Newyddion mis MaI 2017

Newyddion

Pan ddêl Mai…

Gwobr Templeton

Aeth y wobr hon eleni (gwerth £1.miliwn) i’r Americanwr Alvin Plantinga. Mae’n wobr i hyrwyddo’r berthynas rhwng Cristnogaeth a Gwyddonaieth/Astudiaethau Academaidd. Athronydd academaidd yw Plantinga ac yn Gristion sydd yn enwog am ei waith yn hyrwyddo’r ddeialog mewn ffordd rymus a gonest rhwng Cristnogaeth â’r cwestiwn o ddrygioni a dioddefaint.

Alvin Plantinga

Dywedir fod ei waith dros y blynyddoedd (y mae’n 84 oed) wedi ‘dod â Duw yn ôl i astudiaeth athronyddol’ a’i fod hefyd ‘yn ehangu y meddwl efengylaidd ‘.

Y mae ef ei hun wedi ysgrifennu yn helaeth am ddadleuon dros fodolaeth Duw a’r dadleuon am le ewyllys rhydd mewn Cristnogaeth. Fe fydd yn derbyn ei wobr yn Chicago ym mis Medi.

Arweiniad yr Eglwysi Uniongred

Mae arweiniad a dylanwad yr Eglwysi Uniongred yn allweddol, nid yn unig yn y Dwyrain Canol, ond yn nhystiolaeth ecwmenaidd fyd eang yr eglwys. Dyna pam fod anerchiad  y Patriarch Ecwmenaidd Bartholomeus I yn allweddol yn y Gynhadledd Heddwch Rhyngwladol a gynhaliwyd yn Al-Azhar, Yr Aifft, dros y dyddiau diwethaf. Yng nghysgod y trais erchyll a laddodd dros 50 o bobl mewn dwy eglwys ar Sul y Blodau, soniodd Bartholomeus am le canolog crefydd mewn unrhyw broses heddwch: “Fe all crefydd rannu a chreu gwrthdaro a thrais,” meddai. “ond dyma , yn wir, ei methiant, nid ei hanfod, sef gwarchod urddas dynol a heddwch byd eang. Mae deialog rhyng-grefyddau yn hyrwyddo heddwch, nid drwy ofyn i neb droi cefn ar unrhyw ffydd, ond inewid meddwl ac agwedd tuag at eraill.”

Hwn oedd yr ail gyfarfod erioed rhwng y Cyngor Mwslemaidd a chynrychiolwyr o Gyngor Eglwysi’r Byd yn y Dwyrain Canol ac mae cynnal y ddeialog hon yn llawer pwysicach yn hanes yr eglwys a’i chenhadaeth y dyddiau hyn, nag y mae eglwysi a Christnogion Cymru yn ei sylweddoli na’i ddeall.

 Mrs. Osborne yn Esgob Llandaf!

Ar ôl yr anghytuno (honedig) ynglŷn â dewis Cymro Cymraeg sy’n hoyw, roedd y cyhoeddiad mai June Osborne, Deon Eglwys Gadeiriol Caersallog, di-Gymraeg ac o Loegr – ond ei gŵr â chysylltiadau â Chaerdydd –  fyddai Esgob nesaf Llandaf, yn un diddorol ac arwyddocaol. Mae’n arwyddocaol, nid yn unig am  mai dyma’r ail ferch i’w dewis yn esgob yng Nghymru, ond fod merch wedi ei hethol mewn esgobaeth sydd â thraddodiad Anglo Catholig ac a fyddai felly yn erbyn ordeinio merched yn offeiriaid, heb sôn am esgob. Wrth ei chroesawu dywedodd John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu (a’r ffefryn, i fod yn Archesgob Cymru) fod gan June Osborne y cymwysterau pwysicaf i fod yn esgob, ‘clear vision, a pastoral heart and a strategic mind’. Yr ydym yn dymuno yn dda iddi hi a’r esgobaeth.

Hanesyddol yn wir!

Erbyn hyn y mae’r rhaglen wedi ei chyhoeddi gan Gymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd ( WCRC – World Communion of Reformed Churches ) sydd yn neilltuo 2017 i gofio dechrau’r Diwygiad Protestannaidd pan hoeliodd Luther ei ddatganiadau ar ddrws yr eglwys yn Wittenberg. Cynhelir cynhadledd flynyddol WCRC yn Leipzig a Wittenberg rhwng  Mehefin 29 a Gorffennaf 7.  

Fe fydd dau ddatganiad hanesyddol yn cael ei arwyddo. Un fydd datganiad ar y cyd gan yr Eglwysi Brotestanaidd a’r Eglwys Gatholig Rufeinig, sydd wedi ei drafod ers 1999,  fydd yn ddadleuol a hanesyddol, ac yn datgan ‘ ein dealltwriaeth cyffredin (‘common understanding’ yw’r cymal yn Saesneg) o’n cyfiawnhau  trwy ras Duw a’n ffydd yng Nghrist’. Y pwyslais wrth gofio y rhwyg a ddechreuodd yn 1517, yw dathlu undod yng Nghrist.

Eto fyth

Er bod ystadegau, ffeithiau a thueddiadau yn lleng ac yn fwrn erbyn hyn, mae’n amhosibl i’r eglwys beidio cymryd sylw ohonynt. Fe fyddai eu hanwybyddu yn ffolineb,  ond rhaid eu dehongli fel arweiniad i’r dyfodol, nid i hiraethu am ddoe, nac i ddigalonni am heddiw.

Peter Brierley: Arbenigwr ar holiaduron

Dyna oedd neges Llywydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban mewn ymateb i’r adroddiad gan Peter Brierley (arbenigwr ar holiaduron) yn datgelu mai 7.2% o boblogaeth yr Alban sydd bellach yn addolwyr a bod y niferoedd wedi haneru mewn 30 mlynedd. O’r 7.2% , mae 4 o bob 5 yn addoli yn wythnosol. Mae 32% yn perthyn i’r Eglwys Gatholig Rhufeinig. Mae 45% dros  65 oed.

Mewn adroddiad arall yn 2016 roedd 52% o boblogaeth yr Alban yn dweud nad oeddynt yn ‘grefyddwyr’ (o gymharu â 40% yn 1999)  a thra bod 35% o boblogaeth yr Alban â chysylltiad ag Eglwys yr Alban yn 1999 y mae’r cyfartaledd yn 20% erbyn hyn.

Gweddi’r Arglwydd

Diddorol oedd yr ymateb i ddeiseb gan y ddwy ddisgybl o Gaerdydd yn galw ar ddod â’r arfer o gydadrodd Gweddi’r Arglwydd mewn gwasanaethau ysgol i ben. Rhoddwyd cryn sylw i safbwynt Rhiannon Shipton a Lily McAllister-Sutton ar y cyfryngau Cymraeg, a hwythau’n dadlau na ddylid gorfodi disgyblion sydd ddim yn Gristnogion i arddel y weddi. Cafwyd datganiad gan bennaeth Ysgol Uwchradd Glantaf yn canmol y merched am sefyll dros eu hegwyddorion drwy wyntyllu’r mater hwn, ond yn pwysleisio fod cynnal gwasanaeth yn ofynnol dan ddeddf gwlad.

Wrth ymateb i’r ddadl ar wefan Golwg 360, dadleuodd un cyfrannwr fod “llais y disgybl” yn cael gormod o sylw erbyn hyn, tra gofynnodd rhywun arall yn ddigon pryfoclyd tybed faint o ddisgyblion yr ysgol dan sylw a wrthododd wyliau’r Pasg eleni? 

Pwysleisiodd gohebydd y BBC yn ei adroddiad mai tua 500 o enwau oedd ar y ddeiseb ar y pryd, ond bod angen 5,000 cyn i’r Cynulliad gymryd sylw.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.