Argyhoeddiad a Gwyleidd-dra

ARGYHOEDDIAD A GWYLEIDD-DRA

Rhyw synfyfyrion ar yr Atgyfodiad
Enid R Morgan

Pethau i’w hedmygu mewn arweinwyr yw ‘argyhoeddiad’ neu ‘argyhoeddiadau cryfion’ – pan fyddwn yn digwydd cytuno neu led-gytuno â hwy. Ond perygl y rhai sy’n gwbl sicr yw gosod arholiad i bobl eraill, ac oni bai’ch bod chi’n rhannu’r un sicrwydd a’r un argyhoeddiad, allwch chi ddim bod yn – Gymro Da, yn Wir Sosialydd, yn Gristion o fath yn y byd.

Ac o’n blaen y mae gŵyl anhepgor y ffydd, y Pasg, Gwyl yr Atgyfodiad yn dynesu.

Beth ddigwyddodd?

Wrth weld clamp o dwll yn y ddaear, fe holwn: Beth ddigwyddodd fan hyn?

Wrth weld y plygiadau yn y creigiau yn nhirwedd Cymru sy’n awgrymu rhywbeth yn llifo ond sydd weithiau’n gadarn, galed a phryd arall yn chwalu fel teisen, fe holwn: Beth ddigwyddodd yn fan hyn? Beth ddigwyddodd i’r disgyblion? Beth ddigwyddodd i Iesu? A chwestiwn gwahanol ond cysylltiedig yn wyneb angau yw: Beth sy’n mynd i ddigwydd i ni?

Ac am fod pobl yn amheus o bendantrwydd, ac yn ofni ansicrwydd, mae ’na rai’n holi ydi’n bosibl cael gwasanaeth angladd llai Cristnogol, hynny yw, un sy ddim yn cymryd yn ganiataol fod atgyfodiad Iesu’n golygu rhyw ryfeddod tebyg ar ein cyfer ni i gyd. Pwy sy’n trafod hyn gyda galarwyr? Oherwydd gydag arholiad mewn sicrwydd daw cyhuddiad – nad ydyn ni’n ddigon siŵr, yn ddigon ffyddlon, yn ddigon argyhoeddedig i sefyll yn erbyn anghrediniaeth ein cyfnod.

Ond yr oedd Donald MacKinnon, athro diwinyddiaeth a fu’n ddylanwad sylweddol ar Esgob Rowan Williams, yn gochel y math yna o argyhoeddiad. Dywed ef am yr Atgyfodiad ei fod yn beth anwadal a thramgwyddus yng nghanol yr hunaniaeth Gristnogol a’i fod yn beth gwirioneddol beryglus i siarad yn rhy fras am ddirgelion y ffydd. Mae angen i ni fod yn ochelgar yn ein hiaith a’n mynegiant, yn enwedig ein mynegiant am Dduw. Myn MacKinnon na ddylem ymddiried hyd yn oed yn ein cred yn Nuw – yn wir, yn enwedig yn y gred honno – ond ei harchwilio a’i hamau i’r eithaf.

Ond y mae yntau’n dweud yn bendant:

Nothing is more fundamental than Jesus, nothing will bring us closer to the heart of being itself than Jesus.

(Borderlands of Theology and Other Essays, Philadelphia 1968, tt. 102–3)

Beth, felly, y gellir ei ddweud fydd yn gefn i bobl Cristnogaeth21 a’n cyfeillion lluosog wrth baratoi yn ddilys a gonest at y Pasg yn 2018? Os ydyn ni’n amheus o or-bendantrwydd crediniol, mae’n wir hefyd am wadu’n bendant a bras! Mae llythyrenolwyr ysgrythurol yn mynnu bod yn rhaid ‘credu yn yr Atgyfodiad’, ond heb ddadansoddi beth mae hynny’n ei feddwl am gorff materol sy’n mynd trwy ddrysau caeedig, sy’n mynd a dod a diflannu. Ac mae’r rhyddfrydwyr neu’r blaengar (gas gen i’r gair hwnnw!) yn gwadu’r math yna o Atgyfodiad.

Mae’r emynau clasurol a’n hetifeddiaeth emynyddol Gymraeg yn iachach wrth lawenhau na allai ‘angau du / ddal Iesu’n gaeth’. Nid ar gelwydd y ffrwydrodd y stori fod Iesu’n fyw drachefn ac y llifodd y newyddion da am Efengyl Gobaith drwy’r ymerodraeth a’r canrifoedd. Trwy ein hanes gwelwn ystumio, sentimentaleiddio a gwadu ar oblygiadau ffydd yn yr Iesu byw ond, beth bynnag yw ystyr y gair Atgyfodiad, mae yno yng nghalon y ffydd a’r traddodiad.

Yn wyneb y Pasg eleni, beth yw ystyr atgyfodiad Iesu? A beth yw’r cysylltiad rhwng profiad dirdynnol y disgyblion o’r bywyd anniffodd oedd yn Iesu a dal gafael mewn rhyw gysur meddal y byddwn ni i gyd yn cwrdd â’n gilydd eto maes o law ar yr ochr draw – ‘in the sweet bye and bye’, ys dywed yr emyn cyfloglyd Americanaidd. Mae ‘O fryniau Caersalem’ yn odidog o’i gymharu â hynny.

Mae James Alison yn dweud fel hyn:

llafur trwm llusgo’n crebwyll styfnig trwy ddrain a mieri ein hunan-dwyll er mwyn dod â phob syniad, pob rhithyn bach o falchder deallusol yn gaeth gerbron Crist, gan aredig rhyw ystyr allan o dir sych a diffrwyth.

(James Alison, Living in the End Times – the last things re-imagined, t. 15)

Cofiwn hefyd eiriau Bobi Jones, a ddyfynnwyd gan Pryderi Llwyd yn ddiweddar:

Wedi tröedigaeth ac mewn tröedigaeth, carthu balchder yw tasg fawr gyntaf ac olaf y Cristion ei hun ar y ddaear hon. A dyna pryd y mae cwmnïaeth Crist ar waith, yn tocio, yn impio, yn caru.

Sut mae dweud unrhyw beth heb gael ein llorio gan anghysondeb, symboliaeth, gwrth-ddywediadau, amrywiadau’r storïau beiblaidd?

Mae’r Esgob Rowan yn sôn am Grist, ac yn enwedig am Grist yn yr atgyfodiad, fel dieithryn sy’n herio’n syniadau, a’n hunaniaeth fel unigolion. Mae’n dwrdio dawn diwinyddion academaidd i siarad yn ddof a digyffro am y pwnc. Mae hyd yn oed wedi sefyll yn erbyn llif ffasiwn diwinyddol ac amddiffyn y syniad o’r bedd gwag, oherwydd heb fedd gwag yn dystiolaeth allanol fydden ni, greaduriaid lle ac amser, ddim yn gallu dechrau amgyffred ‘y trydydd dydd, yn rhydd y daeth’.

Dywed Benjamin Meyers yn Christ the Stranger, cyfrol ddefnyddiol iawn ar ddiwinyddiaeth Rowan, rywbeth y talai i ni yn Cristnogaeth21 ei ystyried o ddifri yn y cyfnod hwn sy’n awain at y Pasg:

Redemption, therefore, is never a mater of private ‘spiritual’ salvation nor is it a vaguely edifying symbol of human striving for life and justice. It is, rather, an embodied occurrence within our world, something that changes what is possible for human lives. The resurrection alters the world at its deepest level; that is what the early Christians recognised when they said that one particular human life had become the foundation of the cosmos. (John 1.1–5)

Dadl yr Esgob Rowan yw mai’r posibilrwydd newydd, syfrdanol o ad-drefnu perthynas pobl â’i gilydd mewn ‘teyrnas’ newydd a orfododd i’r Cristnogion cynnar sôn am ‘ddwyfoldeb’ Crist. Darganfu’r Cristnogion cynnar na allen nhw ddim sôn am Dduw heb ddweud stori Iesu. Aeth Iesu’n rhan o’n ‘diffiniad’ ni o Dduw drwy ei effaith ar fywyd y gymuned ddynol. Rhywbeth tebyg y mae Donald MacKinnon yn ei hawlio: ‘Nothing is more fundamental than Jesus, nothing will bring us closer to the heart of being itself than Jesus.’ (Borderlands of Theology and Other Essays, Philadelphia, 1968, tt. 102–3)

Mae’r offeiriad meddw yn nofel Graham Greene, The Power and the Glory, yn agos ati:

‘O,’ meddai’r offeiriad, ‘peth arall yw hynny. Cariad yw Duw – ond fydden ni ddim yn cynabod y cariad yna. Gallai edrych yn debycach i gasineb. Fe fyddai cariad Duw yn ddigon i’n dychryn ni. Fe daniodd e berth yn yr anialwch, on’do, a chwalu beddau agored a gosod y meirw i gerdded yn y tywyllwch. O, byddai dyn fel fi yn rhedeg milltir i ddianc pe bai’r cariad hwnnw o gwmpas.’

(Graham Greene, The Power and the Glory, Penguin, 1971, t. 199–200)

Gair ychwanegol gan Rowan yw fod byw ‘buchedd un sy wedi derbyn maddeuant yn siarad am Dduw’. A dywed Evelyn Underhill, un o gyfrinwyr dechrau’r ugeinfed ganrif, mai’r ‘peth pwysicaf yw ein gweledigaeth, ein hymwybyddiaeth o Dduw. Os yw’n hamgyffred o Dduw yn tyfu’n gyfoethocach, yn ddyfnach, yn lletach, yna bydd ein gwaith a’n tystiolaeth yn gyfoethocach, yn ddyfnach ac yn fwy ffrwythlon.’ Mae Atgyfodiad o leia’n golygu bod cariad diamod yn dragwyddol fyw.

Garawys dwys, a dryswch rhyfeddol a gobeithiol bore’r Pasg a fo gyda ni i gyd eleni.

Gweddïau

Mewn byd bregus
Daw Iesu i gwrdd â ni.

Mewn byd ar chwâl
Daw Iesu i’n hiacháu.

Mewn byd o bechod
Daw Iesu i faddau i ni.

I fyd o bosibiliadau
Daw Iesu i’n rhyddhau.

Duw’r cwm sy’n glasu a’r nant lifeiriol,
Duw’r storm gynyddol a llewyrch yr haul,
Duw a roddodd i ni’r dydd hwn a’i holl ddaioni,
Anerchwn di â chalonau agored a dwylo gwag;
Ac ymroi i’th foliannu.

Amen

O Dduw
sy’n rhodio’r llwybr o’n blaen,
boed i’r goleuni a osodaist ynom
ein cadw yn ffyrdd y Cariad
y nodaist ni ag ef;
ein cadw yn y tangnefedd
y tawelaist ni ag ef;
ein cadw yn llwybrau’r Gras
y bendithiaist ni ag ef,
yn enw’r Tad
a’r Mab a’r Ysbryd Glân,

Amen.