Agora 21 Chwefror 2018

 

Agora rhif 21 mis Chwefror 2018

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

 Gadael Trysor – colli Gethin Abraham-Williams              Enid Morgan

Bobi Jones                                                                              Pryderi Llwyd Jones

Pa fath o Dduw                                                                     Margaret Le Grice

 Argyhoeddiad a gwyleidd-dra                                           Enid Morgan

 

  • Argyhoeddiad a Gwyleidd-dra

    ARGYHOEDDIAD A GWYLEIDD-DRA

    Rhyw synfyfyrion ar yr Atgyfodiad
    Enid R Morgan

    Pethau i’w hedmygu mewn arweinwyr yw ‘argyhoeddiad’ neu ‘argyhoeddiadau cryfion’ – pan fyddwn yn digwydd cytuno neu led-gytuno â hwy. Ond perygl y rhai sy’n gwbl sicr yw gosod arholiad i bobl eraill, ac oni bai’ch bod chi’n rhannu’r un sicrwydd a’r un argyhoeddiad, allwch chi ddim bod yn – Gymro Da, yn Wir Sosialydd, yn Gristion o fath yn y byd.

    Ac o’n blaen y mae gŵyl anhepgor y ffydd, y Pasg, Gwyl yr Atgyfodiad yn dynesu.

    Rhagor

  • Bobi Jones

    Tröedigaeth Fawr Bobi Jones

    (1929 – 22 Tachwedd 2017)

    Ni all neb sy’n gwybod am Bobi Jones lai na rhyfeddu at ei ddoniau, ei allu a’i gynnyrch dros ddegawdau lawer. Roedd yn fardd, yn llenor, yn academydd, yn athro ac yn arloeswr. Roedd y wasg brint yn methu dal i fyny â’i waith ac fe aeth ati – a hynny yn ei flynydoedd olaf a’i iechyd yn ei gyfyngu’n gorfforol – i greu ei wefan ei hun er mwyn i’r gwaith â lifai ohono (‘fel gwe o fol pry cop’, fel y dywedwyd am Bantycelyn) gael ei ryddhau a’i rannu. Ond, yn fwy ...

    Rhagor
  • Pa fath o Dduw?

    Pa fath Dduw?

    Margaret Le Grice

    Pa fath Dduw ydych chi’n credu ynddo (neu’n gwrthod credu ynddo)? Ddysgoch chi yn yr ysgol Sul, “Duw cariad yw”? Efallai, yr un pryd, eich bod wedi clywed pregethwyr yn taranu bod Duw yn ddig o achos eich pechodau. Yr unig ffordd yr ydych yn gallu cael eich achub oddi wrth eich pechodau ac oddi wrth ddicter Duw yw credu bod Iesu wedi marw er tawelu’r Duw erchyll hwn. Mae Duw yn hawlio aberth Iesu ei Fab ar y groes, yn ein lle ni. Ond pa fath o Dad sydd eisiau marwolaeth ei Fab? Efallai bod Duw yn ...

    Rhagor
  • Gadael Trysor

    GADAEL TRYSOR

    Diolch, Gethin

    “Am golled!” Dyna ddywedwn ni pan fydd angau’n goddiweddyd person yr ydym yn ei barchu, neu’n ei hedmygu. “Colled fawr!” Ac wrth ‘golli’ enwogion ein cyfnod (cyn bod yn siŵr pwy fydd enwogion y dyfodol) mae ’na ofn yn stwyrian yn ein calonnau, ofn bod pethau sy’n werthfawr rywsut yn crebachu, yn gwanychu’n gysgodion, ac yn diflannu.

    Aeth 15 mis heibio ers ‘colli’ Gethin Abraham-Williams, a chymwynas aruthrol a wnaed gan Denise, ei weddw, yw cyhoeddi cynnyrch ei ddwy flynedd olaf mewn cyfrol dan y teitl, Love is the Medium: Last Sermons. Dyw casgliad o bregethau ddim yn swnio’n ...

    Rhagor