Agora 13 (mis Mai, 2017)

Agorab

Cynnwys Agora mis Mai 2017

(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

  1. Golygyddol mis Mai               Enid R. Morgan
  2. Newyddion mis Mai
  3. Holi Tanni Grey-Thompson
  4. Cyflwyno Val Webb
  5. Ymaflyd yn y Testunau          Val Webb
  6. Trin Pobl Ddierth                    Jim Wallis
  7. Gwryw a Benyw                      Jane Aaron
  8. Gwaelod Pob Gofyn                Thomas Merton
  9. Dirnad y Drwg yn y Caws     Hefin Wyn
  10. Cam 7 yr A.A.                          Wynford Ellis Owen
  11. Byw ar yr Ymylon                   Margaret Le Grice

 

  • Golygyddol mis Mai 2017

    Golygyddol

    Ydych chi’n falch o’ch treftadaeth Gristnogol? Neu oes arnoch gywilydd fod hanes yr Eglwys yn gymysgwch mor enbyd o’r gogoneddus a’r creulon? Ydi’r gwydr yn hanner gwag neu’n hanner llawn? Ydi’r methiannau a’r ailadrodd brwydrau am rym a statws a dylanwad, y cecru am gredoau a’r parodrwydd i ladd i amddiffyn ein ‘Cristnogaeth ni’ yn ddigon i beri i ddylanwad ‘ffydd, gobaith a chariad’ ddiflannu?

    Ydych chi yn sgil hynny’n edrych i’r dyfodol o gwbl? Ac os ydych chi, ydych chi’n byw yn ...

    Rhagor
  • Cyflwyno Dr Val Webb

    Cyflwyno Dr Val Webb

    Testing Tradition and Liberating Theology yw teitl cyfrol ddiweddaraf Dr Val Webb, sy’n annerch Cristnogaeth 21 ar 20 Mai yn yr Efail Isaf. Mae hi’n enw newydd i fyd yr eglwysi yng Nghymru, ond dyma lais nodweddiadol o’r Gristnogaeth agored, ymchwilgar rydyn ni’n ceisio’i meithrin yng ngwefan C21 ac yn Agora. Wrth ddisgrifio cynhadledd y bu hi’n siarad ynddi yn Awstralia, dywedodd fod mudiadau Progressive Christianity ar draws y byd yn ceisio ...

    Rhagor
  • Ymaflyd yn y Testunau

    Ymaflyd yn y Testunau

    Dr Val Webb

    Rwy’n siŵr fod gan bob un ohonom ni o leiaf un adnod o’r Beibl y byddai’n well gyda ni petai hi heb ei chynnwys yn y canon. Daeth cynifer o adnodau i lawr drwy’r oesoedd, wedi’u chwyddo trwy gyfieithiadau, golygiadau a gwelliannau, sydd wedi bod yn sail i bob mathau o athrawiaethau. Yr un y byddai’n well gen i petai hi erioed wedi’i chynnwys yw Ioan 14:6: ‘Dywedodd Iesu wrtho, “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid ...

    Rhagor
  • Gwryw a Benyw

    Gwryw a Benyw

     Jane Aaron

    ‘Be sy’r mater ar bobol na ddarllenan nhw’u Beibla’n iawn?’ gofynnai hen wraig yn nofel Gwyneth Vaughan (Annie Harriet Hughes, 1852–1910), Plant y Gorthrwm (1908). 

    Iddi hi, ‘faint bynnag o anrhydedd ma’r hen fyd yma’n rhoi i ddynion, a dydi’r cwbl ddim ond y trecha treisied, a’r gwana’ gwaedded ran hynny, mae’r Beibl wedi rhoi mwy o’r hanner arnom ni’ – hynny yw, ar fenywod.

     

    Mae’n amddiffyn eu hachos trwy gyfeirio’n fanwl at hanes Deborah ...

    Rhagor
  • Y Seithfed Cam

    Parhad gyda’r

    Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

    Wynford Ellis Owen,
    Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

    Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut ...

    Rhagor
  • Gwaelod Pob Gofyn, Pwy Wyf Fi?

    Gwaelod Pob Gofyn, Pwy Wyf Fi?

    Thomas Merton

     Ynghanol ein bod mae ’na bwynt diddymdra sydd heb ei gyffwrdd gan na pechod na ffugio, pwynt o wirionedd pur, pwynt neu sbarc sy’n gwbl eiddo i Dduw, na allwn ni byth ei ddefnyddio; trwy hwn y mae Duw’n defnyddio ein bywydau; ni ellir ei gyrraedd gan ffantasïau ein meddyliau na chreulonderau ein hewyllys ni ein hunain. Y pwynt diddymdra hwn o dlodi llwyr yw gogoniant pur Duw ynom ni. Hwn, fel petai, yw ...

    Rhagor
  • Newyddion mis MaI 2017

    Newyddion

    Pan ddêl Mai…

    Gwobr Templeton

    Aeth y wobr hon eleni (gwerth £1.miliwn) i’r Americanwr Alvin Plantinga. Mae’n wobr i hyrwyddo’r berthynas rhwng Cristnogaeth a Gwyddonaieth/Astudiaethau Academaidd. Athronydd academaidd yw Plantinga ac yn Gristion sydd yn enwog am ei waith yn hyrwyddo’r ddeialog mewn ffordd rymus a gonest rhwng Cristnogaeth â’r cwestiwn o ddrygioni a dioddefaint.

    Dywedir fod ei waith dros y blynyddoedd (y mae’n 84 oed) wedi ‘dod â Duw yn ôl i astudiaeth athronyddol’ a’i fod hefyd ‘yn ehangu y meddwl efengylaidd ‘.

    Rhagor

  • Holi Tanni Grey-Thompson

    Holi Tanni Grey-Thompson

      

    Ganwyd Tanni Grey-Thompson yng Nghaerdydd yn 1969. Nid oes angen rhestru ei medalau yn y Gemau Paralympaidd (12 i gyd) ac iddi ennill gwobr y BBC, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn deirgwaith. Yn 2009 cafodd ei derbyn i’r Orsedd ac mae yn Nhŷ’r Arglwyddi er 2010. Mae wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan 16 o brifysgolion. Dyma ddetholiad o gyfweliad gyda Brian Dapper a ymddangosodd yn wreiddiol yn y cylchgrawn Third Way. (Gweler yr ...

    Rhagor
  • Trin Pobl Ddierth

    Trin Pobl Ddierth

    I Gristnogion ym Mathew 25, mae Iesu’n ei gwneud yn eglur mai’r ffordd rydyn ni’n trin ‘y dieithryn’ neu’r ‘estron’ yn ein plith yw’r ffordd yr ydyn ni’n ei drin Ef. Mae’r estron/dieithryn yn golygu mewnfudwyr a ffoaduriaid, dinasyddion o genhedloedd eraill sy’n byw ac yn teithio yn ein plith. Mae’n fater o ffydd i ni, Gristnogion. Mae gorchymyn Donald Trump …  yn gwrthdaro â’n ffydd Gristnogol ac fe wnawn ei wrthwynebu fel mater o ffydd.

    (Jim ...

    Rhagor
  • Dirnad y drwg yn y caws

    Dirnad y drwg yn y caws

    Hefin Wyn

    Ymgasglodd criw ohonom ym maes parcio Castell Caeriw. Cyfarchwyd gwell o bell wrth i bawb wisgo eu sanau a’u sgidie cerdded yn ymyl eu cerbydau. Er bod yr haul yn gwenu roedd angen y dillad trwchus arferol ar gyfer cerdded; capanau a menig, ac enllyn a diodydd yn gynhaliaeth. Roedd yr awel yn fain a’r oerfel yn cydio ...

    Rhagor
  • Byw ar yr Ymylon

    Byw ar yr Ymylon

    Margaret Le Grice

    Roedd Iesu yn brysur. Yn brysur iawn. Teithiodd ar hyd a lled ei wlad fechan. Cwrddodd â bob math o bobl – y bobl gyffredin, yr arweinwyr crefyddol a gwleidyddol, milwyr Rhufeinig, y tlodion a’r cyfoethogion, plant bach, menywod a dynion. Yn aml, dihangai i leoedd ar wahân, i weddïo, ac i gael nerth ac arweiniad. Ond treuliai’r rhan fwyaf o’i fywyd ymhlith pobl – llawer ohonyn nhw. Roedd yn brysur, wrth iacháu, pregethu, dysgu, dadlau.

    Rhagor