Y Seithfed Cam

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

Y SEITHFED CAM

Gofyn i Dduw ddileu ein holl ddiffygion cymeriad

Wrth ymgymryd â’r dasg hon mae dau beth pwysig i’w cofio. Yn gyntaf, rhaid bod yn wylaidd ac yn ostyngedig. Yn ail, rhaid peidio â dal dim yn ôl.

Yn ddieithriad, bydd y rhai sy’n dal rhywbeth yn ôl yn llithro ac yn troi unwaith eto at y pethau oedd yn eu caethiwo. ‘Dal dim yn ôl’ yw un o roddion mwyaf gwerthfawr yr Ysbrydolrwydd Amherffaith sy’n ei amlygu ei hun yn ein bywydau erbyn hyn – oherwydd o dderbyn ein bod yn amherffaith, does dim angen ofni dweud y cyfan; does dim angen ‘dal dim yn ôl’.

Nid dianc rhag ein hunain yw bwriad adferiad ond derbyn ein hunain fel yr ydym

Ac mae dewis Alcoholigion Anhysbys o’r term ‘diffygion cymeriad’ yn arwyddocaol hefyd. Yn wahanol i eiriau fel ‘pechod’ a ‘drygioni’, sy’n ennyn teimladau o euogrwydd a chywilydd, mae term fel ‘diffygion cymeriad’ yn awgrymu’r ddelwedd o rywun yn syrthio’n fyr o’r nod – yn fyr o’r nod ond bod gobaith o hyd i ymgyrraedd at y nod.  Mae’r ddelwedd hon yn caniatáu i rywun ei dderbyn ei hunan yn ei gyfanrwydd, y da a’r gwachul. Nid dianc rhag ein hunain yw bwriad adferiad ond derbyn ein hunain fel yr ydym – yn ddiffygiol, yn amherffaith, yn glwyfedig, yn gaeth – a thrwy’r derbyniad hwnnw gael ein gwella, canfod cyflawnder, drwy gael ein hintegreiddio i realiti ein bywyd go iawn. Mae adferiad yn golygu cofleidio’r amherffeithrwydd yn hytrach na cheisio’i ddileu. Oherwydd dim ond felly y cyrhaeddwn y stad o gyflawnder.

Ac nid adictiaid gweithredol yn unig sydd angen y rhyddhad y mae hyn yn ei gynnig. Mae pob un ohonom sydd mewn adferiad (ac eraill) yn gallu mynd yn ysglyfaeth i obsesiynau, hunanganologrwydd, a hunan-dwyll, ond pan gofleidiwn y diffygion cymeriad hyn a’u derbyn – hynny yw, rhoi caniatâd i ni ein hunain fod yn ddynol drwy gofleidio ochr ddu’r enaid – gallwn ninnau hefyd brofi cyfnodau o ryddhad. Wedi’r cyfan, dim ond y rhai hynny sy’n adnabod y tywyllwch all lawn werthfawrogi’r goleuni.

Ond er mwyn cyrraedd y stad wynfydedig honno, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar ‘ildio’, gan arddangos ymddiriedaeth a ffydd, amynedd a gwyleidd-dra. Yng Ngham 7 rydym yn mynd ag ‘ildio’ i lefel ddyfnach. Mae’r broses a ddechreuodd yng Ngham 1 gyda chydnabod dibyniaeth yn awr yn cynnwys cydnabod y diffygion cymeriad fu’n ategu’r ddibyniaeth honno. Awn â’r ildio yng Ngham 2 i lefel ddyfnach hefyd. Down i gredu y gall Pŵer mwy na ni ein hunain (neu Dduw fel yr ydych yn ei ddeall Ef neu ei deall Hi) gyflawni mwy na dim ond ein cadw’n rhydd o’n dibyniaeth. Nawr gofynnwn i’r Pŵer hwn hefyd ddileu ein diffygion cymeriad. Wrth i amser fynd heibio, rhown ein hymddiriedaeth fwyfwy yn y Pŵer hwn ac yn y broses o adferiad.

Mae’r egwyddorion ysbrydol o ymddiriedaeth a ffydd yn ganolog i Gam 7. Mae’n rhaid inni fod yn ddigon sicr o’r Pŵer i ymddiried ein diffygion cymeriad iddo. Mae’n rhaid inni gredu fod y Pŵer hwn yn bwriadu gwneud rhywbeth â nhw, neu fel arall sut allwn ni ofyn ag unrhyw ffydd iddynt gael eu dileu? Ond sut beth fydd y ‘dileu’ hwn? Mae llawer sy’n adfer yn eu gweld eu hunain, gydag amser, yn arddangos eu diffygion cymeriad yn llai aml. Rhaid osgoi cadw sgôr wrth gwrs, neu fel arall cawn ein hunain yn cymharu ein hadferiad ag eraill, a ddaw dim da o hynny. Yn hytrach, canolbwyntiwn ar y gweithredu mae’n rhaid i ni ei wneud yn y Cam hwn: gofyn yn wylaidd; ymarfer egwyddorion ysbrydol, a symud allan o ffordd Duw. Efallai na fydd effeithiau Cam 7 i’w gweld yn syth, ond fe ddônt yn amlwg ymhen amser.

Ni all ymddiriedaeth a ffydd, sut bynnag, fyth ein cynnal drwy oes o weithio’r Cam hwn; rhaid ymarfer amynedd hefyd. Er bod amser maith wedi mynd heibio, efallai, ers inni ddechrau gofyn i Dduw ddileu ein diffygion cymeriad, mae’n rhaid inni barhau i fod yn amyneddgar. Efallai’n wir mai diffyg amynedd yw un o’r diffygion cymeriad hynny!

Yn olaf, ac yn fwy na dim wrth weithio’r Cam hwn, mae’n rhaid inni gynnal ein hymwybyddiaeth o’r egwyddor o wyleidd-dra. Mae’n eithaf hawdd profi i ni ein hunain a ydym yn dynesu’n wylaidd at y Cam hwn drwy ofyn ychydig o gwestiynau:

  • Ydw i’n credu mai dim ond Duw all ddileu fy niffygion cymeriad? Neu ydw i wedi bod yn ymdrechu i wneud hynny fy hunan?
  • Ydw i’n ddiamynedd am nad yw fy niffygion cymeriad wedi’u dileu yn syth ac yn llwyr wedi i mi ofyn? Neu ydw i’n ffyddiog y byddant yn cael eu dileu yn amser Duw?
  • Ydw i wedi dechrau colli gafael ar realaeth? Ydw i wedi dechrau dychmygu fy hun yn bwysicach ac yn fwy pwerus nag ydw i?

Gwelais enghraifft o wyleidd-dra yn Sir Benfro rai blynyddoedd yn ôl – y math o wyleidd-dra sy’n nodweddu ethos ac athroniaeth y Stafell Fyw ac sy’n sail i’r cyfan rydym wedi’i drafod yn ein hastudiaeth o’r 12 Cam hyd yma.

Ar silff gul yn rhedeg ar draws wyneb clogwyn serth uwchben y môr a’r creigiau ymhell islaw, gwelais ddwy ddafad yn cerdded yn araf o’r naill ben i gyfarfod ei gilydd. Ofnwn y byddai’r defaid yn cornio’i gilydd, gan na fedrent basio ar y silff gul, a disgyn i’w marwolaeth ar y creigiau islaw. Dim byd o’r fath! Wyddoch chi beth ddigwyddodd? Ymestynnodd un ddafad ei choesau blaen a gorwedd yn fflat ar lawr tra cerddai’r llall yn araf ac yn ofalus drosti i ddiogelwch. A dyna i bob pwrpas mae gweithwyr y Stafell Fyw a’r ‘noddwyr’, fel y maent yn cael eu hadnabod yn Alcoholigion Anhysbys, yn ei wneud. Helpu’r dioddefwyr i ddiogelwch drwy eu harwain drwy’r Camau i sobrwydd ac i fywyd newydd y tu hwnt i’w holl freuddwydion.

Duw ar waith yn ein bywydau

O weithredu’r Cam hwn yn amyneddgar, a chyda chefnogaeth eraill sydd wedi troedio’r ffordd hon o’r blaen, gwelwn fod Duw ar waith yn ein bywydau. Efallai inni gael ein synnu gan lefel yr aeddfedrwydd neu’r ysbrydolrwydd yr ydym yn ei arddangos wrth ddelio â sefyllfaoedd a arferai ein trechu. Neu efallai y sylwn fod rhai o’r ffyrdd yr arferem ymddwyn mor ddiarth inni bellach ag oedd egwyddorion ysbrydol pan ddechreuon ni eu hymarfer. Wedi agoriad llygad o’r fath, dechreuwn feddwl am y person yr oeddem pan wnaethom sylweddoli gyntaf ein hangen am help a pha mor annhebyg yr ydym bellach i’r person hwnnw.

Dechreuwn fyw bywydau sy’n fwy ysbrydol. Dechreuwn feddwl mwy am yr hyn allwn ni ei wneud i helpu eraill yn hytrach na chanolbwyntio arnom ein hunain ac ar yr hyn y gall adferiad ei gynnig i ni. Mae’r pethau a wnawn i gynnal ac i faethu ein hysbrydolrwydd yn tyfu’n arferion.

Cawn ein hunain yn rhydd i ddewis sut y byddwn yn edrych ar sefyllfaoedd a arferai ein trechu. Nid ydym bellach yn creu môr a mynydd o bob dim. Daliwn ein pennau i fyny gydag urddas a gonestrwydd, beth bynnag ddaw i’n rhan. Cyrhaeddwn y stad o ddihidrwydd, pan na fyddwn yn gadael i neb na dim arall ddylanwadu ar sut y byddwn yn teimlo ac yn meddwl. Fy nherm Saesneg amdano yw ‘detached indifference’.

            A dyma weddi i gyd-fynd â Cham 7:

Fy Nghreawdwr, rydw i nawr yn awyddus i Ti gael y cyfan ohono’ i, y da a’r drwg. Dwi’n gweddïo y gwnei di yn awr gymryd oddi arna i bob diffyg cymeriad sy’n rhwystr i fy nefnyddioldeb i Ti ac i’m cyd-ddyn. Dwg ymaith oddi wrthyf fy holl anawsterau fel bod goruchafiaeth drostynt yn tystiolaethu i’r rhai y gwnaf eu helpu am dy nerth, am dy gariad, ac am dy ffordd Di o fyw. Boed imi wneud dy ewyllys Di’n wastadol, o Dad, a rho nerth, doethineb a dewrder i mi i’w gario allan. Amen.

Wrth i ni ddechrau cynefino â’n hysbrydolrwydd, mae’r awydd i gymodi ag eraill yn cynyddu. Dechreuwn y broses honno y tro nesaf yng Ngham 8.

Neges:

Ardderchog iawn, croesawu y pwyslais ar ysbrydolrwydd. Byddai’n fanteisiol iawn i eraill pe bae Wynford gyhoeddi yr ysgrifau hyn ar y 12 cam. – Gwilym Wyn

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.