fel mynyddoedd yn cilio ar orwel pell.

Dysgais ychydig am y traddodiad Iddewig o midrash[4], o lapio unigolion ysbrydoledig o’r presennol yn ngeiriau a gweithredoedd proffwydi mawr y traddodiad a thrwy hynny gyfiawnhau eu lle hwythau yn yr olyniaeth honno o broffwydi.

Dysgais am y gwahaniaeth sylfaenol a’r tebygrwydd hanfodol rhwng mythos a logos[5]. Gwirionedd empirig a gwirionedd storïol. Mae myth wedi tueddu i fynd yn gyfystyr â chelwydd yn ein byd simplistig ni, ac mae’n bryd adfer bri y gwirionedd mytholegol. Mae’n traddodiad ni wedi ei wreiddio mewn traddodiad Iddewig oedd yn deall midrash, yn clywed ac yn deall mai geiriau a gweithredoedd yr hen broffwydi oedd yn cael eu priodoli i Iesu mewn rhai cyd-destunau, ac yn deall mai atgyfnerthu ei arwyddocâd a’i wirionedd hanesyddol o oedd y dyfyniadau hynny o fytholeg y genedl ac nid eu tanseilio. Y pellaf yn y byd oedd/mae neges Iesu’n mynd o’r gwreiddyn daearyddol ac amseryddol hwn tebyca’n y byd ydyn ni, fel ‘cenedl-ddynion’ y ganrif gyntaf, a Christnogion byd-eang y canrifoedd ers hynny, o geisio deall a chyfiawnhau’r mythau traddodiadol mewn modd llythrennol. Ac wrth i’r mythos fynd benben â’r logos, heb ddealltwriaeth byw o’r traddodiad, mae’r logos yn rhwym o ‘ennill’ bob tro.

Mae’n siŵr bod yr hanfodion symlaf hyn o’r traddodiad Iddewig rwyf wedi eu codi dros y misoedd diwethaf yn ymddangos yn gwbl amlwg ac elfennol i ysgolheigion a lleygwyr triw i’w hysgolion Sul a’u dosbarthiadau Beiblaidd. Ond nid wyf y naill na’r llall. Mae fy addysg i yn dod o ysgolion Sul diwedd y 70au a’r pulpud ar y Sul, a dyw’r pethau hyn byth yn cael eu trafod. Teimlaf ryw elfen o siom a dicter nad yw’r unigolion a’r arweinwyr a astudiodd y pethau hyn mewn prifysgolion yn rhannu eu dysg (nad yw’n chwyldroadol o newydd na herfeiddiol) ond yn hytrach yn ei gadw iddyn nhw eu hunain, fel offeiriaid yn cadw cyfrinachau’r cysegr sancteiddiolaf. Ac yn parhau â’r llythrenoldeb-goddefol sydd wedi ei gyfleu o genhedlaeth i genhedlaeth ers cymaint o amser. Y realiti ar lawr gwlad yw nad yw’r rhelyw o’r aelodau sy’n mynychu oedfa ar y Sul, na’r aelodau sy ddim yn mynychu ar y Sul, na’r cyhoedd y bydden ni’n dymuno iddyn nhw fynychu ar y Sul, yn gwybod mai storïau y mae modd eu dehongli, y dylid eu dehongli, sydd wedi eu bwriadu i’w dehongli, sydd yn y Beibl. Wrth gwrs mae hyn yn fygythiad i’r anghydffurfiaeth-gydymffurfiol sydd ohoni, ond siawns hefyd nad yw’n achubiaeth. Y ddealltwriaeth hon yw’r arfogaeth rydyn ni ei angen wrth ymrafael â thrafodaethau’r cyfnod tyngedfennol hwn.

Baich hanes

Ond mae perygl i hyn oll fod yn ddim mwy na gemau geiriol oherwydd mae rhaid i unrhyw Gristnogion cyfoes, er mwyn cyrraedd yr hanfod hwnnw, ddringo dros wirioneddau hyll Hanes. Dros groesgadau, rhagfarnau, obsesiynau a thorcyfraith eithafol.

Dyw Cristnogaeth na chrefydd ddim yn unigryw ymhlith achosion da sydd wedi troi yn achos dros drais a rhyfel. Yn eu hanfod mae ‘democratiaeth’, ‘sosialaeth’, ‘comiwnyddiaeth’ … i gyd yn syniadau da ond yn hwyr neu’n hwyrach mae pob cyfundrefn wedi gweld carfannau’n ‘bygwth’ y daioni hanfodol hwnnw ac wedi bod yn fodlon mynd i ryfel dros yr achos.[6] Mae rhai yn dadlau, yn achos y croesgadau, er enghraifft, bod clymu rhyfel ac ymerodraeth wrth achos yr eglwys yn caniatáu i ryfelwyr weld eu hunain fel seintiau gwyn yn hytrach na rhyfelgwn gwaedlyd. [7]

Fodd bynnag, mae’r achosion o dorcyfraith sy wedi eu hamlygu’n ddiweddar yn codi cwestiynau gwahanol eto. Er bod y gymnasteg moesol a meddyliol sy’n rhaid ei gyflawni i ddychmygu’r rhesymeg y tu ôl i’r croesgadau yn boenus o astrus mae’r un mor amhosibl cyfiawnhau’r cam-drin sydd wedi bod ar blant a merched a’r gymuned hoyw yn enw gras, cariad a maddeuant. Mae’r modd y mae obsesiynau rhywiol arweinwyr gwrywaidd yr eglwys wedi amlygu eu hunain dros y canrifoedd yn erchyll. Ac obsesiynau rhywiol y dynion hyn ydyn nhw, nid obsesiynau (neu flaenoriaethau) yr efengyl. Dychmygwch petai’r eglwys wedi rhoi’r un egni i mewn i drafod a gweithredu ar dlodi, trais a thrachwant ag a wnaeth dros y blynyddoedd ar ddewisiadau rhywiol rhai (ond nid y cyfan) o’u haelodau. Dychmygwch petai’r eglwys wedi plismona’r adnodau eraill yn Lefiticus sy’n sôn am fwyta cig moch a chorgimychiaid, am reolau gwisg a gwallt, mor obsesiynol â’r un am ryw hoyw.

Golyga’r erchyllterau hyn bod, ac y bydd, cilio a chefnu ysgubol, a thocio aruthrol ar y goeden eglwysig yn y gorllewin dros y blynyddoedd (efallai ychydig ddegawdau), nesaf. Mae Iwerddon dros y chwarter canrif ddiwethaf (rhwng ymweliadau’r ddau Bab) yn brawf diymwad o hyn.

Does dim modd i ni ddadlau bod ein rhan fach ni o’r traddodiad yma yn y Gymru anghydffurfiol yn rhydd o hyn. I’r rhai sydd ar y tu allan, Eglwys Crist yw Eglwys Crist ledled y byd, yn enwedig felly mewn oes o newyddion byd eang pedair-awr-ar-hugain. A waeth pa mor lân rydyn ni’n gweld ein hunain, does dim modd i ni ddianc rhag paent y brwsh sy’n paentio’r eglwys fel lle rhagrithiol, hunangyfiawn, obsesiynol ac, ar adegau, dieflig.

A oes modd neidio dros y clwydi hyn a holi’n hunain a’r rhai y bydden ni’n dymuno iddyn nhw gredu yr un fath â ni, i gychwyn ar daith i chwilio am nodwydd yr Iesu hanfodol hwnnw mewn tas wair o fytholeg ffosiliedig ac o hanes gwych a gwyrdroëdig?

Ar hyn o bryd rwy’n credu bod lle i’r ymchwil hwnnw a lle i’n traddodiad ni wrth chwilio am atebion i’r cwestiynau oesol hynny.

Baich Traddodiad

Ond mi rydyn ni lle rydyn ni. Moethusrwydd a hwylustod cydymffurfiaeth a llythrenoldeb, boed hwnnw’n llythrenoldeb-cul neu’n llythrenoldeb-goddefol, yw fod pawb yn credu, neu i fod yn credu, fwy neu lai yr un fath. Unwaith yr agorir y drws i ryddid barn a dehongliad mae’n anorfod (ac yn ddymunol) fod pobl yn credu pethau gwahanol. Fel dywedodd G. K. Chesterton, ‘When men choose not to believe in God, they do not thereafter believe in nothing, they then become capable of believing in anything’.[8]

Erbyn hyn mae’r nifer sy’n cyfrif eu hunain yn ddigrefydd yn y mwyafrif (53%) am y tro cyntaf. Cwyd hyn i 71% ymysg pobl rhwng 18 a 24. Ond nid yw’r rhain o reidrwydd ychwaith yn anffyddwyr cwbl seciwlar. Mae carfan dda yn credu mewn rhywbeth, 20% yn gweddïo (ond heb fod yn siŵr i bwy neu beth maen nhw’n gweddïo). Ar y cyfan maen nhw’n bobl rhyddfrydol sy’n creu mewn hawliau i hoywon, i ferched ac yn yr hawl i farw. Dydyn nhw ddim yn perthyn i ddosbarth penodol. Mae’r ystadegau yn dangos cilio o grefydd sefydliadol ond hefyd nad oes cynnydd ychwaith yn y rhai sy’n honni anffyddiaeth galed wrywaidd Dawkins a’i ddisgyblion.[9]

Felly mae sawl elfen o dyndra yma. Fyddwn i’n dadlau bod yr Iesu yr wyf fi yn ei arddel yn un a ddylai fod yn atyniadol i garfan dda o’r gymdeithas fodern. Ond mae Iesu wedi ei dynghedu i siarad iaith sy’n annealladwy i’r rhelyw o Gymry Cymraeg, a’i garcharu rhwng muriau sefydliadau amherthnasol. Ac yn unol â natur carchardai, does neb am dorri i mewn iddyn nhw.

Rwy’n perthyn i eglwys sydd, am wn i, yn cytuno ar y conglfeini – gras, maddeuant a chariad – ac yn caniatáu’r rhyddid, y cydweithrediad a’r parch angenrheidiol i ddehongli’r muriau rhwng y conglfeini hynny. Mae eglwysi Cymru yn frith o waith sy’n amlygu gras, maddeuant a chariad.

Ond yn gyffredinol mae ein gwasanaethau ni’n llawn o arferion, ymadroddion, geiriau a mân ddefodau oesoedd a fu. Mae ein llwybrau torfol ni tuag at y trosgynnol yn gul gan fieri a brwgaitj, geiriau ac ymadroddion sy’n annealladwy i’r rhelyw yn y gynulleidfa. Hyd yn oed o ddeall y geiriau unigol, o’u rhaffu at ei gilydd, maen nhw’n ddiystyr, yn ddieithr, yn ddifeddwl neu’n anghywir o ran dysgeidiaeth.

Canwn am ‘iachawdwriaeth yn yr Iawn’ neu ‘Pwy wnaeth y sêr uwch ben?’ a joio’r canu heb ddeall neu heb feddwl be rydyn ni’n ganu. I aralleirio Gwenallt, ‘gwae i ni wybod y nodau heb adnabod y Gair’.

Dysgwn ein plant bod y bugeiliaid, y doethion a’r angylion, Joseff, Mair a Christ mewn stabl i gyd yr un pryd – yn union fel yr arweiniwn nhw i gredu bod Sion Corn yn dod i lawr y simdde – ond yn achos Iesu dydyn ni byth yn cywiro’r camsyniad hwnnw.

Ddywedodd neb wrtha i: ‘Mae’n wir bod yna stori. Yn wir, mae yna storïau. Mae yna wirionedd yn y storïau. Ond dyw’r storïau ddim yn wir.’

Chwyldro?

Ar adegau rwyf wedi teimlo mai cryfder mawr Cristnogion Cynnydd yw rhestru yr hyn nad ydyn nhw’n gredu ynddo: o bechod gwreiddiol, i’r geni gwyrthiol, i’r atgyfodiad a duw hollalluog, a’u bod nhw’n ysgafn braidd ar yr hyn y maen nhw yn ei gredu.[10] Mae rhyw naws o chwyldro o gwmpas y cyfan.

Ond adlewyrchiad yw hynny o gyflwr ein traddodiad yn y cyfnod hwn yn ei hanes. Mae’n draddodiad statig wedi ei ffosileiddio ers degawdau os nad canrifoedd. O’r herwydd mae’n draddodiad brau. Hanfod traddodiad byw yw hyblygrwydd. Hen, hen beth sy’n adnewyddu ei hun, atgyfodi ei hun os mynnwch chi, yw traddodiad, a hynny yng nghyd-destun pob cenhedlaeth newydd. Coeden â gwreiddiau dyfnion, praff, ar y naill law a blagur a brigau ystwyth a thyner yn estyn yn chwilfrydig tua’r nefoedd ar y llaw arall. Bydd llawer o’r tyfiant newydd yn cael ei ddifa mewn drycinoedd, ond bydd rhai’n datblygu’n frigau cadarn ac yn ychwanegu at siâp y goeden am ganrifoedd i ddod. Dyw’r newidiadau hynny ddim ond yn cyrraedd cyweiriau chwyldro pan fo’r tyfiant yn peidio a phan nad yw’r goeden yn dilyn y drefn arferol o newid yn raddol o dymor i dymor, o genhedlaeth i genhedlaeth. Bryd hynny mae’n rhaid tocio a gobeithio bod y gwreiddyn yn parhau yn faethlon.

Byddai traddodiad byw wedi mabwysiadu darganfyddiadau mawr gwyddoniaeth y canrifoedd diwethaf yn raddol, fesul un. Byddai wedi dadansoddi’r gwirionedd mytholegol mewn ffordd wahanol fel mae’r traddodiad Iddewig gwreiddiol yn ei ddysgu i ni. Trwy hynny byddai’r traddodiad wedi cyfathrebu â phob cenhedlaeth newydd yn ei thro ac wedi ffynnu yn hytrach na mynd benben â’r darganfyddiadau diymwad hynny a gofyn i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth gredu yn yr anghredadwy. Weithiau fe wneir hynny mewn modd du a gwyn fel yn achos y creadigaethwyr a’u llythrenoldeb-cul. Dro arall, fel yn achos y rhan fwyaf o’n heglwysi ni, mae’n debycach o fod yn llythrenoldeb-goddefol, o beidio rhannu a chynnig dehongliad i gynulleidfaoedd a chyflwyno a chymryd yn ganiataol fod storïau’r Beibl yn Wir.

Felly yn y cyd-destun hwnnw mae’n anorfod bod rhaid tocio’n ffyrnig nes cyrraedd cyn agosed â phosibl at ryw hanfod. Mae’n rhaid gosod ffosiliau dogmatig y mythos ochr yn ochr â ffeithiau diymwad y logos a lle mae’r logos yn sefyll mae’n rhaid parchu hynny.

 Iesu?

Ond o fynd ati i docio, be ydyn ni’n debyg o’i ganfod yng nghraidd ein traddodiad? Rwy’n credu fod Iesu wedi bod. Nid wyf yn credu bod modd profi hynny gyda p-fawr, ond rwyf yn credu bod pobl wedi profi hynny gyda p-fach.

Gair bendigedig o amwys a chyfoethog yw ‘profi’. Mae ei amwysedd yn mynd at wraidd amwysedd ein ffydd ni a’i phroblemau hi y dyddiau hyn. Am y tro wna’i eu galw nhw’n profi-p-fawr a profi-p-fach.

Mae yna bedwar diffiniad yng Ngeiriadur y Brifysgol.

  1. Testio rhywbeth, rhoi rhywun ar ei brawf.
  2. Cael profiad o, gwybod trwy brofiad, dioddef, teimlo, synhwyro, canfod, gweld, cyffwrdd
  3. Blasu, bwyta, yfed.
  4. Dangos gwirionedd rhywbeth

Ddywedwn i mai dim ond yr olaf o’r pedwar sy’n profi-p-fawr a thri ohonyn nhw’n profi-p-fach.

‘Profwch o!’, yw’r gri, ac o’i brofi mae rhywbeth yn wir, nes ei fod yn cael ei wrthbrofi. Trefn resymol a rhesymegol na fyddwn i am ei newid. Profi-p-fawr.

Ein problem ni fel eglwys ers canrifoedd yw cael ein hunain i sefyllfa lle mae’r profi-p-fawr yn cael ei weld yn mynd benben â profi-p-fach. Dyw’r ddau ddim yn mynd benben. Maen nhw’n fathau gwahanol o gyrraedd at yr un nod.

Rwy’n credu mai rhan o’r prawf-p-fach hwnnw yw ein bod yn gweld effaith y fodolaeth honno dros y canrifoedd. Rwy’n credu bod Iesu wedi ei daflu fel carreg i lyn llonydd hanes a’n bod ni, hyd heddiw, yn profi’r tonnau mae’r garreg honno wedi ei gadael ar ei hôl. Diflannodd y garreg ond mae’r tonnau’n torri ar ein glannau ni dros gyfandiroedd byd a milenia amser.

Rhaid cydnabod bod elfennau megis ymerodraeth wedi hwyluso’r ymlediad hwnnw ond wrth graidd y neges mae’r person a’i hanes. Oni bai am ei ddilysrwydd o mae’r dewis o arwr (neu hyd yn oed wrth-arwr) i sefydlu mudiad o’i gwmpas yn un rhyfedd. A fyddai awduron ffuglen bropaganda yn dewis dychmygu arwr mor pathetig? Un a fu farw mewn modd mor anurddasol, wedi ei wawdio gan y tyrfaoedd ac hyd yn oed ei gefnogwyr ffyddlonaf wedi cefnu arno? Mae rhywun yn gwerthfawrogi myth y ‘brenin tlawd’ a ‘chadernid mewn gwendid’ ond heb fod â rhyw brofiad o’r Iesu hwn a fyddai dilynwyr cynnar y mudiad hwnnw wedi bod mor fodlon gosod eu hunain mewn lleiafrif peryglus o amhoblogaidd a marw dros arwr o’r fath pan oedd yna gymaint o ddewisiadau haws iddynt?

A bwrw bod y Testament Newydd wedi ei gyfansoddi dros ddegawdau ar ôl marw Iesu mae’n annhebygol y byddai hwn yn gymeriad y byddai unrhyw awdur nac awduron yn ei greu fel arwr i gynnull mudiad o’i gwmpas.

Yn yr un modd heb rym argyhoeddiad o’r gwir oedd yn hanesyddol agos mae’n annhebygol y byddai’r Iddewon hyn wedi cynnal y cof am Grist oddi fewn i’w traddodiad, cynnal ei stori yn a thrwy’r synagogau nes yn y diwedd bod traddodiad newydd, crefydd newydd, oedd hyd yn oed yn addoli ar ddiwrnod gwahanol, yn tyfu allan o’r traddodiad hwnnw.

Dyna’r ffeithiau, y logos hanesyddol, y tonnau sy’n torri ar ein glannau ni heddiw ers i garreg yr Iesu gael ei thaflu i mewn i’r llonyddwch.

Ond erys o leiaf dau gwestiwn ym meddwl y lleygwr yma. Beth os taw creadigaeth lenyddol yn unig, wedi ei greu i hyrwyddo achos cariad, gras a chyfiawnder, oedd Iesu? A yw hynny’n gwneud gwahaniaeth?

Ac os yw hynny’n wir ai peidio, beth mae hynny’n ddweud am dduw a’i fodolaeth?

Er fy mod, ar y cam hwn yn fy nhaith, yn credu ym modolaeth hanesyddol Iesu, mae’n rhaid cydnabod bod ein hadnabyddiaeth ohono yn greadigaeth fytholegol y dychymyg dynol (dyn yn llythrennol). O seilio ein byw a’n bod ar esiampl Iesu yn y Testament Newydd rydym yn seilio hynny ar blot, naratif a deialog a grëwyd ar ei gyfer gan nifer o awduron dros sawl degawd. Diflannodd y graig dan y dŵr, gadawyd ninnau’n darllen y tonnau. Mae’n rhaid i ni bwyso ar y fytholeg, a honno’n fytholeg sydd wedi gweu ei hun i mewn i ddefnydd hanfodol ein traddodiad diwylliannol, cymdeithasol a chyfreithiol dros y canrifoedd. Hon yw’r ffenest rydyn ni wedi ei hetifeddu ar y byd.

Ond o ddilyn y ddelwedd o Iesu y garreg yn cael ei thaflu i lyn llonydd hanes, a bwrw bod pob tystiolaeth o’i fodolaeth hanesyddol o wedi diflannu o dan y dŵr, onid oes rhaid holi pwy neu beth daflodd y garreg?

Duw?

Mae rheswm, mae’r logos, yn mynnu nad oes dim duw hollalluog yn eistedd ychydig uwchlaw’r cymylau yn edrych i lawr arnon ni. Wnaeth y duw hollalluog hwnnw erioed greu’r byd, felly doedd dim perffeithrwydd hanfodol, nac ychwaith unrhyw gwymp, dyw gwyrthiau ddim yn bosibl ac mae hynny’n cynnwys y geni gwyrthiol, ac yn yr un modd dyw codi’r meirw ddim yn bosibl.

Felly, os nad yw’n rhesymol credu mewn duw hollalluog na gwyrthiau goruwchnaturiol, beth mae’r Iesu hanesyddol/mytholegol yn ei ddweud wrthym am fodolaeth unrhyw fath o ddwyfoldeb?

Mae’n mynnu bod pobl wedi gweld rhinweddau anghyffredin y dyn hwn: ei gariad dieithriad, ei barodrwydd i estyn at yr ymylon a thros pob ffin gymdeithasol a gwleidyddol, ei barodrwydd i faddau, i dawelu’r dyfroedd a’u corddi, mewn modd ddychrynodd awdurdodau crefyddol ei oes. Gwelsant ei gariad a’i ddewrder a daethant i’r casgliad na allai hyn fod yn ddim ond mynegiant o’r dwyfol.

Hwn yw mantra’r Esgob Spong:

Rwy’n gweld Duw fel ffynhonnell bywyd sy’n ehangu fy ngallu i fyw; i fyw i’r eithaf.
Rwy’n gweld Duw fel Ffynhonnell Cariad sy’n fy rhyddhau i garu y tu hwnt i unrhyw rwystr; i garu’n afrad.
Rwy’n gweld Duw fel Sylfaen Bod sy’n rhoi’r dewrder i mi i fod y cyfan a alla’i fod.
Trwy fyw i’r eithaf rwy’n gwneud y Duw sy’n fywyd yn weladwy.
Trwy garu’n afrad rwy’n gwneud y Duw sy’n gariad yn weladwy.
Trwy fod y cyfan a alla’i fod rwy’n gwneud y Duw sy’n Sylfaen Bod yn weladwy.[11]

Mae’n prysuro, wrth gwrs, i fynnu nad cam tuag at greu credo neu ddogma yw’r mantra yma!

Nid dweud y mae o mai rhyw Dduw allanol sy’n creu bywyd ond mai Duw yw’r grym sy’n gyrru popeth i fynnu byw, pob anifail a phlanhigyn a pherson sydd dan yr amgylchiadau anoddaf un yn ymdrechu i’r eithaf i fyw. Iddo fo y grym hwnnw yw’r dwyfol. I fod yn driw i rym y dwyfoldeb hwnnw mae angen cariad a dewrder. Trwy wneud hynny rydym yn amlygu’r dwyfoldeb yn ein byw bob dydd.

Roedd Iesu’n amlygiad perffaith o’r dwyfoldeb hwnnw.

Os byddwn i am holi unrhyw un i fy nilyn i chwilio am y nodwydd Gristnogol honno yn y das wair fytholegol hanesyddol, yn y fan hyn fyddwn i’n cychwyn.

Ble ydw i ar fy map?

Felly ble ydw i wedi cyrraedd ar fy nhaith?

Nid wyf eto’n barod i gefnu ar draddodiad fy mam a nhad, er fy mod yn credu y byddaf yn dyst i’w derfyn.

Rwy’n cynhesu at y syniad o Gristnogaeth Cynnydd sy am weld cynnydd yn hytrach na chyni, ac sydd am wneud hynny trwy gynyddu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o arwyddocâd a gwirionedd y stori Gristnogol.

Nid wyf yn credu mewn Duw hollalluog, ond rwy’n dal i chwilio am ryw ddwyfoldeb.

Rwy’n credu yn Iesu (hanesyddol a/neu fytholegol) ac yn arwyddocâd ei ddysgeidiaeth a’r angen am ei ddysgeidiaeth heddiw yn fwy nac erioed.

Nid wyf yn siŵr sut mae hyn oll yn gorgyffwrdd.

Ac wrth gwrs rwy’n gwybod mai mynnu fy mod yn maddau fyddai Iesu!

Ble nesaf i’r traddodiad?

Os yw addoliad i ddatblygu mae’n rhaid i’r iaith a ddefnyddiwn fod yn onest a dealladwy. Mae’n rhaid clirio’r llwybrau o hen dyfiant. Allwn ni benderfynu gwneud hynny neu beidio. O wneud hynny, mae’r cwestiwn yn aros lle a sut fyddwn ni’n defnyddio’r eirfa honno? Ymysg ein gilydd wrth erchwyn gwely galar? Yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol? Ac os bydd y geiriau’n denu, i ble ac at be fyddan nhw’n denu? I hen gapeli ac eglwysi sy’n oer a chyntefig? Ia, efallai mai dyna’n union lle mae pobl am fynd. Ond efallai y byddan nhw’n chwilio am amrywiaeth o leoedd? Pa fath o leoedd fydd rheiny?

Ond nes bod y neges a’r iaith yn gyfoes a gonest fydd rheiny ddim yn gwestiynau y bydd rhaid i ni boeni amdanyn nhw.

Ond yna yn rhywle mae’r tyndra rhwng y daith bersonol a’n taith ni fel teulu. Mae fy ymchwil personol i yn un peth. Peth arall yw lle rwy’n gweld fy hun yn eistedd yn y teulu Cristnogol a sut rwy’n gweld fy hun yn cyfrannu at, ac yn dwyn nerth o fforwm ffydd yn y Gymru gyfoes.

 

Llechen lân neu flagur newydd?

Mae Llyfr Glas Nebo, nofel ysbrydol, ysgubol, Manon Steffan Ros, yn gosod yr her honno i ni. Mae’r bachgen ifanc yn y nofel ôl-apcalyptaidd honno yn darganfod y Testament Newydd am y tro cyntaf ac yn hoffi’r Iesu mae o’n ei ganfod. Dyna ochr gadarnhaol y geiniog. Ochr negyddol y geiniog yw mai ar ôl Y Terfyn niwclear, ar ôl glanhau’r llechen, ac yn wir ei chwalu’n rhacs, yn unig, mae modd mynd yn ôl at yr hanfodion.

Nid coeden Cristnogaeth yw’r unig ddehongliad o’r hanfodion hyn ond hwn yw’n dehongliad ni. Yn y traddodiad hwn y gwreiddiwyd ni. Hon yw’n ffenest ni ar y byd. Ac os yw’r ffenest honno wedi cracio ac hyd yn oed wedi chwalu i’r fath raddau nes ein bod yn agored i bob drycin, nid wyf eto yn barod iddi gau ar y goleuni.

[1] Elizabeth Wallace, Jesus Christ In His Own Words, (Xulon Press, 2009).

[2] Wolsey, Roger, Kissing Fish: Christianity for People Who Don’t Like Christianity, (Xlibris, Corp., 2011).

[3] Borg, Marcus, Evolution of the Word: Reading the New Testament in the Order it Was Written, (HarperOne, 2012).

[4] Spong, John Shelby, Biblical Literalism: A Gentile Heresy, (HarperOne, 2016), t. 3.

[5] Karen Armstrong, The Case For God (Vintage, 2009).

[6] Havel, Vaclav, ‘Gair am Eiriau’, O’r Pedwar Gwynt (Haf 2018), tt. 28-9.

[7] Harari, Yuval Noah, Homo Deus: A brief history of tomorrow (Vintage, 2017), tt. 171-3.

[8] Nid yw’r arbenigwyr yn gallu cytuno ar union darddiad y dyfydniad hwn.

[9] National Centre for Social Research, British Social Attitudes 35 (2017) http://www.natcen.ac.uk/media/1469605/BSA-religion.pdf , http://www.natcen.ac.uk/news-media/press-releases/2017/september/british-social-attitudes-record-number-of-brits-with-no-religion/

[10] John Shelby Spong, Unbelievable: Why Neither Ancient Creeds Nor the Reformation Can Produce a Living Faith Today (HarperOne, 2018).

[11] Spong, John Shelby, Unbelievable: Why Neither Ancient Creeds Nor the Reformation Can Produce a Living Faith Today, (HarperOne, 2018), t. 283.