Archifau Categori: Agora 13

Golygyddol mis Mai 2017

Golygyddol

Ydych chi’n falch o’ch treftadaeth Gristnogol? Neu oes arnoch gywilydd fod hanes yr Eglwys yn gymysgwch mor enbyd o’r gogoneddus a’r creulon? Ydi’r gwydr yn hanner gwag neu’n hanner llawn? Ydi’r methiannau a’r ailadrodd brwydrau am rym a statws a dylanwad, y cecru am gredoau a’r parodrwydd i ladd i amddiffyn ein ‘Cristnogaeth ni’ yn ddigon i beri i ddylanwad ‘ffydd, gobaith a chariad’ ddiflannu?

John Cleese

Ydych chi yn sgil hynny’n edrych i’r dyfodol o gwbl? Ac os ydych chi, ydych chi’n byw yn ofnus neu’n obeithiol?

“Galla i ddod i ben ag anobaith,” meddai John Cleese yn y film Clock, “gobaith sy’n annioddefol!”

Mewn argyfyngau personol wrth wynebu dyfodol annhebyg i ddim y cawsom brofiad ohono, dyna eiriau y gallwn ni i gyd eu hailadrodd gan gydnabod mor boenus yw byw mewn ansicrwydd ac ofn pan fo pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol yn dymchwel a diflannu.

O feddwl am yr amrywiaeth rhyfeddol sy’n nodweddu’r ‘teulu’ cwerylgar Cristnogol, mae lle i falchder a chywilydd. Y mater yr hoffwn i ddarllenwyr Agora ei ystyried yw pa nodweddion sy’n gyffredin ac yn sylfaenol mewn cymunedau sy’n edrych yn eitha gwahanol i’w gilydd ar yr wyneb.

Rydyn ni’n dueddol o edrych ar bethau sy’n peri i ni edrych yn wahanol i’n gilydd. Gwelwn eiconau Eglwys Uniongred y Dwyrain, gwisgoedd amryliw ac awdurdod y Pab yn Eglwys Rufain, Llyfr Gweddi’r Anglicaniaid, trefniadaeth fanwl y Methodistiaid, emynau a gweddi rydd yr eglwysi ymneilltuol, breichiau dyrchafedig y Pentecostaliaid, llymder ac arwahanrwydd rhai traddodiadau diwygiedig.

Lluniwch chi eich rhestr eich hun o’r pethau allanol hynny sydd, yn eich tyb chi, yn ‘nodweddiadol’ o draddodiadau eglwysig gwahanol – a gwnewch eich gorau i beidio â bod yn rhagfarnllyd!

Ein harfer cyffredin, a’r arfer a gynhyrchodd gweryla, yw diffinio’r traddodiadau yn ôl  credoau, a gellir pwysleisio’r hyn a gredir neu y gwrthodir ei gredu gan y gwahanol draddoddiadau. Yn America mae’r duedd ymhlith Protestaniaid i wahanu oddi wrth ei gilydd (fel a welwyd yn Ewrop) wedi mynd i’r eithaf. Gwyddom yng Nghymru am gapeli split nad oedd yn gynnyrch athrawiaeth na diwylliant ond yn ffrwyth gwrthdaro rhwng unigolion, balchder ac annioddefgarwch. Mae uchel ac isel eglwyswyr yn garfanau amlwg. Yn Eglwys Rufain mae urddau a chymdeithasau sy’n ddrwgdybus a beirniadol iawn o’i gilydd, fel y Dominiciaid, yr Iesuwyr a’r Ffransisciaid. Yn yr Eglwysi Dwyreiniol Uniongred mae’r gwrthdaro rhwng diwylliannau ethnig a chyfundrefnau. Rywsut y mae ymdrechion i greu cymdeithas Gristnogol gyflawn a pherffaith yn dwyn ffrwyth mewn hunangyfiawnder a drwgdybiaeth. Y feirniadaeth lymaf a glywais ar gapel erioed oedd gan ŵr ifanc oedd yn trefnu angladd deuluol. Pan ofynnais iddo, “Ydych chi’n mynd i’r cwrdd, Dai?”, ei ateb oedd “Nag ydw i, rwy’n gwybod shwd rai ydyn nhw!” Gwir y ceir ambell eglwys blwyf docsig ei chynulleidfa hefyd. A chaniatáu fod dogn go lew o hunangyfiawnder ieuenctid yn yr ateb, rhaid cydnabod yr ergyd. Dyma un rheswm cwbl gyfiawn dros ddiflaniad y genhedlaeth ifanc o’u cefndir Cristnogol. Leslie Newbiggin a fynnai mai ‘Bywyd y cynulliad lleol yw’r dehongliad gorau ar yr Ysgrythur’.

Dim ond unwaith erioed yr awgymwyd i mi fy mod yn mynd i wasanaeth i sicrhau bod y bregeth yn uniongred a chymeradwy. Efallai mai cellwair oedd yr holwr.

Y gair sy’n hofran yn y meddwl yw ‘carreg sylfaen’, neu sylfeini. Pa sylfeini sy’n nodweddu cymuned o Gristnogion? Pan ddiystyrwch chi ddiwylliant ac iaith, ac arferion a chredoau enwadol, a threfniadau eglwysig, beth sy’n gwneud Cristnogion yn debyg i’w gilydd? Beth sy’n nodweddiadol ohonom ni, ddilynwyr Iesu?

Yn America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y dechreuwyd defnyddio’r ymadrodd ‘fundamentals’ i ddynodi beth oedd yn angenrheidiol i Gristnogion go iawn eu credu. Roedd y feirniadaeth hanesyddol ar yr Ysgrythurau, a ddeilliodd o’r Almaen yn bennaf, wedi creu  gwrthwynebiad ceidwadol enbyd a arweiniodd at yr hollt ddofn sy’n dal i nodweddu bywyd cyhoeddus UDA.

Mae’n ddiddorol edrych ar y sylfeini hyn. Dyma nhw:

  • anffaeledigrwydd y Gair (inerrancy)
  • ailddyfodiad Crist
  • y Geni Gwyrthiol
  • yr Atgyfodiad (yn y cnawd )
  • yr Iawn (aberth dirprwyol y groes).

I rai sy’n gyfarwydd â’r arfer o adrodd ‘Credo’ ffurfiol, mae’n rhestr reit od ac eitha dethol – fel petai wedi’i llunio’n benodol i gau allan bawb ond y mwyaf ceidwadol a ‘goruwchnaturiol’ eu pwyslais.

Brian McLaren

Yn llyfr diweddaraf Brian McLaren, The Migration, ceir mynegiant o’i hiraeth am yr hyn mae’n ei alw’n ‘ffordd well o fod yn Gristnogion’. Mae McLaren yn nodweddiadol Americanaidd yn ei hyder y gellir dechrau eto heb syrthio i’r un gyflafan ag sydd wedi nodweddu dechreuadau newydd y gorffennol. Ond mae’n awgrymu ein bod ni’n mentro holi beth yw nodweddion byw Cristnogol dilys pan dynnir ymaith y credoau, y cysyniadau a’r gwisgoedd diwylliannol rydym yn eu caru cymaint.

Mae’r ateb yn llythyrau Paul pan yw’n sôn am ‘ffrwythau’r Ysbryd’. Yn yr epistol at y Galatiaid dyma nhw: “Cariad, llawenydd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth”. Dyna’r meini prawf ar ein bywydau os ydyn ni am ddilyn Crist. Yn rhy aml ac yn draddodiadol, y pethau sy’n dod flaenaf  yw beth rydyn ni’n ei gredu am Iesu, nid sut rydyn ni’n ymdrechu i fod yn debyg iddo. Yn lle defnyddio’r term ‘credinwyr’, gallai wneud lles i ni ddisgrifio’n hunain fel disgyblion, neu ddilynwyr Iesu a ddywedodd mai wrth eu ffrwythau yr adnabyddir y gwahaniaeth rhwng ffigys ac ysgall, rhwng ŷd ac efrau. Wrth fyw yn nhymor y Pasg a disgwyl y Pentecost, a’r dewrder ysbrydoledig a nodweddai’r eglwys fore, y cwestiwn o hyd yw: “A fydd byw yr esgyrn hyn?”

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Newyddion mis MaI 2017

Newyddion

Pan ddêl Mai…

Gwobr Templeton

Aeth y wobr hon eleni (gwerth £1.miliwn) i’r Americanwr Alvin Plantinga. Mae’n wobr i hyrwyddo’r berthynas rhwng Cristnogaeth a Gwyddonaieth/Astudiaethau Academaidd. Athronydd academaidd yw Plantinga ac yn Gristion sydd yn enwog am ei waith yn hyrwyddo’r ddeialog mewn ffordd rymus a gonest rhwng Cristnogaeth â’r cwestiwn o ddrygioni a dioddefaint.

Alvin Plantinga

Dywedir fod ei waith dros y blynyddoedd (y mae’n 84 oed) wedi ‘dod â Duw yn ôl i astudiaeth athronyddol’ a’i fod hefyd ‘yn ehangu y meddwl efengylaidd ‘.

Y mae ef ei hun wedi ysgrifennu yn helaeth am ddadleuon dros fodolaeth Duw a’r dadleuon am le ewyllys rhydd mewn Cristnogaeth. Fe fydd yn derbyn ei wobr yn Chicago ym mis Medi.

Arweiniad yr Eglwysi Uniongred

Mae arweiniad a dylanwad yr Eglwysi Uniongred yn allweddol, nid yn unig yn y Dwyrain Canol, ond yn nhystiolaeth ecwmenaidd fyd eang yr eglwys. Dyna pam fod anerchiad  y Patriarch Ecwmenaidd Bartholomeus I yn allweddol yn y Gynhadledd Heddwch Rhyngwladol a gynhaliwyd yn Al-Azhar, Yr Aifft, dros y dyddiau diwethaf. Yng nghysgod y trais erchyll a laddodd dros 50 o bobl mewn dwy eglwys ar Sul y Blodau, soniodd Bartholomeus am le canolog crefydd mewn unrhyw broses heddwch: “Fe all crefydd rannu a chreu gwrthdaro a thrais,” meddai. “ond dyma , yn wir, ei methiant, nid ei hanfod, sef gwarchod urddas dynol a heddwch byd eang. Mae deialog rhyng-grefyddau yn hyrwyddo heddwch, nid drwy ofyn i neb droi cefn ar unrhyw ffydd, ond inewid meddwl ac agwedd tuag at eraill.”

Hwn oedd yr ail gyfarfod erioed rhwng y Cyngor Mwslemaidd a chynrychiolwyr o Gyngor Eglwysi’r Byd yn y Dwyrain Canol ac mae cynnal y ddeialog hon yn llawer pwysicach yn hanes yr eglwys a’i chenhadaeth y dyddiau hyn, nag y mae eglwysi a Christnogion Cymru yn ei sylweddoli na’i ddeall.

 Mrs. Osborne yn Esgob Llandaf!

Ar ôl yr anghytuno (honedig) ynglŷn â dewis Cymro Cymraeg sy’n hoyw, roedd y cyhoeddiad mai June Osborne, Deon Eglwys Gadeiriol Caersallog, di-Gymraeg ac o Loegr – ond ei gŵr â chysylltiadau â Chaerdydd –  fyddai Esgob nesaf Llandaf, yn un diddorol ac arwyddocaol. Mae’n arwyddocaol, nid yn unig am  mai dyma’r ail ferch i’w dewis yn esgob yng Nghymru, ond fod merch wedi ei hethol mewn esgobaeth sydd â thraddodiad Anglo Catholig ac a fyddai felly yn erbyn ordeinio merched yn offeiriaid, heb sôn am esgob. Wrth ei chroesawu dywedodd John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu (a’r ffefryn, i fod yn Archesgob Cymru) fod gan June Osborne y cymwysterau pwysicaf i fod yn esgob, ‘clear vision, a pastoral heart and a strategic mind’. Yr ydym yn dymuno yn dda iddi hi a’r esgobaeth.

Hanesyddol yn wir!

Erbyn hyn y mae’r rhaglen wedi ei chyhoeddi gan Gymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd ( WCRC – World Communion of Reformed Churches ) sydd yn neilltuo 2017 i gofio dechrau’r Diwygiad Protestannaidd pan hoeliodd Luther ei ddatganiadau ar ddrws yr eglwys yn Wittenberg. Cynhelir cynhadledd flynyddol WCRC yn Leipzig a Wittenberg rhwng  Mehefin 29 a Gorffennaf 7.  

Fe fydd dau ddatganiad hanesyddol yn cael ei arwyddo. Un fydd datganiad ar y cyd gan yr Eglwysi Brotestanaidd a’r Eglwys Gatholig Rufeinig, sydd wedi ei drafod ers 1999,  fydd yn ddadleuol a hanesyddol, ac yn datgan ‘ ein dealltwriaeth cyffredin (‘common understanding’ yw’r cymal yn Saesneg) o’n cyfiawnhau  trwy ras Duw a’n ffydd yng Nghrist’. Y pwyslais wrth gofio y rhwyg a ddechreuodd yn 1517, yw dathlu undod yng Nghrist.

Eto fyth

Er bod ystadegau, ffeithiau a thueddiadau yn lleng ac yn fwrn erbyn hyn, mae’n amhosibl i’r eglwys beidio cymryd sylw ohonynt. Fe fyddai eu hanwybyddu yn ffolineb,  ond rhaid eu dehongli fel arweiniad i’r dyfodol, nid i hiraethu am ddoe, nac i ddigalonni am heddiw.

Peter Brierley: Arbenigwr ar holiaduron

Dyna oedd neges Llywydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban mewn ymateb i’r adroddiad gan Peter Brierley (arbenigwr ar holiaduron) yn datgelu mai 7.2% o boblogaeth yr Alban sydd bellach yn addolwyr a bod y niferoedd wedi haneru mewn 30 mlynedd. O’r 7.2% , mae 4 o bob 5 yn addoli yn wythnosol. Mae 32% yn perthyn i’r Eglwys Gatholig Rhufeinig. Mae 45% dros  65 oed.

Mewn adroddiad arall yn 2016 roedd 52% o boblogaeth yr Alban yn dweud nad oeddynt yn ‘grefyddwyr’ (o gymharu â 40% yn 1999)  a thra bod 35% o boblogaeth yr Alban â chysylltiad ag Eglwys yr Alban yn 1999 y mae’r cyfartaledd yn 20% erbyn hyn.

Gweddi’r Arglwydd

Diddorol oedd yr ymateb i ddeiseb gan y ddwy ddisgybl o Gaerdydd yn galw ar ddod â’r arfer o gydadrodd Gweddi’r Arglwydd mewn gwasanaethau ysgol i ben. Rhoddwyd cryn sylw i safbwynt Rhiannon Shipton a Lily McAllister-Sutton ar y cyfryngau Cymraeg, a hwythau’n dadlau na ddylid gorfodi disgyblion sydd ddim yn Gristnogion i arddel y weddi. Cafwyd datganiad gan bennaeth Ysgol Uwchradd Glantaf yn canmol y merched am sefyll dros eu hegwyddorion drwy wyntyllu’r mater hwn, ond yn pwysleisio fod cynnal gwasanaeth yn ofynnol dan ddeddf gwlad.

Wrth ymateb i’r ddadl ar wefan Golwg 360, dadleuodd un cyfrannwr fod “llais y disgybl” yn cael gormod o sylw erbyn hyn, tra gofynnodd rhywun arall yn ddigon pryfoclyd tybed faint o ddisgyblion yr ysgol dan sylw a wrthododd wyliau’r Pasg eleni? 

Pwysleisiodd gohebydd y BBC yn ei adroddiad mai tua 500 o enwau oedd ar y ddeiseb ar y pryd, ond bod angen 5,000 cyn i’r Cynulliad gymryd sylw.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

Cyflwyno Dr Val Webb

Cyflwyno Dr Val Webb

Testing Tradition and Liberating Theology yw teitl cyfrol ddiweddaraf Dr Val Webb, sy’n annerch Cristnogaeth 21 ar 20 Mai yn yr Efail Isaf. Mae hi’n enw newydd i fyd yr eglwysi yng Nghymru, ond dyma lais nodweddiadol o’r Gristnogaeth agored, ymchwilgar rydyn ni’n ceisio’i meithrin yng ngwefan C21 ac yn Agora. Wrth ddisgrifio cynhadledd y bu hi’n siarad ynddi yn Awstralia, dywedodd fod mudiadau Progressive Christianity ar draws y byd yn ceisio ‘ymateb i bobl sy’n gofyn cwestiynau treiddgar am athrawiaethau’r eglwys a thraddodiad yng ngoleuni gwybodaeth gyfoes a phrofiad’.

Testing Tradition and Liberating Theology

Gwraig a aned ac a fagwyd yn Awstralia yw Val Webb, ond fe dreuliodd 30 mlynedd yn yr Unol Daleithiau. Mae ei chartre bellach ’nôl yn Awstralia. Roedd ei gradd sylfaenol mewn microbioleg a’i doethuriaeth mewn diwinyddiaeth. Yn yr 80au bu’n gweithio i’r Eglwys Unol yn Awstralia ac eleni mae hi ar daith ddarlithio ym Mhrydain. Cyhoeddodd 11 o gyfrolau ac mae’r teitlau’n unig yn ddiddorol.

Rydyn ni’n falch o fedru cyhoeddi cyfieithiad o erthygl ganddi yn yr adran nesaf (YMA) sy’n dangos ei ffordd hi o feddwl ac ymateb i faterion ffydd, ac ymateb y meddwl cyfoes i’r traddodiad a’r testunau. Dewch i wando arni yn yr Efail Isaf ar Fai 20ed.

Bydd croeso iddi hi ac i chithau.

 

CLICIWCH YMA I WELD Y RHAGLEN YN GLIRIACH

 

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Holi Tanni Grey-Thompson

Holi Tanni Grey-Thompson

  

Ganwyd Tanni Grey-Thompson yng Nghaerdydd yn 1969. Nid oes angen rhestru ei medalau yn y Gemau Paralympaidd (12 i gyd) ac iddi ennill gwobr y BBC, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn deirgwaith. Yn 2009 cafodd ei derbyn i’r Orsedd ac mae yn Nhŷ’r Arglwyddi er 2010. Mae wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan 16 o brifysgolion. Dyma ddetholiad o gyfweliad gyda Brian Dapper a ymddangosodd yn wreiddiol yn y cylchgrawn Third Way. (Gweler yr ôl-nodyn ar y diwedd)

Yn eich hunangofiant, Seize the Day (Hodder & Stoughton), yr ydych yn dweud,I mi, nid mater o goncro anawsterau yw anabledd ac mae’n anodd gweld fy hun fel “role model”.’ Ond i mi mae darllen am y ffon ddur a roddwyd yn eich cefn yn golygu gorchfygu anawsterau a dyna pam y mae athletwyr paralympaidd yn arwyr i gymaint ohonom. A wyf yn anghywir yn meddwl felly?

Nac ydych. Mae nifer wedi cael anawsterau mawr iawn. Ond fe’m magwyd mewn teulu dosbarth canol cyfforddus, y tad yn bensaer â chyflog da, mam lawnamser a chwaer hynaf ardderchog. Cefais rieni cefnogol iawn ac addysg dda; roedd gennym ddau gar a chawsom wyliau ardderchog – doedd dim anawsterau mawr. A doedd dim anawsterau na chaledi am fy mod yn athletwraig ac angen ymarfer yn galed a bod hynny wedi digwydd. Nid yw’r rhan fwyaf o athletwyr yn llwyddo i fynd i’r gemau ond fe lwyddais i nid yn unig i fynd i un, ond i bump – bûm yn ffodus iawn! Roeddwn yn digwydd bod mewn cadair olwyn ond doedd dim rhwystrau yn hynny. Pan mae pobl yn dod ataf ac yn dweud, ‘Waw, sut ydych yn llwyddo mewn cadair olwyn?’, does yr un rhan ohonof yn meddwl, ‘Biti na fuaswn yn medru cerdded.’ Ni fyddai cerdded yn rhoi dim imi nad ydwyf yn ei gael yn barod heddiw. Nid yw methu cerdded wedi fy rhwystro rhag gwneud dim rydwyf wedi bod eisiau ei wneud nac am ei wneud. Petawn eisiau neidio parasiwt, neu blymio sgwba, fe allwn wneud hynny. Cofiwch, mae’n niwsans weithiau pan mae’n tywallt y glaw ac mae’n cymryd mwy o amser i fynd i’r car! Roedd yn waeth pan oeddwn yn iau – ‘Mae’n wych yr hyn rydych yn ei wneud!’… ‘Rydych chi mor ddewr!’ Ac nid yw hynny’n wir. Fy mai i oedd fod y ffon ddur yn fy nghefn wedi torri unwaith. A does gen i ddim dewis, mae’n rhaid ei chael … a dyna fo.

Sut fagwrfa gawsoch chi?

Cefais rieni rhyfeddol. Ganwyd fi yn spina bifida, ond ni chefais fy ngwarchod efo cotton wool ac nid oeddynt am i neb arall fy nhrin yn wahanol. Roeddynt wastad yn dweud nad oeddynt wedi gwneud job dda o gael plant – fy chwaer hynaf â chalon wan a dislocated hips … a minnau! Ond doedd hynny ddim yn eu dal yn ôl. Eu hagwedd oedd: ‘Dowch yn eich blaen … peidiwch â llusgo … os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth, yna – gwnewch!’

Fe wnaeth hynny wahaniaeth mawr i’m bywyd mewn cyfnod pan oedd pobl anabl fwy neu lai yn cael eu rhoi o’r golwg, neu o’r neilltu. Fe ddywedodd meddyg wrth fy mam y buaswn wedi fy rhoi mewn gofal o ryw fath, petawn wedi fy ngeni rai blynyddoedd ynghynt. Roedd fy rhieni yn barod i siarad yn agored am bethau fel hyn, rhag i mi glywed rhywai eraill yn gwneud hynny. Fel person anabl mae rhywun yn profi llawer o ragfarn a gwahaniaethu yn fy erbyn (discrimination) ac mae pobl yn dweud pethau ofnadwy o gas a sarhaus weithiau, ond nid yw hynny erioed wedi fy mhoeni oherwydd roeddwn wedi trafod hynny yn gyson gyda fy rhieni.

Rydych yn dweud hefyd yn eich llyfr nad ydych yn hoffi’r term ‘person anabl’ a bod yn well gennych y geiriau ‘person ag anabledd’.

O, ddeudis i hynny? Wel, mae pethau wedi newid erbyn hyn. ‘Person anabl’ sy’n swyddogol gywir, mae’n debyg.

Fel ‘plentyn anabl’ roeddwn yn cael fy adnabod yn blentyn ac mae’n siŵr fy mod wedi dadlau nad oedd bod yn anabl yn ddim ond un rhan o’r hyn oeddwn. Mae’n hawdd diffinio’r ‘anabledd’ oherwydd dyna’r peth cyntaf a wêl pobl eraill. Roedd gennyf wallt byr am y rhan fwyaf o’m cyfnod fel athletwraig, ac fe glywais ‘y bachgen anabl’ yn cael ei ddweud amdanaf! Ac mae rhywun yn meddwl: dydych chi ddim hyd yn oed yn edrych yn fy wyneb, dim ond ar y gadair olwyn. Ac felly roedd yn golygu dweud wrth y cyhoedd: edrychwch tu hwnt i’r peth cyntaf rydych yn ei weld! Mae’n siŵr fy mod wedi dod yn fwy ‘ymosodol’ yn fy ymgyrch dros ‘hawliau’r anabl’ a’m bod yn berson anabl am fod cymdeithas wedi fy ngwneud yn ‘analluog’. Mae cymaint o fannau o hyd na allaf fynd iddynt am fy mod yn anabl, ac felly ni allaf fod yn ‘berson ag anabledd’ hyd nes y gallaf wneud popeth y gall person heb anabledd ei wneud. Rydym yn dod yn nes at hynny, ond mae ffordd bell i fynd eto.

Rwyf wedi dod yn fwy ymwybodol o iaith. Fe wyddwn, pe bawn yn llwyddo mewn chwaraeon, y byddai gennyf lwyfan i siarad am bethau eraill sydd angen tynnu sylw atynt. Er bod chwaraeon yn bwysig i mi, roedd gennyf hefyd restr faith o bethau eraill i’w cyflawni ac erbyn hyn yr wyf yn teimlo mai un cam yn unig oedd chwaraeon tuag at yr hyn yr wyf yn gobeithio’i gyflawni. Roeddwn yn teimlo fod yna fwriad i mi wneud rhywbeth arall. Nid wyf yn siŵr beth ydyw eto, ond rhan ohono yn unig oedd y llwyddiant mewn chwaraeon.

Fe fu’n rhaid i chi unwaith grafangu oddi ar drên am nad oedd neb o’r staff ar gael. Petai rhywun fel Syr Steve Redgrave wedi cael yr un profiad fe fyddai yna brotest fawr wedi dilyn y digwyddiad. I ba raddau mae ein hagwedd tuag at bobl ag anabledd wedi newid?

Mae’n filltiroedd lawer gwell nag y bu. Ond roedd yr ymateb ar lein i’r stori am helynt y tren yn brawf arbennig. Fe ysgrifennwyd pethau fel, ‘Fe ddylai pobl fel chi fod mewn tryciau gwartheg yng nghefn y trên, rhag i chi heintio pobl gyffredin’.

Ydych chi o ddifrif?

Ydw … ac mae pethau fel yna wedi’u dweud yn fy wyneb o’r blaen. Mae hynny’n fy ngwneud yn fwy penderfynol i barhau i newid pethau a dyna pam yr wyf yn Nhŷ’r Arglwyddi.

A gawsoch fagwrfa grefyddol?

Roedd gan fy mam a nhad ffydd gref iawn er nad oeddynt yn siarad llawer am hynny. Ond roedd mam yn dweud yn gyson nad oedd neb yn cael anawsterau na allent eu wynebu ac rwy’n siŵr hefyd ei bod yn gweld fod fy nghael i’n blentyn yn ‘alwad’ a roddwyd iddi.

Ond rydych yn honni nad ydych yn grefyddol erbyn hyn …

Mae hynny’n wir … oherwydd ein bod wedi symud o gwmpas cymaint, efallai. Fe gefais fy medyddio mewn capel Cymraeg, ond doedd fy nhad ddim yn siarad Cymraeg ac felly fe gefais fy magu gyda’r Methodistiaid Saesneg.

Pan oeddwn yn 11 oed fe es i Lourdes, ac fe es i i Eglwys Gatholig am ychydig, ond fe gawsom offeiriad oedd yn gofyn i ni sefyll a chydio dwylo ac fe fyddai’n cyfeirio at rywun yn ddirybudd a gofyn, ‘Fysech chi’n hoffi gweddïo?’ Doedd hynny ddim yn gydnaws â’n teulu ni o gwbwl! Yn y diwedd fe setlodd fy rhieni ar awyrgylch isel-eglwysig yr eglwys Anglicanaidd yng Nghymru … ond nid wyf fi wedi dod o hyd i’r ‘lle iawn’ rywsut. Wn i ddim a ydwyf mewn gwirionedd yn chwilio am y lle hwnnw, neu’n gobeithio fod y lle hwnnw’n siŵr o ymddangos ryw ddiwrnod … Mae gennyf ffydd ond rwyf yn ei chael yn anodd, anodd iawn i’w mynegi. Nid yw ynglŷn â mynd i’r capel yn unig, er bod hynny’n rhan ohono, ond mae ynglŷn ag ansawdd bywyd a chymdeithas a chariad a gofal amdanom ein gilydd. Mae’r ffordd y cawsom ein dwyn i fyny yn ddylanwad aruthrol arnaf.

Mae gennych gred mai ‘fel hyn roedd pethau i fod’?

Oes, mae gen i. Mae popeth sy’n digwydd i ryw bwrpas. (Mae gennym ddigonedd o ddywediadau yn ein teulu ni!) Wn i ddim beth sydd yn yr arfaeth i mi – beth sydd i fod i mi – ond rwy’n cofio rhywun yn dweud wrth fy nhad pan oeddwn yn 21ain oed y byddwn yn cyrraedd Tŷ’r Arglwyddi, ac ugain mlynedd yn ddiweddarach, dyna ble rydwyf. Felly, wn i ddim, rwy’n meddwl weithiau fod yna gynllun neu drefn. Nid i bawb, wrth gwrs – mae hyn yn sobr o anodd i’w egluro a’i ddweud – ond i rai, efallai.

Ac mae gennych ymwybyddiaeth fawr o’ch Cymreictod …

O oes, yn llwyr. Fe wnes yn siŵr fod ein merch yn cael ei geni yng Nghymru ac rwyf wedi dod yn fwy rhugl yn y Gymraeg ac yn falch o fod yn Gymraes. Mae’n anodd egluro hyn i Saeson, mor anodd â cheisio egluro fy ffydd. Mewn gwirionedd, mae’n debyg iawn i ffydd mewn llawer ffordd.

Fe ddywedodd Eric Liddell, pan enillodd y ras 400m yn Olympics 1924, fod Duw wedi ei wneud yn gyflym a phan fyddai’n rhedeg yr oedd yn teimlo bodlonrwydd a bendith Duw. A oes rhai eraill yn cael yr un teimlad ar y trac? A ydych chi wedi teimlo hynny?

Ar adegau rydych yn teimlo eich bod ar ryw lefel wahanol, a hyd yn oed yn teimlo nad chi sydd yna ond rhywun neu rywbeth arall. Mae’n deimlad rhyfedd iawn, na allaf ei egluro. Wyddoch chi, er fy mod yn siarad llawer am fod yn anabl, nid wyf yn teimlo yn anabl ac i mi mater ydoedd o wthio terfynau corfforol a bod mor gyflym a chryf ag oedd bosibl i mi fod. A dyna fo. Ceisio bod yn dda a gwneud yn dda.

Mae athletwyr yn griw gwahanol, yn tydyn? Beth sy’n eich gwneud yn wahanol, tybed? Ydyn nhw’n ceisio profi rhywbeth?

O, ydyn wir …

Beth oeddech chi’n ceisio’i brofi?

Weithiau fe fydd pobl yn gofyn a oeddwn yn ceisio profi rhywbeth am fy mod mewn cadair. Nac oeddwn, mewn gwirionedd, oherwydd yr un bersonoliaeth sydd gennyf nawr ag a oedd gennyf cyn fy mharlysu (yn saith oed).

Ond yr oeddwn angen profi imi fy hun y gallwn fod yn dda wrth gael nod ac ymarfer yn ddigon caled. Ac roedd ynglŷn â phrofi rhywbeth i’r teulu hefyd. Nid oedd wahaniaeth am neb arall, ond mae fy nheulu yn bopeth i mi. Ond nid wyf erioed wedi teimlo fy mod wedi gwneud digon.

 A ydych yn teimlo fod yna rywbeth yn eich gyrru o hyd?

Ar ôl gorffen cystadlu (yn 2007) rwyf yn llawer mwy tawel fy meddwl. Un peth a wnaeth i mi ymddeol oedd teimlo nad oeddwn yn berson neis iawn … ac ar adegau, rhwng y cystadlu a’r teithio, roeddwn yn mynd yn fwy a mwy diflas. … Rwyf yn well person ar ôl peidio bod yn athletwraig. Fe drefnwyd ein priodas o gwmpas dyddiadau cystadlaethau ac fe wnes i hyd yn oed sôn am ddyddiad pryd y dylwn fod yn feichiog os oeddwn am gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2002! Fe gollais Nadoligau a phenblwyddi, ac fe drefnodd fy chwaer ei phriodas o gwmpas fy amserlen i! Roeddwn yn hunanol iawn fel athletwraig, ac roedd fy nheulu’n caniatáu imi fod …

Rydych yn fy atgoffa o’r sioc a gefais wrth ddarllen yn eich llyfr: ‘Fe all ras cadair olwyn fod yn beryglus, yn fygythiol, yn filain ac yn ddychryn. Mae chwaraeon yn aml yn cael eu dyrchafu, fel y celfyddydau, fel rhywbeth dyrchafol, ond tybed, yn y pen draw, nad yw’n ddim ond dyrchafu’r hunan?’ Ond rydych yn cael eich ystyried yn ‘drysor cenedlaethol’, Tanni. A yw hynny’n faich ychwanegol?

Rwyf yn ei chael yn anodd ymateb i ganmoliaeth neu gael tynnu llun fel seléb am mai fi ydi Tanni Grey-Thompson oherwydd nid wyf yn gweld beth maen nhw’n ei weld. Dim ond Tanni ydw i. ‘Chi ydi Tanni, ynte?’ Beth mae rhywun yn ei ddweud? Wel, ie, diolch … ond beth mae hynny’n ei olygu yn y pen draw? Nid yw’r teulu yn fy nhrin fel rhywun arbennig o gwbwl. ‘Grounding’ yw fy ngair i am eu hagwedd tuag ataf, sef rhoi fy nhraed ar y ddaear (!!), siarad yn blaen. Weithiau’n ddigywilydd o onest. Pan fydd pobl yn gofyn i’m gŵr (a oedd yn athletwr paralympig ei hun) sut beth ydi bod yn briod â TG-T, ei ymateb yn aml yw: ‘Wnaeth hi erioed fy nghuro i. Roeddwn yn well na hi.’

A ydych yn gweld gwahaniaeth rhwng ‘colli’ a ‘methu’?

Yn bendant iawn. Fe gollais mewn llawer o gystadlaethau, ond yn anaml y bu i mi fethu. Gair ofnadwy ydi ‘methu’. Mae’n hawdd troi cefn ar bethau weithiau, a dweud, ‘Tydw i ddim am drafferthu’, ac osgoi bod mewn sefyllfa sy’n gofyn am sialens i chi eich hun. Rwy’n cofio, cyn cyflwyno’r gwelliant cyntaf yn Nhŷ’r Arglwyddi, i mi daflu i fyny yn y toiledau a meddwl, ‘Oh, my God’. Digon ysgafala yw chwaraeon, mewn gwirionedd, ond mae Tŷ’r Arglwyddi (beth bynnag yw barn pobl amdano) yn medru effeithio ar fywydau bob dydd pobl gyffredin. Mae’n gyfrifoldeb aruthrol ac yn un yr wyf yn ei gymryd yn gwbwl ddifrifol – a rhaid mentro.

Mae’r sgwrs hon yn rhan o gyfweliad Brian Draper â Tanni Grey-Thompson ar wefan High Profiles a gyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchgrawn Third Way, Awst 2012. Gellir darllen y cyfweliad llawn ar https://highprofiles.info/interview/tanni-grey-thompson/.

Rydym yn ddiolchgar iawn am ganiatâd i’w chyhoeddi yn Agora.

Mae Brian Draper yn awdur nifer o lyfrau fel: Spiritual Intelligence: A new way of being (Lion, 2009) a Soulfulness: Deepening the mindful life (Hodder & Stoughton, 2016). Bu’n olygydd Third Way (1997–2001) ac yn darlithio ar  ddiwylliant cyfoes yn y London Institute for Contemporary Christianity. Mae’n gyfrannwr cyson i Thought for the day. Ef yw cyfarwyddwr Echosounder, cwmni ymgynghori ar ‘spiritual intelligence’. 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Ymaflyd yn y Testunau

Ymaflyd yn y Testunau

Dr Val Webb

Val Webb

Rwy’n siŵr fod gan bob un ohonom ni o leiaf un adnod o’r Beibl y byddai’n well gyda ni petai hi heb ei chynnwys yn y canon. Daeth cynifer o adnodau i lawr drwy’r oesoedd, wedi’u chwyddo trwy gyfieithiadau, golygiadau a gwelliannau, sydd wedi bod yn sail i bob mathau o athrawiaethau. Yr un y byddai’n well gen i petai hi erioed wedi’i chynnwys yw Ioan 14:6: ‘Dywedodd Iesu wrtho, “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi”.’

 

Nid yn unig fod popeth yn y frawddeg wedi’i ddefnyddio i brofi bod Iesu’n unigryw fel achubiaeth Gristnogol, ond mae’r is-linell ‘Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof i’ wedi dibrisio pob crefydd arall, gan gynnwys rhai oedd ganrifoedd oed adeg y cyfieithu.

Diana Eck

Fodd bynnag, dywed Athro Crefydd Harvard, Diana Eck, fod iaith yr ‘ond’ yn rhan o ieithwedd ffydd, nid iaith ystadegau. 

Er i’r stori hon ddod o bosib o gymuned yr eglwys fore, ac nid o enau’r Iesu, mae angen i ni ystyried sut y byddai’r geiriau wedi’u bwriadu yn y stori. Yn ôl y ddealltwriaeth Iddewig, ystyr y ‘ffordd’ oedd dysgeidiaeth neu ffordd o fyw. Roedd yr Iesu wrth ffarwelio â’i ddilynwyr yn eu hatgoffa eu bod yn gwybod y ffordd – yr hyn a ddysgodd ef iddyn nhw. Oherwydd dyddiad ysgrifennu Efengyl Ioan (ar ddiwedd y ganrif gyntaf) roedd aelodau’r gymuned arbennig hon eisoes wedi’i heithrio o’r synagog, ac angen y sicrwydd eu bod o hyd yn ddiogel o fewn cyfamod Duw.  

Mae Iesu am eu sicrhau. Er bod eu ffordd at Dduw ar un adeg drwy’r deml,  dywed Iesu: ‘Myfi yw’r deml newydd’, sy’n golygu mai ei ddysgeidiaeth ef yw eu cyfeirnod newydd am ffordd o fyw sy’n arwain at wirionedd a bywyd.  

‘Ddaw neb ohonoch chi,’ meddai Iesu, ‘at y Tad ond trwy fy ffordd i.’ Nid honiad tragwyddol oedd hwn, ond sicrwydd i’r dilynwyr ofnus mewn un cornel bach o’r byd eu bod yn dal i feddu ar fynediad at Dduw. Mae hyn yn debyg i fyfyriwr sy’n dymuno darllen hanner dwsin o lyfrau sydd heb fod ar y rhestr ddarllen, ac mae’r Athro prifysgol yn dweud, ‘Ymddirieda ynof fi. Fe roddaf i ti bopeth sydd ei angen arnat i basio dy arholiadau.’

Cynigiodd Iesu deyrnas newydd o gyfiawnder – ymerodraeth Duw yn lle ymerodraeth Cesar. Yn ystod yr ychydig ganrifoedd cyntaf, fodd bynnag, fe esblygodd y cysyniad fod Iesu yn Dduw ar ffurf ddynol, ac fe roddodd hyn sgôp ehangach i’r ddealltwriaeth o’r ymadrodd ‘ond trwof fi’. Yn y bedwaredd ganrif, roedd dadleuon yr eglwys ar y cwestiwn: a oedd Iesu o’r un deunydd â Duw, neu jyst fel Duw?

Felly, defnyddiwyd yr adnod hon fel sail i ryfeloedd a glanhau ethnig er gwaetha’r sail denau oedd yn bodoli i symud o un ystyr i’r llall.

Datblygodd dysgeidiaeth Paul fod ‘Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun’ i olygu ‘Iesu yw Duw’, yr unig ymgnawdoliad duwiol ar gyfer pob oes a phob lle. Felly, defnyddiwyd yr adnod hon fel sail i ryfeloedd a glanhau ethnig er gwaetha’r sail denau oedd yn bodoli i symud o un ystyr i’r llall. Os mai un Duw yn unig sydd, ac mai Iesu yw’r Duw hwnnw wedi’i ymgnawdoli, mae’n rhaid amddiffyn a lledaenu’r gwirionedd hwn. Felly, fe seliwyd ieithwedd yr ‘ond trwof fi’ yn gadarn yn ein psyche o’n plentyndod. 

Mae agweddau Cristnogol at grefyddau eraill drwy’r oesoedd wedi’u disgrifio’n fras fel rhai ecsgliwsif (eithrio neu ‘exclusivist’), cynhwysol (‘inclusivist’) neu bliwralaidd (‘pluralist’). Bydd y rhai sy’n eithrio bob amser gyda ni – yn honni bod Ioan 14:6 yn llythrennol wir am byth bythoedd: nid oes mynediad at Dduw ond drwy Iesu Grist a dim achubiaeth y tu allan i Gristnogaeth. 

Mae’r rhai cynhwysol yn derbyn ei bod yn bosib profi’r Duwiol mewn crefyddau eraill, ond daw achubiaeth yn unig drwy Gristnogaeth.

Mae’r rhai cynhwysol yn derbyn ei bod yn bosib profi’r Duwiol mewn crefyddau eraill, ond daw achubiaeth yn unig drwy Gristnogaeth. Mae’r term ‘Cristion anhysbys’ wedi meddalu hyn o fewn y traddodiad Catholig – fod rhywun sydd wedi byw bywyd da, ond heb glywed am Iesu, yn gallu cael ei achub fel ‘Cristion anhysbys’, ond pan fydd yn clywed am Iesu, fe gaiff ei farnu yn ôl ei ymateb. Mae pliwraliaeth yn rhoi lle i achubiaeth drwy nifer o grefyddau – mae llawer llwybr i’r sanctaidd – a hefyd yn derbyn bod gan grefyddau amrywiol wahanol ystyron i achubiaeth, yn ôl sut y maent yn gweld y ddynoliaeth a’i hanghenion a’r ateb. Yn y gorffennol, gorfododd Cristnogaeth ei ystyr benodol i achubiaeth – pechod, maddeuant, nefoedd neu uffern – ar draddodiadau crefyddol eraill. Fodd bynnag, mae nifer o grefyddau’r Dwyrain yn siarad am ryddhad, gair arall am achubiaeth, fel symudiad o fodolaeth afreal i fodolaeth real. Mae crefyddau Tsieineaidd yn siarad am symud o ‘ddisgord â phopeth’ i harmoni. Mae nifer o Gristnogion Blaengar yn tueddu at y cysyniad o achubiaeth fel rhyddhad, neu gyfannu, yn hytrach na’r esboniad Cristnogol traddodiadol. 

Ysgrifennais ddau lyfr sy’n trafod cwestiynau am Dduw ar draws wahanol grefyddau: Stepping out with the Sacred: Human Attempts to Engage the Divine a Like Catching Water in a Net: human attempts to engage the Divine (Continuum/Bloomsbury). Wrth ymchwilio ar gyfer y llyfrau hyn cefais f’atgoffa o lawer o bethau am grefydd yn gyffredinol. (Defnyddiaf y gair ‘Duw’ mewn modd generig am yr hyn y mae dynion a menywod yn ei ystyried fel y Bod Mawr/y Rhywbeth Mwy.)  

Yn gyntaf, mae’r ymdrech gyffredin, ddynol am ystyr, er ei bod yn cael ei darlunio’n wahanol, gan ddefnyddio symbolau gwahanol mewn cyd-destunau gwahanol, a gweledigaeth wahanol o’r byd, yn dibynnu ar yr ateb i’r cwestiwn – ‘Beth mae bodau dynol yn ei ddymuno/ei angen?’ Er ein bod yn treulio llawer o amser yn trafod athrawiaethau gwahanol, mae crefydd bob amser yn fodd o greu ystyr; mae’n anthropoleg yn gymaint â diwinyddiaeth. Os dechreuwn ein sgyrsiau fel bodau dynol sy’n chwilio am yr hyn a alwn yn Dduw, fe awn yn llawer pellach nag a wnawn os treuliwn ein hamser yn cymharu athrawiaethau. 

Yn ail, atgoffwyd fi fod Cristnogaeth yn ei chael yn anoddach lleoli Duw nag y mae crefyddau eraill. Mae nifer o grefyddau’n gyffyrddus â Dirgelwch neu Ysbryd di-ffurf, neu’n gweld natur fel cartref i’r Sanctaidd. Yn rhyfedd iawn, fe gafodd delweddaeth yr awel rydd, anadl ac ysbryd ei meistroli gan Gristnogaeth a’i throi’n Drindod – Tad, Mab ac Ysbryd Glân – wedi’u gosod o fewn fframweithiau meddwl dan reolaeth yr eglwys, nid fel pethau i’w profi ym myd natur neu gan unigolion. Mae Cristnogaeth Flaengar yn ailfeddiannu’r ddelweddaeth aneglur wrth symud oddi wrth Dduw theistaidd, allanol, i fydysawd wedi’i lenwi â Duw – boed hwnnw’n ysbryd, yn egni, yn fywyd neu’n gariad. 

Yn drydydd, roeddwn yn ymwybodol o’r dymuniad cyffredin dynol i gysylltu’r tu hwnt i ni ein hunain, i’n gweld ein hunain fel rhan o gyfanrwydd mwy. Mae gwyddoniaeth bob amser yn chwilio am gyd-gysylltiadau ar draws y bydysawd, ac mae crefydd wedi gwneud hyn â’i mythau i leddfu galar dynol ac i ddarganfod gwir ystyr. Yn anffodus, mae Cristnogaeth wedi mynnu ‘llythrenoli’ ei mythau, gan honni eu bod yn seilio hyn ar y Beibl. Yn rhyfedd iawn, mae hyn wedi dwyn y Beibl oddi wrthon ni drwy greu cred mewn dilyw llythrennol, arch yn cario holl anifeiliaid y byd, nadroedd yn siarad a genedigaethau gwyrthiol, yn hytrach na gofyn beth mae’r storïau hyn yn ei ddweud am yr ymdrech ddynol am ystyr. 

Yn bedwerydd, rwy’n gynyddol argyhoeddedig mai yn y byd hwn mae canolbwynt bywyd  – nid canolbwyntio ar yr hyn a ddaw ar ôl marw – a rhaid i ni fyw yn llawn yn y byd hwn. Nid labordy i ni arbrofi â’n bywydau cyn y byd nesaf yw hwn, ac felly does dim hawl gyda ni i’w ddifetha cyn symud ymlaen. Mae’r diwinydd Sallie McFague yn disgrifio dwy ffordd o weld y byd: fel tirwedd neu fel drysfa (maze). Gallwn sefyll ar wahân ar fryn yn edrych ar yr olygfa, fel y mae peintiwr yn peintio llun, neu fe allwn weld y byd o ganol y ddrysfa wrth symud o gwmpas, yn ceisio ffordd drwodd, yn cymryd risg i geisio ffeindio ein ffordd allan, yn ddibynnol arni fel ffocws ein bodolaeth; nid ni yw canol y ddrysfa, ac nid ni sy’n ei llunio. Mae cynfrodorion (aborigines) wedi’u gweld eu hunain fel rhai sydd yng nghanol y ddrysfa, nid yn tra-arglwyddiaethu drosti, gan weld y cyfan â’r Sanctaidd yn rhedeg drwyddo. Pentheistiaeth, sef Duw o fewn y byd, yn rhyngweithio’n ddeinamig a rhyng-ddibynnol, ond hefyd uwchlaw iddo, yw hyn. Pan ddown ni ar draws crefyddau eraill, fe sylweddolwn nad yw’r ffordd hon o weld y byd yn newydd a’i bod yn rhan o grefyddau oedd yma cyn Cristnogaeth. Mae Hindŵaeth Upanishad yn siarad am Dduw fel yr Un sydd ‘wedi’i guddio ym mhopeth a phob peth’. 

Erbyn hyn, rwyf wedi cael gafael ar ieithwedd newydd, wedi’i chrisialu drwy’r oesoedd, sydd wedi rhoi metaffor, defodau ac ysbrydoliaeth i’m taith fy hun.

Erbyn hyn, rwyf wedi cael gafael ar ieithwedd newydd, wedi’i chrisialu drwy’r oesoedd, sydd wedi rhoi metaffor, defodau ac ysbrydoliaeth i’m taith fy hun. Rwyf nawr yn gweld gwerth mewn profiadau sydd wedi’u dibrisio, eu condemnio neu eu diystyru gan fy nhraddodiad fy hun. Er enghraifft, dyw Cristnogaeth, â’i hobsesiwn â rhyw a phechod, ddim wedi dyrchafu profiadau nwydus, ac mae’n ddyrchafol mynd i deml Hindŵaidd sy’n llawn delweddau o rywioldeb dwyfol, a cherfluniau hynafol o ferched yn rhoi genedigaeth neu’n atgenhedlu. 

A dychwelyd at Ioan 14:6, mae nifer o Gristnogion Blaengar wedi herio esblygiad Iesu’r Iddew i statws un ac unig ddisgyniad Duw i’r ddaear, a’r esboniad o’i farwolaeth fel aberth dynol i foddhau Duw a rhoi i ni docyn i’r nefoedd. Os mai Duw yw’r anadl tu ôl i fywyd y bydysawd, roedd Duw eisoes wedi’i ymgnawdoli, a’r ysbryd hwn yn bresennol yn Iesu, fel ym mhopeth arall. Gyda’r ddelweddaeth hon am yr hyn rydym yn ei alw’n Dduw, rydym wedi symud rhwystrau rhyngom ni a chrefyddau eraill. Golyga hyn newid yn ein sgwrs ag Iddewiaeth a chydag Islam, sy’n rhannu’r un dyn, Iesu. Golyga sgwrs wahanol hefyd â Hindŵiaeth a thraddodiadau Indiaidd eraill wrth gydnabod Iesu fel dyn doeth, proffwyd neu ymgnawdoliad ymysg eraill, sydd yn abl i’n dysgu am ddoethineb. Golyga hefyd sgwrs wahanol gydag anffyddwyr agnostig neu atheistiaid sy’n gwrthod yr honiadau traddodiadol am Iesu.   Mae hefyd yn golygu sgwrs wahanol o fewn Cristnogaeth, am ei sylfaenydd a’r hyn a wnaeth. 

Sut olwg fydd felly ar ein stryd grefyddol? Ydi Cristnogaeth yn gymuned tu ôl i glwydi neu’n un tŷ ar y stryd? Nid wyf yn awgrymu bod pob crefydd yn cymysgu mewn lobsgows duwiol, na chreu eglwysi aml-ffydd neu ryng-ffydd, er bod rhai’n gwneud hynny. Datblygodd ein traddodiadau crefyddol o wreiddiau gwahanol, o gymdeithasau ac oesoedd gwahanol, â golwg wahanol ar y byd i geisio datrys ein cyflwr dynol. Maent yn ddiwylliannol yn gymaint ag y maen nhw’n grefyddol, ac o’r herwydd maent i gyd yn unigryw – mynegiannau arbennig sy’n adlewyrchu mwy nag athrawiaethau. Mae ein traddodiad ni wedi ein siapio ni bob un, yn enwedig os yw wedi bod yn bwysig i’n bywydau, hyd yn oed os ydym erbyn hyn wedi ymwrthod ag ef. Mae’r Dalai Lama yn dweud wrth rai sydd am droi at Fwdïaeth i aros yn eu traddodiad eu hunain, a gweithredu tosturi (compassion).

Mae rhyddhau ein hunain o fod yn ecsgliwsif neu o fod ‘yn well’ yn caniatáu i’n hunigrywedd olygu nad ‘yr unig ffordd’ yw hi, ond yn hytrach yn rhoi lle i unigrywedd ymdrech pob unigolyn. Dyma fy nadl yn Testing Tradition and Liberating Theology: finding your own voice. Chwiliwch yn ddyfal, byddwch fyw’n llawn, gwnewch eich diwinyddiaeth eich hun, a dewch o hyd i ffydd sy’n gweddu i chi.    

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

 

Trin Pobl Ddierth

Trin Pobl Ddierth

I Gristnogion ym Mathew 25, mae Iesu’n ei gwneud yn eglur mai’r ffordd rydyn ni’n trin ‘y dieithryn’ neu’r ‘estron’ yn ein plith yw’r ffordd yr ydyn ni’n ei drin Ef. Mae’r estron/dieithryn yn golygu mewnfudwyr a ffoaduriaid, dinasyddion o genhedloedd eraill sy’n byw ac yn teithio yn ein plith. Mae’n fater o ffydd i ni, Gristnogion. Mae gorchymyn Donald Trump …  yn gwrthdaro â’n ffydd Gristnogol ac fe wnawn ei wrthwynebu fel mater o ffydd.

(Jim Wallis yn y cylchgrawn Sojourner)

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Gwryw a Benyw

Gwryw a Benyw

 Jane Aaron

Annie Harriet Hughes, 1852–1910

‘Be sy’r mater ar bobol na ddarllenan nhw’u Beibla’n iawn?’ gofynnai hen wraig yn nofel Gwyneth Vaughan (Annie Harriet Hughes, 1852–1910), Plant y Gorthrwm (1908). 

Iddi hi, ‘faint bynnag o anrhydedd ma’r hen fyd yma’n rhoi i ddynion, a dydi’r cwbl ddim ond y trecha treisied, a’r gwana’ gwaedded ran hynny, mae’r Beibl wedi rhoi mwy o’r hanner arnom ni’ – hynny yw, ar fenywod.

 

Mae’n amddiffyn eu hachos trwy gyfeirio’n fanwl at hanes Deborah a Jael ym mhumed bennod llyfr y Barnwyr: nhw, ac nid y dynion, oedd ‘yn fwy angenrheidiol o ddim rheswm yn y frwydr fawr’.

Yn ystod oes aur y mudiad dirwest, rhwng 1880 a’r Rhyfel Byd Cyntaf, cyfeiriwyd yn aml mewn cerdd a llith gan awduron benywaidd at wrhydri Deborah a Jael. Yn ôl Buddug (Catherine Jane Prichard, 1842–1909), mewn erthygl ar ddirwest yng nghylchgrawn Y Frythones yn 1880, ‘Dywedyd a ddylai pob benyw fel y dywedodd Deborah wrth Barac, “Gan fyned yr af gyda thi;” gan geisio ei gorau i ymestyn at y fraint o gael gosod hoel yn arlais y gelyn’ – y ddiod gadarn oedd ‘y gelyn’, wrth gwrs. Ond os oedd hanes Deborah a Jael yn cynnig anogaeth i ferched milwriaethus yr undebau dirwestol, yr oedd rhai o lyfrau eraill y Beibl yn achosi mwy o benbleth i ffeminyddion yr oes yn eu hawydd i ddileu anffafriaeth rywiol. Gan fod y dystiolaeth ysgrythurol yn hollbwysig i’r Gymraes Anghydffurfiol, ceir yn eu gwaith llenyddol lawer dadl ddiddorol ar beth yn union oedd safbwynt y Testament Newydd ar rywedd, dadleuon nad ydynt yn amherthnasol heddiw. Cyfeirio’n fyr at rai ohonynt yw nod yr ysgrif hon.

Jane Aeron (Llun: John D. Briggs)

Yr hyn a boenai Angharad Fychan, arwres nofel gyntaf Gwyneth Vaughan, O Gorlannau y Defaid (1905), oedd cynghorion Paul yn ei lythyrau at yr eglwysi cynnar:  ‘Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi’ (1 Corinthiaid, 14), ‘nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu’ (1 Timotheus, 2). Nofel wedi ei gosod yn ystod Diwygiad 1859 yw O Gorlannau y Defaid, a dyhead Angharad yw mynd yn bregethwr, fel ei brawd Dewi, ond ni chaniateir iddi, a Phaul sydd ar fai: ‘Hwyrach y cawswn i bregethu fel Dewi oni bai Paul’, meddai. Yn ei lythyr cyntaf at Timotheus mae Paul yn amddiffyn ei safbwynt trwy gyfeirio at hanes Adda ac Efa: ‘nid Adda a dwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd’, meddai, ac felly gweddus yw iddi hi fod mewn bythol ddistawrwydd.

Ceridwen Peris (1852-1943)

Ond ceir yn y Beibl ddigon o enghreifftiau o gamwedd gwrywaidd yn ogystal â benywaidd: yn ei cherdd ‘Cusan Judas’ (Y Frythones, 1879) mae Ceridwen Peris (Alice Gray Jones, 1852–1943) yn bytheirio yn erbyn ‘Judas! anfad ddyn, / A llawn o hunan’, ac yn ‘diolch mai nid merch / Gyflawnodd waith mor erch’, ac eto ni phardduwyd y gwryw fel rhyw gan ei gamwedd. Mae arwres Gwyneth Vaughan hefyd yn tynnu ein sylw at anghysondeb Paul wrth iddo gyfeirio yn ei lythyr at y Rhufeiniaid at ‘Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea’ ac annog ei ddarllenwyr i ‘dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych; canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd’. Go brin mai drwy gadw’n ddistaw y bu Phebe o gymaint cymorth, dadleua Angharad Fychan: ‘Dyw pethau ddim yn gyson, dyna i chi, waeth un gair na chant.’

Yn yr un modd, o 1881 ymlaen llanwyd tudalennau’r golofn ‘Cwestiynau ac Atebion’ yn Y Frythones gan ymholiadau ynghylch beth yn union yw barn y Beibl ar rywedd. ‘A gyfrifwch chwi fod yn y Testament Newydd ddysgeidiaeth bendant o berthynas i le a gwaith merched yn y wlad ac yn yr eglwys?’ gofynnodd un cyfrannydd ym mis Tachwedd 1881. Cafodd ateb nodweddiadol bendant gan olygydd y cylchgrawn, sef Cranogwen (Sarah Jane Rees, 1839–1916):

Sarah Jane Rees (Crangowen 1839-1916) Llun: LlGC

Y mae lle a gwaith pob un, gwryw ai benyw, yn ddigon amlwg, fel rheol, dan bob goruchwyliaeth, ac ym mhob man, yng ngoleuni yr hyn ydyw efe neu hi, a’r hyn a all. Nid oes yn y Testament Newydd, ar a wyddom ni, ddysgeidiaeth bendant ar hyn, a hynny am nad oes eisiau; ymddiriedwyd i natur a rheswm, ac ysbryd yr ‘hwn sydd yn trigo ynom’ benderfynu hyn bob amser, ar ran pawb. Ein cyngor ni bob amser i bob un, ydyw ac a fydd, os y teimlwch yn sicr y medrwch wneud rhywbeth yn dda, ac yn well na neb arall a fo gerllaw, cynigiwch ei wneud; os y gwaherddir chwi, ond odid na theimlwch ynoch ar unwaith gyfarwyddyd pa fodd i weithredu.

Erbyn 1881 yr oedd Cranogwen wedi gwneud enw iddi ei hunain fel siaradwr cyhoeddus poblogaidd; bu’n teithio trwy Gymru’n darlithio a phregethu, er na restrwyd ei henw fel pregethwr erioed ar lyfrau ei henwad, sef y Methodistiaid Calfinaidd. Mae’n debyg bod rhai o’r ymholiadau niferus a dderbyniai’r Frythones ar y cwestiwn a ddylai merched bregethu wedi eu danfon ati i’w phryfocio, ond câi pob un ohonynt yr un ateb cadarn. ‘A ydych chwi yn credu y dylai merched bregethu yr Efengyl?’ gofynnodd ‘Dwy o Ddolgellau’ ym mis Ionawr 1888, ac ateb ‘Yr Ol.’ (hynny yw, ‘the Ed.’), fel y galwai Cranogwen ei hun, oedd ‘Ydym, yn credu y dylai pawb bregethu yr Efengyl y sydd yn teimlo awydd i wneud, ac yn medru gwneud, ac yn cael pobl i wrando … Nid yw gwahaniaeth rhyw yn ddim yn y byd.’ Cyfeirio y mae yma at yr adnod enwog honno yn llythyr Paul at y Galatiaid: ‘Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.’ Gan dynnu ar yr un adnod, meddai Ellen Hughes (1862–1927) mewn erthygl ar ‘Merched a Chynrychiolaeth’ (Y Gymraes, 1910): ‘Os ydyw dynes yn fod rhesymol a moesol, a thonau tragwyddoldeb yn curo yn ei natur, tybed ei bod islaw meddu y cymhwyster i gael rhan yn neddfwriaeth ei gwlad, ac yn llywodraethiad yr eglwys amherffaith ar y ddaear?’

‘Ymhongarwch ym mhawb, meibion a merched yn ogystal â’i gilydd, ydyw ceisio bod yr hyn nad ydynt; a cholled ydyw i un beidio bod yr hyn ydyw,’

Ond y mae’r undod dynol ac ysbrydol sylfaenol hwnnw yn gallu ymagweddu mewn llawer modd gwahanol yn yr unigolyn, ac mae hynny i’w groesawu yn ôl athrawiaeth golygydd Y Frythones. ‘Ymhongarwch ym mhawb, meibion a merched yn ogystal â’i gilydd, ydyw ceisio bod yr hyn nad ydynt; a cholled ydyw i un beidio bod yr hyn ydyw,’ meddai Cranogwen yn 1883, ac y mae’n gyson ei hymateb hyd yn oed mewn perthynas â’r ffenomen a elwir heddiw yn drawsrywedd.

Cranogwen

Erbyn 1887 yr oedd y ffasiwn ymhlith merched o dorri’r gwallt yn fyr, neu ‘bobio’, wedi cyrraedd Cymru, a chythryblwyd rhai o ddarllenwyr Y Frythones ganddo. ‘Beth a ddywedwch am fod merched yn torri eu gwallt fel bechgyn?’ gofynnodd un o’r cyfranwyr; ‘Mewn ambell siop weithiau, bydd yn anhawdd adnabod pa un ai bachgen ai merch a fydd y rhywun ger bron’. Ateb yr Ol. yw: ‘Yn gyntaf peth gan hynny, gofynnwch i’r person pa un fydd, ai bachgen ai merch? Yna ewch ym mlaen a’ch neges … Rhai yn y modd hwn a rhai yn y modd arall yw trefn ac ardderchowgrwydd y greadigaeth.’ Nid y gwahaniaethau di-ri rhwng pobl a’i gilydd yw’r drafferth, yn ôl Cranogwen: rhan o luosogrwydd ardderchog y greadigaeth yw’r rheiny. Y drafferth yw’r modd y mae rhai’n mynnu barnu eraill yn ôl rhagfarnau cul ac ystrydebol, ffaeledd nad ydym eto wedi cael llwyr waredigaeth oddi wrtho.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

Dirnad y drwg yn y caws

Dirnad y drwg yn y caws

Hefin Wyn

Ymgasglodd criw ohonom ym maes parcio Castell Caeriw. Cyfarchwyd gwell o bell wrth i bawb wisgo eu sanau a’u sgidie cerdded yn ymyl eu cerbydau. Er bod yr haul yn gwenu roedd angen y dillad trwchus arferol ar gyfer cerdded; capanau a menig, ac enllyn a diodydd yn gynhaliaeth. Roedd yr awel yn fain a’r oerfel yn cydio yn y cysgod.

Yn sydyn dyma waedd yn cael ei dilyn gan grochlefain y lliaws ohonom. Cafodd un o’n plith hergwd gan ben-ôl cerbyd hir, pwerus. Ataliodd ei hun rhag cwympo. Ni chafodd ei hanafu. Ond gallai’r canlyniad fod yn dipyn gwaeth pe na bai’r gweddill ohonom yn effro i’r perygl.

Diffoddodd peiriant y cerbyd, agorodd y gyrrwr y drws a neidiodd i’r llawr. Disgwyliem y byddai’n cysuro ac yn ymddiheuro i’r sawl roedd wedi’i tharo. Wedi’r cyfan doedd hithau ddim wedi taro yn erbyn y cerbyd mewn cyflwr o ddallineb. Roedd hi â’i chefn tuag at y cerbyd.

Mae’n rhaid nad oedd y gyrrwr wedi edrych yn y drych cyn beco ’nôl. Hwyrach nad oedd yn gyfarwydd â’r cerbyd. Edrychai’n newydd sbon. Roedd ei bartner wedi cerdded i ben draw’r maes parcio fel pe bai’n chwilio am rywbeth.

Ond, na, ni fentrodd at y ddynes a gafodd ysgydwad. Yn hytrach ynganodd ribidirês o regfeydd gan derfynu trwy ddweud ei fod ‘yn dod o’r ardal ac y dylsen ni ddychwelyd i ba le bynnag roeddem wedi dod’.  Ni chafwyd deialog.

Mae’n rhaid iddo glywed rhywfaint o Gymraeg yn cael ei siarad a bod hynny wedi’i gythruddo. O dan ein hanadl y dywedodd rhai ohonom ein bod ni hefyd yn sicr yn hanu o’r un fro ehangach ac yn bendifaddau o’r un sir ag yntau.

Ni fentrodd yr un ohonom ei hysbysu mai’r Gymraeg fyddai’r iaith oddi fewn i’r castell yn nyddiau ei anterth pan gynhaliodd Syr Rhys ap Tomos dwrnameint dros gyfnod o bum diwrnod, gan wahodd 600 o bendefigion i’r dathliadau, yn 1507.

Ni fentrodd yr un ohonom awgrymu chwaith y byddai ymddiheuro yn rheitiach gweithred na bytheirio, o dan yr amgylchiadau. Tebyg mai clustiau byddar fyddai’n ein clywed.

Erbyn hynny roedd wedi tanio’r peiriant ac yn paratoi i adael wrth iddo refru’r injan. Gwnaeth pob un ohonom yn siŵr nad oeddem yn sefyll yn ei lwybr.

Cerddodd ei bartner heibio yn daliedd ymffrostgar ei osgo. Ni ddywedodd ddim. Ni roddodd yr argraff ei fod hyd yn oed wedi ein gweld. Gwisgai welintons pysgota hyd at ei ganol. Neidiodd i’r cerbyd wrth y fynedfa. Darfu’r digwyddiad.

Cychwynnodd y daith gerdded. Aed heibio’r castell ar hyd ymyl y llyn a gronnwyd ar gyfer defnydd y rhodau slawer dydd. Rhyfeddwyd at y crychydd a safai’n stond fel cerflun.

Doedd hi ddim yn anodd adnabod y llawredynen Gymreig ymhlith y cerrig. Ond rhoddwyd blaenoriaeth i’r parablu dros ganfod y maglys brith, y troed-y-cyw clymog a’r dail tafol canolfain, p’un a oedd hi’n dymor blodeuo iddyn nhw neu beidio. A doedd yr ystlum pedol prin yntau ddim o gwmpas chwaith.

Ond yr hyn a welwyd oedd y fronfraith a’r robin goch yn rhannu cnwd o aeron ar ambell lwyn. Roedden nhw’n llawn cyffro, yn hedfan o lwyn i lwyn a heb daw ar eu trydar. Doedd dim cenfigen na malais yn rhan o’u hymddygiad. Rhannent gynhaeaf natur. Roedd y byd yn eu pigau ac yn eu nodau.

Âi’r llwybr trwy barc neu ddau a borwyd gan ddefaid. Yn wir, roedd rhai o ŵyn cynta’r tymor wedi’u geni. Doedd ein presenoldeb ni’n amharu dim ar eu hawddfyd. Gorwedd a phori’n jycôs a wnâi’r praidd. Roedd yn amlwg fod yr ŵyn wedi’u digoni. Ni chlywid yr un oen yn brefu am ei fam na’r un fam yn brefu ar ei hepil.

Yn sydyn, wrth groesi stigil arall, daethom i lecyn agored lle’r oedd nifer o gerbydau wedi’u parcio. Y math o gerbydau a gysylltir â ffermwyr. Yn eu plith roedd ambell gart a ddefnyddir i gludo ceffylau. Yno hefyd roedd y cerbyd hir a welsom ynghynt ym maes parcio’r castell.

Wrth gerdded ar hyd feidr darmac daeth ceffyl porthiannus yn cael ei farchogaeth gan ddynes mewn cot ddu i’n cyfeiriad. Fe’i dilynwyd gan farchog mewn cot goch yn trotian ar gefn ceffyl yr un mor borthiannus yr olwg. Roedd y cŵn hela yn y cyffinie.

Ni welsom y ddau adyn a fu mor anfoesgar tuag atom ynghynt chwaith. Mae’n rhaid eu bod nhw yng ngofal y daeargwn a’r rhofiau yn barod i erlid a cheibio’r cadno o’i ffau. Mae’r llun o’r cotiau coch a’r pac o fytheiaid yn croesi pont Caeriw yn gyfarwydd ar gardiau Nadolig a chalendrau lleol fel llun gwledig eiconig. 

Cofiais am y profiad hwnnw ychydig ynghynt o fynychu tafarn gwledig a synhwyro drygioni yn yr awyrgylch. Teimlwn yn anniddig. Gwyddwn fod rhywbeth wedi disodli naws gartrefol arferol y lle.

O holi, deallais fod criw o helwyr newydd dreulio ychydig oriau yno. Roedd nifer ohonyn nhw wedi teithio o’r Cymoedd. Nid ffermwyr mohonyn nhw. Dieithriaid oedden nhw. Doedden nhw ddim yn eu cynefin. Hwyl iddyn nhw oedd cwrso a saethu cadnoid ar hyd llethrau’r Preselau. Doedd yr anifail ddim yn bygwth eu hŵyn newydd-eu-geni nhw.

Deallaf yr angen i reoli niferoedd y llwynog. Deallaf bryder y bugeiliaid ynghylch colli ŵyn yn ddiangen. Deallaf fod dilyn helfa leol yn hwyl ac yn fodd o ddifa ysglyfaethwr. Mae’n fodd traddodiadol o fwynhau cefn gwlad ac o werthfawrogi ystrywiau cyfrwys y cadno o osgoi safnau’r helgwn.

Yn amlach na pheidio fe wna’r Sion Blewyn Coch ddianc. Eistedda ar ei bedreiniau ar fryncyn wedi croesi afon neu redeg trwy gae o ddefaid a’r cŵn yn rhedeg heibio obry wedi colli ei sent oherwydd ei gyfrwystra.

Ond ymddengys fod yna elfen anghynnes yn perthyn i rai ‘helwyr’. Maent â’u bryd ar y weithred aflan o ladd. Dyna rydd bleser iddyn nhw. Mae rhywbeth yn anghynnes yn eu cylch.

Yn ystod ein siwrnai oddi amgylch Castell Caeriw gwelsom gip ar y natur ddynol ar ei gwaethaf. Ond gwelsom fyd natur yn ei ogoniant. Dal yn ddisymud fel carreg a wnâi’r crychydd pan ddychwelom. Doedd dim wedi amharu arno.

Mae’n rhaid bod y gallu i ymddiheuro yn amod arddel cariad. Mae’n rhaid bod parodrwydd i estyn llaw mewn brawdgarwch yn fodd o osgoi helbulon bach a mawr, boed oddi fewn i’r filltir sgwâr neu ar lwyfan cyfandirol. Nid yw’r un plentyn yn rhy fychan i wybod gwerth ymddiheuro.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

 

Y Seithfed Cam

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

Y SEITHFED CAM

Gofyn i Dduw ddileu ein holl ddiffygion cymeriad

Wrth ymgymryd â’r dasg hon mae dau beth pwysig i’w cofio. Yn gyntaf, rhaid bod yn wylaidd ac yn ostyngedig. Yn ail, rhaid peidio â dal dim yn ôl.

Yn ddieithriad, bydd y rhai sy’n dal rhywbeth yn ôl yn llithro ac yn troi unwaith eto at y pethau oedd yn eu caethiwo. ‘Dal dim yn ôl’ yw un o roddion mwyaf gwerthfawr yr Ysbrydolrwydd Amherffaith sy’n ei amlygu ei hun yn ein bywydau erbyn hyn – oherwydd o dderbyn ein bod yn amherffaith, does dim angen ofni dweud y cyfan; does dim angen ‘dal dim yn ôl’.

Nid dianc rhag ein hunain yw bwriad adferiad ond derbyn ein hunain fel yr ydym

Ac mae dewis Alcoholigion Anhysbys o’r term ‘diffygion cymeriad’ yn arwyddocaol hefyd. Yn wahanol i eiriau fel ‘pechod’ a ‘drygioni’, sy’n ennyn teimladau o euogrwydd a chywilydd, mae term fel ‘diffygion cymeriad’ yn awgrymu’r ddelwedd o rywun yn syrthio’n fyr o’r nod – yn fyr o’r nod ond bod gobaith o hyd i ymgyrraedd at y nod.  Mae’r ddelwedd hon yn caniatáu i rywun ei dderbyn ei hunan yn ei gyfanrwydd, y da a’r gwachul. Nid dianc rhag ein hunain yw bwriad adferiad ond derbyn ein hunain fel yr ydym – yn ddiffygiol, yn amherffaith, yn glwyfedig, yn gaeth – a thrwy’r derbyniad hwnnw gael ein gwella, canfod cyflawnder, drwy gael ein hintegreiddio i realiti ein bywyd go iawn. Mae adferiad yn golygu cofleidio’r amherffeithrwydd yn hytrach na cheisio’i ddileu. Oherwydd dim ond felly y cyrhaeddwn y stad o gyflawnder.

Ac nid adictiaid gweithredol yn unig sydd angen y rhyddhad y mae hyn yn ei gynnig. Mae pob un ohonom sydd mewn adferiad (ac eraill) yn gallu mynd yn ysglyfaeth i obsesiynau, hunanganologrwydd, a hunan-dwyll, ond pan gofleidiwn y diffygion cymeriad hyn a’u derbyn – hynny yw, rhoi caniatâd i ni ein hunain fod yn ddynol drwy gofleidio ochr ddu’r enaid – gallwn ninnau hefyd brofi cyfnodau o ryddhad. Wedi’r cyfan, dim ond y rhai hynny sy’n adnabod y tywyllwch all lawn werthfawrogi’r goleuni.

Ond er mwyn cyrraedd y stad wynfydedig honno, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar ‘ildio’, gan arddangos ymddiriedaeth a ffydd, amynedd a gwyleidd-dra. Yng Ngham 7 rydym yn mynd ag ‘ildio’ i lefel ddyfnach. Mae’r broses a ddechreuodd yng Ngham 1 gyda chydnabod dibyniaeth yn awr yn cynnwys cydnabod y diffygion cymeriad fu’n ategu’r ddibyniaeth honno. Awn â’r ildio yng Ngham 2 i lefel ddyfnach hefyd. Down i gredu y gall Pŵer mwy na ni ein hunain (neu Dduw fel yr ydych yn ei ddeall Ef neu ei deall Hi) gyflawni mwy na dim ond ein cadw’n rhydd o’n dibyniaeth. Nawr gofynnwn i’r Pŵer hwn hefyd ddileu ein diffygion cymeriad. Wrth i amser fynd heibio, rhown ein hymddiriedaeth fwyfwy yn y Pŵer hwn ac yn y broses o adferiad.

Mae’r egwyddorion ysbrydol o ymddiriedaeth a ffydd yn ganolog i Gam 7. Mae’n rhaid inni fod yn ddigon sicr o’r Pŵer i ymddiried ein diffygion cymeriad iddo. Mae’n rhaid inni gredu fod y Pŵer hwn yn bwriadu gwneud rhywbeth â nhw, neu fel arall sut allwn ni ofyn ag unrhyw ffydd iddynt gael eu dileu? Ond sut beth fydd y ‘dileu’ hwn? Mae llawer sy’n adfer yn eu gweld eu hunain, gydag amser, yn arddangos eu diffygion cymeriad yn llai aml. Rhaid osgoi cadw sgôr wrth gwrs, neu fel arall cawn ein hunain yn cymharu ein hadferiad ag eraill, a ddaw dim da o hynny. Yn hytrach, canolbwyntiwn ar y gweithredu mae’n rhaid i ni ei wneud yn y Cam hwn: gofyn yn wylaidd; ymarfer egwyddorion ysbrydol, a symud allan o ffordd Duw. Efallai na fydd effeithiau Cam 7 i’w gweld yn syth, ond fe ddônt yn amlwg ymhen amser.

Ni all ymddiriedaeth a ffydd, sut bynnag, fyth ein cynnal drwy oes o weithio’r Cam hwn; rhaid ymarfer amynedd hefyd. Er bod amser maith wedi mynd heibio, efallai, ers inni ddechrau gofyn i Dduw ddileu ein diffygion cymeriad, mae’n rhaid inni barhau i fod yn amyneddgar. Efallai’n wir mai diffyg amynedd yw un o’r diffygion cymeriad hynny!

Yn olaf, ac yn fwy na dim wrth weithio’r Cam hwn, mae’n rhaid inni gynnal ein hymwybyddiaeth o’r egwyddor o wyleidd-dra. Mae’n eithaf hawdd profi i ni ein hunain a ydym yn dynesu’n wylaidd at y Cam hwn drwy ofyn ychydig o gwestiynau:

  • Ydw i’n credu mai dim ond Duw all ddileu fy niffygion cymeriad? Neu ydw i wedi bod yn ymdrechu i wneud hynny fy hunan?
  • Ydw i’n ddiamynedd am nad yw fy niffygion cymeriad wedi’u dileu yn syth ac yn llwyr wedi i mi ofyn? Neu ydw i’n ffyddiog y byddant yn cael eu dileu yn amser Duw?
  • Ydw i wedi dechrau colli gafael ar realaeth? Ydw i wedi dechrau dychmygu fy hun yn bwysicach ac yn fwy pwerus nag ydw i?

Gwelais enghraifft o wyleidd-dra yn Sir Benfro rai blynyddoedd yn ôl – y math o wyleidd-dra sy’n nodweddu ethos ac athroniaeth y Stafell Fyw ac sy’n sail i’r cyfan rydym wedi’i drafod yn ein hastudiaeth o’r 12 Cam hyd yma.

Ar silff gul yn rhedeg ar draws wyneb clogwyn serth uwchben y môr a’r creigiau ymhell islaw, gwelais ddwy ddafad yn cerdded yn araf o’r naill ben i gyfarfod ei gilydd. Ofnwn y byddai’r defaid yn cornio’i gilydd, gan na fedrent basio ar y silff gul, a disgyn i’w marwolaeth ar y creigiau islaw. Dim byd o’r fath! Wyddoch chi beth ddigwyddodd? Ymestynnodd un ddafad ei choesau blaen a gorwedd yn fflat ar lawr tra cerddai’r llall yn araf ac yn ofalus drosti i ddiogelwch. A dyna i bob pwrpas mae gweithwyr y Stafell Fyw a’r ‘noddwyr’, fel y maent yn cael eu hadnabod yn Alcoholigion Anhysbys, yn ei wneud. Helpu’r dioddefwyr i ddiogelwch drwy eu harwain drwy’r Camau i sobrwydd ac i fywyd newydd y tu hwnt i’w holl freuddwydion.

Duw ar waith yn ein bywydau

O weithredu’r Cam hwn yn amyneddgar, a chyda chefnogaeth eraill sydd wedi troedio’r ffordd hon o’r blaen, gwelwn fod Duw ar waith yn ein bywydau. Efallai inni gael ein synnu gan lefel yr aeddfedrwydd neu’r ysbrydolrwydd yr ydym yn ei arddangos wrth ddelio â sefyllfaoedd a arferai ein trechu. Neu efallai y sylwn fod rhai o’r ffyrdd yr arferem ymddwyn mor ddiarth inni bellach ag oedd egwyddorion ysbrydol pan ddechreuon ni eu hymarfer. Wedi agoriad llygad o’r fath, dechreuwn feddwl am y person yr oeddem pan wnaethom sylweddoli gyntaf ein hangen am help a pha mor annhebyg yr ydym bellach i’r person hwnnw.

Dechreuwn fyw bywydau sy’n fwy ysbrydol. Dechreuwn feddwl mwy am yr hyn allwn ni ei wneud i helpu eraill yn hytrach na chanolbwyntio arnom ein hunain ac ar yr hyn y gall adferiad ei gynnig i ni. Mae’r pethau a wnawn i gynnal ac i faethu ein hysbrydolrwydd yn tyfu’n arferion.

Cawn ein hunain yn rhydd i ddewis sut y byddwn yn edrych ar sefyllfaoedd a arferai ein trechu. Nid ydym bellach yn creu môr a mynydd o bob dim. Daliwn ein pennau i fyny gydag urddas a gonestrwydd, beth bynnag ddaw i’n rhan. Cyrhaeddwn y stad o ddihidrwydd, pan na fyddwn yn gadael i neb na dim arall ddylanwadu ar sut y byddwn yn teimlo ac yn meddwl. Fy nherm Saesneg amdano yw ‘detached indifference’.

            A dyma weddi i gyd-fynd â Cham 7:

Fy Nghreawdwr, rydw i nawr yn awyddus i Ti gael y cyfan ohono’ i, y da a’r drwg. Dwi’n gweddïo y gwnei di yn awr gymryd oddi arna i bob diffyg cymeriad sy’n rhwystr i fy nefnyddioldeb i Ti ac i’m cyd-ddyn. Dwg ymaith oddi wrthyf fy holl anawsterau fel bod goruchafiaeth drostynt yn tystiolaethu i’r rhai y gwnaf eu helpu am dy nerth, am dy gariad, ac am dy ffordd Di o fyw. Boed imi wneud dy ewyllys Di’n wastadol, o Dad, a rho nerth, doethineb a dewrder i mi i’w gario allan. Amen.

Wrth i ni ddechrau cynefino â’n hysbrydolrwydd, mae’r awydd i gymodi ag eraill yn cynyddu. Dechreuwn y broses honno y tro nesaf yng Ngham 8.

Neges:

Ardderchog iawn, croesawu y pwyslais ar ysbrydolrwydd. Byddai’n fanteisiol iawn i eraill pe bae Wynford gyhoeddi yr ysgrifau hyn ar y 12 cam. – Gwilym Wyn

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

Byw ar yr Ymylon

Byw ar yr Ymylon

Margaret Le Grice

Roedd Iesu yn brysur. Yn brysur iawn. Teithiodd ar hyd a lled ei wlad fechan. Cwrddodd â bob math o bobl – y bobl gyffredin, yr arweinwyr crefyddol a gwleidyddol, milwyr Rhufeinig, y tlodion a’r cyfoethogion, plant bach, menywod a dynion. Yn aml, dihangai i leoedd ar wahân, i weddïo, ac i gael nerth ac arweiniad. Ond treuliai’r rhan fwyaf o’i fywyd ymhlith pobl – llawer ohonyn nhw. Roedd yn brysur, wrth iacháu, pregethu, dysgu, dadlau.

Glannau Môr Galilea

Er gwaethaf hynny, roedd ar yr ymylon. Dadleuodd â’r Phariseaid a’r Sadwceaid, ac nid oeddent yn cytuno â’i safbwynt. Yn araf, symudodd i’r ymylon crefyddol. Derbyniodd fenywod ‘pechadurus’, casglwr trethi, plant a phobl y tu allan i’r genedl Iddewig, a thorrodd y gyfraith Sabothol. Dywedodd fod pobl yn bwysicach na rheolau crefyddol, gan gyffwrdd â gwahangleifion a merched aflan. Yn y dechrau, roedd pawb yn mwynhau ei storïau, ei athrawiaeth, a sut y bu iddo drin dynion balch. Ond yn y diwedd, fe’i gwrthodwyd hyd yn oed gan y werin bobl, ac roedd ar ymylon cymdeithas. Ar ei noson olaf, roedd yn hollol ar ei ben ei hun, ar yr ymylon ac ar wahân i bawb. Ac yn ei farwolaeth roedd ar ymylon dinas Jerwsalem – nid yn unig ar yr ymylon, ond, dywedir, ar domen ysbwriel y dre.

Os ydym yn honni bod yn ddisgyblion i Iesu, ble rydym ni? A ydym ni ar ymylon crefydd a chymdeithas?

Ar ba ymylon fyddai Iesu heddiw? Byddai ar strydoedd ein dinasoedd yn cadw cwmni i bobl sy’n ddigartref, ac sy’n ddioddef o gaethiwed i alcohol neu gyffuriau. Byddai gyda phobl sydd ag abledd gwahanol (differently-abled), pobl a elwir yn anabl gan gymdeithas. Byddai’n cyfathrebu â phobl fyddar, a anwybyddir gan eraill. Byddai mewn cartrefi preswyl, ysbytai a charcharau. Byddai ar y ffordd gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Byddai’n byw ar ystadau tlodion, ymhlith pobl ddi-waith a diobaith. Byddai ar y fferm yn y mynyddoedd, lle mae’r glaswellt yn wael, y defaid yn fach, a’r prisiau yn y mart yn isel.

Byddai mewn capeli ac eglwysi sydd â chynulleidfaoedd bach ond ffyddlon. Byddai’n gartrefol gyda phobl sy’n gofyn cwestiynau, fel y gwnaeth ef pan oedd yn fachgen 12 mlwydd oed.

Byddai?

Na fyddai.

Yn y lleoedd hyn, ac mewn llawer o leoedd eraill ar yr ymylon, MAE ef yn awr.

Ac felly, ble rydym ni?

Gydag ef ar yr ymylon, neu …?

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.