Archifau Categori: Agora 21

Argyhoeddiad a Gwyleidd-dra

ARGYHOEDDIAD A GWYLEIDD-DRA

Rhyw synfyfyrion ar yr Atgyfodiad
Enid R Morgan

Pethau i’w hedmygu mewn arweinwyr yw ‘argyhoeddiad’ neu ‘argyhoeddiadau cryfion’ – pan fyddwn yn digwydd cytuno neu led-gytuno â hwy. Ond perygl y rhai sy’n gwbl sicr yw gosod arholiad i bobl eraill, ac oni bai’ch bod chi’n rhannu’r un sicrwydd a’r un argyhoeddiad, allwch chi ddim bod yn – Gymro Da, yn Wir Sosialydd, yn Gristion o fath yn y byd.

Ac o’n blaen y mae gŵyl anhepgor y ffydd, y Pasg, Gwyl yr Atgyfodiad yn dynesu.

Beth ddigwyddodd?

Wrth weld clamp o dwll yn y ddaear, fe holwn: Beth ddigwyddodd fan hyn?

Wrth weld y plygiadau yn y creigiau yn nhirwedd Cymru sy’n awgrymu rhywbeth yn llifo ond sydd weithiau’n gadarn, galed a phryd arall yn chwalu fel teisen, fe holwn: Beth ddigwyddodd yn fan hyn? Beth ddigwyddodd i’r disgyblion? Beth ddigwyddodd i Iesu? A chwestiwn gwahanol ond cysylltiedig yn wyneb angau yw: Beth sy’n mynd i ddigwydd i ni?

Ac am fod pobl yn amheus o bendantrwydd, ac yn ofni ansicrwydd, mae ’na rai’n holi ydi’n bosibl cael gwasanaeth angladd llai Cristnogol, hynny yw, un sy ddim yn cymryd yn ganiataol fod atgyfodiad Iesu’n golygu rhyw ryfeddod tebyg ar ein cyfer ni i gyd. Pwy sy’n trafod hyn gyda galarwyr? Oherwydd gydag arholiad mewn sicrwydd daw cyhuddiad – nad ydyn ni’n ddigon siŵr, yn ddigon ffyddlon, yn ddigon argyhoeddedig i sefyll yn erbyn anghrediniaeth ein cyfnod.

Ond yr oedd Donald MacKinnon, athro diwinyddiaeth a fu’n ddylanwad sylweddol ar Esgob Rowan Williams, yn gochel y math yna o argyhoeddiad. Dywed ef am yr Atgyfodiad ei fod yn beth anwadal a thramgwyddus yng nghanol yr hunaniaeth Gristnogol a’i fod yn beth gwirioneddol beryglus i siarad yn rhy fras am ddirgelion y ffydd. Mae angen i ni fod yn ochelgar yn ein hiaith a’n mynegiant, yn enwedig ein mynegiant am Dduw. Myn MacKinnon na ddylem ymddiried hyd yn oed yn ein cred yn Nuw – yn wir, yn enwedig yn y gred honno – ond ei harchwilio a’i hamau i’r eithaf.

Ond y mae yntau’n dweud yn bendant:

Nothing is more fundamental than Jesus, nothing will bring us closer to the heart of being itself than Jesus.

(Borderlands of Theology and Other Essays, Philadelphia 1968, tt. 102–3)

Beth, felly, y gellir ei ddweud fydd yn gefn i bobl Cristnogaeth21 a’n cyfeillion lluosog wrth baratoi yn ddilys a gonest at y Pasg yn 2018? Os ydyn ni’n amheus o or-bendantrwydd crediniol, mae’n wir hefyd am wadu’n bendant a bras! Mae llythyrenolwyr ysgrythurol yn mynnu bod yn rhaid ‘credu yn yr Atgyfodiad’, ond heb ddadansoddi beth mae hynny’n ei feddwl am gorff materol sy’n mynd trwy ddrysau caeedig, sy’n mynd a dod a diflannu. Ac mae’r rhyddfrydwyr neu’r blaengar (gas gen i’r gair hwnnw!) yn gwadu’r math yna o Atgyfodiad.

Mae’r emynau clasurol a’n hetifeddiaeth emynyddol Gymraeg yn iachach wrth lawenhau na allai ‘angau du / ddal Iesu’n gaeth’. Nid ar gelwydd y ffrwydrodd y stori fod Iesu’n fyw drachefn ac y llifodd y newyddion da am Efengyl Gobaith drwy’r ymerodraeth a’r canrifoedd. Trwy ein hanes gwelwn ystumio, sentimentaleiddio a gwadu ar oblygiadau ffydd yn yr Iesu byw ond, beth bynnag yw ystyr y gair Atgyfodiad, mae yno yng nghalon y ffydd a’r traddodiad.

Yn wyneb y Pasg eleni, beth yw ystyr atgyfodiad Iesu? A beth yw’r cysylltiad rhwng profiad dirdynnol y disgyblion o’r bywyd anniffodd oedd yn Iesu a dal gafael mewn rhyw gysur meddal y byddwn ni i gyd yn cwrdd â’n gilydd eto maes o law ar yr ochr draw – ‘in the sweet bye and bye’, ys dywed yr emyn cyfloglyd Americanaidd. Mae ‘O fryniau Caersalem’ yn odidog o’i gymharu â hynny.

Mae James Alison yn dweud fel hyn:

llafur trwm llusgo’n crebwyll styfnig trwy ddrain a mieri ein hunan-dwyll er mwyn dod â phob syniad, pob rhithyn bach o falchder deallusol yn gaeth gerbron Crist, gan aredig rhyw ystyr allan o dir sych a diffrwyth.

(James Alison, Living in the End Times – the last things re-imagined, t. 15)

Cofiwn hefyd eiriau Bobi Jones, a ddyfynnwyd gan Pryderi Llwyd yn ddiweddar:

Wedi tröedigaeth ac mewn tröedigaeth, carthu balchder yw tasg fawr gyntaf ac olaf y Cristion ei hun ar y ddaear hon. A dyna pryd y mae cwmnïaeth Crist ar waith, yn tocio, yn impio, yn caru.

Sut mae dweud unrhyw beth heb gael ein llorio gan anghysondeb, symboliaeth, gwrth-ddywediadau, amrywiadau’r storïau beiblaidd?

Mae’r Esgob Rowan yn sôn am Grist, ac yn enwedig am Grist yn yr atgyfodiad, fel dieithryn sy’n herio’n syniadau, a’n hunaniaeth fel unigolion. Mae’n dwrdio dawn diwinyddion academaidd i siarad yn ddof a digyffro am y pwnc. Mae hyd yn oed wedi sefyll yn erbyn llif ffasiwn diwinyddol ac amddiffyn y syniad o’r bedd gwag, oherwydd heb fedd gwag yn dystiolaeth allanol fydden ni, greaduriaid lle ac amser, ddim yn gallu dechrau amgyffred ‘y trydydd dydd, yn rhydd y daeth’.

Dywed Benjamin Meyers yn Christ the Stranger, cyfrol ddefnyddiol iawn ar ddiwinyddiaeth Rowan, rywbeth y talai i ni yn Cristnogaeth21 ei ystyried o ddifri yn y cyfnod hwn sy’n awain at y Pasg:

Redemption, therefore, is never a mater of private ‘spiritual’ salvation nor is it a vaguely edifying symbol of human striving for life and justice. It is, rather, an embodied occurrence within our world, something that changes what is possible for human lives. The resurrection alters the world at its deepest level; that is what the early Christians recognised when they said that one particular human life had become the foundation of the cosmos. (John 1.1–5)

Dadl yr Esgob Rowan yw mai’r posibilrwydd newydd, syfrdanol o ad-drefnu perthynas pobl â’i gilydd mewn ‘teyrnas’ newydd a orfododd i’r Cristnogion cynnar sôn am ‘ddwyfoldeb’ Crist. Darganfu’r Cristnogion cynnar na allen nhw ddim sôn am Dduw heb ddweud stori Iesu. Aeth Iesu’n rhan o’n ‘diffiniad’ ni o Dduw drwy ei effaith ar fywyd y gymuned ddynol. Rhywbeth tebyg y mae Donald MacKinnon yn ei hawlio: ‘Nothing is more fundamental than Jesus, nothing will bring us closer to the heart of being itself than Jesus.’ (Borderlands of Theology and Other Essays, Philadelphia, 1968, tt. 102–3)

Mae’r offeiriad meddw yn nofel Graham Greene, The Power and the Glory, yn agos ati:

‘O,’ meddai’r offeiriad, ‘peth arall yw hynny. Cariad yw Duw – ond fydden ni ddim yn cynabod y cariad yna. Gallai edrych yn debycach i gasineb. Fe fyddai cariad Duw yn ddigon i’n dychryn ni. Fe daniodd e berth yn yr anialwch, on’do, a chwalu beddau agored a gosod y meirw i gerdded yn y tywyllwch. O, byddai dyn fel fi yn rhedeg milltir i ddianc pe bai’r cariad hwnnw o gwmpas.’

(Graham Greene, The Power and the Glory, Penguin, 1971, t. 199–200)

Gair ychwanegol gan Rowan yw fod byw ‘buchedd un sy wedi derbyn maddeuant yn siarad am Dduw’. A dywed Evelyn Underhill, un o gyfrinwyr dechrau’r ugeinfed ganrif, mai’r ‘peth pwysicaf yw ein gweledigaeth, ein hymwybyddiaeth o Dduw. Os yw’n hamgyffred o Dduw yn tyfu’n gyfoethocach, yn ddyfnach, yn lletach, yna bydd ein gwaith a’n tystiolaeth yn gyfoethocach, yn ddyfnach ac yn fwy ffrwythlon.’ Mae Atgyfodiad o leia’n golygu bod cariad diamod yn dragwyddol fyw.

Garawys dwys, a dryswch rhyfeddol a gobeithiol bore’r Pasg a fo gyda ni i gyd eleni.

Gweddïau

Mewn byd bregus
Daw Iesu i gwrdd â ni.

Mewn byd ar chwâl
Daw Iesu i’n hiacháu.

Mewn byd o bechod
Daw Iesu i faddau i ni.

I fyd o bosibiliadau
Daw Iesu i’n rhyddhau.

Duw’r cwm sy’n glasu a’r nant lifeiriol,
Duw’r storm gynyddol a llewyrch yr haul,
Duw a roddodd i ni’r dydd hwn a’i holl ddaioni,
Anerchwn di â chalonau agored a dwylo gwag;
Ac ymroi i’th foliannu.

Amen

O Dduw
sy’n rhodio’r llwybr o’n blaen,
boed i’r goleuni a osodaist ynom
ein cadw yn ffyrdd y Cariad
y nodaist ni ag ef;
ein cadw yn y tangnefedd
y tawelaist ni ag ef;
ein cadw yn llwybrau’r Gras
y bendithiaist ni ag ef,
yn enw’r Tad
a’r Mab a’r Ysbryd Glân,

Amen.

 

 

 

Pa fath o Dduw?

Pa fath Dduw?

Margaret Le Grice

Pa fath Dduw ydych chi’n credu ynddo (neu’n gwrthod credu ynddo)? Ddysgoch chi yn yr ysgol Sul, “Duw cariad yw”? Efallai, yr un pryd, eich bod wedi clywed pregethwyr yn taranu bod Duw yn ddig o achos eich pechodau. Yr unig ffordd yr ydych yn gallu cael eich achub oddi wrth eich pechodau ac oddi wrth ddicter Duw yw credu bod Iesu wedi marw er tawelu’r Duw erchyll hwn. Mae Duw yn hawlio aberth Iesu ei Fab ar y groes, yn ein lle ni. Ond pa fath o Dad sydd eisiau marwolaeth ei Fab? Efallai bod Duw yn ein caru ni, ond ydy e’n caru ei Fab? Ydy Duw sydd â rhyw fath o bersonoliaeth ranedig yn werth credu ynddo?

Neu – ydych chi wedi dysgu bod Duw yn sanctaidd, fod Duw yn ‘arall’, ac o ganlyniad nad oes diddordeb ganddo ynom? Ond mewn perthynas gariadus mae dau unigolyn yn dangos diddordeb ym mhob agwedd o fywydau ei gilydd.

Ydych chi wedi cael eich hyfforddi ar gyfer bywyd Cristnogol anodd a heriol, fel ymateb i Dduw sydd eisiau ymrwymiad cyflawn? Ond beth am dosturi? Os ydy Duw yn dosturiol, nod y bywyd Cristnogol yw dangos tosturi at bobl ac at ein byd, a hefyd atom ein hunain.

Beth yw ystyr dilyn Iesu, ac efelychu ei esiampl? Cyflawni cymaint o weithredoedd da â phosibl, yn eich nerth eich hunain, neu ystyried yn ofalus sut i ddangos cariad gyda chymorth Duw?

A dyma rywbeth i feddwl amdano. Eich meddyliau, eich agweddau, eich gweithredoedd – pa fath o Dduw sy’n cael ei adlewyrchu ynoch chi? A beth am yr eglwysi? Dros y canrifoedd, mae’n sicr nad ydyw’r eglwysi wedi dangos Duw cariadus a thosturiol. Mae llawer o bobl wedi cael eu hanafu neu eu niweidio gan yr eglwys. Mae diffyg parch, cariad, tosturi wedi gwneud llawer o ddrwg i blant, i bobl ifanc ac i oedolion, a hyd yn oed, i rai sydd yn hawlio bod yn Gristnogion hefyd.

Felly, pa fath o Dduw ydych chi’n credu ynddo mewn gwirionedd? Pa fath Dduw ydych chi’n adlewyrchu yn eich bywyd eich hunain, ac ym mywyd eich eglwys neu eich capel?

Nid yw hwn yn gwestiwn hawdd ei ateb, ond er lles y byd, er lles yr eglwys ac er ein lles ein hunain, mae’n bwysig ceisio dod o hyd i ateb mor ddilys â phosibl.

Bobi Jones

Yr Athro Bobi Jones.
Ionawr 2011. Trwy garedigrwydd Marian Delyth

Tröedigaeth Fawr Bobi Jones

(1929 [geni], 1952 [aileni] – 22 Tachwedd 2017)

Ni all neb sy’n gwybod am Bobi Jones lai na rhyfeddu at ei ddoniau, ei allu a’i gynnyrch dros ddegawdau lawer. Roedd yn fardd, yn llenor, yn academydd, yn athro ac yn arloeswr. Roedd y wasg brint yn methu dal i fyny â’i waith ac fe aeth ati – a hynny yn ei flynydoedd olaf a’i iechyd yn ei gyfyngu’n gorfforol – i greu ei wefan ei hun er mwyn i’r gwaith â lifai ohono (‘fel gwe o fol pry cop’, fel y dywedwyd am Bantycelyn) gael ei ryddhau a’i rannu. Ond, yn fwy ac o flaen popeth arall, yr oedd Bobi Jones yn Gristion. O safbwynt dylanwad personol ei dröedigaeth, ei chanlyniad a’i thysiolaeth i benarglwyddiaeth Duw ar bob rhan o’i fywyd, ni fyddem ymhell o’n lle yn cyfeirio ati (gyda thinc gellweirus/eithafol Bobi ei hun) fel y ‘tröedigaeth fwyaf y genedl Gymraeg ’ ers diwygiad y ddeunawfed ganrif. Onid yw ‘Hunllef Arthur’ i’w chymharu â Theomemphus? A’i gynnyrch llenyddol yn fwy nac eiddo Pantycelyn?

Yn y bennod ‘Caffael Pen arall’ o’i hunangofiant O’r bedd i’r crud (Gwasg Gomer, 2000) neu, a defnyddio iaith arall Bobi , ‘o farwolaeth i fywyd’, ac mewn 36 o dudalennau mae’n sôn am ddigwyddiad mwyaf ei fywyd. I gydnabod yn ddiolchgar ac yn ostyngedig ei dystiolaeth Gristnogol a’i waith, dyma ddyfyniadau o’r bennod honno. Ond mae angen darllen y bennod, ac yn wir y gyfrol gyfan, i adnabod Bobi Jones yn well. Mae ei eiriau yn nhraddodiad, Paul, Awstin, Luther, Hywel Harris … ac ni fynnai Bobi iddi fod fel arall, ond ni fyddai ef yn ei ystyried ei hun yn deilwng i fod yn eu plith.

_____________________________________________

Pe ceisiwn ddweud ‘gair’ (os dyna’r gair) ynghylch fy muchedd grefyddol ar ei hyd, byddai’n rhaid i mi ddechrau yn boenus o gonfensiynol mae gen i ofn. Am y ddwy flynedd ar hugain cyntaf o’m bywyd, gallwn haeru imi fod yn hynod o ffyddlon i’r hyn na ellir llai na’i alw’n anghrediniaeth fynychu-capel, sef cydymffurfiaeth rwydd ddi-rym o rumus fy nghyfnod. Gall hynny swnio’n ysgafn i rywrai; ac ar ryw olwg, felly yr oedd. Yr oedd hefyd, fel y sylweddolaf bellach, yn sobr o arwydus. (tud. 104)

Yr oeddwn bellach yn dair ar hugain oed, yn ŵr priod, ac wedi gosod y goruwchnaturiol yn hapus dwt yn ei le fel cysyniad diddorol eithaf posibl ar yr ymylon … y grefydd ddyneiddiol naturiol a hedonaidd a deyrnasai o hyd yn fy nghalon … dyrchafu dyn oedd fy arfer, syniadau dyn oedd fy ymborth hyfryd. (tud. 108)

Yna, i Lanidloes, nid i Notre–Dame nac i Ddamascus. Ond i’r dreflan gysglyd, brydferth, anhysbys honno … ond un nos Sul , drwy awyrgylch mwll y tŷ cwrdd, dyma lais croyw oddi uchod yn llefaru’n bwyllog hyd fy mherfedd, ‘Wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi wrth y bwrdd’ ( Luc 11.11 ).

Cyrhaeddodd hyn yn felltith ac yn gyhuddiad. Cyrhaeddodd graidd y chware, yr arwynebolrwydd, y potsian deallol pitw, y sarhad. Y Parchedig Tudor Jones, gweinidog duwiol, dwys-ffraeth y capel, oedd yn geirio’r peth, a minnau’n llechu’n isel yn fy sedd gefn ar y dde o’r eil chwith yn China Street, Llanidloes. Oedfa gymun ydoedd. Wedi darllen yr adnod, oedodd. Yn y saib hwnnw bywhawyd y geiriau. Yr eiliad yna trawodd y gair tanllyd hwnnw hyd at fy nghalon … Dyma f’ysbryd am y tro cyntaf yn dihuno. Atgyfodwyd hanfod fy modolaeth o’r meirw; dim llai: gair ar fy nghyfer i oedd hwn. Wyddwn i ddim o’r blaen, onid ar bapur, fod y fath beth ag enaid ar gael fel cynneddf a oedd yn effro i Dduw. (tud. 113–14 )

Beth oedd ystyr y diffyg perthynas a fuasai rhyngom ni, rhwng y Duw penarglwyddiaethol a fi, hyd y fan yna ? Roeddwn i yn fy uwchraddoldeb dynol, wedi potsian gydag Ef, wedi’i fychanu Ef. Roeddwn wedi adeiladau pob wal yn erbyn ei ddarganfod Ef o ddifrif. Roedd f’agwedd yn fwy nac anwybodaeth….Roeddwn wedi sarhau person Crist. Defnyddiwn pob dim, ysgolheictod,, ffasiwn lenyddol,, rheswm,teimlad,amheuaeth arferiadol ac yn arbennig rhagdybiau. Roeddwn wedi tyrchu ym mhob man namyn yn y lle iawn, popeth er mwyn ei osgoi.

 … fe’m darostyngwyd i’r llawr ac odano. Fe’m plygwyd i fel darn o bapur. Rhuthrais i’r gwaddodion i edifarhau. Ychydig a wyddwn ar y pryd fy mod drwy hyn wedi dod yn fwgan i rywrai.

Wedi tröedigaeth ac mewn tröedigaeth, carthu balchder yw tasg fawr gyntaf ac olaf y Cristion ei hun ar y ddaear hon. A dyna pryd y mae cwmnïaeth Crist ar waith, yn tocio, yn impio, yn caru. (tud. 115)

Gadael Trysor

GADAEL TRYSOR

Diolch, Gethin

“Am golled!” Dyna ddywedwn ni pan fydd angau’n goddiweddyd person yr ydym yn ei barchu, neu’n ei hedmygu. “Colled fawr!” Ac wrth ‘golli’ enwogion ein cyfnod (cyn bod yn siŵr pwy fydd enwogion y dyfodol) mae ’na ofn yn stwyrian yn ein calonnau, ofn bod pethau sy’n werthfawr rywsut yn crebachu, yn gwanychu’n gysgodion, ac yn diflannu.

Aeth 15 mis heibio ers ‘colli’ Gethin Abraham-Williams, a chymwynas aruthrol a wnaed gan Denise, ei weddw, yw cyhoeddi cynnyrch ei ddwy flynedd olaf mewn cyfrol dan y teitl, Love is the Medium: Last Sermons. Dyw casgliad o bregethau ddim yn swnio’n beth cyffrous iawn y dyddiau hyn – ond yn y casgliad hwn mae llais dilys Gethin yn llefaru gyda dwyster a digrifwch, yn huawdl ac yn gryno uniongyrchol. Dylai borthi’r crebwyll a cryfhau cariad ynom i gyd.

Clawr ‘Love is the Medium’

Cefais innau’r fraint o fod yn gyd-weithiwr â Gethin pan oedd yn dal dwy swydd – yn ysgrifennydd i Enfys (Yr Eglwysi Cyfamodol) ac yn swyddog eciwmeniaeth i’r Eglwys yng Nghymru ac felly’n fedyddiwr ar ei Bwrdd Cenhadu. Chwyldro yn wir!). Gethin yn wir oedd un o’r rhai a’m perswadiodd i, diacon cymharol dibrofiad oedd wrthi yn rhan o’r frwydr i ordeinio gwragedd yn offeiriaid, i geisio am swydd dan deitl tra chamarweiniol –‘Cyfarwyddwr Cenhadu’. Aeth yntau ymlaen i fod yn gyfarwyddwr ar Cytûn. Buan iawn y dysgais am ehangder ei ddysg, dyfnder ei argyhoeddiad, dwyster ei ymroddiad i’r Efengyl ac i’w Arglwydd:

he becomes my Saviour and Lord, because in his humainity, he is for me the human face of God. You ask what God is like? I don’t know. It’s an impossible question. But whatever God is like, the nearest I can get to God, is the man Pilate crucified as Jesus of Nazareth.

Yr oedd gan Gethin ddawn fugeiliol ryfeddol, i annog a chefnogi, i gysuro a hyfforddi ac i fwynhau doniolwch pethau. Pan oedd ef yn gorfod delio â siomedigaethau lluosog, yr oedd yn medru gwenu wrth ochneidio. Medrai ddal gafael yn ei weledigaeth eang, rhannu ei gysylltiadau lluosog iawn dros y byd i gyd yn gwbl ddiymhongar. Byddai’n tynnu fy nghoes i fel cyn-Fedyddwraig a ‘droes ei chot’ i fynd yn Anglican, a minnau’n tynnu ei goes ef am fod yn ‘rhyddfrydwr o’r chwedegau’.

Ond rhyddfrydwr tra eangfrydig ac egnïol ydoedd a dyfodd yn fwyfwy radical wrth heneiddio. Radical gobeithiol oedd, yn dirnad gweledigaeth newydd wrth i hiraeth gynyddu yng nghalonnau pobl sydd wedi blino ar ddatganiadau treuliedig, diddychymyg ac amddiffynnol y cyfundrefnau.

Rwy’n frwdfrydig am y gyfrol hon cyn ei gorffen. Eisoes rwy eisiau dyfynnu ohoni, cynnig ambell bennod i bobl sy’n cael methu ‘credu’ mewn gwahanol fathau o athrawiaethau ac yn cael eu cyhuddo o fethu bod yn ‘Gristnogion’ oherwydd hynny. Mae ei bennod yn disgrifio drama’r dioddefaint ym Mhort Talbot yn berl, a phregeth am lyfr Jona yn batrwm o weld perthnasedd miniog yr ysgrythur i’n problemau deallusol ac emosiynol heddi. Mae ei bregeth olaf ar Ŵyl yr Holl Saint i eglwysi Methodistaidd Penarth yn llwythog o ystyr diwinyddol a phersonol.

Mynnwch gopi – dyma gyfrol sy’n ymaflyd yn y pynciau sy’n bwysig i bobl cristnogaeth21.

Diolch, Gethin a diolch, Denise.

Love is the Medium: Last Sermons, Gethin Abraham-Williams, £7.95

Ar gael trwy Amazon